Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed uchelgeisiol o gyflawni Sector Cyhoeddus sero net erbyn 2030. Mae'r targed hwn wedi'i osod ar hyn o bryd yn erbyn cefndir o argyfwng costau byw, tyllau enfawr mewn cyllidebau Llywodraeth Leol ac adnoddau dan bwysau, a blaenoriaethau sy’n cystadlu â’i gilydd. Er gwaethaf yr heriau hyn, mae'r Sector Cyhoeddus wedi gwneud camau mawr ymlaen wrth ddatgarboneiddio ei ystad. Fodd bynnag, er mwyn cyflawni Sero Net, mae'n debygol y bydd angen buddsoddi ehangach a darparu mwy o adnoddau nag sydd ar gael ar hyn o bryd. Gall cydweithio â sefydliadau eraill (ar draws sectorau cyhoeddus, preifat, cymunedol), yn ogystal â datblygu mentrau datgarboneiddio sector cyhoeddus mewnol yn unig, helpu i gyflymu datgarboneiddio'r sector cyhoeddus trwy oresgyn ystod o rwystrau a allai fod yn atal eich prosiect. 

Mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru ar gael i gynnig cymorth gyda phob math o brosiectau trydan adnewyddadwy cydweithredol sy'n arwain at ddatgarboneiddio'r sector cyhoeddus, lle mae corff sector cyhoeddus yn gweithredu fel y sefydliad dargymryd (neu'r prynwr) trydan a’r cwmni sy’n cynhyrchu trydan adnewyddadwy wedi'i gysylltu â llwyth trydan sector cyhoeddus y tu ôl i'r mesurydd neu drwy wifren breifat. Ar gyfer mathau eraill o brosiectau, megis cyflenwad mewn llawes, byddai'r Gwasanaeth yn ymdrechu i gyfeirio datblygwyr prosiectau i ffynonellau cymorth eraill sydd ar gael. 

Mae'r canllawiau hyn yn ceisio darparu gwybodaeth am sut y gellir cyflawni cydweithrediad llwyddiannus. 

Manteision cydweithio ar brosiectau ynni adnewyddadwy

Gall cydweithredu traws-sefydliadol ar ddatblygu prosiectau ynni adnewyddadwy i gyflawni datgarboneiddio sector cyhoeddus oresgyn rhwystrau a sicrhau cymaint o fanteision â phosibl i’r prosiectau. Gall ffurfio partneriaeth â sefydliadau cymunedol, yn arbennig, alluogi cyflawni amcanion sector cyhoeddus ehangach, a chael effaith barhaol, y tu hwnt i ddatgarboneiddio yn unig. 

 

Mae cydweithredu yn gallu:

  • cyflymu amserlenni datgarboneiddio, trwy gynyddu adnoddau cyflenwi ac argaeledd buddsoddi
  • cynyddu potensial datgarboneiddio, drwy fynediad i safleoedd mwy ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy (e.e. ar eiddo tirfeddianwyr cyfagos)
  • cyflawni amcanion ehangach, gan gynnwys nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ac amcanion cydweithredu strategol a sefydlwyd mewn Cynlluniau Ynni Ardal Leol a dogfennau polisi ehangach eraill
  • datgloi ffrydiau cyllid ychwanegol, e.e. cyllid grant refeniw a chyfalaf sydd ar gael i fentrau cymdeithasol yn unig
  • galluogi mynediad at arbenigedd a phrofiad perthnasol, trwy bartneru â sefydliadau sydd wedi cyflawni prosiectau tebyg o'r blaen
  • hwyluso ymgysylltu â’r cyhoedd a’u haddysgu am ynni adnewyddadwy a newid hinsawdd, trwy gydweithredu â sefydliadau cymunedol lleol 
  • creu cyfoeth lleol, trwy gyfleoedd buddsoddi cymunedol, perchnogaeth leol a darparu swyddi sero net lleol
  • cynyddu cynhyrchu cyhoeddus, cymunedol a lleol; cefnogi targedau perchnogaeth ynni lleol ehangach Llywodraeth Cymru.

Gall prosiectau cydweithredol alluogi:

  • gostwng cost biliau ynni'r sector cyhoeddus gyda chytundebau prynu pŵer ffafriol
  • buddsoddiad yn y sector cyhoeddus, drwy drefniadau menter ar y cyd 
  • modelau cyflawni prosiectau y gellir eu hailddefnyddio i gyflawni rhagor o gyfleoedd.

Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi datblygu Cynlluniau Ynni Ardal Leol (LAEPs), sy'n nodi llwybrau at ddatgarboneiddio ar draws yr ardal (Energy  Systems Catapult (2024) Supporting Wales’ decarbonisation journeyAr gael yn: https://es.catapult.org.uk/project/supporting-wales-decarbonisation-journey/ (Gwelwyd: 30 Rhagfyr 2025)). Mae cynghorau bellach yn archwilio partneriaethau, dulliau ariannu, ac atebion technegol i droi eu cynlluniau yn gamau diriaethol. Mae cwmpas eang LAEPs yn galluogi cyfuno prosiectau, a’u cyflwyno ar raddfa fwy, mewn ffyrdd a all eu gwneud yn ddeniadol i fuddsoddwyr, gan gynyddu potensial datgarboneiddio ymhellach. Mae nodi cyfleoedd i gydweithredu ym maes ynni adnewyddadwy gyda sefydliadau eraill yn eich Ardal Leol yn allweddol i gefnogi a chyflymu'r gwaith o gyflawni'r cynlluniau hyn.

Sut i ddewis y partner cydweithredu cywir

Mae penderfynu pwy i gydweithio â nhw yn dibynnu ar y prosiect, y sefyllfa a'r hyn rydych chi, fel sefydliad, yn ceisio ei gyflawni trwy'r cydweithrediad:

  • Ydych chi'n ceisio cyflawni prosiect cymhleth a fyddai'n elwa o brofiad blaenorol o gyflawni prosiectau? 
  • Ydych chi’n bwriadu ymgysylltu â'r gymuned leol yn eich prosiect? 
  • Ydych chi eisiau cyflawni manteision cymdeithasol ehangach trwy'r prosiect?
  • A yw eich partner posibl yn gallu cynnig cyfle prosiect penodol? 
  • A oes gan eich darpar bartner y gallu i gael gafael ar y cyllid angenrheidiol? 
  • Ydych chi eisiau sicrhau bod manteision y prosiect yn cael eu cadw'n lleol trwy ymgysylltu â sefydliad lleol, yn hytrach na chenedlaethol?
  • A yw eich darpar bartner eisoes wedi cychwyn datblygu / gweithredu prosiect? 

Tri math allweddol o gydweithredu traws-sefydliadol sy'n cyflawni datgarboneiddio'r sector cyhoeddus trwy brosiectau ynni adnewyddadwy:

  1. Sefydliad dargymryd yn unig gyda'r sefydliad sector cyhoeddus yn gweithredu fel sefydliad dargymryd (neu brynwr) y trydan adnewyddadwy a gynhyrchir yn unig
  2. Sefydliad dargymryd a landlord gyda'r sefydliad dargymryd sector cyhoeddus hefyd yn cynnal yr ased cynhyrchu ynni adnewyddadwy ar ei dir/yn ei adeiladau (o bosibl ar gyfer incwm rhent neu gytundeb prynu pŵer mwy ffafriol)
  3. Cyd-fenter gyda'r sefydliad dargymryd sector cyhoeddus yn ymrwymo i drefniant Cyd-fenter ffurfiol gyda'r sefydliad partner. Mae'r ddau sefydliad yn rhannu risgiau a chyfrifoldebau sy'n gysylltiedig â datblygiad a gweithrediad parhaus y prosiect. Yn y trefniant hwn, er bod y sector cyhoeddus yn ysgwyddo mwy o risg, maent hefyd â:
  • mwy o reolaeth dros sut mae'r ased (ac unrhyw refeniw a gynhyrchir) yn cael ei reoli
  • mwy o amlygiad i'r prosiect a'r partneriaid cyflawni, gan ganiatáu i fwy o wersi gael eu dysgu, eu casglu a'u defnyddio mewn prosiectau mewnol yn y dyfodol

Awgrym: Ystyriwch yn gynnar beth yw ysgogwyr a blaenoriaethau eich prosiect a pha fodelau cyflawni fydd yn fwyaf tebygol o lwyddo. 

Mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru ar gael i hwyluso gweithdai rhanddeiliaid mewnol sydd wedi'u cynllunio i sefydlu ysgogwyr, amcanion, cyfyngiadau a risgiau prosiect i bennu'r model cyflawni prosiect mwyaf addas; gan gynnwys cyflawni mewnol, cyflawni menter ar y cyd a chyflawni trydydd parti.

Camau i gydweithio'n effeithiol

Bydd yr union gamau sydd eu hangen i gyflawni cydweithredu traws-sefydliadol llwyddiannus yn dibynnu ar:

  • Sut mae'r prosiect yn cael ei nodi? A yw'r sefydliad partner posibl wedi cysylltu â'r sefydliad dargymryd sector cyhoeddus yn rhagweithiol? Neu a yw'r sefydliad dargymryd sector cyhoeddus wedi nodi prosiect penodol ac yn bwriadu caffael partner cyflawni? 
  • A fydd yr ased cynhyrchu wedi'i leoli ar dir y sefydliad dargymryd sector cyhoeddus
  • Os bydd sefydliad Cyd-fenter ffurfiol / offeryn cytundebol yn cael ei sefydlu

1. Dichonoldeb

Cam cychwynnol unrhyw brosiect ynni adnewyddadwy yw cynnal asesiad dichonoldeb i gadarnhau bod y prosiect yn:

  • Ymarferol o safbwynt technegol (A ellir ei adeiladu a'i gynnal? Oes digon o adnoddau?)
  • Cydymffurfio â rheoliadau (A ystyrir bod y prosiect yn debygol o gydymffurfio â gofynion cydsynio lleol a chenedlaethol (yn dilyn asesiadau pellach ar y safle)?)
  • Ariannol hyfyw (A ddisgwylir i'r prosiect ddarparu enillion digonol i dalu unrhyw ofynion buddsoddi a chostau parhaus?)

Awgrym: Mae modelu ynni cyfnod cynnar (cymharu data cynhyrchu trydan prosiect efelychu â data galw adeiladau hanesyddol) yn amcangyfrif y lefel ddisgwyliedig o gynhyrchu a fyddai'n cael ei ddefnyddio gan ystâd y sefydliad sector cyhoeddus. Mae canlyniadau hyn yn llywio modelu ariannol cam cynnar ac yn dechrau nodi'r tariffau trydan sydd eu hangen i alluogi buddsoddiad trydydd parti yn yr ased arfaethedig a pherchnogaeth ohono. Mae angen cydweddiad digonol rhwng cynhyrchu trydan a'r galw i alluogi prosiect cydweithredu i symud ymlaen. 

Mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru ar gael i gwblhau astudiaethau dichonoldeb (a modelu ynni/ariannol cysylltiedig) i lywio'r broses o wneud penderfyniadau cychwynnol ynghylch potensial cydweithredu prosiectau.

The Welsh Government Energy Service are available to complete feasibility studies (and associated energy / financial modelling) to inform initial decision-making regarding project collaboration potential.

2. Nodi / caffael partneriaid

Gall partner posibl gysylltu â sefydliad sector cyhoeddus gyda chyfle i ffurfio prosiect, neu gall y sefydliad sector cyhoeddus chwilio am bartner ar gyfer prosiect y maent wedi'i nodi'n annibynnol. 

Os yw'r ddau sefydliadau partner yn sefydliadau sector cyhoeddus, ni fydd angen ymarfer caffael ffurfiol. Fodd bynnag, os yw'r sefydliad sector cyhoeddus yn bwriadu partneru gyda sefydliad preifat neu fenter gymdeithasol, mae angen proses gaffael i fodloni Rheolau Caffael. Dylai adran gaffael sefydliad sector cyhoeddus fod yn ymgysylltu â’r broses hon, er mwyn deall lefel y caffael sydd ei angen; Bydd hyn, yn rhannol, yn dibynnu ar werth disgwyliedig y contract, wedi'i lywio gan y modelu ynni ac ariannol a wnaed yn ystod dichonoldeb. 

Wrth ddrafftio'r dogfennau caffael partner, ystyriwch yr hyn rydych chi'n bwriadu ei gyflawni drwy'r bartneriaeth a strwythuro'r gofynion a'r sgorio yn unol â hynny:

  • A oes amserlen benodol erbyn pryd y bydd angen cyflawni'r prosiect? 
  • Ydych chi'n bwriadu sicrhau capasiti neu brofiad cyflenwi ychwanegol? 
  • A yw eu hamcanion cymdeithasol ac amgylcheddol ehangach nhw y rhai rydych chi'n bwriadu eu cyflawni? (e.e. buddion addysgol parhaus, gwelliannau bioamrywiaeth, darpariaeth swyddi lleol)
  • Ydych chi'n gobeithio y bydd y prosiect / partneriaeth hon yn cefnogi cyflawni prosiectau pellach? (e.e. trwy elw'r prosiect neu drwy ddefnyddio'r bartneriaeth yn uniongyrchol i gyflawni rhagor o brosiectau tebyg yn y dyfodol)
  • Ydych chi'n bwriadu ymgysylltu â'r gymuned leol yn y prosiect? 
  • Ydych chi eisiau rheolaeth a dylanwad parhaus dros ddatblygiad a gweithrediad y prosiect? 
  • Ydych chi eisiau'r cyfle i fuddsoddi yn y prosiect? 
  • A yw arbedion cost trydan yn ysgogiad allweddol i'r prosiect? 
  • A yw gostwng allyriadau yn ysgogiad allweddol i’r prosiect?
  • A yw cael gafael ar ffynonellau cyllido amgen yn rhan bwysig o'r ymarfer caffael?
  • Ydych chi eisiau sicrhau cymaint o fanteision â phosibl yn lleol?

Awgrym: Ar gyfer pob prosiect, dylai'r sefydliad sector cyhoeddus sy’n derbyn adolygu ei gytundeb cyflenwi ynni presennol i sicrhau na fydd unrhyw delerau cytundeb yn cael eu torri neu gosbau (e.e. oherwydd gostyngiad yn y cyflenwad gan ei fod yn cael ei wrthbwyso gan y cyflenwad trydan uniongyrchol drwy'r prosiect arfaethedig). 

Mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru ar gael i gefnogi gyda drafftio dogfennau caffael.

3. Cyngor cyfreithiol ac ariannol

Waeth beth fo'r math o gydweithio, mae angen cyngor cyfreithiol ac ariannol i sicrhau bod risgiau a chyfrifoldebau wedi’u deall yn iawn. Yn dibynnu ar natur cydweithredu a chymhlethdod y prosiect, gall cyngor ariannol mewnol fod yn ddigonol. Er y bydd cyngor cyfreithiol mewnol yn ddefnyddiol, mae'n debygol y bydd angen cyngor cyfreithiol arbenigol ar brosiectau ynni adnewyddadwy. 

Cytundebau a allai fod eu hangen i gefnogi'r prosiect

Heb fod yn gyfreithiol rwymol: 

  1. Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MoU): Er nad yw'n gytundeb cyfreithiol rwymol (ac eithrio cymalau posibl fel cyfrinachedd), mae MoU yn ddefnyddiol wrth gychwyn prosiect i nodi'r cytundeb rhagarweiniol, lefel uchel rhwng y ddau barti. Mae'n sefydlu'r egwyddorion y tu ôl i'r bartneriaeth, rolau unigol ac amcanion cyffredinol. 
  2. Penawdau’r Telerau (HoTs): Mae HoTs yn gytundeb arall nad yw'n gyfreithiol rhwymol gan fwyaf (gall rhai cymalau fel cyfrinachedd ac unigrywedd fod yn rhwymol) a ddefnyddir i lywio drafftio cytundebau cyfreithiol rhwymol yn y dyfodol yn fanwl. Maent yn darparu crynodeb o'r egwyddorion masnachol a chyfreithiol allweddol y cytunwyd arnynt rhwng y ddau barti, ac yn sicrhau bod pob parti yn cytuno ar y prif bwyntiau cydweithredu, cyn buddsoddi amser a chost mewn drafftio cyfreithiol manwl. 

Yn gyfreithiol rwymol: 

  1. Cytundeb dim datgelu (NDA): Contract cyfreithiol a ddefnyddir i ddiogelu gwybodaeth sensitif y mae un neu fwy o bartïon eisiau ei chadw'n gyfrinachol. Gall prosiectau ynni adnewyddadwy fod yn sensitif eu natur, felly yn ogystal ag unrhyw drefniadau masnachol, efallai y bydd y sefydliad datblygwr yn dymuno cadw manylion sy'n gysylltiedig â'r prosiect ei hun yn gyfrinachol am gyfnod penodol yn ystod y datblygiad cynnar. 
  2. Cytundeb Prynu Pŵer (PPA): Mae PPA yn nodi telerau'r contract rhwng cynhyrchwr y trydan a’r sefydliad dargymryd ar gyfer gwerthu a phrynu trydan. Bydd y cytundeb yn nodi gofynion y ddau barti, gan gynnwys unrhyw gyfrifoldeb am gynnal a chadw seilwaith a'r trefniadau masnachol sy'n ymwneud â sut mae pris y trydan yn cael ei bennu trwy gydol cyfnod y cytundeb (e.e. gall y pris amrywio gyda chwyddiant a gall gynnwys uchafswm ac isafbris penodol) ac unrhyw ofynion isafswm defnydd / cyflenwi. 
  3. Cytundeb prydles: Mae cytundeb prydles yn nodi telerau'r contract rhwng tirfeddiannwr a datblygwr prosiect sy'n rhoi'r hawl i'r datblygwr ddefnyddio'r tir ar gyfer adeiladu a gweithredu seilwaith ynni adnewyddadwy am gyfnod penodol, gydag unig feddiant. Ar gyfer rhai prosiectau (e.e. prosiectau solar wedi'u gosod ar y to a phrosiectau heb rent hedyn pupur), gellir cynnwys y trefniadau prydles a phrynu pŵer mewn un ddogfen er symlrwydd. Ar gyfer prosiectau mwy, efallai y byddai'n fwy priodol cael dau gytundeb ar wahân, sy'n croesgyfeirio at ei gilydd. 
  4. Hawddfraint: Mae hawddfraint yn wahanol i gytundeb prydles, gan ei fod yn darparu'r hawl i ddefnyddio tir at ddiben penodol cyfyngedig, e.e. mynediad neu geblau. Fel y cyfryw mae'n tueddu i fod yn fwy syml na chytundeb prydles.
  5. Dogfennau cyd-fenter: Yn dibynnu ar natur y fenter ar y cyd a ddilynir (i gael ei chynghori gan ymgynghorydd cyfreithiol arbenigol), bydd angen gwahanol ddogfennau cyfreithiol (Joint ventures in the clean energy sector: Forms of joint venture):
    1. Dogfennau cyfansoddiadol Cyfrwng at Ddibenion Arbennig ar gyfer cwmnïau menter ar y cyd cyfyngedig gan gyfranddaliadau, e.e. Erthyglau Cymdeithasu a Chytundeb Cyfranddalwyr: Mae Erthyglau Cymdeithas cwmni yn ddogfen gyhoeddus, gyfreithiol sy'n nodi'r rheolau sy'n llywodraethu strwythur, rheolaeth, hawliau a gofynion cyfranddalwyr y cwmni. Mae Cytundeb Cyfranddalwyr yn eistedd ochr yn ochr â'r Erthyglau Cymdeithasu gyda diben tebyg ond mae'n gontract preifat rhwng y partïon ac felly gall gynnwys trefniadau masnachol mwy sensitif nag a nodir yn benodol yn yr Erthyglau Cymdeithasu.
    2. Cytundebau Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (LLP): Mae LLP yn endid cyfreithiol ar wahân i'r naill neu'r llall o'r sefydliadau partner gydag atebolrwydd pob partner wedi'i gyfyngu i'r swm y maent wedi'i gyfrannu i'r LLP. Bydd y cytundeb LLP yn nodi sut y bydd y busnes yn gweithredu gan gynnwys rhannu elw, gwneud penderfyniadau, datrys gwrthdaro, a chyfrifoldebau aelodau. Mae'r cytundeb yn gytundeb preifat. 
    3. Cytundebau menter ar y cyd: Mae'n bosibl creu menter ar y cyd contractiol, sy'n osgoi sefydlu endid newydd. Gall yr opsiwn hwn fod yn ffafriol os yw'r sefydliadau partner eisiau cadw rheolaeth lawn dros eu priod asedau/gweithwyr yn hytrach na'u trosglwyddo i endid newydd. 

Awgrym: Peidiwch â thanamcangyfrif yr amser a'r adnoddau sydd eu hangen i ffurfio'r cytundebau cyfreithiol allweddol sy'n ofynnol ar gyfer unrhyw fath o gydweithio. Defnyddiwch ddogfennau MoU a HoTs i helpu i gadarnhau elfennau allweddol y cytundebau, cyn ymgysylltu ag ymgynghorwyr cyfreithiol. 

Sicrhau bod y rhai sy'n gwneud penderfyniadau allweddol yn ymgysylltu'n llawn trwy gydol y broses datblygu a thrafod prosiect (yn fewnol ac yn allanol).

Mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru ar gael i gefnogi gyda drafftio dogfennau MoU a HoT, yn ogystal â dogfennau caffael ar gyfer cyngor cyfreithiol ac ariannol arbenigol. 

4. Datblygu, cyflawni a gweithredu prosiect

Yn ogystal â chwblhau trafodaethau masnachol a sefydlu cytundebau cyfreithiol, mae angen gweithio mewn partneriaeth barhaus trwy gydol datblygu a chyflawni, waeth beth fo'r math o gydweithredu. 

  • Bydd angen darparu gwybodaeth ddylunio trydanol a ffisegol gywir ar y safle i'r sefydliad datblygwr, er mwyn sicrhau bod dyluniad y prosiect yn addas i'r diben. Dylid gwirio gwybodaeth am ddylunio ar y safle yn gynnar yn natblygiad y prosiect.
  • Bydd angen darparu mynediad addas ar gyfer asesiadau ar y safle (ar gyfer lleoliadau sefydliadau dargymryd a chynhyrchu) yn ystod gwaith datblygu, gweithgareddau adeiladu, a gwaith cynnal a chadw parhaus trwy gyfnod gweithredu'r prosiect. Dylid sefydlu prosesau a chysylltiadau i reoli hyn yn effeithlon ac yn effeithiol. 
  • Dylid cynnal cyfarfodydd rheolaidd rhwng y sefydliadau partneriaeth i adrodd ar gynnydd, codi unrhyw faterion a gweithio ar y cyd i ddod o hyd i atebion. 
  • Yn ystod y gweithrediad, bydd y ffurf o gydweithredu yn pennu lefel y cyfathrebu / adrodd parhaus sy'n ofynnol. Bydd trefniadau llywodraethu addas wedi'u nodi yn y cytundebau cyfreithiol, ond dylid diweddaru pwyntiau cyswllt allweddol o fewn y ddau sefydliad trwy ddatblygu, cyflawni a gweithredu. 

Awgrym: Sicrhau bod sefydliad y Sector Cyhoeddus yn ystyried digon o amser ac adnoddau i gefnogi dylunio, adeiladu a chysylltu unrhyw gysylltiadau gwifren breifat, a bod yr holl brif benderfynwyr yn mynychu cyfarfodydd diweddaru rheolaidd. 

Mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru ar gael i gefnogi i fynychu cyfarfodydd partneriaeth i sicrhau cyd-ddealltwriaeth rhwng y partïon. 

Pryd i gydweithio?

Gall cydweithio ddigwydd ar unrhyw adeg o'r cysyniad i'r gweithrediad. Gall yr amser cywir i gychwyn cydweithredu ddibynnu ar sut mae'r prosiect yn cael ei gychwyn a phwy yw'r ysgogwr cychwynnol. 

  • Ar gyfer prosiectau newydd, mae'n debygol y bydd yn ofynnol i'r sefydliad dargymryd sector cyhoeddus ar ddechrau'r prosiect ddarparu model busnes hyfyw ar gyfer datblygu prosiect. 
  • Fodd bynnag, gallai prosiectau gweithredol, sydd wedi'u lleoli ger adeiladau'r sector cyhoeddus, geisio gwella eu modelau busnes presennol trwy gydweithio â sefydliad sector cyhoeddus, ac integreiddio gwifren breifat i'r seilwaith presennol. 

Fel gydag opsiynau cydweithredu eraill, gall Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru gefnogi gyda chwblhau modelu ynni ac ariannol i ddeall hyfywedd posibl cysylltu â phrosiectau gweithredol, yn ogystal â chefnogi gyda chamau eraill megis cysylltu â gweithredwr y rhwydwaith dosbarthu ynghylch y gosodiad trydanol newydd, ac unrhyw ofynion caffael. 

  • Pan mai’r sefydliad dargymryd sector cyhoeddus yw prif ysgogwr y prosiect neu’r ysgogwr cychwynnol, gallant ddatblygu'r prosiect eu hunain tan yr adeg cau neu weithredu ariannol ac yna estyn allan at bartneriaid cydweithredu posibl, naill ai ar gyfer buddsoddiad, neu werthu llwyr. 

Awgrym: Os mai'r bwriad yw cydweithio yn ddiweddarach yn y datblygiad, argymhellir cynnal profion marchnad meddal cyfnod cynnar i fesur archwaeth y farchnad, a deall termau ymgysylltu posibl. Opsiwn arall fyddai i'r sefydliad sector cyhoeddus sefydlu menter gymdeithasol newydd (ar wahân i'r sefydliad sector cyhoeddus) i fod yn berchen ar y prosiect yn y tymor hir. Mantais y dull hwn yw y gellir sefydlu'r fenter gymdeithasol i gyflawni nodau prosiect penodol y sefydliad sector cyhoeddus.

Gall Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru helpu i reoli ymarferion profi marchnad meddal a llywio'r broses o sefydlu menter gymdeithasol newydd. 

Beth am wres?

Er bod enghreifftiau llai ar raddfa fach o brosiectau datgarboneiddio gwres cydweithredol, mae cydweithio yn gyffredin mewn prosiectau rhwydwaith gwres mwy. Mae llawer o rwydweithiau gwres wedi'u datblygu ar y cyd gan y sector cyhoeddus a phreifat, i ddatgarboneiddio adeiladau sector cyhoeddus mawr ac ystadau trefol ehangach. Er bod enghreifftiau cyfyngedig o rwydwaith gwres cymunedol, bu llawer o ddiddordeb yn y maes hwn o fewn y sector cymunedol: The Community Heat Development Unit). 

Er mwyn cyrraedd targed Sero Net Sector Cyhoeddus 2030 Llywodraeth Cymru, bydd angen datgarboneiddio gwres ar raddfa fawr o adeiladau'r sector cyhoeddus ochr yn ochr â datgarboneiddio trydan. Felly, efallai y bydd diddordeb cynyddol mewn cydweithredu ar brosiectau datgarboneiddio gwres o bob maint (o lefel adeilad unigol i rwydweithiau gwres mawr). Gallai ffurf y cydweithrediadau hyn fod yn debyg i brosiectau trydan adnewyddadwy ond byddai angen ystyried elfennau ychwanegol fel y ffynhonnell ynni sy'n bwydo'r cynhyrchiad gwres (e.e. trydan). 

Ar hyn o bryd dim ond prosiectau gwres a arweinir gan y sector cyhoeddus y gall Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru eu cefnogi; fodd bynnag, gallwn gyfeirio at ffynonellau cymorth posibl eraill ar gyfer prosiectau gwresogi cydweithredol gan y sector cyhoeddus pan fo diddordeb i fynd ar drywydd hyn.

Astudiaeth achos: Fferm Solar Coed Elái, prosiect partneriaeth traws-sector cyhoeddus

Datblygwr 

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (CBSRhCT)

Derbynnydd

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf (Ysbyty Brenhinol Morgannwg)

Camau at gydweithio

Yn 2025, comisiynodd CBSRhCT eu fferm solar 6 MW yn llwyddiannus, sydd wedi'i lleoli i'r gogledd o Ynysmaerdy, ar hen domen lo. Datblygodd y cyngor y prosiect o'i gysyniad cychwynnol ac mae bellach yn berchen ar yr ased gweithredol. 

Mae'r fferm solar wedi'i rhannu'n ddwy ran 

  • un sy'n allforio trydan (hyd at 5 MW) i'r rhwydwaith trydan lleol 
  • yr ail yn allforio trydan (hyd at 1 MW) i Ysbyty Brenhinol Morgannwg BIPCT, tua 3 km i'r de o'r safle. 

Nododd y Cyngor y bwrdd iechyd fel darpar sefydliad dargymryd trydan, pan roddodd gwaith ffordd ar yr A4119, sy'n mynd rhwng y fferm solar a'r ysbyty, y cyfle i osod ceblau gwifren preifat mwy cost-effeithiol. Cwblhawyd modelu ynni cyfnod cynnar, gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru, i gadarnhau'r potensial ar gyfer cynhyrchu ynni cyflenwol a'r galw rhwng y ddau safle, cyn i'r ddau sefydliad ddechrau trafodaethau masnachol a thrafodaethau cyfreithiol. 

Mae'r cyngor yn gyfrifol am gyfanswm hyd y wifren breifat sy'n cysylltu'r fferm solar â'r ysbyty. Mae hyn yn cynnwys y llwybr sy'n croesi tir yr ysbyty. Roedd adeiladu'r elfen hon o'r llwybr yn gofyn am gynllunio cydweithredol gofalus rhwng y ddau barti, oherwydd natur sensitif y safle (gyda'r llwybr yn pasio'r fynedfa i adran Damweiniau ac Achosion Brys yr ysbyty). 

Cytundebau cyfreithiol gofynnol

  • Mae Cytundeb Prynu Pŵer hirdymor ar waith rhwng y ddau sefydliad sy'n llywodraethu telerau masnachol gwerthu’r pŵer. 
  • Mae hawddfraint ar waith ar gyfer y llwybr gwifren breifat sy'n croesi safle'r ysbyty. 
  • Mae hawddfreintiau a thrwyddedau hefyd ar waith ar gyfer rhan o'r llwybr gwifren breifat sy'n croesi tir Llywodraeth Cymru.

Llwyddiant datgarboneiddio sector cyhoeddus

Disgwylir i'r prosiect gyflenwi â hyd at 15% o alw trydan blynyddol yr ysbyty.

Astudiaeth achos: Cwmni Solar Cydweithredol Egni, partneriaeth rhwng y sector cymunedol a'r sector cyhoeddus

Datblygwr

Cwmni Solar Cydweithredol Egni

Cwmnïau dargymryd

Nifer o sefydliadau'r sector cyhoeddus a chymunedol, gan gynnwys Cyngor Sir Penfro. 

Camau at gydweithio

Yn 2023, cynhaliodd Cyngor Sir Penfro dendr ar GwerthuIGymru i osod solar ffotofoltäig ar tua 20 adeilad yn cynnwys ysgolion a chanolfannau hamdden. Rhoddodd tendr Sir Benfro bwyslais o 60% i agweddau Ansawdd ac Addysg y tendr a phwysiad o 40% i bris kWp. Enillwyd y tendr gan y sefydliad ynni cymunedol, Egni, sy'n defnyddio eu helw i ariannu eu rhaglen addysg; eu galluogi i deilwra gweithgareddau er budd ysgolion Sir Benfro. 

Mae Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) (2023) yn ei gwneud yn ofynnol i gaffael cyhoeddus fod yn gymdeithasol gyfrifol ac felly gall fod yn berthnasol i unrhyw ymarferion caffael fel hyn yn y dyfodol.

Cafodd Egni gymorth gan y Gwasanaeth Ynni i wneud y canlynol 

  • modelu ariannol strategol,
  • dadansoddiad portffolio, a
  • paratoi ceisiadau cyllid ar gyfer gosodiadau solar parhaus

Cytundebau cyfreithiol sy'n ofynnol

  • Mae Cytundeb Prynu Pŵer hirdymor ar waith rhwng y ddau sefydliad sy'n llywodraethu telerau masnachol gwerthu’r pŵer 
  • Mae cytundeb prydles yn manylu ar y trefniadau ynghylch lleoli'r paneli solar ar adeiladau'r cyngor (gan gynnwys adeiladu, mynediad ar gyfer cynnal a chadw ac unrhyw anghenion posibl am waith adfer). 

Llwyddiant datgarboneiddio'r sector cyhoeddus 

Amcangyfrifir y bydd y prosiect yn "atal tua 200 tunnell o allyriadau carbon deuocsid y flwyddyn a dylai arbed £180,000 y flwyddyn i'r ysgolion a'r canolfannau hamdden mewn costau ynni": Cyngor Sir Penfro ac Egni Co-op yn gweithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd | Cyngor Sir Penfro Newyddion

Astudiaeth Achos: Solar ym mherchnogaeth Cymdeithas Budd Cymunedol ar doau ysgolion Awdurdod Lleol, partneriaeth gyhoeddus-gymunedol

Datblygwr

Datblygwyd i ddechrau gan awdurdod lleol, ac mae bellach yn eiddo i gymdeithas budd cymunedol ac yn cael ei weithredu'n llwyr ganddi.

Sefydliadau dargymryd 

Solar ffotofoltäig wedi'i osod ar nifer o ysgolion sy'n eiddo i'r awdurdod lleol, ac un cartref gofal. 

Camau at gydweithio

Dechreuodd yr awdurdod lleol ddatblygu’r prosiect, sydd bellach yn cael ei reoli'n annibynnol ar yr awdurdod lleol gan gymdeithas budd cymunedol lleol, a helpodd yr awdurdod lleol i'w sefydlu. Nodau prosiect yr awdurdod lleol oedd 

  • defnyddio ynni solar sy'n eiddo i'r gymuned i helpu i adfywio wardiau difreintiedig yn ei ardal
  • defnyddio elw o'r cynllun i gefnogi prosiectau lleol sy'n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau, menter, twf economaidd a chreu swyddi. 

Cyn sefydlu y gymdeithas budd cymunedol, archwiliodd yr awdurdod lleol ystod o wahanol fodelau cydweithredu a chyflwyno'r prosiect i randdeiliaid lleol trwy ddigwyddiadau ymgysylltu pwrpasol. Helpodd y digwyddiadau hyn i gyflwyno'r prosiect i aelodau'r bwrdd yn y dyfodol a darparu cefndir perthnasol iddynt. 

Ariannwyd y prosiect i ddechrau drwy fenthyciad pontio a ddisodlwyd gan gynnig cyfranddaliadau cymunedol llwyddiannus, gyda dwy ran o dair o'r buddsoddwyr yn dod o ardal Abertawe. 

Cefnogodd Gwasanaeth Ynni Lleol Llywodraeth Cymru (rhagflaenydd Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru) y gymdeithas budd cymunedol gyda:

  • recriwtio aelodau'r bwrdd, 
  • casglu ac adolygu gwybodaeth dechnegol, 
  • ymgysylltu â chyrff cyllido cyfalaf a darparu cymorth cyffredinol, a
  • cyllid grant ar gyfer arolwg strwythurol cychwynnol a gwaith cyfreithiol.

Cytundebau cyfreithiol sy'n ofynnol

  • Mae Cytundeb Prynu Pŵer hirdymor ar waith rhwng landlord yr adeiladau a'r tenantiaid dargymryd. 
  • Mae cytundeb prydles ar waith sy'n cwmpasu telerau gweithredu a chynnal a chadw parhaus y paneli. 

Llwyddiant datgarboneiddio'r sector cyhoeddus

Mae'r trydan a gynhyrchir yn cael ei ddefnyddio gan yr adeiladwyr (gan gynnwys nifer o ysgolion) gydag unrhyw warged yn cael ei allforio i'r grid. 

Adnoddau defnyddiol