Neidio i'r prif gynnwy

A bwrw ei bod yn cael Cydsyniad Brenhinol, bydd cyfraith newydd i wahardd ffioedd gosod eiddo diangen yng Nghymru yn dod i rym ar 1 Medi 2019. 

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Ebrill 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn drosedd i godi unrhyw dâl ar denant nad yw wedi'i bennu'n 'daliad a ganiateir' o dan y ddeddfwriaeth. Mae hynny'n golygu na chodir tâl ar denantiaid am bethau fel ymweliadau yng nghwmni rhywun, derbyn rhestr eiddo, llofnodi contract, neu adnewyddu tenantiaeth. 

Amcangyfrifir y bydd y Bil yn arbed bron £200 i denantiaid fesul tenantiaeth.

Caniateir i asiantiaid gosod eiddo a landlordiaid godi tâl mewn perthynas â rhent, blaendaliadau sicrwydd, blaendaliadau cadw, neu ddiffygdaliadau (pan fydd tenant yn torri amodau contract) yn unig, gan gynnwys taliadau mewn perthynas â'r dreth gyngor, cyfleustodau, trwydded deledu, neu wasanaethau cyfathrebu.

Bydd y Bil yn rhoi cap ar flaendaliadau cadw a delir i gadw eiddo cyn llofnodi'r contract rhentu i'r hyn a fydd gyfwerth ag wythnos o rent ac yn creu darpariaethau i sicrhau y gwneir yr ad-daliad yn brydlon. Bydd hefyd yn rhoi'r pŵer i Lywodraeth Cymru, pe dymunai ei ddefnyddio yn y dyfodol, gyfyngu ar lefel y blaendaliadau sicrwydd.

Dywedodd Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol: 

Rydyn ni'n deall bod angen i landlordiaid ac asiantiaid gael amser i addasu eu modelau a'u harferion busnes er mwyn cydymffurfio â'r newid yn y gyfraith. Ond rydyn ni wedi bod yn glir ein bod ni am weld y ddeddfwriaeth bwysig hon yn dod i rym cyn gynted ag sy'n bosibl, ac yn enwedig cyn i'r myfyrwyr ddechrau eu tymor yn yr hydref mewn prifysgolion yng Nghymru.

Cyhyd â bod y gyfraith yn cael Cydsyniad Brenhinol, fe fydd yn dod i rym ar 1 Medi eleni. Rydyn ni eisoes wedi ysgrifennu i sefydliadau sydd â diddordeb i'w hysbysu am hyn, ac rydyn ni'n awyddus bod tenantiaid yng Nghymru yn ymwybodol o'u hawliau o dan y Ddeddf.