Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Tachwedd 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae awdurdodau lleol, partneriaid a rhanddeiliaid yng Nghymru yn wynebu heriau cyllidebol sylweddol mewn cysylltiad â’r gwasanaethau y maent yn eu darparu ar sail anstatudol, megis cyfleusterau chwaraeon, hamdden, diwylliant a’r celfyddydau. Mae sefydliadau a chyrff y trydydd sector yn wynebu’r un heriau ac felly mae’n hanfodol ein bod yn meddwl yn fwy creadigol ac yn ceisio agor ffrydiau refeniw newydd a gwahanol yn hytrach na dibynnu yn gyfan gwbwl ar arian cyhoeddus.

Mae codi arian felly’n dod yn fwyfwy pwysig ac mae angen i’n cyrff a’n sefydliadau ym maes y celfyddydau, chwaraeon, hamdden a diwylliant amrywio sut yr ânt ati i godi arian er mwyn iddynt barhau i fod yn gynaliadwy ac er mwyn iddynt allu ffynnu yn y dyfodol.

Yn ddiweddar, cynhaliodd Llywodraeth Cymru, ar y cyd â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Sefydliad Codi Arian Cymru, ddigwyddiad Arloesi ym maes Cyllid i bwysleisio potensial cyfleoedd codi arian digidol a chyfleoedd eraill i godi arian.

Roeddwn yn falch iawn o fod yn y digwyddiad a rhoi fy nghefnogaeth.

Rwyf wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â’r trydydd sector, gwasanaethau cyhoeddus, undebau llafur a phartneriaid eraill i ddatblygu’r agenda hwn.

Rydym yn byw mewn byd digidol ac mae’r defnydd a wneir o’r rhyngrwyd bellach yn enfawr. Mae rhwydweithiau’r cyfryngau cymdeithasol bellach yn ffordd bwerus iawn o gyfathrebu. Rhaid inni edrych yn fanylach ar sut i fanteisio ar y cyfleoedd y mae’r meysydd hyn yn eu cyflwyno.

Drwy dorfoli, a dulliau digidol eraill o godi arian, mae’n bosib cyrraedd cynulleidfa llawer mwy nag o’r blaen. Ystyr ‘torfoli’ yw cael cymorth llawer o bobl ar gyfer prosiect neu wasanaeth, a hynny dros y rhyngrwyd fel arfer. Gellir, hefyd, godi arian drwy dorfoli: mae’r sawl sydd am godi arian yn cyflwyno cais i wefan bwrpasol, gan roi pwt am  yr achos neu’r busnes, faint o arian y maent am ei godi, a’r hyn y maent yn bwriadu ei gyflawni gyda’r arian hwnnw.

Mae twf sylweddol ar hyn o bryd yn y defnydd o dorfoli i godi arian yn y sector celfyddydol. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru’n annog codi arian drwy dorfoli fel rhan o’i ymdrechion i ddwyn perswâd ar ei gleientiaid i fod yn llai dibynnol ar arian cyhoeddus.

Drwy dorfoli y bu i Ensemble Cymru godi arian i recordio ‘Pedr a’r Blaidd’ gyda Rhys Ifans yn adrodd y stori, a chododd Venue Cymru arian ar gyfer Ymddiriedolaeth Celfyddydau Conwy. Cafodd torfoli hefyd ei ddefnyddio i gefnogi sawl un o brosiectau Ffilm Cymru; ‘Richard III’ gan Omidaze, a ‘Boombox Eryri’ gan Migrations.  Mae’r Cyngor Celfyddydau hefyd wedi buddsoddi yn y cynllun cyllido cenedlaethol ‘DONATE’. Dyma dechnoleg rhoddi arian aml-blatfform, sy’n galluogi sefydliadau i godi arian yn barhaus - yn hytrach na chodi arian ar gyfer achos penodol lle rhoddir yr arian yn ôl os na chyrhaeddir y targed. Mae’r system hefyd wedi’i haddasu i weithio’n ddwyieithog. Ymhlith y sefydliadau sydd wedi ymuno mae Opera Cenedlaethol Cymru, Ffotogallery, Theatr Iolo a’r Theatr Genedlaethol. Arloesiad cyffrous arall yw cynllun ‘Tocyn’ a ddatblygwyd gan Gerddoriaeth Gymunedol Cymru. Mae hyn yn galluogi pobl i roddi eu ffioedd bwcio i ymgyrchoedd codi arian torfol.

Mae Amgueddfa Genedlaethol Cymru wedi cael llwyddiant wrth godi arian yn allanol er mwyn prynu gweithiau celf ac arteffactau hanesyddol sy’n hollbwysig i’n hymdrechion i ddeall a gwerthfawrogi ein hanes. Mae gan yr Amgueddfa berthynas wych ag Ymddiriedolaeth Derek Williams, sydd wedi arwain at sawl gwaith celf o bwys yn cael eu benthyca neu eu rhoi i’r Amgueddfa.

Mae’r prosiect i ailddatblygu Sain Ffagan, prosiect sy’n werth £25 miliwn, yn un o brosiectau diwylliannol mwyaf cyffrous Cymru. Bydd yn caniatáu i’r safle gyfrannu’n helaeth at economi twristiaeth ein gwlad. Y targed o ran codi arian yw £2.75 miliwn ac, hyd yn hyn, mae mwy na £2.1 miliwn wedi’i godi’n breifat – gan ystod o ymddiriedolaethau, sefydliadau ac unigolion.

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi sefydlu perthynas lwyddiannus ag Ymddiriedolaeth ScottishPower ers 2013, gan dderbyn cymorth ar gyfer nifer o brosiectau allgymorth ar gyfer plant ysgol yng Nghymru. Mae cyllid ychwanegol gan Ymddiriedolaeth ScottishPower yn galluogi’r Llyfrgell i ehangu ei rhaglen allgymorth addysgol er mwyn cyrraedd mwy o bobl. Y nod yw cynyddu effaith gweithgareddau’r Llyfrgell ledled Cymru. Ymhlith y gweithgareddau a gefnogwyd roedd Canmlwyddiant Dylan Thomas yn 2014 a gweithgarwch y Llyfrgell yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Mae’r bartneriaeth hon hefyd yn cefnogi Rhaglen Fusion, sydd â’r nod o ddefnyddio diwylliant i drechu tlodi. Byddaf i’n ymweld ag Ardal Arloesi Torfaen ym mis Tachwedd, lle bydd campwaith o gasgliad celf y Llyfrgell yn rhan bwysig o’r gwaith o annog plant i gymryd rhan mewn gweithgareddau yn yr ystafell ddosbarth.

Llwyddodd Cymdeithas Archaeoleg a Hanes Llŷn i godi £625 gan 23 o gyfranwyr i adeiladu ffrâm gymorth ar gyfer ceufad o Orllewin Affrica y daethpwyd o hyd iddo yn Afon Menai yn y 1950au ac y gofelir amdano bellach yn Amgueddfa Forwrol Llŷn.

Rwy’n falch iawn fod y prosiect hwn wedi’i nodi gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Chatalydd Cymru fel enghraifft wych o grŵp newydd yn manteisio ar dechnoleg dorfol ddigidol i gefnogi prosiectau bach unigryw.

Cododd Amgueddfa Llandudno £3,030 gan 38 o gyfranwyr dros 42 o ddiwrnodau i greu arddangosfa newydd o’r sgerbwd neolithig (sydd â’r llysenw ‘Blodwen’) y sicrhawyd yn flaenorol y byddai’n dychwelyd i Landudno o Swydd Gaerhirfryn. Nod Ymddiriedolaeth Amgueddfa Llandudno, sef y corff sy’n gyfrifol am yr amgueddfa annibynnol fechan hon, oedd codi £3,000 drwy dorfoli a’i ddefnyddio fel arian cyfatebol, ar y cyd â cheisiadau eraill am gyllid, i dalu am gyfanswm cost yr arddangosfa, sef tua £8,000.

Caiff rhai o’r cyhoeddiadau a ariennir gan Lywodraeth Cymru drwy Gyngor Llyfrau Cymru hefyd eu cefnogi’n ariannol yn rhannol drwy dorfoli. Mae hyn yn lleihau’r pwysau sydd ar y cynlluniau grant ac yn golygu bod y cyllid cyhoeddus yn ymestyn ymhellach. Yn ddiweddar, er enghraifft, ailargraffodd y cyhoeddwyr Honno lyfr o’u cyfres Welsh Women’s Classics a oedd allan o brint, gyda 50% o’r arian wedi’i dorfoli a 50% yn dod o gymorth grant. Fel rhan o’i gynlluniau grant craidd, mae’r Cyngor Llyfrau’n blaenoriaethu’r gallu i ddenu incwm o wahanol ffynonellau. Mae codi arian drwy dorfoli felly wedi dod yn un o’r ffrydiau incwm y mae cyhoeddwyr yn ceisio manteisio arni. Er enghraifft, mae gan y cylchgrawn digidol Wales Arts Review gynllun ‘cyfeillion’, sy’n galluogi cefnogwyr y cylchgrawn i roi arian drwy’r wefan. Codwyd arian drwy dorfoli, hefyd, i ariannu elfennau o brosiectau nad ydynt yn gymwys am gyllid drwy’r Cyngor Llyfrau; er enghraifft, teithiau ymchwil sydd, yn y pen draw, yn arwain at gyhoeddiad y telir ei gostau cynhyrchu gan y Cyngor Llyfrau.

Mae diwylliant o ddyngarwch a pharodrwydd i roi cyn bwysiced yn ein cymdeithas heddiw ag erioed. Mae’r amgylchiadau ariannol presennol yn rhai heriol, a dylid annog pawb a all helpu i wneud hynny.

Mae pobl sy’n codi arian yn llwyddiannus drwy dorfoli yn dweud bod angen cynnal ymgyrch godi arian ‘draddodiadol’ ar y cyd â thorfoli. Mae angen manteisio i’r eithaf ar gyfryngau o bob math (testun, lluniau a fideos) i roi’r diweddaraf i’r cyfranwyr ynghylch sut y mae’r prosiect yn dod yn ei flaen - mae’n hanfodol sefydlu a datblygu perthynas gyda’ch cyfranwyr er mwyn iddynt allu deall yr hyn yr ydych yn ceisio’i gyflawni ac, yn sgil hynny, bod yn fwy tebygol o gefnogi’r ymgyrch.