Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mai 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Fis Gorffennaf y llynedd, cyhoeddais y byddwn yn sefydlu Cronfa Natur gwerth £6m i fynd i’r afael â’r dirywiad hir yn ein bioamrywiaeth ledled Cymru, a ddisgrifir yn yr adroddiad Sefyllfa Byd Natur.

Heddiw, byddaf yn nodi’r prif weithgareddau y bwriadaf fuddsoddi ynddynt o’r Gronfa ac yn disgrifio sut y byddaf yn mynd ati i sicrhau newid gwirioneddol ym mioamrywiaeth a chymunedau Cymru gyfan. Prif ddiben y Gronfa fydd buddsoddi mewn saith Ardal Gweithredu Byd Natur, llefydd yn ôl y syniadau a gyflwynwyd bod cyfoeth o gamau gweithredu arloesol ac ar raddfa’r dirwedd gyfan yn barod i’w cyflawni.

Ar ôl darllen yr adroddiad  ar Sefyllfa Byd Natur, dylai fod pob gwawrio ar bob un ohonom – o lywodraethau i grwpiau cadwraeth, elusennau, rheolwyr tir, unigolion a byd diwydiant – nad oedd ein dull gweithredu ni yn ddigonol i atal y dirywiad mewn bioamrywiaeth. Ac roedd yn gwbl amlwg na fyddai’r dull gweithredu hwn yn debygol o wneud unrhyw wahaniaeth yn y dyfodol chwaith.

Mae Datblygu Cynaliadwy’n allweddol i feddylfryd y Llywodraeth hon ac i’r ffordd yr ydym yn rheoli ein hadnoddau naturiol. Ar yr un pryd, rwyf am i ni fod yn uchelgeisiol a phenderfynol yn ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol. Nid atal y dirywiad yn unig yw’r nod - mae angen newid mawr, pellgyrhaeddol, sy’n cydnabod y ddibyniaeth ar ffactorau cymdeithasol ac economaidd. Os ydym i sicrhau cadernid hirdymor ein hamaethyddiaeth, cymunedau’r ucheldir, ein heconomi ehangach a’r amgylchedd naturiol, bydd rhaid inni geisio gwella ein hasedau naturiol ac mae hynny’n cynnwys cynyddu ein bioamrywiaeth.

Mae’n amlwg o adroddiad Sefyllfa Byd Natur bod ein dulliau traddodiadol ni wedi methu. Dyna pam, dros y flwyddyn ddiwethaf, ein bod wedi cydweithio â sefydliadau ar draws Cymru i ddatblygu ein ffordd o ddefnyddio’r Gronfa. Mewn digwyddiadau ledled Cymru, rydym wedi bod yn trafod gyda phobl sy’n weithgar yn lleol - Cyrff Anllywodraethol, rheolwyr tir, ffermwyr, rheolwyr coetiroedd, BBaCh ac Awdurdodau Lleol - i weld sut y gallwn ehangu ein camau gweithredu er mwyn mynd i’r afael â’r rhesymau sylfaenol am y dirywiad. Cyflwynwyd dros 460 o syniadau gan sefydliadau drwy’r broses hon ac roedd y rhanddeiliaid yn croesawu’r dull cydweithredol hwn.

Dyma’r Ardaloedd Gweithredu Byd Natur:

  • Bannau Brycheiniog
  • Mynyddoedd Cambria
  • Dyffryn Conwy
  • Arfordir Sir Benfro
  • Cymoedd y De
  • Y Berwyn a’r Migneint
  • Pen Llŷn

O fewn yr ardaloedd hyn, a chan ddefnyddio’r syniadau a ddaeth i law, byddaf yn ariannu gweithgarwch ymarferol ar lawr gwlad - gwaith sy’n dangos arloesedd, cydweithredu ac arferion da. Y blaenoriaethau buddsoddi fydd y canlynol:

Gweithredu i wella dalgylchoedd afonydd
Gweithredu yn nalgylchoedd ein hafonydd, fel y wnaethpwyd yn Afon Wysg, Afon Gwy ac Afon Hafren Uchaf, i blannu rhagor o wrychoedd a choetiroedd a rheoli da byw a maethynnau yn well er mwyn gwella ansawdd y dŵr a’r fioamrywiaeth, diogelu gwerth y tir a lleihau’r perygl o lifogydd.

Gweithredu ar ecosystemau morol
O wella’r ffordd y rheolir ein pysgodfeydd a’n ecosystemau morol a lleihau ymlediad rhywogaethau estron goresgynnol, gwella biodiogelwch a gweithio gyda phartneriaid fel y gwnaethom ym Mhen Llŷn, byddwn yn gwella bioamrywiaeth y môr ac yn cynnal busnesau lleol;

Gweithredu er lles yr amgylchedd lleol
O wella llecynnau gwyrdd naturiol a harneisio eu potensial ar gyfer bioamrywiaeth, fel y gwnaethpwyd yng Nghymoedd De Cymru, bydd ansawdd yr amgylchedd lleol yn gwella a bioamrywiaeth a chysylltedd yn gwella hefyd;

Gweithredu i wireddu potensial ein hucheldiroedd
O weithredu i wireddu potensial ein hucheldiroedd, fel y gwnaethpwyd ym Mhumlumon, y Berwyn a’r Migneint drwy gau ffosydd a rheoli ffermydd yn well, bydd dulliau storio dŵr a bioamrywiaeth yn gwella a ffermydd yn gallu arallgyfeirio mwy;

Gweithredu i annog arloesi
O weithredu i ennyn mwy o ddiddordeb mewn talu am wasanaethau ecosystem, er enghraifft drwy’r gwaith arloesol gyda rheolwyr tir ar ein hucheldiroedd, cynyddir y potensial i greu ffynonellau incwm eraill a rhagor o arallgyfeirio.

Dros yr wythnosau nesaf bydd fy adran i’n cydweithio gyda’r partneriaid sydd wedi cyflwyno syniadau i ddiffinio cynigion pendant ar gyfer prosiectau i’w cyllido yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Byddwn yn agored i ystyried nifer gyfyngedig o gynigion oddi allan i’r Ardaloedd Gweithredu Byd Natur hefyd, os ydynt yn brosiectau arwyddocaol o arloesol a chydweithredol sy’n gallu gyflawni ein blaenoriaethau.

Yn ogystal â’r Ardaloedd Gweithredu Byd Natur, rwy’n benderfynol bod angen i Lywodraeth Cymru a’r sector cyhoeddus ehangach ddangos arweiniad drwy weithredu i gynyddu bioamrywiaeth. O ymylon ein ffyrdd i’n coetiroedd mwyaf, mae angen inni ddangos sut rydym yn buddsoddi’n uniongyrchol fel bod ein bioamrywiaeth a’n cymunedau yn elwa ar draws ystâd y sector cyhoeddus. O ganlyniad rwy’n bwriadu buddsoddi cyfran o’r Gronfa Natur i wella’r modd y rheolir y tir sydd â gwerth ecolegol isel ar hyn o bryd, er enghraifft drwy sefydlu coetiroedd collddail a phlannu mwy o blanhigion gwyllt brodorol.

Yn ei gyfanrwydd, bydd y dull gweithredu hwn yn sicrhau bod y Gronfa Natur yn cael ei defnyddio i geisio atal y dirywiad yn ein bioamrywiaeth ac i alluogi pobl i weithio ar y cyd i wella’r amgylchedd a sicrhau manteision economaidd a chymdeithasol i bawb. Drwy hyn bydd y Gronfa’n fodel ar gyfer y math o gydweithredu integredig y dymunwn ei weld yn ein Rhaglen Datblygu Gwledig ac yn helpu i gyflawni ein huchelgeisiau ehangach ar gyfer rheoli adnoddau naturiol.