Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn y cyhoeddiad ar 22 Mawrth 2021 bod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yng nghenedlaethau'r dyfodol drwy sefydlu Rhaglen Ddysgu Ryngwladol i Gymru, rwy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed hyd yma, a'r camau nesaf dros yr haf.

Bydd y Rhaglen newydd bwysig hon yn darparu ystod eang o brofiadau symudedd rhyngwladol i ddysgwyr a staff ar draws y sector addysg gyfan yng Nghymru. Bydd y gweithgareddau cyntaf yn dechrau ym mlwyddyn academaidd 2022-23. Elfen hanfodol y Rhaglen yw cydgyfnewidiaeth – ac rwy'n hynod falch o'r diddordeb nodedig byd-eang yr ydym wedi'i gael gan ddarpar gyfranogwyr ers lansio'r Rhaglen, sy’n galonogol.

Mae Prifysgol Caerdydd bellach wedi sefydlu is-gwmni a fydd yn cyflwyno'r Rhaglen, ac sydd wrthi'n penodi staff. Rwy'n rhagweld y bydd cynnydd sylweddol yn cael ei wneud ar hyn dros yr haf, yn barod ar gyfer meithrin cysylltiadau â rhanddeiliaid, a datblygu polisi yn yr hydref eleni.

 

Bydd y Bwrdd Cynghori yn cynnig goruchwyliaeth gryf o bob rhan o'r sector addysg, ac estynwyd gwahoddiadau i sefydliadau cynrychiadol o bob rhan o Gymru. Rwy'n disgwyl y bydd cyfarfod rhagarweiniol o'r Bwrdd hwnnw'n cael ei gynnal yn ddiweddarach yr haf hwn. Mae Prifysgol Caerdydd yn defnyddio cwmni recriwtio i chwilio am swyddogion gweithredol i ddod o hyd i grŵp amrywiol a chyffrous o ymgeiswyr i gyfweld â nhw ar gyfer swydd Cadeirydd di-dâl y Bwrdd Cynghori. Rwy’n disgwyl i'r Cadeirydd fod wedi dechrau yn ei swydd erbyn diwedd mis Medi.

Mae'r Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol ar gyfer Dysgu yn enw dros dro, a bydd cystadleuaeth yn cael ei lansio i ddod o hyd i enw newydd yn ddiweddarach yr haf hwn. Bydd manylion y gystadleuaeth hon yn cael eu cyfleu drwy sawl cyfrwng, gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol.

Edrychaf ymlaen at roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am ddatblygiadau pellach drwy Ddatganiad Llafar yn ystod y tymor nesaf.