Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Awst 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Pan gyhoeddais y byddai Llywodraeth Cymru’n sefydlu datblygwr gwladol Cymreig er lles pobl Cymru, addewais y byddwn yn diweddaru’r Senedd ar y mater. Mae’n dda gen i ddweud bod pethau’n mynd rhagddynt fel y dylent tuag at ei lansio ym mis Ebrill 2024.

Un o’r cwestiynau cyntaf yw sut mae pobl yn gweld y cwmni. Mae enw yn gam cyntaf pwysig i wneud yn siŵr ei fod yn gorff y bydd pobl yn ei adnabod ac yn deall ei rôl wrth gyflawni dros bobl Cymru. Enw ein datblygwr newydd fydd Trydan Gwyrdd Cymru sy’n ei gwneud yn hollol glir mai ei fwriad yw pweru Cymru at ddyfodol glân a llewyrchus.

Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu penodi Prif Weithredwr ardderchog a galluog iawn i arwain y cwmni, yn dilyn cystadleuaeth agored a theg a ddenodd llawer o ymgeiswyr cryf ac abl.  Rydym wedi penodi Richard Evans, sydd â chefndir proffesiynol cryf fel datblygwr ac sydd wedi gweithio ar draws y sector cyhoeddus, yn ein helpu i wireddu’n huchelgais ar gyfer ynni trwy Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru. Rwy’n disgwyl ymlaen at weithio gyda Richard i wireddu fy uchelgais ar gyfer y cwmni ac i wneud gwahaniaeth go iawn i’n cymunedau.

Bydd ein hymgyrch recriwtio’n mynd yn ei blaen gydol eleni, wrth i ni chwilio am bobl â phrofiad ym maes datblygu ynni sydd am fod yn rhan o’r cwmni newydd a chyffrous hwn. Byddwn yn chwilio hefyd am Gadeirydd i Fwrdd annibynnol. Bydd honno’n swydd bwysig o ran llywio’r cwmni wrth iddo ennill ei blwyf a meithrin prosiectau.

Un o brif amcanion y cwmni fydd helpu i greu gwerth i bobl Cymru. Mae caffael yn erfyn hynod bwerus wrth i ni geisio’r newidiadau rydym am eu gweld. Rydym wedi creu contractau llwyddiannus â chyrff galluog iawn i helpu’r tîm Trydan Gwyrdd i sefydlu prosiectau adnewyddadwy sydd wedi’u dylunio’n dda. Rydym wedi canolbwyntio ar gydweithio â chwmnïau o Gymru a sicrhau gwerth cymdeithasol i Gymru. Rwy’n disgwyl ymlaen at egluro sut y byddwn yn sicrhau’r manteision hyn wrth i’r broses ddatblygu ddechrau.

Er mai dim ond cam arall yw hwn mewn proses hir ac mae llawer eto i’w wneud, gobeithio’ch bod yn croesawu’r cerrig milltir hyn ar ein ffordd tuag at greu Trydan Gwyrdd Cymru.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.