Neidio i'r prif gynnwy

Vikki Howells AS, y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Mehefin 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy'n ymrwymedig i sicrhau bod addysg ar gael i bawb, waeth beth fo'u hamgylchiadau ariannol, gan gynnwys drwy Gynllun Grant Dysgu Llywodraeth Cymru ar gyfer Addysg Bellach, sy'n darparu cymorth hanfodol i oedolion 19 oed a throsodd i ddechrau astudio neu symud ymlaen yn eu haddysg hyd at Lefel 3. 

Heddiw, wrth i'r cyfle i wneud cais am ein cymorth drwy'r cynllun hwn agor ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26, rwy'n falch o gael dweud fy mod, am y tro cyntaf ers dros 14 mlynedd, wedi gallu cynyddu swm y grant sydd ar gael i ddysgwyr cymwys. 

Hyd heddiw, mae dysgwyr wedi derbyn hyd at uchafswm o £1,500 i'w helpu gyda chostau addysg bellach.  O fis Medi 2025 ymlaen, rwy'n cynyddu'r grant sydd ar gael i ddysgwyr llawn amser cymwys sydd ag incwm cartref o £18,370 neu lai i hyd at £1,919, ac i ddysgwyr rhan-amser i hyd at £959.  Bydd y cyfraddau hyn yn berthnasol i ddysgwyr newydd ac i'r rhai sydd eisoes yn cael Grant Dysgu Llywodraeth Cymru ar gyfer Addysg Bellach sydd am symud ymlaen y flwyddyn nesaf.

Nod y grant yw helpu gyda chostau fel llyfrau, offer a chostau teithio, a chreu cyfleoedd i ddysgwyr sy'n oedolion a fyddai fel arall yn cael trafferth gyda chostau addysg. Bydd y cynnydd hwn yn darparu cymorth ariannol pellach ac yn helpu dysgwyr gyda'r costau byw cynyddol. 

Bydd y cyfraddau uwch yn parhau'n weithredol tra bydd adolygiad annibynnol o'r cynllun grant yn cael ei gynnal.  Bydd yr adolygiad hwn, ymhlith amcanion eraill, yn ystyried y trothwyon incwm aelwyd ar gyfer pennu cymhwysedd, ac mae'n mynegi fy ymrwymiad parhaus i sicrhau bod y cymorth cywir ar gael i ddysgwyr ar bob cam o'u bywydau i gael manteisio ar addysg.

Mae blwyddyn academaidd 2025/26 yn gweld buddsoddiad gwirioneddol yn ein dysgwyr addysg bellach, wrth inni roi mwy o arian ym mhocedi'r rhai sy'n derbyn Grant Dysgu Llywodraeth Cymru ar gyfer Addysg Bellach, ac mae ein Cynllun Lwfans Cynhaliaeth Addysg yn darparu'r gyfradd grant wythnosol uchaf yn y DU a throthwyon uwch o ran incwm aelwyd er mwyn ei ehangu i fwy o ddysgwyr. 

Mae Grant Dysgu Llywodraeth Cymru ar gyfer Addysg Bellach a'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg yn rhan o'n Gwarant i Bobl Ifanc, ac rwy'n teimlo balchder o gael dweud bod y Cynlluniau hyn wedi cyfrannu at y gefnogaeth a roddwyd i dros 50,000 o bobl ifanc ers mis Tachwedd 2021, ac yn cyfrannu at Garreg Filltir Genedlaethol Llywodraeth Cymru o weld o leiaf 90% o bobl ifanc 16 i 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050. 

Mae'r Grant Dysgu ar gyfer Addysg Bellach ar gael ar gyfer astudiaethau amser llawn neu ran-amser, gan wneud cyfleoedd dysgu i oedolion yn hwylus mewn ffordd sy'n hawdd eu trefnu o amgylch eu hymrwymiadau presennol.  Rwy'n credu'n gryf y gall dychwelyd i astudio fel oedolyn gael effaith ddofn ar les a hyder person.  Gall agor y drws i addysg uwch drwy gwrs Mynediad at Addysg Uwch, gall roi cyfle i oedolion ailgychwyn ar lwybr addysgol a allai fod wedi bod yn anghyraeddadwy o'r blaen, fel TGAU a Safon Uwch, a gall ddarparu'r sgiliau a'r cymwysterau galwedigaethol sydd eu hangen ar bobl i symud ymlaen neu fynd i mewn i'r gweithle, fel sgiliau sylfaenol a chymwysterau NVQ. 

Heddiw, yn ystod fy ymweliad â champws Aberhonddu NPTC, clywais am ddysgwyr sy'n derbyn Grant Dysgu Llywodraeth Cymru ar gyfer Addysg Bellach, ac yn benodol am Owen, sy’n enghraifft ddisglair o fanteision y Grant Dysgu.  Mae Owen wedi mynychu 100% o'i sesiynau, ac wedi dangos ymrwymiad, cymhelliant ac awydd cryf yn gyson i gyflawni ei gymhwyster.  Mae hyn yn dangos y rôl hanfodol y gall y Grant Dysgu ei chwarae wrth sicrhau bod dysgwyr yn gallu canolbwyntio ar eu hastudiaethau heb bwysau ychwanegol straen ariannol.

Yn sgil y cynnydd yn y grant sydd ar gael bellach, byddwn yn pwyso ar unrhyw un sy'n 19 oed neu'n hŷn, sy'n meddwl am ddychwelyd i astudio, neu symud ymlaen i gymhwyster hyd at Lefel 3, i holi eu coleg am Grant Dysgu Llywodraeth Cymru ar gyfer Addysg Bellach.

Mae rhagor o wybodaeth am gymhwysedd ar gyfer y Grant Dysgu, cyfraddau'r grant, a sut i wneud cais ar gael ar dudalen Addysg Bellach Grant Dysgu Llywodraeth Cymru Cyllid Myfyrwyr Cymru.