Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid yn gyfle i gydnabod a dathlu'r gwaith ieuenctid rhagorol sy'n digwydd ledled Cymru. Nid yw'r digwyddiad eleni yn eithriad – mae’n cynnwys 27 o weithwyr ieuenctid a sefydliadau ieuenctid yn y rowndiau terfynol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r gwobrau'n adlewyrchu natur amrywiol gwaith ieuenctid yng Nghymru ac yn dangos yr effaith y mae gwaith ieuenctid a gweithwyr ieuenctid yn ei chael ar bobl ifanc a'u cymunedau cyfagos.

Mae Mary, sy'n weithiwr ieuenctid mewn ysgolion, wedi cael ei henwebu am ei gwaith gyda phobl ifanc yn Ysgol y Grango yn Wrecsam. Mae wedi eu helpu i oresgyn rhwystrau, a gwella eu presenoldeb.

Mae Kelly Powell yn rhedeg GoodVibes, grŵp ieuenctid LHDTC+ yn Abertawe. Mae wedi bod yn rym pwerus, gan ddarparu gwasanaeth sy'n newid bywyd i bobl ifanc sy'n rhan o’r grŵp. Mae llawer ohonynt wedi dioddef gwahaniaethu, bwlio a phroblemau iechyd meddwl.

Mae'r elusen GISDA ar y rhestr fer am ei gwaith sy’n darparu cymorth i bobl ifanc ddigartref ac agored i niwed yng Ngwynedd. Mae'r gwasanaethau'n cynnwys darparu llety, cymorth iechyd meddwl a chyfleoedd i wirfoddoli, a phob un yn cael ei ddarparu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Yng Nghasnewydd, mae partneriaeth o sefydliadau wedi cael eu cydnabod am y gwaith a wnaed ganddynt sy’n cefnogi ceiswyr lloches a ffoaduriaid ifanc. Cafodd y prosiect hwn ei gydgynhyrchu gan bobl ifanc, ac mae'n cynnig mynediad at weithgareddau corfforol a chymorth seiliedig ar wybodaeth i helpu i ehangu eu grwpiau cyfeillgarwch a'u galluogi i gael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt.

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:

"Mae gwaith ieuenctid yn chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu amgylcheddau diogel a chynhwysol i bobl ifanc lle cânt eu cefnogi i gyrraedd eu potensial llawn.

"Mae'n ysbrydoledig gweld yr enghreifftiau gwych a niferus o waith ieuenctid sy’n cael eu cydnabod yn y gwobrau eleni. Mae’n galonogol gweld pobl a sefydliadau yn cydweithio i sicrhau bod Cymru'n wlad lle gall pob plentyn, person ifanc a theulu ffynnu."

Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi £13m o gyllid uniongyrchol eleni i helpu i sicrhau bod awdurdodau lleol a sefydliadau gwaith ieuenctid gwirfoddol yn cefnogi pobl ifanc yn eu hardaloedd lleol. Mae'r cyllid hwn wedi treblu ers 2018, gan adlewyrchu'r rôl hanfodol y mae'n ei chwarae wrth gefnogi pobl ifanc i gyrraedd eu potensial.

Cyhoeddir enillwyr Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid Llywodraeth Cymru ddydd Iau 22 Chwefror, yn Venue Cymru yn Llandudno.