Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Y Gwir Anrhydeddus Elizabeth Truss AS a minnau wedi cadarnhau bod Cyllid a Thollau EM, Llywodraeth Cymru ac Awdurdod Cyllid Cymru yn barod i roi’r trethi datganoledig ar waith yng Nghymru ar 1 Ebrill.

O 1 Ebrill 2018 ymlaen, bydd Cymru’n casglu ei threthi cenedlaethol cyntaf ers bron i 800 mlynedd wrth i dreth dir y dreth stamp a’r dreth dirlenwi gael eu datganoli a’u disodli gan y dreth trafodiadau tir a’r dreth gwarediadau tirlenwi.

Rwyf wedi cytuno â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys fy mod yn fodlon i Lywodraeth y DU ddechrau'r broses ar gyfer datgymhwyso trethi'r DU, er mwyn galluogi'r dreth trafodiadau tir a’r dreth gwarediadau tirlenwi i fynd yn fyw ar 1 Ebrill 2018.

Sefydlwyd Awdurdod Cyllid Cymru ym mis Hydref 2017 i gasglu a rheoli dwy dreth ddatganoledig yng Nghymru ar ôl cyflwyno Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016.

Roedd y cyfarfod heddiw hefyd yn gyfle i fyfyrio ar y cysylltiadau cadarnhaol ac adeiladol sydd wedi datblygu rhwng ein llywodraethau dros y cyfnod hwn. Edrychaf ymlaen at weld hyn yn parhau.

Mae datganoli'r trethi hyn yn garreg filltir arwyddocaol i Gymru, ac yn rhoi rhagor o adnoddau i ni i greu Cymru decach ac i ddatblygu economi Cymru.

Hoffwn ddiolch i aelodau'r Pwyllgor Cyllid am y gwaith craffu a’r sicrwydd sydd wedi’i ddarparu ganddynt hyd yma wrth i ni gyrraedd y pwynt arwyddocaol hwn yn y broses o ddatganoli trethi i Gymru.