Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Tachwedd 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae Cymru bron ar ddiwedd blwyddyn brysur a llwyddiannus arall o gynnal cyfres gyffrous o ddigwyddiadau diwylliannol a chwaraeon rhyngwladol mawr. Cynhaliwyd digwyddiadau ar draws Cymru gyda dinas Caerdydd yn un o nifer o bartneriaid allweddol yn y rhaglen hon. O Gêm Brawf gyntaf Cyfres y Lludw 2015 a ras arall Grand Prix Speedway Prydain, y Gyfres Extreme Sailing Series a Chyfres Superstock Powerboat P1, mae'r ddinas wedi profi ei gallu i gynnal digwyddiadau i'r safon uchaf unwaith eto. Wrth wneud hynny, mae Cymru'n cael sylw byd-eang ac mae hynny'n gwella ein henw da fel cyrchfan o'r radd flaenaf ar gyfer twristiaeth a digwyddiadau. Mae'r digwyddiadau'n cael effaith uniongyrchol ar economi Cymru ac yn helpu i hyrwyddo ein gwlad fel lle i ymweld â hi ac i weithio a gwneud busnes ynddi.

Drwy helpu Lloegr i gynnal 8 o gemau Cwpan Rygbi'r Byd 2015 yn Stadiwm y Mileniwm a'i helpu i gynnal cystadleuaeth sydd wedi torri pob record o ran gwerthiant tocynnau, niferoedd ymwelwyr â Fanzone ac o ran ymgysylltu â'r cyhoedd, mae'n glir bod Caerdydd a Chymru'n parhau i gynnig profiad heb ei ail i gefnogwyr. Edrychwn ymlaen at groesawu'r byd eto'r flwyddyn nesaf pan fyddwn yn cynnal Hanner Marathon y Byd, ac wedyn Gêm Derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA yn 2017 a Ras Gefnfor Volvo yn 2018.

Serch hynny, mae cynnal digwyddiadau ar y raddfa hon mewn cyfnod byr o amser yn rhoi pwysau ar gymunedau prysur. Mae glanhau strydoedd yn fater i'r awdurdod lleol ac rwy'n gwybod bod Caerdydd wedi ymateb i'r ymholiadau diweddar ar y gweithdrefnau ar gyfer adfer strydoedd y ddinas ar ôl digwyddiadau mawr, gan sôn am yr heriau y maent yn eu hwynebu wrth fynd ati i lanhau ardaloedd prysur mewn ffordd ddiogel ac effeithiol ar ôl digwyddiad. Byddwn yn parhau i weithio'n agos â'r cynghorau perthnasol drwy gydol y broses o gynllunio'r  holl ddigwyddiadau rydym yn eu cefnogi er mwyn sicrhau eu bod mor barod â phosibl i gynnal y digwyddiad yn ddiogel ac yn llwyddiannus. Mae hyn yn cynnwys lleihau cymaint â phosibl yr effaith negyddol ar drigolion a busnesau a sicrhau ein bod yn rhoi cyfle i bobl a chymunedau ar draws Cymru fanteisio i'r eithaf ar y digwyddiadau hyn.