Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Prif Weinidog, Carwyn Jones wedi cynnal digwyddiad yng Nghaerdydd i ddathlu dengmlwyddiant partneriaeth Cymru gydag Affrica.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r digwyddiad yn gyfle i bobl sydd wedi rhoi amser, adnoddau ac arbenigedd i wella bywydau pobl Affrica Is-Sahara ddod ynghyd, yn ogystal â phobl o Affrica sydd wedi cael budd uniongyrchol o'r rhaglen.

Yn y digwyddiad bydd y Prif Weinidog yn lansio  adroddiad sy'n dangos yr effaith gadarnhaol y mae'r rhaglen Cymru o Blaid Affrica wedi'i chael ar fywydau pobl ledled Cymru ac Affrica. Bydd yr adroddiad yn dangos bod:

  • 544,000 o ffermwyr Uganda wedi cael hyfforddiant a choed i helpu i gysgodi eu cnydau ac amddiffyn eu cartrefi rhag stormydd.
  • 72 o brosiectau iechyd, gan gynnwys ysbytai a meddygfeydd, wedi cael eu cefnogi, gan arbed cannoedd o fywydau a gwella iechyd miloedd o bobl yn Affrica. 
  • 340,000 o bobl wedi elwa ar y rhaglen grantiau bach y llynedd, sy'n cefnogi prosiectau i wella sefyllfa pobl yn Affrica.  Ymysg y rhain oedd cwmni o Ynys Môn, SaddleAid, wnaeth ddatblygu cyfrwy arbennig er mwyn i ferched beichiog a phobl wael sy'n byw yn ardaloedd anghysbell Ethiopia gael eu cludo i'r ysbyty'n ddiogel ar geffylau.  
  • 4.2 miliwn o goed wedi'u plannu, er mwyn helpu i herio'r newid yn yr hinsawdd. 
  • 528 o brosiectau datblygu wedi cael cymorth, gan gynnwys elusen PONT Rhondda Cynon Taf, sy'n gwella bywydau pobl sy'n byw mewn tlodi yn Uganda. Hyd yn hyn, mae PONT wedi hyfforddi dros 1,200 o weithwyr iechyd yn y pentrefi, wedi rhoi addysg i dros 100,000 o blant, wedi darparu rhwydi mosgito i 20,000 o deuluoedd a rhoi geifr i 2,000 o deuluoedd fel eu bod yn gallu darparu llaeth i'w teuluoedd a chodi arian ar gyfer ffioedd ysgol a thriniaeth feddygol hanfodol.
Dywedodd y Prif Weinidog:

Dros y deng mlynedd diwethaf rydym wedi gweld cyfeillgarwch yn cael ei ffurfio rhwng Cymru ac Affrica, wrth i bobl gydweithio i wella bywydau pobl Affrica. Heddiw, gadewch i ni ddathlu cyfraniad enfawr Cymru dros y cyfnod hwnnw - o achub bywydau pobl drwy welliannau gofal iechyd, i ddarparu addysg i filoedd o blant. Mae’r rhaglen Cymru o Blaid Affrica wedi mynd o nerth i nerth.  Rwy'n falch iawn o'i llwyddiant, ac yn ddiolchgar iawn i'r miloedd o bobl yng Nghymru sydd wedi rhoi amser, adnoddau ac arbenigedd dros y deng mlynedd diwethaf.

Dywedodd Apollo Mwenyi, Cyfarwyddwr yr Mbale Coalition Against Poverty yn Mbale, Uganda:

Mae'r cysylltiad rhwng Mbale a Chymru wedi gwella bywydau yn y rhanbarth gryn dipyn. Gwelwyd gostyngiad sylweddol mewn cyfraddau marwolaeth mamau a babanod yn sgil hyfforddiant i weithwyr iechyd cymunedol a darparu beiciau modur ambiwlans sy'n caniatáu i bobl gael eu cymryd i'r ysbyty mewn argyfwng. Rydyn ni hefyd wedi gweld perfformiad academaidd gwell mewn ysgolion sydd wedi'u gefeillio, ac mae mwy o blant yn aros yn yr ysgol diolch i'r arian sy'n cael ei godi drwy'n prosiect cadw gwenyn a geifr.