Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Rhagfyr 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Fel rhan o raglen Hwyluso’r Drefn, rwyf wedi cytuno mewn egwyddor ar y newidiadau i’r rheol gwahardd symud 6 niwrnod yn unol ag argymhellion y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y pwnc.

Gwaith adroddiad Hwyluso’r Drefn a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2012, oedd ystyried a oedd yr holl reoliadau ar gyfer ffermwyr yn briodol ac yn gymesur.  Gwnaed argymhellion yn yr adroddiad i symleiddio a gwella’r drefn ar gyfer rheoleiddwyr a ffermwyr fel ei gilydd.

Cyfeiriodd yr adroddiad at y rheol gwahardd symud fel un neilltuol o anodd a chymhleth i ffermwyr. Argymhellodd y dylai Llywodraeth Cymru a’r diwydiant ffermio weithio gyda’i gilydd i fynd i’r afael â’r problemau sy’n gysylltiedig â’r rheol.  Rydym wedi bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid ers dechrau 2012 i ddatblygu cynigion er mwyn i ni allu eithrio ffermydd sy’n defnyddio uned gwarantin gymeradwy o’r rheol 6 niwrnod.

Cafodd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Rheol 6 niwrnod ei sefydlu ym mis Mawrth 2013 i asesu cynigion i gymryd lle’r gwaharddiad a chytuno ar ffordd ymlaen.  Mae llawer wedi’i wneud eleni wrth i’r diwydiant a’r llywodraeth weithio gyda’i gilydd trwy’r grŵp a hoffwn ddiolch i’r holl aelodau am eu cydweithrediad.  Cafodd effeithiau economaidd a risg milfeddygol cynigion y Llywodraeth a’r diwydiant ar gyfer unedau cwarantin eu hasesu’n annibynnol. Aeth y Grŵp ati wedyn i ystyried canlyniadau’r asesiadau hyn a chyhoeddi’i argymhellion ar gyfer unedau cwarantin.  Amcan yr argymhellion ar gyfer unedau cwarantin yw symleiddio’r rheolau a cheisio’r cydbwysedd iawn rhwng rhoi’r hyblygrwydd i ffermwyr allu masnachu’u hanifeiliaid a lleihau’r risg o ledaenu clefydau.  

Bydd swyddogion yn gweithio nawr i asesu costau’r newidiadau hyn.  Byddwn yn gweithio gyda’r diwydiant i gytuno ar ganllawiau i’r ffermwyr sy’n defnyddio unedau cwarantin a threfniadau ar gyfer eu cymeradwyo, eu harchwilio a’u gorfodi.  Byddwn hefyd yn ymgynghori ar y cynigion flwyddyn nesaf.