Neidio i'r prif gynnwy

John Griffiths, Y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mai 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw, lansiais ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfres o ddogfennau a fydd yn ein helpu i weithredu Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013. Bydd y Ddeddf, sy’n arloesol o ran hyrwyddo teithio llesol, yn cael ei hategu gan ddwy set o ganllawiau a chynllun gweithredu.

Bydd y canllawiau ar gyfer dylunio yn newid sut yr ydym yn mynd ati i ddylunio ac adeiladu seilwaith ar gyfer cerdded a beicio. Bydd yn pennu’r safonau y dylid cadw atynt wrth greu llwybrau cerdded a  beicio, a hynny gyda’r un lefel o fanylder ag a ddefnyddir ar gyfer ffyrdd i gerbydau.  Mae’r canllawiau hyn yn bwysig am eu bod yn ceisio cael gwared ar y rhwystrau mwyaf sy’n atal pobl rhag cerdded a beicio, sef naill ai nad yw’r seilwaith ei hunan ar gael neu nad yw’n addas ar gyfer pob defnyddiwr. Un o’r rhesymau pennaf dros gyflwyno’r Ddeddf yn y lle cyntaf oedd bod angen gwella’r seilwaith er mwyn i fwy o bobl gael y cyfle i gerdded a beicio’n ddiogel.

Cafodd y canllawiau eu datblygu gan gonsortiwm o arbenigwyr a oedd yn tynnu ar y syniadau diweddaraf ynghylch creu seilwaith cerdded a beicio a fyddai’n bodloni’r angen i sicrhau cydraddoldeb a mynediad.

Mae’r canllawiau statudol ar gyfer gweithredu Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn nodi’r prosesau a’r gweithdrefnau y dylid eu defnyddio i greu’r mapiau sy’n ofynnol o dan y Ddeddf a hefyd i fodloni ei gofynion eraill.

Mae’r Ddeddf a’i chanllawiau ategol yn rhan o ymgyrch Llywodraeth Cymru i hyrwyddo teithio llesol. Cafodd cynllun gweithredu ar gyfer teithio llesol hefyd ei gyhoeddi heddiw at ddibenion ymgynghori. Mae’n egluro’r gweithgareddau ehangach y bydd Llywodraeth Cymru yn ymgymryd â nhw gyda’r nod o annog pobl i gerdded a beicio’n amlach drwy sicrhau eu bod yn cael pob cyfle i wneud hynny.

Mae’r ymgynghoriadau hyn, gyda’i gilydd, yn gam sylweddol ymlaen ar ein taith i wneud Cymru yn genedl o bobl sy’n cerdded ac yn beicio bob cyfle. Bydd yr ymgynghoriad ar y dogfennau hyn ar agor am 12 wythnos. Rwy’n bwriadu cychwyn y Ddeddf ar ôl i’r ymgynghoriadau gau. Bryd hynny byddwn yn gallu mynd ati o ddifrif i roi’r Ddeddf ar waith.