Mae miloedd o fywydau ledled Cymru wedi cael eu gwella gan wirfoddolwyr y mae eu gwaith hanfodol wedi cael ei ddathlu gan Lywodraeth Cymru yn ystod Wythnos Genedlaethol Gwirfoddolwyr.
Mae tua 27% o bobl yng Nghymru yn gwirfoddoli'n ffurfiol gydag elusennau a sefydliadau, a nifer ddi-ri yn rhagor yn cyfrannu'n anffurfiol o fewn eu cymunedau.
Ers mis Ebrill 2022, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £4.6 miliwn mewn mentrau gwirfoddoli, gan agor y drws i fwy na 419,000 o oriau o wirfoddoli a hyfforddiant a gofnodwyd ar gyfer 6,710 o bobl ledled Cymru.
Yn ystod Wythnos Gwirfoddolwyr, ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol ag Ymddiriedolaeth St Giles yng Nghasnewydd, a dderbyniodd bron i £100,000 drwy Grant Gwirfoddoli Strategol Llywodraeth Cymru. Mae'r cyllid yn cefnogi eu prosiect 'Arbenigwyr Trwy Brofiad Cymru', gan greu cyfleoedd gwirfoddoli cynhwysol i bobl sydd â phrofiad o'r system cyfiawnder troseddol, o dlodi, o drais ac o gael eu hecsbloetio.
Dywedodd Rheolwr Datblygu Busnes Ymddiriedolaeth St Giles, Anne-Marie Rogan:
Nod ein prosiect yw chwalu'r rhwystrau i'r rhai sydd wedi bod drwy brofiadau anodd sydd eisiau gwirfoddoli. Rydyn ni wedi creu pecyn hunanasesu ar gyfer cyflogwyr ar draws pob sector a datblygu platfform digidol sy'n cael ei lansio y mis hwn, a fydd yn cysylltu sefydliadau ag unigolion sy'n chwilio am lwybrau gwirfoddoli. Mae'r cyllid hwn wedi bod yn hanfodol wrth ein helpu i sbarduno newid ystyrlon yn y ffordd y mae gwirfoddoli cynhwysol yn digwydd yng Nghymru.
Ar ddiwedd Wythnos Gwirfoddolwyr, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt:
Gwirfoddolwyr yw asgwrn cefn ein cymunedau ac mae Wythnos Gwirfoddolwyr yn rhoi cyfle inni i gyd ystyried yr effaith y mae gwirfoddoli yn ei chael ar unigolion, sefydliadau a chymunedau ledled Cymru.
Er bod pobl yn rhoi eu hamser yn rhydd ac yn rhwydd, rydyn ni'n cydnabod bod yn rhaid eu cefnogi a'u diogelu'n briodol, a dyna pam rydyn ni'n parhau i fod yn ymrwymedig i fuddsoddi mewn pobl a'n cymunedau. Dw i am ddiolch i bob gwirfoddolwr am eu cyfraniad ac annog pawb i barhau i gefnogi'r ymdrechion gwirfoddoli sy'n gwneud ein cymunedau gymaint yn gyfoethocach.