Neidio i'r prif gynnwy

Gwobrwyo naw o weithwyr addysg proffesiynol o bob rhan o Gymru yng Ngwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru 2018.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw (13 Mai 2018), datgelwyd pwy yw’r naw o athrawon a gweithwyr addysg proffesiynol ac ysbrydoledig sydd wedi ennill ail Wobrau Addysgu Proffesiynol Cymru.

Cafodd 130 o westeion o bob cwr o Gymru, a 25 ohonynt wedi cyrraedd y rownd derfynol, eu gwahodd i ddathlu rhagoriaeth mewn addysg mewn seremoni arbennig a gynhaliwyd yng Nghastell Hensol. Yn datgelu enwau enillwyr y naw categori roedd y diddanwr Tudur Owen ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams AC.

Lorraine Dalton o Ysgol Esgob Morgan, Llanelwy oedd Athro/Athrawes y Flwyddyn, a chafodd ei henwebu am ei gwaith caled a’i hymroddiad i roi'r cyfleoedd dysgu gorau posibl i’w disgyblion. Creodd Lorraine argraff ar y beirniaid gyda’i hymroddiad diflino, ei brwdfrydedd a’r effaith aruthrol mae hi wedi’i chael ar ei hysgol.

Dywedodd Lorraine:

“Ges i gymaint o sioc. Mae’n deimlad hyfryd. Mae’n gwneud popeth ry’ch chi’n gwneud yn werth chweil. Pan ges i fy rhoi ar y rhestr fer, dywedais taw dim ond swydd ydyw, ond wrth feddwl am y peth, mae’n fwy na jest swydd. Mae’n ffordd o fyw. Bydd pob athro’n cytuno nad ydych chi byth yn gallu stopio meddwl am y peth oherwydd rydych chi bob amser am wneud y gorau ar gyfer eich disgyblion. Mae’r plant wirioneddol wrth galon beth dwi’n gwneud a’r disgyblion yw blaenoriaeth pob aelod o’r tîm yn Ysgol Esgob Morgan. Mae hwn iddyn nhw.”

Cafodd Janet Waldron o Ysgol Gyfun Pontarddulais ei henwi’n Bennaeth y Flwyddyn. Dywedodd y beirniaid mai’r ysgol yw ei bywyd a’i bod yn anadlu bywyd i’r ysgol, mae hi’n malio am bob unigolyn yno ac yn annog y staff i’w herio eu hunain a’r disgyblion i wireddu eu potensial.

Dywedodd Janet:

“Nid yw’r wobr yma i fi yn unig, mae’n cydnabod gwaith gwych y disgyblion, staff a fy nhîm prifathrawiaeth arbennig. Bod yn brifathro yw’r swydd orau ac mae’n rhywbeth y gall unrhywun ei wneud gydag ymroddiad ac awydd i wneud gwahaniaeth.”

Roedd enillwyr y categorïau eraill yn cynnwys y canlynol: John Caple o Ysgol Uwchradd yr Esgob Hedley, Merthyr Tydfil - Rheolwr Busnes Ysgol/Bwrsar, Adam Griffiths o Ysgol Uwchradd Penydre, Merthyr Tydfil - Cefnogi Athrawon a Dysgwyr, Dylan Lewis, hefyd o Ysgol Gyfun Pontarddulais - Defnydd Gorau o Ddigidol.

Ruth Thackray, Uwch Arweinydd Cwricwlwm Cymru yn GwE (Gwasanaeth Effeithiolrwydd a Gwella Ysgolion Gogledd Cymru) enillodd y categori Hybu Cydweithredu i Wella Cyfleoedd Dysgu, ac Ysgol Gynradd Gymunedol Cil-maen, Penfro enillodd y categori Hybu Llesiant, Cynhwysiant a Pherthynas â’r Gymuned.

Cafwyd yr enillwyr cyntaf mewn categorïau newydd hefyd, sef Helen Jones o Ysgol Uwchradd y Fflint am fod yn Athro/Athrawes Newydd Eithriadol a Gwenan Ellis Jones o Adran Addysg Cyngor Gwynedd am Ddefnyddio’r Gymraeg mewn ffordd sy’n ysbrydoli.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams:

“Roedd safon y rhai sydd yn y rownd derfynol yng Ngwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru yn eithriadol, ac maen nhw’n brawf o ymrwymiad, ymroddiad a gwaith caled athrawon a gweithwyr proffesiynol eraill yn y byd addysg ledled y wlad, felly roedd ein beirniaid yn wynebu tasg anodd wrth ddewis yr enillwyr.

“Mae pob un o'r naw enillydd yn mynd yr ail filltir ac yn gwneud gwahaniaeth mawr yn eu hysgolion ac yn bwysicaf i unigolion. Eleni, peth gwych fu dathlu, am y tro cyntaf, y genhedlaeth nesaf o weithwyr addysgu proffesiynol sydd eisoes yn cael effaith drwy Wobr Athro/Athrawes Newydd Eithriadol, a rhoi sylw i'r rhai sy'n rhoi cymorth i ddefnyddio ein hiaith genedlaethol drwy'r wobr Defnyddio’r Gymraeg mewn ffordd sy’n ysbrydoli.

“Mae ein gweithwyr addysg proffesiynol yn newid bywydau cenedlaethau'r dyfodol ac yn ein helpu ni i godi safonau a darparu system addysg sy’n destun balchder a hyder cenedlaethol.”

Cafodd yr seremoni wobrwyo ei dangos yn ei chyfanrwydd yn fyw ar sianel Facebook @AddysgCymru.

Roedd pob un o’r enillwyr yn cael tlysau arbennig Griffiths Jones wedi’u gwneud â llaw.

I weld y rhestr gyflawn o’r enillwyr a’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol, ewch i: www.llyw.cymru/gwobrauaddysgu.  Ymunwch â'r sgwrs gyda #GwobrauAddysguCymru a chadwch olwg ar sianelau cymdeithasol Addysg Cymru @LlC_Addysg / @AddysgCymru.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:
Cowshed
awards@wearecowshed.co.uk / 02920 789321