Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Hydref 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Bob hydref, mae’r Sefydliad Diogelwch ar y Ffyrdd yn cyhoeddi ystadegau diogelwch ar y ffyrdd Rhaglen Asesu Ffyrdd Ewrop (EuroRAP) ar gyfer Prydain Fawr.  Heddiw, fe gyhoeddwyd yr ystadegau diweddaraf ar gyfer ffyrdd Prydain (dolen allanol).

Mae’r ymchwil yn ymwneud â damweiniau sy’n achosi marwolaethau neu anafiadau difrifol ar rwydwaith Prydain ac mae canlyniadau eleni yn cymharu data ar ddamweiniau ffyrdd 2002-2006 a 2007-2011.  Mae’r canfyddiadau’n tynnu sylw at y gwelliannau parhaus sy’n cael eu gwneud i leihau’r peryglon ar draws Prydain a’r gwaith da y mae awdurdodau’r ffyrdd yn ei wneud i ostwng nifer y damweiniau sy’n digwydd.  Mae’n nhw’n gwneud hyn trwy wneud gwaith peirianyddol, ymdrin â gorfodi cyflymder a  dysgu pobl am y peryglon ac adnabod y ffyrdd sy’n achosi’r risg mwyaf ym mhob rhanbarth.  

Yn ôl yr adroddiad, mae nifer y gwrthdrawiadau a achosodd farwolaethau neu anafiadau difrifol yn 2002-06 a 2007-11 wedi gostwng 11% yng Nghymru ac yn ôl yr arolwg, Cymru yw’r rhanbarth sydd wedi gwella leiaf.  Mae’r adroddiad hefyd yn cofnodi mai’r ffordd fwyaf peryglus yng Nghymru yw 38km o’r A44 rhwng Llangurig ac Aberystwyth.

Dim ond tan ddiwedd 2011 y mae EuroRAP wedi bod yn casglu data ond rydym yn defnyddio data mwy diweddar ar ystadegau gwrthdrawiadau i ddatblygu cyfraddau gwrthdrawiadau ar gyfer rhwydwaith y cefnffyrdd; bydd hyn yn ein helpu i lunio blaenoriaethau ar gyfer gwella diogelwch ar hyd rhannau o’r cefnffyrdd hyn.

Ers 2011, mae llawer o leoliadau ar  hyd yr A44 lle mae llawer o wrthdrawiadau wedi digwydd wedi cael eu gwneud yn fwy diogel.  Y flwyddyn ariannol hon, bydd cynllun diogelwch yn cael ei roi ar waith ar hyd cyfres o droeon 250 metr o hyd 15 milltir i’r dwyrain o Aberystwyth; bydd yr arwyddion a’r marciau ffordd yn cael eu gwella a bydd wyneb ffordd ‘garw’ yn cael ei osod ychydig cyn y troeon.  Hefyd, bydd prosiect gorfodi cyflymder yn cael ei gynnal gan Go Safe ar ffurf camera symudol fydd yn cael ei osod mewn man ar hyd y ffordd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud y ffyrdd yn fwy diogel ac i ostwng nifer y bobl sy’n cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol ar ffyrdd Cymru.  Ym mis Gorffennaf 2013, cyhoeddwyd y Fframwaith Diogelwch ar y Ffyrdd sy’n amlinellu gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer parhau i ostwng nifer y bobl sy’n cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol ar ffyrdd Cymru; dyhead y Llywodraeth yn y pen draw yw bod neb yn cael eu lladd ar ein ffyrdd.  Mae’r fframwaith yn cynnwys targed penodol arall – erbyn 2020, gweld gostyngiad o 25% yn nifer y beicwyr modur sy’n cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol ar ein ffyrdd.