Neidio i'r prif gynnwy

Mae chwech o brentisiaid a myfyrwyr ifanc talentog o Gymru wedi cael eu dewis i gynrychioli’r DU yn WorldSkills 2024 yn Lyon.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mai 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y criw o Gymru, pob un o dan 25 oed,  yn anelu'n uchel yn Ffrainc, oriau yn unig ar ôl i'r fflam Olympaidd gael ei diffodd. Byddant yn cystadlu fel rhan o Dîm y DU o 31 o unigolion, mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau yn y digwyddiad a adnabyddir fel y Gemau Olympaidd Sgiliau (Skills Olympics).

Yn union fel yn y gemau Olympaidd go iawn, mae aelodau Tîm y DU wedi ymroi i baratoi yn drwyadl ar gyfer y cyfle gwych hwn i gynrychioli eu gwlad yn eu gyrfaoedd dewisol.

Mae'r Deyrnas Unedig wedi bod yn rhan o Gystadleuaeth WorldSkills ers 1953 ac mae'r digwyddiad yn cael ei ddefnyddio gan lywodraethau, economegwyr ac arweinwyr busnes byd-eang ledled y byd fel prawf ar gyfer pa mor barod yw gwledydd i wneud y gorau o dwf economaidd yn y dyfodol.

Mae WorldSkills UK, partneriaeth pedair gwlad rhwng llywodraethau'r Deyrnas Unedig, y byd addysg a diwydiant yn gyfrifol am ddethol, mentora a hyfforddi Tîm y DU. Partner swyddogol WorldSkills UK yn WorldSkills Lyon 2024 yw Pearson, cwmni dysgu mwyaf blaenllaw'r byd.  

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg, Jeremy Miles:

"Rwy'n falch iawn o gael cyhoeddi'r garfan o Gymru sy'n rhan o Dîm y DU.

"Mae ymroddiad a gwaith caled Ruby Pile, Oscar McNaughton, Rosie Boddy, Max Clarke, Arron Luker a Ruben Duggan yn enghraifft o effaith rhaglenni datblygu sgiliau. Mae eu cyfranogiad yn WorldSkills Lyon 2024 yn adlewyrchu eu hymrwymiad i ragoriaeth a meistrolaeth yn eu disgyblaethau.

"Mae WorldSkills yn dyst i'r maes datblygu sgiliau yng Nghymru ac yn fyd-eang. Mae'n darparu llwyfan i unigolion talentog arddangos eu harbenigedd a chystadlu ar lefel ryngwladol.

"Mae'r gweithwyr proffesiynol medrus hyn yn cynrychioli ystod amrywiol o feysydd, fel Argraffu 3D, Cynnal a Chadw Awyrennau, Gwasanaethau Bwyty, Seiberddiogelwch a Plymio a Gwresogi, gan ddangos pwysigrwydd addysg a hyfforddiant galwedigaethol.

Wrth i ni ddathlu eu llwyddiant, gadewch i ni gydnabod rôl hanfodol datblygu sgiliau wrth lunio ein gweithlu ar gyfer y dyfodol a meithrin arloesedd.

"Yn union fel y byddwn yn dathlu doniau athletaidd elît yn Lyon yr wythnos cynt, byddwn yn cymeradwyo talentau ac ymroddiad y chwe chystadleuydd ifanc hyn sy'n awyddus i arddangos eu gallu.

"Ac mae'n bwysig cydnabod cynrychiolaeth drawiadol eu gwlad drwy ystyried cymhareb y cystadleuwyr i'r boblogaeth. Mae un o bob pump o'r tîm yn Gymry.

"Rydyn ni i gyd mor falch ohonoch chi yma yng Nghymru.

"Rwy'n dymuno pob lwc i bob un o'n cystadleuwyr a'r rhai o weddill y Deyrnas Unedig."

Dywedodd Ben Blackledge, Prif Weithredwr WorldSkills UK:

"Llongyfarchiadau i aelodau Tîm y DU o Gymru sydd wedi cael eu dewis i gystadlu yn WorldSkills Lyon 2024.

"Allwn i ddim bod yn fwy balch o'r bobl ifanc eithriadol yn Tîm y DU; Maen nhw'n esiampl wych i bobl. Ynghyd â Pearson, byddwn yn defnyddio eu cyfranogiad yn WorldSkills i hybu bri addysg dechnegol a galwedigaethol, gan ysbrydoli llawer mwy o bobl ifanc i ymgymryd â hyfforddiant technegol a galwedigaethol ledled y DU i helpu i yrru buddsoddiad, swyddi a thwf economaidd.

"Bydd ein cyfranogiad yn y 'Gemau Olympaidd sgiliau' yn rhoi gwybodaeth hanfodol i ni er mwyn sicrhau y gallwn ddatblygu ein rhaglenni prentisiaeth a hyfforddiant, i'w gwneud yn wirioneddol o'r radd flaenaf."

Bydd WorldSkills Lyon 2024 yn croesawu dros 1500 o bobl ifanc o dros 65 o wledydd, a fydd yn cystadlu mewn 62 o ddisgyblaethau sgiliau gwahanol.

Cynhelir WorldSkills Lyon 2024 rhwng 10 i 15 Medi. Hon yw'r 47fed tro i'r gystadleuaeth gael ei chynnal.