Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwy'n ysgrifennu i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad am Ysbyty Coffa Fictoria yn y Trallwng yn dilyn y llifogydd sydyn yno ddydd Sul, 27 Mai ar ôl glaw trwm.

Ymwelais â'r ysbyty ddydd Iau diwethaf (7 Mehefin) i ddiolch i staff a'r gymuned am eu gwaith caled a'u hymateb cyflym i'r llifogydd a oedd yn golygu nad amharwyd llawer ar y cleifion a'r gwasanaethau.

Ar ei waethaf, effeithiwyd ar y dderbynfa, y gegin, yr uned mân anafiadau, yr adran cleifion allanol, yr adran radioleg a'r gwasanaeth y tu allan i oriau gan feddygon teulu ond rhoddwyd trefniadau amgen ar waith yn gyflym fel bod modd i bobl gael mynediad i'r gwasanaethau.

Roedd hyn yn cynnwys adleoli gwasanaethau dros dro o'r ganolfan eni, nad oedd yn cael ei defnyddio ar y pryd, i Ysbyty'r Drenewydd fel bod modd symud gwasanaethau mân anafiadau 24 awr i'r uned hon er mwyn parhau i allu darparu'r gwasanaeth yn y Trallwng.

Bu modd cadw prif ward yr ysbyty, a oedd yn llawn cleifion ar y pryd, ar agor drwy gydol yr amser oherwydd y camau a gymerwyd yn gyflym gan staff a rwystrodd ddŵr y llifogydd rhag dod i mewn i'r ward.

Siaradais â'r staff a oedd ar ddyletswydd ar y pryd, a'r rheini a ddaeth i mewn i helpu. Yn ogystal â chymorth gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a'r awdurdod lleol, bu aelodau o'r gymuned yn cynnig eu cymorth. Da oedd dod i wybod bod busnesau lleol wedi helpu hefyd.

Roedd clywed bod yr ysbyty wedi parhau i allu gweithredu drwy gydol yr amser, a bod mwyafrif y gwasanaethau yn ôl i'r drefn arferol erbyn bore dydd Mawrth wedi creu argraff arnaf.

Yn ystod fy ymweliad, clywais mai'r rheswm dros hyn oedd bod ystod eang o staff wedi dod i'r ysbyty ddydd Sul ac ar ŵyl y banc ar y dydd Llun yn ystod eu diwrnodau i ffwrdd.

Ar ôl atgyweirio'r uned mân anafiadau, symudodd y gwasanaeth yn ôl i'w safle arferol ar 6 Mehefin, ac felly roedd y Ganolfan Eni unwaith eto yn gwbl weithredol yn Ysbyty'r Trallwng erbyn fy ymweliad.

Mae'r ymateb i'r llifogydd yn dangos ymrwymiad y staff a'r gymuned i'r ysbyty.

Cefais y cyfle i siarad ag ystod eang o staff a fu'n helpu i lanhau ar ôl y llifogydd. Roedd hyn yn cynnwys porthorion, staff gweinyddu a staff cymorth, gwasanaethau domestig ynghyd â staff iechyd y rheng flaen. Cefais hefyd y cyfle i gyfarfod ag aelodau o'r tîm arlwyo. Effeithiwyd yn ddifrifol ar y ceginau ond er gwaethaf hyn, roedd y staff yn brysur yn ystod y broses lanhau yn bwydo'r cleifion, y staff a'r gwirfoddolwyr.

Yn ystod fy ymweliad â'r ysbyty, bu'r staff yn siarad am yr ymgynghoriad gan Grŵp Comisiynu Clinigol GIG Swydd Amwythig a Grŵp Comisiynu Clinigol GIG Telford a Wrekin ynghylch y newidiadau arfaethedig i'r gwasanaethau yn Ysbyty Brenhinol yr Amwythig ac Ysbyty'r Princess Royal, Telford, gan fod y ddau yn gwasanaethu cleifion Powys. Cefais yr wybodaeth ddiweddaraf gan y staff am eu hymdrechion i annog preswylwyr Powys i ymateb i'r ymgynghoriad. Mae rhagor o wybodaeth am y newidiadau arfaethedig a sut i ymateb ar gael ar:  www.nhsfuturefit.org 

Yn ystod fy ymweliad, manteisiais ar y cyfle i gyfarfod â staff yn yr uned dialysis arennol. Roedd y staff yno wedi bod yn pryderu ynghylch proses dendro gystadleuol a oedd yn cael ei chynnal gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – sy'n cynnal yr uned – gyda chefnogaeth Rhwydwaith Clinigol Arennol Cymru. Roeddwn yn falch o gyfarfod â staff i glywed am yr uned. Gwnaethant egluro eu bod yn mwynhau gweithio yno yn gofalu am eu cleifion, a pha mor bwysig yw gweithio i'r gwasanaeth iechyd iddyn nhw. Dywedais yn glir wrthynt nad oeddwn i na Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cefnogi bod staff yn cael eu trosglwyddo rhwng y gwasanaeth iechyd a darparwyr gwasanaeth arennol annibynnol.