Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw rwy’n falch o gael cyhoeddi fy mod wedi sefydlu panel arbenigol i roi cyngor a chymorth i Lywodraeth Cymru ar faterion sy’n ymwneud ag addysg ar Gydberthnasau Iach fel rhan o’r cwricwlwm presennol.

Mae darparu dysg o ansawdd da i blant a phobl ifanc ar Gydberthnasau Iach yn hollbwysig er mwyn mynd i’r afael ag amrywiaeth o faterion pwysig, gan gynnwys gwella’u dealltwriaeth o faterion lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol, trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, parch a chydsyniad, rhagfarn ar sail rhyw a bwlio.

Rwyf wrth fy modd bod Emma Renold, Athro Astudiaethau Plentyndod yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd, wedi cytuno i gadeirio’r Grŵp. Daw’r Athro Renold â chyfoeth o wybodaeth a phrofiad perthnasol yn y maes hwn ac, yn ogystal ag addysgu ar raglenni i raddedigion ac ôl-raddedigion ym maes astudiaethau plentyndod, mae wedi cydweithio’n ddiweddar â Cymorth i Ferched Cymru, NSPCC Cymru a’r Comisiynydd Plant i ddatblygu’r adnodd ar-lein AGENDA: Canllaw i Bobl Ifanc ar Wneud i Berthnasoedd Cadarnhaol Gyfri.

Mae’r Panel yn cynnwys yr unigolion a’r sefydliadau canlynol sydd â phrofiad ac arbenigedd perthnasol yn y maes hwn:

Andrew White, Stonewall Cymru
Vivienne Laing, NSPCC Cymru
Dr Sam Clutton, Barnardo’s Cymru
Cressy Morgan, Ein Rhanbarth ar Waith (ERW)
Faith McCready, Rhaglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan
Lowri Jones, Estyn
Rosalyn Evans, HAFAN Cymru
Mary Charles, Iechyd Cyhoeddus Cymru
David Wright , Grid Dysgu’r De-orllewin
Paul Lewis, Swyddfa’r Comisiynydd Plant