Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Tachwedd 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwyf heddiw’n cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad technegol ar Reoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestrau ac Apelau) 2023 drafft ("y Rheoliadau"). Rwyf hefyd yn cadarnhau y byddwn yn bwrw ymlaen â’r diwygiadau i'r system apelio ar gyfer ardrethi annomestig, y bydd y Rheoliadau’n sail iddynt.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori eisoes ar gynigion i ddiwygio'r system apelio ar gyfer ardrethi annomestig, a hynny rhwng 17 Hydref 2017 a 9 Ionawr 2018. Un o'r negeseuon allweddol a ddeilliodd o’r ymatebion i'r ymgynghoriad oedd na ddylid gwneud unrhyw newidiadau hanner ffordd drwy restr ardrethu annomestig ac mai'r amser gorau ar gyfer newidiadau fyddai adeg ailbrisiad. Bydd yr ailbrisiad nesaf yn cael ei weithredu ar 1 Ebrill 2023.  

Ar 29 Mawrth 2022, fe wnes i Ddatganiad Llafar yn nodi cynlluniau Llywodraeth Cymru i ddiwygio trethi annomestig yn ystod tymor presennol y Senedd. Mae'r cynlluniau hyn yn cynnwys cynnal ailbrisiadau amlach yn y dyfodol. Bydd newidiadau i'r system apelio, a ategir drwy fabwysiadu platfform digidol a gyflwynir gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio, yn sbardun allweddol ar gyfer yr amcan hwn, gan sicrhau y gall talwyr ardrethi yng Nghymru elwa ar welliannau parhaus.

Cynhaliwyd ymgynghoriad technegol ar ddrafft o'r Rheoliadau rhwng 19 Gorffennaf a 11 Hydref 2022. Gofynnwyd am farn ynghylch eglurder y Rheoliadau ac am unrhyw sylwadau eraill amdanynt

Yn dilyn yr ymgynghoriad, byddwn yn gwneud newidiadau drafftio bach i’r  Rheoliadau, er mwyn sicrhau eu bod yn cyflawni'r bwriad polisi. Byddaf yn cyflwyno'r Rheoliadau maes o law ac, yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd, ein bwriad o hyd yw y byddant yn dod i rym ar 1 Ebrill 2023.

Mae crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad technegol ar gael.