Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AC, Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Anghrediniaeth oedd yr ymateb ar draws y byd i’r ymosodiadau terfysgol arswydus ar ddau fosg yn Seland Newydd ddydd Gwener 15 Mawrth.

Ddydd Gwener, 15 Mawrth, aeth y Prif Weinidog i’r Mosg yn Heol Clare Caerdydd i sefyll ochr yn ochr â Mwslimiaid yng Nghymru yn wyneb yr ymosodiad terfysgol atgas yn Christchurch ac yna fe aeth yn ei flaen i’r wylnos “Safwn ochr yn ochr â Christchurch” yn y Deml Heddwch a drefnwyd gan Gyngor Mwslimiaid Cymru a Dinasyddion Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn condemnio’n llwyr y casineb ffiaidd a amlygwyd gan leiafrif bychan o derfysgwyr. Nid chaiff Islamoffobia nac iaith sy’n creu rhwygiadau eu goddef yn ein gwlad ac rydyn ni’n parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i ddileu Islamoffobia yn ein cymunedau. Saif Llywodraeth Cymru’n gadarn ochr yn ochr â phawb sydd wedi’u bygwth neu wedi’u cam-drin ar unrhyw adeg a saif hefyd i wrthsefyll pawb sydd â’u bryd ar ledu rhwygiadau. Yma yng Nghymru, na chawn ein diffinio byth gan y bobl hynny sy’n coleddu casineb. Rydym yn unedig yn ein penderfyniad i hyrwyddo heddwch ac rydym yn ymrwymedig i hyrwyddo gwerthoedd cytûn a dealltwriaeth ar draws cymunedau ledled Cymru.

Fel heddluoedd eraill ledled y Deyrnas Unedig, fe wnaeth yr heddlu yng Nghymru ymateb yn gyflym yn dilyn yr ymosodiadau, gan gynyddu nifer y patrols o gwmpas mosgiau i leddfu pryderon; gan gysylltu â chymunedau o bob ffydd a rhoi cyngor ar sut y gall pobl amddiffyn eu hunain a’r mannau o’u cwmpas. Nid yw heddluoedd yng Nghymru wedi cofnodi unrhyw fygythiadau uniongyrchol yn erbyn ein cymunedau Mwslimaidd. Er hynny, gall addoldai ddefnyddio’r pecyn hyfforddi ar-lein sef  ‘ACT Awareness eLearning’ i gael cyngor ynghylch Diogelwch Amddiffynnol a sut i ymateb petai’r gwaethaf yn digwydd. Dyma’r ddolen at y pecyn: https://www.gov.uk/government/news/act-awareness-elearning. 

Mewn perthynas ag eithafiaeth ar yr adain dde, gwyddom nad oes lle i ni laesu dwylo. Byddwn yn parhau i weithio gyda’r Comisiwn i Wrthsefyll Eithafiaeth a phartneriaid eraill drwy ein strwythurau presennol er mwyn deall y sefyllfa’n well a mynd i’r afael â’r risgiau. Os oes gan unrhyw un bryderon bod rhywun yn cael ei radicaleiddio, gallant gael cyngor a chymorth drwy raglen PREVENT drwy ltai.info.

Er mwyn rhoi’r tawelwch meddwl mwyaf posibl i’n cymunedau, rydym yn gweithio’n ddiwyd gyda’n partneriaid i amddiffyn a chefnogi pobl sydd wedi dioddef o ganlyniad i droseddau casineb sydd wedi’u symbylu gan ddaliadau crefyddol ac i ddwyn y tramgwyddwyr i gyfrif.  Gan weithio gyda’r pedwar heddlu a Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru ar gyfer Troseddau Casineb mae gennym systemau cadarn a deddfwriaeth yn eu lle i ymchwilio i droseddau casineb, cefnogi dioddefwyr a chosbi tramgwyddwyr. Mae Llywodraeth Cymru a’r Heddlu yn cymryd pob achos lle cofnodir Islamoffobia a throsedd casineb o ddifrif.

Rydym yn ehangu ein Rhaglen Cydlyniant Cymunedol Rhanbarthol. Mae’r rhaglen yn gweithio ar lefel genedlaethol a hefyd ar lefel ranbarthol er mwyn darganfod ble mae tensiynau mewn cymunedau a lleihau’r tensiynau hynny. Rydym yn buddsoddi £2.24 miliwn (2019-20 hyd at 2020-21) gan gynnwys £1.52 miliwn gan Gronfa Bontio’r UE.

Byddwn yn rhoi o leiaf £625,000 eleni i Ganolfan Genedlaethol Adrodd am Droseddau Casineb a Chymorth sy’n cael ei rhedeg gan Gymorth i Ddioddefwyr Cymru. Ceir gan y ganolfan gymorth ac eiriolaeth ar ran pobl sydd wedi dioddef o ganlyniad i droseddau casineb.

Gyda chymorth Fforwm Cymunedau Ffydd Cymru byddwn yn cydweithio’n agos â chynrychiolwyr pob ffydd ynghylch materion sy’n effeithio ar fywyd cymdeithasol, economaidd a diwylliannol Cymru. Mae dealltwriaeth dda o werthoedd a rennir a’r nod yw sicrhau llesiant Cymru. Byddwn yn parhau i gydweithio’n agos ag arweinwyr pob ffydd yn ystod cyfnod Brexit, gan drafod yr hyn y gallwn ei wneud gyda’n gilydd er mwyn atgyfnerthu negeseuon positif ynghylch cydlyniant, parch a dealltwriaeth.

Rydym yn cydweithio â thros 30 o bartneriaid ar draws Cymru drwy ein Rhwydwaith Cyfathrebu Cydraddoldeb a Chynhwysiant, gan hyrwyddo negeseuon positif ynghylch parch a chynhwysiant a dathlu amrywiaeth. Ymysg aelodau’r Rhwydwaith mae Awdurdodau Lleol, pedwar heddlu Cymru a sefydliadau’r trydydd sector. Rydym yn dathlu’n rheolaidd amrywiaeth o fewn ein gwlad, er enghraifft yn ystod Diwrnod Rhyngwladol Menywod, Wythnos Ffoaduriaid, Mis Hanes Pobl Dduon a Diwrnod y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Gwaredu Gwahaniaethu ar sail Hil. Mae digwyddiadau o’r fath yn creu cyfle i ni rannu a hyrwyddo gwerth cynhwysiant.

Yn sicr ni fyddwn yn gorffwys ar ein rhwyfau, a byddwn yn gwneud popeth posibl er mwyn atal eithafwyr asgell dde rhag dechrau gweithredu yng Nghymru. Mae’n rhaid cofio, yn ogystal, fod Cymru’n cynnig cymuned cynnes a chroesawgar, lle y mae pobl yn teimlo eu bod yn perthyn a’u bod yn unedig. Ni fydd terfysgwyr nac eithafwyr byth yn amharu ar hyn.