Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Tachwedd 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r Panel Trosolwg Annibynnol ar Wasanaethau Mamolaeth wedi parhau i ddarparu her a chymorth i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wrth iddo wella’i wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol.

Heddiw, rwy'n cyhoeddi Adroddiad Cynnydd Medi 2022 y panel, sy'n crynhoi ei asesiad o'r cynnydd a wnaed gan y bwrdd iechyd.

Pan roddais yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar 23 Mai, cytunais ar gyfres o amodau a a ddatblygwyd ar y cyd rhwng y panel a'r bwrdd iechyd i gefnogi'r gwaith o wneud gwelliannau parhaus a chynaliadwy. Roedd y rhain yn rhychwantu gwasanaethau mamolaeth a gwasanaethau newyddenedigol ac yn cynnwys datblygiadau o ran mentrau gwella ansawdd, arweinyddiaeth feddygol well, gwaith pellach i fynd i'r afael â newid diwylliant, a gweithredu strategaeth ar draws gwasanaethau.  

Mae'r bwrdd iechyd wedi canolbwyntio ar wneud y gwelliannau angenrheidiol ym mhob un o'r amodau yn ystod y cyfnod adrodd hwn. Mae'r panel wedi cynnal trosolwg o’r cynnydd, a ddechrau mis Medi ymwelodd â'r bwrdd iechyd i farnu a ellid teimlo'r newidiadau yn y fan a’r lle, ac a oeddent yn creu effaith gadarnhaol i’r staff ac i’r teuluoedd a'r cymunedau sy'n defnyddio’r gwasanaethau.

Rwy'n falch o roi gwybod bod y panel o’r farn fod pob un o’r amodau wedi’u bodloni yn ystod y cyfnod adrodd hwn ac y gellir bellach ystyried fod taith gwella gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol y bwrdd iechyd yn un gynaliadwy.

Mae'r cynnydd clir hwn yn dangos ymroddiad a gwydnwch staff y bwrdd iechyd ar bob lefel wrth iddynt sicrhau gwelliannau i wasanaethau o dan amgylchiadau heriol. Mae hefyd yn bwysig cydnabod ymroddiad y teuluoedd sydd wedi sicrhau bod eu profiadau'n helpu i lywio'r gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau ac sy'n parhau i wneud hynny. Hoffwn ddiolch i’r staff a’r teuluoedd am eu hymrwymiad clir i sicrhau bod y gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yn bodloni disgwyliadau'r cymunedau lleol.  

Mae'n galonogol darllen sylwadau’r panel, yn dilyn ei ymweliad sicrwydd, sy’n nodi bod y gwasanaeth mamolaeth yn teimlo'n wahanol iawn i’r gwasanaethau a’r amodau a welwyd yn 2019. Rwy'n croesawu brwdfrydedd a hyder y staff wrth iddynt fwrw ymlaen â'r gweithgareddau gwella, ochr yn ochr â'u balchder o geisio darparu'r gofal gorau posibl i'r teuluoedd a'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

Mae’n cymryd amser i newid diwylliant unrhyw sefydliad a bydd bob amser fwy i’w wneud. Mae’n galonogol bod arweinwyr y bwrdd iechyd yn cydnabod y cyfleoedd ychwanegol hyn i ddatblygu a’u bod yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio ar y cyd â’r staff i fwrw ymlaen â’r newidiadau diwylliannol cadarnhaol hyn.    

Yn sgil asesiad y panel a rhanddeiliaid cenedlaethol allweddol eraill, rwy'n falch o gyhoeddi fy mhenderfyniad i symud  gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol y bwrdd iechyd o fesurau arbennig i ymyrraeth wedi’i thargedu. Mae'r newid hwn yn cydnabod y cynnydd clir a wnaed dros y tair blynedd a hanner diwethaf.

Bydd angen rhywfaint o oruchwyliaeth a chefnogaeth o hyd. Mae hyn yn arbennig o wir am y gwasanaeth newyddenedigol, sydd â pheth ffordd i fynd yn ei daith wella o hyd. O dan ymyrraeth wedi'i thargedu, byddwn yn parhau i weithio gyda'r bwrdd iechyd i sicrhau bod yr holl welliannau angenrheidiol yn cael eu gwneud ac yn cael eu gwreiddio'n ymarferol.

Rwy'n disgwyl i'r bwrdd iechyd gynnal y momentwm sydd wedi'i greu yn ystod y misoedd diwethaf wrth iddo gyflawni gweddill y cynllun gwella gwasanaethau newyddenedigol yn unol â'r amserlenni arfaethedig.

Ochr yn ochr â’m penderfyniad i godi’r mesurau arbennig, rwyf hefyd yn dod â’r panel goruchwylio i ben ddiwedd y flwyddyn. Bydd hyn yn rhoi amser i bennu trefniadau ar gyfer monitro a chefnogi, ac i sicrhau bod unrhyw wersi o'r broses oruchwylio yn cael eu cofnodi a’u datblygu.

Hoffwn ddiolch i aelodau'r panel am eu hymroddiad i helpu’r bwrdd iechyd i gyflawni'r gwelliannau angenrheidiol, am y ffordd dryloyw y maent wedi'i adrodd ar y cynnydd ac, yn bwysig iawn, eu hymrwymiad i osod anghenion a phrofiadau teuluoedd wrth wraidd y broses oruchwylio. 

Fel y mae'r Aelodau’n gwybod, mae nifer o raglenni gwaith cenedlaethol ar y gweill a fydd yn helpu i roi dealltwriaeth glir o'r ddarpariaeth o ran gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ledled Cymru. Byddant hefyd yn helpu i nodi unrhyw welliannau y gellir eu gwneud ac yn darparu'r gefnogaeth sy'n angenrheidiol i fwrw ymlaen â'r rhain ar y cyd â'r byrddau iechyd.

Mae'n hanfodol bod yr hyn a ddysgwyd o raglen adolygu clinigol y panel a thaith wella Cwm Taf Morgannwg yn parhau i fwydo'r rhaglenni hyn.