Neidio i'r prif gynnwy

Sut byddwn yn asesu cyflwr pob ysgol a choleg i ddatblygu trywydd di-garbon.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Gorffennaf 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cefndir

Rydym wedi comisiynu Aecom Ltd i ddarparu asesiad sylfaen o gyflwr yr ystâd addysg yng Nghymru. Bydd yr arolwg yn cynnwys pob ysgol a choleg addysg bellach a ariennir gan y wladwriaeth. Bydd yn ein galluogi i ddatblygu trywydd carbon sero net ar gyfer pob ased. Bydd hyn yn helpu awdurdodau lleol a cholegau i ddatgarboneiddio’r ystâd addysg ledled Cymru.

Yn achos pob elfen a all gyfrannu at ddatgarboneiddio, bydd yr arolwg yn asesu:

  • ei chyflwr
  • ei pherfformiad
  • hyd ei hoes

Ar sail y canlyniadau, caiff cynnig buddsoddi lefel uchel ei ffurfio ar sut i gyflwyno datrysiad carbon isel (fesul elfen) gam wrth gam, sy’n sicrhau gwerth am arian. Bydd hyn ar gael ar gyfer pob adeilad.

Bydd arolygon peilot yn cael eu cynnal cyn y prif arolygon ym mis Medi 2023. Cânt eu cymeradwyo mewn ymgynghoriad â Chonsortiwm Awdurdodau Lleol Cymru.

Arolygon

Bydd yr arolygon yn casglu gwybodaeth lefel uchel ar elfennau sydd:

  • yn gallu cyfrannu at ddatgarboneiddio'r ystâd addysg
  • yn gysylltiedig â chyflwr a hyd oes yr elfennau hynny

Ni fydd yr arolygon yn cynnwys tir nac yn mynd i unrhyw fanylion ar olwg y tu mewn i adeiladau.

Bydd pob partner cyflenwi yn cael adroddiad ar ganlyniad yr arolwg. Bydd hwn yn cynnwys:

  • asesiad o’r carbon a arbedir
  • pa mor agos at sero net fydd unrhyw gynnig
  • sicrhau gwerth am arian

Cyfarfod rhagarweiniol

Bydd Aecom Ltd yn trefnu cyfarfod rhithwir rhagarweiniol. Bydd hwn yn sefydlu’r data sylfaen a’r cefndir cyn unrhyw ymweliad â safle.  Lle nad yw'r cyfarfodydd hyn yn bosibl, gellir cwblhau holiadur.

Bydd y wybodaeth y gofynnir amdani yn cynnwys:

  • defnydd o gyfleustodau
  • materion sy’n hysbys
  • unrhyw waith a gynlluniwyd

Bydd rhagor o fanylion yn cael eu rhannu cyn y cyfarfod.

Dilynir canllawiau PAS 2038 (bsigroup.com) hyd at a chan gynnwys paratoi cynllun gwella fesul adeilad neu safle. 

NI fydd dichonoldeb, dylunio, pennu a chaffael y datrysiadau yn rhan o'r comisiwn hwn.  Bydd hyn i'w ystyried ar lefel leol gan y partneriaid cyflenwi unigol. 

Casglu data

Bydd data'n cael ei gasglu ar feddalwedd a ddatblygwyd gan Aecom o'r enw Ocean. Mae Ocean wedi'i addasu i ddarparu anghenion penodol ein comisiwn.  Bydd gan bob partner cyflenwi fynediad i'r system a bydd eu data ar gael i'w lawrlwytho.

Bydd y data a gesglir o'r arolygon yn cael ei ddefnyddio gan Aecom i greu'r trywydd ar gyfer pob eiddo, gan roi syniad o:

  • arbedion carbon pob cam
  • a oes modd cyflawni carbon sero net heb unrhyw waith cydbwyso oddi ar y safle

Fel arfer, bydd arolygon yn cymryd un diwrnod fesul ysgol, a 2 syrfewr a 2 ddiwrnod ar gyfer ysgolion mwy, a bydd angen mynediad i bob ardal.  Bydd ffotograffau o’r awyr yn cael eu tynnu hefyd er mwyn osgoi’r angen am fynediad i'r to.

Yr hyn a ddisgwylir gennych chi

Mae eich cymorth a'ch cyfraniad gweithredol yn hanfodol i sicrhau canlyniad ystyrlon ac adeiladol. Bydd hyn yn rhoi gwybodaeth i ni ynghylch y sefyllfa ac yn darparu offeryn defnyddiol ar gyfer dyfodol yr ystâd addysg a'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. 

Gofynnir i chi:

  • ddarparu mynediad i bob ardal pan fydd y syrfewyr ar y safle
  • cwblhau’r arolwg ymlaen llaw a llwytho’r data i blatfform Ocean ynghylch defnydd ynni

Efallai y bydd angen mewnbwn gan wahanol rannau o’ch sefydliad. Gofynnwn am i'r wybodaeth hon gael ei rhannu â phawb dan sylw.

Amserlen

Bydd yr arolygon peilot yn cael eu cynnal dros yr haf. Cytunir ar unrhyw welliannau cyn i'r arolwg llawn ddechrau.

Bydd Aecom yn cysylltu yn ystod mis Medi. Bydd y rhaglen genedlaethol o arolygon yn dechrau ym mis Hydref 2023 ac yn gorffen o fewn 12 mis. 

Nid oes rhestr o’r arolygon ar gael ar hyn o bryd er mwyn gallu bod mor hyblyg â phosibl.

Bydd gan Aecom dimau ledled Cymru. Penderfynir ar yr amserlen yn ôl y slotiau amser gorau a lleoliad daearyddol y syrfewyr. Bydd y cynnydd yn cael ei fonitro drwy gyfarfodydd rheolaidd.