Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Ebrill 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw, 7 Ebrill 2014, rwy’n lansio Strategaeth Ddŵr Llywodraeth Cymru at ddiben ymgynghori.  Mae creu’r Strategaeth Ddŵr yn ymrwymiad yn ein Rhaglen Lywodraethu.  Yr amcan yw sicrhau bod ein hadnoddau dŵr yn gadarn a chynaliadwy a’u bod yn cael eu rheoli gyda golwg ar fanteisio’n llawn ar y buddiannau i Gymru a’i phobl.  Mae’r Strategaeth yn esbonio hefyd sut yr ydym yn disgwyl i reolaeth ar ddŵr yng Nghymru gyfrannu at bolisïau ehangach Llywodraeth Cymru, yn unol â’n hymrwymiad at ddatblygu cynaliadwy.  Mae hynny’n cynnwys ein hamcanion o ran swyddi a thwf, ein cyfraniad at yr agenda trechu tlodi a’n dyheadau ehangach o ran rheoli adnoddau naturiol.

Mae ein prif gynigion ar gyfer yr ymgynghoriad yn dilyn yn fras y themâu canlynol:

  • Dŵr ar gyfer Natur, Pobl a Busnes – Mae’r adran hon yn esbonio sut rydym yn bwriadu rheoli ein hadnoddau dŵr yn gynaliadwy, diwallu anghenion cymdeithas a chynnig cyfleoedd ar gyfer twf gwyrdd, ond gan sicrhau ein bod yn diogelu ac yn gwella ein hamgylchedd naturiol.  Mae’n dangos yn arbennig y cyswllt rhwng y Strategaeth a’r ymagwedd ehangach at reoli adnoddau naturiol rydym yn ei datblygu fel Llywodraeth. 
  • Gweithredu i Leihau Llygredd – Mae’r adran hon yn cyflwyno ein cynigion ar gyfer mynd i’r afael â llygredd trwy fabwysiadu arferion da a gweithdrefnau rheolwyr tir a busnes a phob un ohonom ni fel unigolion. 
  • Gwella’r Ffordd rydym yn Cynllunio ac yn Rheoli ein Gwasanaethau Dŵr – Mae’r adran hon yn esbonio sut y byddwn yn sicrhau bod ein gwasanaethau dŵr yn parhau i fod yn gadarn a chynaliadwy, a’u bod yn cefnogi gwasanaethau o safon uchel heddiw ac yn y dyfodol. 
  • Fforddiadwyedd Dŵr a Darparu Gwasanaethau Gwych i Gwsmeriaid – mae’r adran hon yn cyflwyno ein cynigion ar gyfer sicrhau bod pobl a busnesau yng Nghymru yn gallu derbyn gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth fforddiadwy, a’u bod yn wasanaethau cynaliadwy, diogel, sicr a dibynadwy. 
  • Diogelu a Gwella Ansawdd Dŵr Yfed – Mae’r adran hon yn cyflwyno ein dull gweithredu ar gyfer sicrhau bod y seilwaith tynnu, trin a chyflenwi dŵr yn ddibynadwy a’u bod yn cael eu cynnal a’u cadw’n dda, bod gollyngiadau dŵr yn cael eu lleihau a bod unrhyw broblemau ansawdd yn cael eu trin yn effeithiol.  
  • Dull Gweithredu Newydd ar gyfer Draenio – Mae’r adran hon yn cyflwyno ein dull gweithredu ar gyfer sicrhau bod dŵr gwastraff a dŵr arwyneb yn cael eu rheoli mewn ffordd integredig.  
  • Cefnogi Cyflawni – Mae’r adran hon yn cyflwyno nifer o gynigion cyffredinol a fydd yn cefnogi’r gwaith o gyflawni ein hamcanion a’n prif ganlyniadau.

Rydym wedi siarad â phobl ac ymgysylltu’n fawr wrth baratoi’r Strategaeth hon.  Rydym yn awr yn ymgynghori’n ffurfiol ar gyfeiriad tymor hir ein polisi dŵr yng Nghymru.

Bydd yr ymgynghoriad yn para 12 wythnos ac yn dod i ben ar 4 Gorffennaf 2014.

Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r newyddion diweddaraf i’r Cynulliad. Pe bai unrhyw aelod yn dymuno imi wneud datganiad pellach neu ateb unrhyw gwestiwn ar ôl y toriad byddwn yn hapus iawn i wneud hynny.