Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwyf wedi ymrwymo erioed i ehangu addysg a hyfforddiant meddygol yn y Gogledd, a dyna pam rwyf wedi cefnogi Prifysgolion Caerdydd a Bangor wrth iddynt gydweithio i weithredu Rhaglen C21. Mae’r rhaglen lwyddiannus hon yn galluogi myfyrwyr meddygaeth i ddilyn rhan sylweddol o’u hastudiaethau ym Mhrifysgol Bangor.

Gwnaed y rhaglen hon yn bosibl trwy gyllid o £7m y flwyddyn gan Lywodraeth Cymru a ddarparwyd fel cronfa ddatblygu ar gyfer cynnig hyfforddiant meddygol i israddedigion yn y Gogledd. Dechreuodd 19 o fyfyrwyr ar eu hastudiaethau o dan y Rhaglen C21 ym mlwyddyn academaidd 2019/20; ac mae 18 o fyfyrwyr yn bwriadu dechrau astudio o dan y rhaglen yn 2020/21.

Yn ddiweddar, cefais adroddiad ar y cyd gan yr Athro Iwan Davies, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor a Mark Polin OBE, QPM, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae’r adroddiad hwnnw’n nodi’r opsiynau ar gyfer darparu ysgol iechyd a meddygaeth yn y Gogledd, ac mae’n symbol o’r uchelgais sydd gan y bwrdd iechyd a phartneriaid eraill ar gyfer y sector iechyd a gofal yn y rhanbarth.

Rwyf wedi gofyn i’m swyddogion sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen i ymchwilio i ymarferoldeb cynigion Prifysgol Bangor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Bydd y grŵp yn cynnwys rhanddeiliaid a fydd yn gallu defnyddio eu gwybodaeth a’u harbenigedd i bwyso a mesur y cynigion yn drylwyr. Wedi iddo gael ei sefydlu, byddaf yn gofyn i’r grŵp baratoi adroddiad manwl imi, gan gynnwys argymhellion ynghylch a fyddai’r cynnig hwn yn ymarferol ac a fyddai’n bosibl ei wireddu.