Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Porthladd Celtaidd yn Aberdaugleddau a Phort Talbot a Phorthladd Rhydd Ynys Môn wedi’u dewis fel porthladdoedd rhydd cyntaf Cymru, i helpu i greu degau o filoedd o swydd newydd yn niwydiannau gwyrdd y dyfodol, cyhoeddodd Llywodraethau Cymru a’r DU heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:
  • Dau Borthladd Rhydd ar fin cael eu sefydlu yng Nghymru, Y Porthladd Rhydd Celtaidd yn Aberdaugleddau a Phort Talbot, a Phorthladd Rhydd Ynys Môn yn y Gogledd. 
  • Amcan y ddau borthladd rhydd fydd denu £4.9 miliwn o fuddsoddi cyhoeddus a phreifat, gyda’r potensial i greu rhyw 20,000 o swyddi erbyn 2030.
  • Bydd y Porthladdoedd Rhydd yn ategu buddsoddiad a pholisïau Llywodraeth Cymru i greu economïau lleol cryfach, tecach a gwyrddach. 

Ym mis Mai 2022, daeth Llywodraeth Cymru i gytundeb â Llywodraeth y DU i sefydlu rhaglen porthladdoedd rhydd yng Nghymru.

Yn dilyn proses ymgeisio, mae Llywodraeth Cymru a’r DU wedi cytuno gyda’i gilydd i greu dau borthladd rhydd. Disgwylir iddynt ddechrau gweithio’n ddiweddarach eleni.

Y ceisiadau llwyddiannus yw:

  • Y Porthladd Rhydd Celtaidd yn Aberdaugleddau a Phort Talbot. Bydd y porthladd rhydd newydd hwn wedi’i leoli ym mhorthladd Port Talbot a phorthladd Aberdaugleddau yn Sir Benfro. Mae’r cynlluniau ar gyfer y porthladd rhydd yn seiliedig ar dechnolegau carbon isel fel ynni gwynt arnofiol ar y môr, hydrogen, dal, defnyddio a storio carbon a biodanwyddau i gefnogi ymdrechion i leihau allyriadau carbon. Mae’r porthladdoedd yn gobeithio denu mewnfuddsoddiad sylweddol iawn, gan gynnwys £3.5 miliwn yn y diwydiant hydrogen, yn ogystal â chreu 16,000 o swyddi, gan sbarduno £900 miliwn o Werth Ychwanegol Gros (GYG) erbyn 2030, ac £13 biliwn erbyn 2050.
  • Porthladd Rhydd Ynys Môn. Bydd y porthladd rhydd wedi’i leoli o gwmpas porthladd Caergybi, Parth Ffyniant Ynys Môn, Rhos-goch ac M-Sparc. Bydd y porthladd rhydd yn hybu Rhaglen Ynys Ynni Môn trwy ganolbwyntio ar brofion technoleg ynni ar wely’r môr (llanw a gwynt), Yr amcan yw creu rhwng 3,500 ac 13,000 o swyddi erbyn 2030, a chreu GYG o ryw £500 miliwn. Rhagwelir y daw llawer o fewnfuddsoddiad hefyd, gan gynnwys £1.4 biliwn posibl yn y sector ynni gwyrdd.

Bydd y porthladdoedd rhydd yn ffurfio parthau arbennig fydd yn elwa ar drefniadau tollau symlach, tollau tramor is, buddion treth, a hyblygrwydd datblygu. Bydd porthladdoedd rhydd Cymru yn hyrwyddo cyfleoedd gwaith teg ac yn rhoi blaenoriaeth i gynaliadwyedd amgylcheddol a'r argyfwng hinsawdd.

Byddant yn sbarduno adfywiad economaidd ac yn creu swyddi o ansawdd uchel, yn tyfu’n hybiau cenedlaethol ar gyfer buddsoddi a masnachu â’r byd, ac yn ysgogi arloesedd. Mae’r ceisiadau llwyddiannus yn canolbwyntio ar gryfderau penodol eu safleoedd, gan wneud y gorau o’r cyfleoedd yno, o ynni’r gwynt a’r môr i weithgynhyrchu uwch ac arloesi.

Rhyngddynt, mae ddau borthladd rhydd yn gobeithio creu rhyw 20,000 o swyddi erbyn 2030 a denu hyd at £4.9 biliwn o arian cyhoeddus a phreifat.

Wrth gyhoeddi’r ceisiadau llwyddiannus, dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

Mae’n bleser gen i gadarnhau bod y Porthladd Rhydd Celtaidd yn Aberdaugleddau a Phort Talbot a Phorthladd Rhydd Ynys Môn wedi’u dewis fel porthladdoedd rhydd Cymru.

“Mae gan Lywodraeth Cymru amcan clir i weddnewid economi Cymru a chreu dyfodol cryfach, tecach a gwyrddach.  Bydd dynodi safleoedd porthladdoedd rhydd Cymru’n hwb i wireddu’r amcan hwnnw gan adeiladu ar y buddsoddiadau a’r partneriaethau pwysig rydym wedi’u datblygu yn y rhanbarthau hyn dros gyfnod o lawer o flynyddoedd.

“Dylai’r cydweithio rhwng Llywodraethau ar raglen y porthladdoedd rhydd fod yn esiampl ar gyfer gwaith rhynglywodraethol yn y dyfodol mewn amrywiaeth o feysydd.”

Dywedodd Prif Weinidog y DU, Rishi Sunak:

Mae Cymru’n rhan lewyrchus o’r DU, a bydd y Porthladdoedd Rhydd newydd sy’n cael eu creu heddiw yn gweld busnesau a chyfleoedd i bobl yn Ynys Môn, Port Talbot ac Aberdaugleddau a’u cyffiniau yn mynd o nerth i nerth.

“Mae pawb yn haeddu’r un cyfle ac mae’r cydweithio clos â Llywodraeth Cymru wedi helpu i ddarparu’r safleoedd newydd ffantastig hyn.

“Mae’r Porthladdoedd Rhydd hyn yn dangos y gwaith caled sy’n cael ei wneud ddydd ar ôl dydd i ddod â swyddi newydd bras i gymunedau ledled Cymru a gwireddu fy addewid i dyfu’r economi.”

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

Hoffwn longyfarch y timau Celtaidd ac Ynys Môn am eu ceisiadau eithriadol i gael statws porthladd rhydd. Oherwydd y set rymus o gynigion a gyflwynwyd i ni, dw i’n cytuno â Llywodraeth y DU y gellir cefnogi ail borthladd rhydd yng Nghymru.

"Mae ein porthladdoedd yn rhan annatod o'n hanes diwydiannol cyfoethog. Nhw fydd yr injan fydd yn gyrru’n heconomi yn y dyfodol ac mae'r ceisiadau hyn wedi'u cynllunio i’n prysuro ar y daith. O ynni’r môr i weithgynhyrchu uwch, byddant yn helpu i greu degau o filoedd o swyddi newydd – a fydd yn cefnogi ein cynlluniau uchelgeisiol iawn i fod yn sero-net erbyn 2050.

“Bydd hyn yn ein helpu i harneisio’n potensial economaidd anferthol, yma ac yn rhyngwladol gan hyrwyddo gwaith teg a chynaliadwyedd yma yng Nghymru.

“Dw i’n disgwyl ymlaen at weld ein porthladdoedd rhydd yn dod â manteision economaidd a chymdeithasol ystyrlon i Gymru.”

Dywedodd Gweinidog y Gogledd, Lesley Griffiths:

Dyma newyddion ardderchog i Ynys Môn a dw i’n gwybod y bydd y rhanbarth yn ei groesawu. Mae porthladd Caergybi yn gaffaeliad i’r Gogledd cyfan a bydd y porthladd rhydd yn hwb sylweddol i bobl ac economi Ynys Môn ac i weddill rhanbarth y Gogledd-orllewin.”

Meddai Ysgrifennydd Ffyniant Bro y DU, Michael Gove:

Mae gan Gymru botensial enfawr heb ei ddefnyddio, a dyna pam rydyn ni wedi gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru i gytuno nid ar un ond ar ddau borthladd rhydd i Gymru.

"Dyma ganlyniad y ddwy lywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd i gyflawni dros Gymru, esiampl arall eto o Gymru yn elwa o'i lle mewn Teyrnas Unedig gref.

"Rwy'n gwbl hyderus y bydd y Porthladdoedd Rhydd newydd hyn yn drawsnewidiol i Gymru, gan helpu i dyfu'r economi, dod â ffyniant bro a lledaenu cyfleoedd."

Mae rhaglen porthladdoedd rhydd Cymru wedi’i chynllunio i helpu i wireddu polisïau Llywodraeth Cymru ar waith teg. Mae hynny’n golygu gwobrwyo gweithwyr yn deg am eu gwaith, eu clywed a’u cynrychioli a chaniatáu iddynt fynd yn eu blaenau mewn lle gwaith diogel, iach a chynhwysol lle mae eu hawliau’n cael eu parchu.

Mae’r rhaglen yn cynnwys hefyd nifer o bolisïau ‘Cymreig’ eraill fel:

  • contract economaidd Llywodraeth Cymru
  • bod yr undebau llafur yn cyfrannu at drefniadau llywodraethu’r porthladdoedd
  • pwyslais ar y cyflog byw go iawn a chodi’r cyflog isaf
  • creu disgwyliadau o ran sut y bydd cyflogwyr yn delio â chyfraniadau yswiriant gwladol eu gweithwyr

Bydd Llywodraeth y DU yn neilltuo hyd at £26 miliwn o gyllid cychwynnol na fydd angen ei ad-dalu ar gyfer sefydlu’r ddau borthladd rhydd yng Nghymru, sef yr un faint ag a roddwyd i borthladdoedd rhydd Lloegr a'r Alban.

Cytunodd Gweinidogion Cymru i gefnogi’r polisïau porthladdoedd rhydd yng Nghymru cyn belled â bod Llywodraeth y DU yn cadw at amod Llywodraeth Cymru y byddai'r ddwy lywodraeth yn gweithredu fel 'partneriaid cydradd' wrth sefydlu porthladdoedd rhydd yng Nghymru.

Fel rhan o broses gystadleuol deg ac agored i benderfynu ble i roi’r polisi ar waith yng Nghymru, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU brosbectws ar y cyd, sy'n nodi amcanion y polisi y mae'r ddwy lywodraeth yn ceisio eu cyflawni drwy’r rhaglen porthladdoedd rhydd.

Agorodd y broses ymgeisio ar 1 Medi 2022 gan gau ar 24 Tachwedd 2022. Daeth tri chais i law erbyn y dyddiad cau.

Bydd y ceisiadau llwyddiannus yn awr yn mynd i gam nesaf y broses, datblygu achos busnes bras.