Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mai 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’n bleser gennyf lansio’r ymgynghoriad hwn heddiw ar y cynigion i ddiweddaru’r gyfres o Reoliadau y mae ysgolion annibynnol Cymru yn gweithredu oddi tanynt. Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio sylwadau ynghylch y ddeddfwriaeth ddrafft er mwyn helpu wrth lunio’r fersiynau terfynol, wedi’u diweddaru, o Reoliadau Safonau Ysgol Annibynnol (Cymru) 2003 a Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2003, a Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Gwaharddiad ar Gymryd Rhan mewn Rheoli) (Cymru), sef rheoliadau newydd.

Mae’r mwyafrif o Reoliadau sy’n llywodraethu ysgolion annibynnol yn ugain oed erbyn hyn, ac felly nid ydynt bellach yn adlewyrchu’r arferion gorau, y canllawiau, na’r polisïau cyfredol. Mae diwygio’r Rheoliadau yn elfen hanfodol yn y gwaith o sicrhau bod ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y sector ysgolion annibynnol yng Nghymru yn cael eu cynnal; yn ogystal ag o ran diogelu buddiannau plant a phobl ifanc sy’n dysgu mewn lleoliadau annibynnol.

Wrth adolygu’r fframwaith rheoleiddio sy’n ymwneud ag ysgolion annibynnol, rydym am gryfhau a diweddaru’r Rheoliadau yn ôl yr angen er mwyn gwella ansawdd addysg ynghyd â lles, iechyd a diogelwch disgyblion mewn ysgolion annibynnol―ond gan beidio â chyfyngu’n ddiangen ar y rhyddid sydd gan ysgolion annibynnol i’w trefnu eu hunain a darparu addysg. Mae’r cynigion hefyd yn mynd i’r afael â’r argymhellion i Gymru gan yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol a Chomisiynydd Plant Cymru. 

Drwy gryfhau’r fframwaith deddfwriaethol, ein nod yw mynd i’r afael â phryderon am ddiogelu a llywodraethu mewn rhai ysgolion annibynnol drwy gryfhau’r gofynion o ran hyfforddiant ar ddiogelu i arweinwyr ysgolion a’u staff, a sicrhau eu bod yn mynd ati i hybu diogelu dysgwyr yn eu hysgolion. Bydd y Rheoliadau Safonau yn ei gwneud yn glir mai perchennog yr ysgol sy’n gyfrifol am gydymffurfio yn y pen draw.

Hoffem annog pob rhanddeiliad sydd â buddiant o ran y modd y mae ysgolion annibynnol Cymru yn gweithredu i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad sy’n dechrau heddiw ac a fydd yn dod i ben ar 17 Gorffennaf 2023.