Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwyf am ddiolch i’r holl staff addysg ar draws Cymru am eu hymdrechion i wneud ysgolion a cholegau yn fannau diogel. Diolch i’w hymdrechion, mae bron i hanner holl ysgolion Cymru heb gael unrhyw achosion o Covid ers mis Medi.

Fodd bynnag, cydnabyddir y gallai’r ffaith fod lleoliadau addysg ar agor gyfrannu at gymysgu ehangach y tu allan i’r ysgol a’r coleg.

Mae'r data Profi, Olrhain, Diogelu diweddaraf yn dangos bod cyfraddau Covid-19 wedi cynyddu ymhellach ledled Cymru a'u bod bellach wedi pasio 370/100k gydag 17% o brofion yn bositif. Mae'r gyfradd R yng Nghymru wedi cynyddu i 1.27 gydag amser dyblu o ddim ond 11.7 diwrnod.

Bob dydd, rydyn ni’n gweld mwy a mwy o bobl yn cael eu derbyn i'r ysbyty gyda symptomau’r coronafeirws. Mae'r feirws yn rhoi pwysau sylweddol a pharhaus ar ein gwasanaeth iechyd ac mae'n bwysig ein bod i gyd yn gwneud ein rhan i osgoi ei drosglwyddo.

Rwyf wedi cael cyngor arbenigol gan Brif Swyddog Meddygol Cymru, sy’n dangos bod y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn dirywio. Mae’n argymell y dylid symud tuag at ddysgu ar-lein ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd cyn gynted ag y bo'n ymarferol.

O ganlyniad, gallaf gadarnhau fy mod wedi gwneud y penderfyniad heddiw y dylid symud tuag at ddysgu ar-lein ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd a myfyrwyr coleg o ddydd Llun yr wythnos nesaf ymlaen, fel rhan o ymdrech genedlaethol i atal trosglwyddo’r coronafeirws.

Rwy’n gwybod bod nifer o bobl yn teimlo’n bryderus ac rwy’n credu ei bod yn bwysig cael cyfarwyddyd clir, cenedlaethol i dynnu pwysau oddi ar ysgolion a cholegau unigol, awdurdodau lleol, rhieni a gofalwyr.

Fel y digwyddodd yn ystod y cyfnod atal byr, bydd disgwyl i awdurdodau lleol ac ysgolion ystyried pa ddarpariaeth fyddai’n briodol i ddysgwyr agored i niwed, a gallai hyn gynnwys dysgu ar y safle.

Rydym yn cydnabod, fel y gwnaethom yn ystod y cyfnod atal byr, ei bod yn anos i blant oedran cynradd ac ysgolion arbennig ymgymryd â dysgu hunangyfeiriedig. Dyna pam rydyn ni’n annog ysgolion cynradd ac ysgolion arbennig i barhau i aros ar agor.

Wedi siarad ag arweinwyr addysg lleol, rwy’n hyderus bod gan ysgolion a cholegau ddarpariaeth dysgu ar-lein ar waith. Bydd hyn hefyd yn bwysig o ran sicrhau bod myfyrwyr gartref yn ystod y cyfnod hwn, gan ddysgu ac aros yn ddiogel.

Yn bendant, ac mae hyn yn bwysig iawn, dylai plant fod gartref. Nid gwyliau Nadolig cynnar yw hwn, gwnewch bopeth o fewn eich gallu i leihau eich cysylltiad ag eraill.

Mae'r teulu addysg yng Nghymru wedi tynnu ynghyd gymaint o weithiau eleni i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i gwrs y feirws hwn ac yn y pen draw i achub bywydau, ac rwy'n gwybod y gallwn wneud yr un peth eto.

Gyda'n gilydd gallwn ddiogelu Cymru.