Neidio i'r prif gynnwy

Mae Lesley Griffiths, wedi lansio ymgynghoriad heddiw ar Raglen Rheoli Tir newydd i gefnogi ffermwyr ar ôl Brexit, i gymryd lle'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC).

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae papur diweddaraf Llywodraeth Cymru am Brexit, Brexit a'n Tir, yn cynnig dau gynllun mawr newydd i gymryd lle Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS), Glastir a rhannau eraill y Rhaglen Datblygu Gwledig. 

Bydd y rhaglen yn cynnwys y ddau gynllun canlynol:

  • Y Cynllun Cadernid Economaidd - yn buddsoddi'n benodol i helpu rheolwyr tir a'u cadwyni cyflenwi.  Byddwn yn buddsoddi ym musnesau rheolwyr tir i'w gwneud yn fwy cystadleuol, yn gadarnach ac yn fwy cynhyrchiol ar gyfer cynhyrchu bwyd o ansawdd uchel. 
  • Y Cynllun Nwyddau Cyhoeddus - yn cynnig ffrwd incwm newydd i reolwyr tir am defnyddio'r tir i ddarparu nwyddau cyhoeddus. Bydd yn eu helpu i fynd i'r afael â heriau fel hinsawdd sy'n newid, colli cynefinoedd ac ansawdd aer a dŵr gwael.

Bydd pob rheolwr tir yn cael cyfle i fanteisio ar y cynlluniau newydd, nid dim ond y rheini sy'n derbyn nawdd y PAC ar hyn o bryd. Ond bydd gofyn i bobl wneud pethau'n wahanol fel tâl am y gefnogaeth hon. 

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:  

"Mae tir Cymru'n bwysig. Mae dros 90% o dir Cymru yng ngofal ein ffermwyr, coedwigwyr a stiwardiaid eraill y dirwedd. Mae sut mae'r tir yn cael ei reoli yn fater o bwys inni i gyd ac mae gan reolwyr ein tir y potensial i sicrhau canlyniadau sydd o bwys anferthol i Gymru. 

"Ar ôl gadael yr UE, bydd ein gallu i fasnachu mewn marchnadoedd a chystadlu yn newid.  All pethau ddim aros fel ag y maen nhw. Mae gadael yr UE yn golygu bod yn rhaid gwneud pethau'n wahanol a nawr yw'r amser i baratoi ar gyfer hynny. Mae angen inni newid ein ffordd o gefnogi'n ffermwyr a'n sector amaethyddol i'w gwneud yn fwy cystadleuol ac yn fwy abl i lwyddo o dan amodau masnachu newydd. Mae cyfle inni greu system unigryw Gymraeg sy'n gweithio er lles ffermwyr Cymru a'n cymunedau. 

"Mae hyn yn golygu newid mawr.  Dyna pam rydyn ni am weld newid graddol sy'n cadw'r ddysgl yn wastad rhwng yr amser sydd ei angen i newid a'r angen i roi cefnogaeth amserol.  

"Nod ein rhaglen yw cadw ffermwyr yn ffermio ar eu tir a gweld y sector yn ffynnu mewn byd ar ôl Brexit." 

Bydd y BPS yn aros yn union fel y mae yn 2018 a 2019 a chaiff pob contract Glastir ei anrhydeddu. Yn 2020, byddwn yn dechrau'r broses o symud i'r cynlluniau newydd, fydd yn cynnwys gostwng y BPS yn raddol wrth inni ddechrau rhoi'r cynlluniau newydd ar waith. Y nod yw cael y cynlluniau newydd ar eu traed erbyn 2025 gan ddefnyddio systemau llwyddiannus Taliadau Gwledig Cymru. 

Bydd y cynigion hyn yn destun ymgynghori helaeth tan fis Hydref a byddwn yn cydweithio'n glos â'n partneriaid yn hynny o beth. Caiff papur gwyn fydd yn rhestru cynigion manwl ei gyhoeddi yn y gwanwyn a byddwn yn cyhoeddi Bil cyn diwedd tymor y Cynulliad hwn ar gyfer diwygio'r drefn. Ni fyddwn yn tynnu arian o'r hen gynlluniau tan y bydd y cynlluniau newydd yn barod. 

Mae'r Polisi Amaethyddol Cyffredin yn rhoi rhyw £300 miliwn y flwyddyn i gefnogi rheolwyr tir Cymru ar hyn o bryd. Mae'r papur Brexit a'n Tir yn datgan yn glir na ddylai Cymru fod ar ei cholled o gwbl yn sgil gadael yr UE ac mae'n galw ar Lywodraeth y DU i gadarnhau ar fyrder y bydd Cymru'n cael cadw ei chyfran bresennol o'r arian.