Neidio i'r prif gynnwy

Yr wythnos hon, ar Wythnos Elusennau Cymru, mae Llywodraeth Cymru’n dathlu'r elusennau a'r gwirfoddolwyr sy'n helpu i gynnal ein cymunedau. Bob dydd, maent yn rhoi cymorth ymarferol, creu cysylltiadau a chynnig cymorth i bobl pan fydd ei angen fwyaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Chwefror 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae tua 27% o bobl yng Nghymru yn gwirfoddoli'n ffurfiol gydag elusennau a sefydliadau, gan ffurfio asgwrn cefn bywyd cymunedol mewn trefi, pentrefi a dinasoedd ledled y wlad.

Er mwyn helpu elusennau i barhau â'r gwaith hanfodol hwn, mae Llywodraeth Cymru yn darparu £10.9 miliwn eleni i gefnogi'r trydydd sector, cynnydd o £2.3 miliwn o'i gymharu â'r llynedd. Mae'r cyllid hwn yn helpu sefydliadau i fod yn wydn a chynaliadwy, gan eu galluogi i ganolbwyntio ar gefnogi pobl a chymunedau.

Law yn llaw â hyn, mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi dros £3.57 miliwn yn uniongyrchol mewn gwirfoddoli eleni, cynnydd o £1.76 miliwn. Mae'r gefnogaeth hon yn helpu canolfannau gwirfoddoli lleol i gysylltu pobl â chyfleoedd i gymryd rhan ac yn galluogi cymunedau i ymateb i anghenion lleol. Trwy Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Chynghorau Gwirfoddol Sirol, mae elusennau hefyd yn derbyn cymorth wedi'i dargedu, gan gynnwys grantiau sy'n helpu pobl ifanc i arwain newid yn lleol a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eu cymunedau.

Un sefydliad sy'n elwa o'r buddsoddiad hwn yw GISDA yng Ngwynedd, sy'n cefnogi pobl ifanc 16 i 25 oed sy'n wynebu digartrefedd neu anfantais. O’i ganolfannau yng Nghaernarfon, Blaenau Ffestiniog a Phwllheli, mae GISDA yn darparu llety diogel, cyfleoedd hyfforddi, gwasanaethau iechyd meddwl a chymorth dwyieithog, gan helpu pobl ifanc i adennill sefydlogrwydd ac adeiladu dyfodol mwy cadarnhaol.

Dywedodd Prif Weithredwr GISDA, Siân Tomos: 

Mae gan bob person ifanc rydyn ni'n gweithio gyda nhw ei stori bersonol ei hun, ac mae'n brofiad mor bwerus eu gweld nhw’n tyfu mewn hyder ac yn dechrau llunio dyfodol mwy positif. Mae gweithio'n agos gyda phartneriaid yn y sector cyhoeddus yn ein galluogi ni i gynnig y gefnogaeth sydd ei hangen ar bobl ifanc, ac mae’r gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru yn helpu i wneud y gwaith hwn yn bosibl. Mae'n fraint dod i'r gwaith bob dydd a chael fy ysbrydoli gan gymhelliant a gwytnwch y bobl ifanc rydyn ni'n eu cefnogi ac ymrwymiad ein gwirfoddolwyr.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt: 

Mae elusennau fel GISDA yn dangos y gwahaniaeth trrawsnewidiol y mae’r sector gwirfoddol yn ei wneud bob i fywydau pobl bob dydd, gyda phobl ifanc a oedd unwaith yn wynebu ansicrwydd bellach yn ennill sgiliau, hyder a gobaith.

Yn ystod Wythnos Elusennau Cymru, rwyf am ddiolch i bob gwirfoddolwr a gweithiwr elusennol ledled Cymru am eu hymroddiad, ac rwy'n annog pawb i barhau i gefnogi'r elusennau a'r ymdrechion gwirfoddoli sy'n cyfoethogi ein cymunedau.

Mae ein buddsoddiad o bron i £11m eleni yn adlewyrchu ein hymrwymiad i sicrhau bod elusennau yn cael y gefnogaeth sydd ei angen arnynt i ffynnu. Gyda'n gilydd, rydyn ni’n adeiladu cymunedau cryfach a mwy cysylltiedig ledled Cymru.