Neidio i'r prif gynnwy

Ddydd Iau 8 Chwefror daeth arbenigwyr rhyngwladol ynghyd i drafod llwyddiannau a heriau gwarchod ieithoedd lleiafrifol, ac i ddiolch i’r Athro Emeritws Colin H Williams am ei gyfraniad i bolisi iaith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Roedd y digwyddiad, 'Arloesi ac Arfer Da mewn Polisi Iaith', yn gyfle i siaradwyr o Gymru, Iwerddon, yr Alban, Gwlad y Basg, Catalwnia a Chanada drafod profiadau a syniadau am feysydd amrywiol fel trosglwyddo iaith, hyrwyddo, deddfu, a’r heriau i wleidyddion a chymdeithas yn ehangach.

Trefnwyd y gynhadledd ar y cyd rhwng Cymraeg 2050, Llywodraeth Cymru ac Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles:

“Mae gan Lywodraeth Cymru weledigaeth glir ar gyfer y Gymraeg, a chynlluniau arloesol i droi’r weledigaeth yna’n realiti. Roedd y gynhadledd yn gyfle i ni rannu ein profiadau, i wrando ac i ddysgu gwersi gan wledydd eraill.

“Roedd yn gyfle hefyd i ni ddod at ein gilydd i ddiolch am gyfraniad sylweddol yr Athro Emeritws Colin H Williams i bolisi iaith, a hynny gerbron cynulleidfa Gymreig a rhyngwladol. Mae gwaith ymchwil a chyngor doeth Colin wedi bod yn amhrisiadwy ac mae bob amser yn barod i helpu ac i herio’n adeiladol.”

Dywedodd Pennaeth Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, Dr Dylan Foster Evans:

“I ni yn Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, mae arbenigedd, haelioni a chefnogaeth yr Athro Colin H. Williams yn ysbrydoliaeth ddyddiol. Roedd y gynhadledd hon yn gyfle i weld a gwerthfawrogi effaith y rhinweddau hynny ar gydweithwyr a chyfeillion ledled y byd. Roedd yn fraint cael bod yn rhan o ddigwyddiad i anrhydeddu Colin, a’i gyfraniadau yntau i’r trafodaethau yn graff, yn fentrus ac yn arloesol, fel o hyd. Mae heriau o’n blaenau ni oll yn ein gwahanol feysydd, ond mae Colin yn ein hysbrydoli ni oll i’w hwynebu â hyder.”

Dywedodd Dr Ane Ortega o’r prosiect Equiling yng Ngwlad y Basg:

“Un o’r pethau mae ymchwilwyr ac ymgyrchwyr ieithoedd lleiafrifol wedi’i ddysgu yw pa mor bwysig yw cydweithio, dysgu oddi wrth ein gilydd, dychmygu ffyrdd newydd o wneud pethau, a rhoi cefnogaeth i’n gilydd. Mae’r Athro Colin Williams yn gredwr mawr yn hyn, ac mae ei holl ymweliadau â rhannau eraill o’r byd a’i ysgrifennu helaeth yn brawf o hynny. Nid ar gyfer y Gymraeg yn unig y mae ei waith - mae ar gyfer pob iaith leiafrifol, a thrwy hynny’n arwain at greu byd mwy cyfartal.

“Roedd yn fraint cymryd rhan yn y gynhadledd er anrhydedd i Colin, ac i ddangos y parch a’r diolchgarwch sydd gennym ni fel Basgwyr iddo. Eskerrik asko bihotz bihotzez, Colin!”

Dywedodd Dr Maite Puigdevall Serralvo o Brifysgol Agored Catalwnia:

"Roedd y gynhadledd yn ddathliad o gyfraniad rhagorol a pharhaus yr Athro Emeritws Colin Williams i hyrwyddo polisi iaith yng Nghymru ac mewn llawer o gymunedau ieithoedd lleiafrifol eraill yn Ewrop ac ar draws y byd. Roedd y gynhadledd yn adlewyrchu’r ffordd y bu’n gweithio yn ystod ei yrfa hir wrth chwilio am ymyriadau arfer gorau a allai gryfhau a hyrwyddo polisïau ac arferion mewn cyd-destunau ieithoedd lleiafrifol eraill.

"Ond i mi, y peth pwysicaf oedd dod at ein gilydd i ddangos parch a chariad gan fyfyrwyr, ffrindiau, cydweithwyr a theulu tuag at waddol ei waith a’r effaith bersonol y mae ei fentora, anogaeth, haelioni a’i gefnogaeth wedi’i chael ar gynifer ohonom. Dyma’r ffordd orau i ddweud diolch i Colin am yr hyn mae wedi’i wneud i ni i gyd, y cyfraniad academaidd, gwleidyddol ond hefyd y cyfraniad personol."