Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Ebrill 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ers hanner canrif a mwy, mae gwaddol sylweddol o wastraff ymbelydrol uwch ei actifedd (GUA) wedi cronni yn y Deyrnas Unedig.

Hyd yma, nid yw'r DU wedi dod o hyd i unrhyw ateb terfynol ar gyfer gwaredu GUA a fyddai'n osgoi’r angen am unrhyw ymyriadau yn y dyfodol ac a fyddai'n sicrhau hefyd na fyddai unrhyw lefelau niweidiol o ymbelydredd yn cael eu rhyddhau i'r amgylchedd ar unrhyw adeg yn y dyfodol.

Ar hyn o bryd, polisi Llywodraeth Cymru yw peidio â chefnogi nac ychwaith wrthwynebu polisi Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar waredu GUA yn ddaearegol. Nid yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi unrhyw ffordd arall o gael gwared ar GUA ychwaith.  

Rwyf wedi cyhoeddi cais am dystiolaeth heddiw gan ofyn i bobl gyflwyno sylwadau am bolisi presennol Llywodraeth Cymru ar waredu GUA, a hefyd am unrhyw opsiynau y gallem eu hystyried. Mae'r cefndir i bolisi presennol Llywodraeth Cymru a'r rhesymau pam y gallai adolygiad fod yn briodol yn cael eu hamlinellu yn y cais  am dystiolaeth, sydd wedi'i ategu i'r datganiad hwn.  

Gan ddibynnu ar yr ymatebion i'r cais am dystiolaeth, byddaf yn ystyried y camau nesaf. Bydd unrhyw adolygiad o’n polisi presennol yn cael ei gynnal mewn ffordd agored a thryloyw, a byddwn yn ymgynghori am unrhyw gynigion i newid y polisi hwnnw.