Neidio i'r prif gynnwy

Datganoli Pwerau i Benderfynu ar Gyflog ac Amodau Athrawon i Gymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Medi 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

I nodi hyn, mae’r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, wedi ategu ei hymrwymiad i sefydlu model cenedlaethol a fydd yn gweithio gydag athrawon a chyrff proffesiynol yn y sector addysg i greu system deg i bawb.

Yn gynharach eleni, cadarnhaodd yr Ysgrifennydd Addysg mewn datganiad ysgrifenedig y byddai model cenedlaethol newydd yn cael ei ffurfio i benderfynu ar gyflog ac amodau athrawon. Byddai’r model newydd hwn yn dod â chyflogwyr, undebau athrawon, a llywodraeth Cymru ynghyd yn flynyddol mewn Fforwm Partneriaeth.

Ar ôl ei ffurfio, bydd y Fforwm Partneriaeth newydd hwn yn awgrymu newidiadau i gyflog ac amodau athrawon ac yn rhoi sylw i unrhyw faterion ychwanegol, cyn i Weinidogion Cymru  gyflwyno ‘cynnig terfynol’ a gaiff ei archwilio gan gorff arbenigol annibynnol – sef Corff Adolygu Cyflogau Cymru – cyn i benderfyniad terfynol gael ei wneud.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg:

“Dyma foment hanesyddol i Gymru. Am y tro cyntaf erioed, byddwn, o fewn Llywodraeth Cymru, yn gallu penderfynu ar gyflog ac amodau athrawon. Mae hyn yn gyfle gwych inni ddatblygu a dyrchafu statws y proffesiwn addysgu yng Nghymru.”

“Bydd y model cenedlaethol newydd yn annog cydweithio, gan ddod â’r undebau, cyflogwyr a Llywodraeth Cymru ynghyd i ddod o hyd i ffordd ymlaen sy’n deg, ymarferol a chynaliadwy. Mantais arall y model yw y bydd penderfyniadau’n cael eu gwneud ar sail cyngor ac adolygiad gan gorff arbenigol annibynnol.

“Proses barhaus, dros gyfnod, fydd y gwaith o roi’r model ar waith; rhaid rhoi ystyriaeth i rai o’r manylion i sicrhau y caiff y model ei weithredu’n deg a’i fod yn addas at y diben. Y diben hwnnw, wrth gwrs, yw cefnogi athrawon i’r carn.”