Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies, y Gweinidog dros Blant a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 15 Ionawr, rhoddais yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad am gynnydd Cyngor Sir Powys o ran sicrhau gwelliannau i Wasanaethau Cymdeithasol Plant yn dilyn y pryderon difrifol a nodwyd yn yr adroddiad arolygu a gyhoeddwyd fis Hydref y llynedd gan Arolygiaeth Gofal Cymru. Ar y diwrnod hwnnw, cyhoeddais Hysbysiad Rhybuddio Dilynol i Gyngor Sir Powys yn amlinellu'r camau gweithredu pellach angenrheidiol i sicrhau bod y gwelliannau a wnaed yn gynnar gan Wasanaethau Cymdeithasol Plant Powys yn parhau dros y tymor canolig a'r tymor hwy.

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru roi adroddiad diweddaru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o fewn 90 diwrnod i gyflwyno Hysbysiad Rhybuddio. Mae'r datganiad ysgrifenedig hwn yn rhoi'r diweddariad hwnnw i'r Aelodau.

Er mwyn cydymffurfio â'r Hysbysiad Rhybuddio Dilynol, mae Cyngor Sir Powys wedi gwneud y canlynol:

  • Cyflwyno Cynllun Gwella diwygiedig ar 23 Ionawr gan amlinellu'r camau gweithredu i'w cyflawni dros y 6 mis nesaf, y 12 mis nesaf a thu hwnt. 
  • Mynd i'r afael â chanfyddiadau ymweliad monitro Arolygiaeth Gofal Cymru ym mis Rhagfyr 2017, a amlinellwyd yn y llythyr ganddo ar 4 Ionawr. 
  • Cyflwyno fframwaith sicrwydd ansawdd i wella cysondeb a safonau arferion rheng flaen. Mae disgwyl i'r holl reolwyr gynnal adolygiadau cynhwysfawr o'r ffeiliau achos ac mae hyn yn cynnwys cynlluniau gweithredu i fynd i'r afael â'r diffygion a nodwyd. 
  • Darparu adroddiadau misol ar gynnydd gan y Cyfarwyddwr Dros Dro i'r Bwrdd Gwella, Arweinydd y Cyngor a Llywodraeth Cymru. 
  • Sefydlu Bwrdd Gwella a Sicrwydd â chylch gwaith ehangach a fydd yn cynnwys gwelliant corfforaethol a gwasanaethau cymdeithasol. Mae gan y Bwrdd newydd rôl ddeuol sef dwyn y Cyngor i gyfrif am wella yn ogystal â chynnig cyngor i wella'r Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Cyngor yn gyfan. 


Ym mis Mawrth, cynhaliodd Arolygiaeth Gofal Cymru ymweliad monitro 3 diwrnod â Chyngor Sir Powys ac roedd hyn yn cynnwys adolygu ffeiliau achosion a siarad â staff gweithredol y rheng flaen. Mae canfyddiadau ymweliad yr Arolygiaeth yn dangos hyder cynyddol yn yr awdurdod lleol a bod camau pendant wedi'u cymryd i wella gwasanaethau. Wrth gynyddu'r cymorth corfforaethol, bu modd buddsoddi mewn adnoddau ychwanegol i leihau llwyth achosion a chynyddu capasiti'r uwch reolwyr fel bod staff unigol y rheng flaen a'r rheolwyr yn cael gwell cefnogaeth. Er bod perfformiad wedi gwella mewn cysylltiad â rhai dangosyddion, mae angen parhau i weithio i ganolbwyntio ar brydlondeb ac ansawdd y cymorth i blant a theuluoedd. Ers hynny, mae Arolygiaeth Gofal Cymru wedi ysgrifennu at Gyngor Sir Powys gan nodi ei ganfyddiadau.

Er fy mod yn falch o weld bod camau gwella'n cael eu cymryd, rwy'n benderfynol o sicrhau bod Gwasanaethau Plant Powys yn parhau i gael eu goruchwylio'n fanwl, hyd nes inni gyrraedd pwynt lle mae Arolygiaeth Gofal Cymru a Gweinidogion Cymru yn fodlon bod y Cyngor yn darparu gwasanaethau o'r safon a'r ansawdd disgwyliedig. I wneud hyn, rwyf wedi penderfynu cyhoeddi atodiad i'r Hysbysiad Rhybuddio Dilynol. Mae'r atodiad yn ffurfioli'r gofynion sydd eu hangen er mwyn i Gyngor Powys barhau i wella, gan gydnabod bod angen gwneud gwaith pellach dros y tymor byr, y tymor canolig a'r tymor hwy. Mae'r atodiad i'r Hysbysiad Rhybuddio yn cael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru heddiw (dolen allanol).

Mewn datganiadau blaenorol, rwyf wedi amlinellu'r pecyn cymorth ffurfiol sy'n cael ei roi i fwrdd corfforaethol a llywodraethiant Powys o dan adran 28 o Fesur Llywodraeth Leol 2009. Datblygwyd y pecyn yn dilyn adroddiad Sean Harriss ar drefniadau llywodraethu corfforaethol y Cyngor. Bydd diweddariad pellach ar y cynnydd yn cael ei roi ar ôl cyfarfod cyntaf y Bwrdd Gwella a Sicrwydd newydd ac ar ôl cwblhau ail gam y cymorth corfforaethol.

Dymunaf roi gwybod i'r aelodau bod Arolygiaeth Gofal Cymru yn ddiweddar wedi cynnal yr arolwg a oedd wedi'i gynllunio o wasanaethau oedolion Cyngor Sir Powys. Mae'r Arolygiaeth yn bwriadu cyhoeddi'r adroddiad yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 30 Ebrill.