Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu’r canllawiau hyn i helpu'r rhai y mae Deddf Diogelwch Tân 2021 yn effeithio arnynt, a hefyd helpu pobl i gadarnhau a yw'r ddeddfwriaeth yn effeithio arnynt os nad oeddent o bosibl yn ymwybodol o hynny. Maent yn gymwys i fangreoedd yng Nghymru. Mae'r Swyddfa Gartref wedi cyhoeddi canllawiau tebyg ar gyfer mangreoedd yn Lloegr.

Mae Deddf Diogelwch Tân 2021 yn rhoi eglurder ynglŷn â'r rhannau o fangre sydd wedi'u cwmpasu gan Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 (neu'r “Gorchymyn Diogelwch Tân”).

Mae'r Gorchymyn Diogelwch Tân yn gymwys i bob mangre annomestig yng Nghymru a Lloegr, sy'n cynnwys adeiladau lle mae dwy neu ragor o fangreoedd domestig megis blociau o fflatiau, ond nid yw fflatiau unigol eu hunain wedi'u cynnwys.

Y ‘Person Cyfrifol’, fel y'i disgrifiwyd yn y Gorchymyn, sy'n bennaf cyfrifol am gydymffurfio â'r Gorchymyn Diogelwch Tân. Gall y person hwn, er enghraifft, fod yn gyflogwr, yn rhydd-ddeiliad, yn gwmni rheoli neu'n asiant rheoli, yn dibynnu ar y trefniadau lleol. Os nad ydych yn siŵr ai chi yw'r Person Cyfrifol ar gyfer adeilad, mae'r canllawiau hyn yn cynnwys adran a all eich helpu. Mae'n cynnwys gwybodaeth am yr hyn y mae'n ei olygu i fod yn Berson Cyfrifol, ac am rai o'i gyfrifoldebau o dan y Gorchymyn Diogelwch Tân.

Cafodd y Gorchymyn Diogelwch Tân ei gynllunio'n wreiddiol i fod yn gymwys i weithleoedd, a golygai hyn nad oedd yn hollol glir sut roedd yn gymwys i adeiladau preswyl. Fel gofyniad sylfaenol, roedd yn gymwys (ac mae'n dal i fod yn gymwys) i rannau cyffredin, sef yr ardaloedd sydd at ddefnydd yr holl breswylwyr fel cynteddau, grisiau a phennau grisiau. Mae'r ddeddfwriaeth newydd yn rhoi eglurder, lle mae adeilad yn cynnwys dwy neu fwy o fangreoedd domestig, fod yr ardaloedd y mae'r Gorchymyn Diogelwch Tân yn gymwys iddynt yn cynnwys:

  • strwythur a waliau allanol yr adeilad (gan gynnwys drysau, ffenestri ac unrhyw beth a atodir i wynebau allanol y waliau hynny, megis balconïau, cladin, deunydd inswleiddio a gosodiadau) ac unrhyw rannau cyffredin
  • pob drws rhwng mangreoedd domestig a'r rhannau cyffredin megis drysau mynedfeydd fflatiau.

Felly, dylai'r ardaloedd hyn gael eu hystyried fel rhan o'r asesiad risgiau tân a gynhelir gan Berson Cyfrifol adeilad. Noder, os yw'r gwaith hwn wedi cael ei osod ar gontract allanol gennych ar hyn o bryd, fod yn rhaid ichi sicrhau bod y rhai a gyflogir i gwblhau'r asesiad risgiau tân yn cynnwys yr elfennau hynny a nodir uchod, gan mai chi sy'n gyfrifol am gydymffurfio â'r Gorchymyn Diogelwch Tân.

Mae cyfrifoldebau Personau Cyfrifol hefyd yn cynnwys, ymhlith materion eraill, ddileu neu leihau peryglon tân yn yr adeilad y maent yn gyfrifol amdano, a chymryd camau rhesymol i sicrhau diogelwch pob preswylydd, y rhai a gyflogir i weithio yn yr adeilad ac ymwelwyr â'r adeilad.

Gall Awdurdodau Tân ac Achub roi hysbysiadau gorfodi os byddant yn penderfynu bod Personau Cyfrifol neu Ddeiliaid Dyletswydd (sydd hefyd â chyfrifoldebau o dan y Gorchymyn Diogelwch Tân) wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau'r Gorchymyn Diogelwch Tân. Gallant hefyd gyflwyno hysbysiadau newid neu wahardd. Mae'r Gorchymyn Diogelwch Tân yn creu nifer o droseddau, er enghraifft mae'n drosedd i Berson Cyfrifol neu Ddeiliad Dyletswydd arall fethu â chydymffurfio â gofyniadau penodol a osodir gan y Gorchymyn Diogelwch Tân sy'n achosi risg o farwolaeth neu niwed difrifol i bobl o ganlyniad i dân.

Os nad ydych yn siŵr a ydych yn Ddeiliad Dyletswydd, fel y'i nodwyd yn yr adran, mae'r canllawiau hyn hefyd yn cynnwys adran sy'n rhoi gwybodaeth ynglŷn â phwy allai fod yn Ddeiliaid Dyletswydd. Gweler yr adran Cadarnhau a ydych yn Ddeiliad Dyletswydd isod am ragor o wybodaeth.

Mae'r canllawiau hyn wedi cael eu cyhoeddi o dan Erthygl 50 o'r Gorchymyn Diogelwch TânY nod yw helpu Personau Cyfrifol a Deiliaid Dyletswydd i ddeall a chyflawni eu dyletswyddau, ond nid y gyfraith ydynt.Serch hynny, gallai cydymffurfio â'r canllawiau (neu beidio â chydymffurfio â nhw) fod yn dystiolaeth dderbyniol mewn unrhyw achos cyfreithiol sy'n ymwneud â thorri'r Gorchymyn.

Gorchymyn Cyfrifoldebau Diogelwch Tân o dan Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005

Bydd yr adran hon yn eich helpu i gadarnhau a ydych yn Berson Cyfrifol o dan y Gorchymyn Diogelwch Tân, a pha gyfrifoldebau sydd gennych o ran diogelwch tân.

Noder nad yw'r wybodaeth hon yn gynhwysfawr. Cafodd ei llunio i roi crynodeb lefel uchel i chi.

Deall y ddeddfwriaeth

Y Gorchymyn Diogelwch Tân yw'r brif ddeddfwriaeth ynglŷn â diogelwch tân yng Nghymru a Lloegr. Mae'n gymwys i amrywiaeth eang o fangreoedd ac mae'n nodi cyfrifoldebau i unigolion sy'n ddarostyngedig i'r Gorchymyn Diogelwch Tân.

Nid yw'r Gorchymyn Diogelwch Tân yn nodi'n fanwl pa fathau o nodweddion y mae angen eu gosod mewn mangreoedd. Yn hytrach na hynny, mae'n gosod dyletswyddau eang i helpu i gadw pobl yn ddiogel rhag tân, yn bennaf ar y Person Cyfrifol. Diffinnir y Person Cyfrifol yn Erthygl 3 o Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005.

Mae'n rhaid i'r Person Cyfrifol gynnal asesiad o'r risgiau tân i bobl sydd neu a all fod yn y fangre yn gyfreithlon neu yn ei chyffiniau (disgrifir y rhain fel Personau Perthnasol yn y Gorchymyn Diogelwch Tân). Mae'r asesiad risgiau tân hwn yn helpu i nodi'r rhagofalon diogelwch tân y mae'n rhaid i'r Person Cyfrifol eu rhoi ar waith i gydymffurfio â'r Gorchymyn Diogelwch Tân.

Mae'r Gorchymyn Diogelwch Tân yn gymwys i'r canlynol:

  • pob gweithle ac adeilad masnachol neu gyhoeddus
  • rhannau annomestig o adeiladau preswyl amlfeddiannaeth (adeiladau sy'n cynnwys dwy neu fwy o fangreoedd domestig). Mae hyn yn cynnwys yr ardaloedd hynny y mae Deddf Diogelwch Tân 2021 wedi rhoi eglurder yn eu cylch, sy'n cynnwys:
    • balconïau
    • strwythurau
    • waliau allanol ac unrhyw beth a atodir i wyneb allanol y waliau hynny
    • drysau ffrynt fflatiau unigol

Cadarnhau ai chi yw'r Person Cyfrifol mewn Gweithle

Ystyr gweithle yw unrhyw fangre neu rannau o fangre a ddefnyddir gan gyflogwr ac sydd ar gael i'w gyflogeion fel lle gwaith. Mae'n cynnwys unrhyw le yn y fangre y bydd cyflogai yn cael mynediad iddo tra bydd yn y gwaith ac ardaloedd a ddefnyddir i gael mynediad i'r gweithle, neu sy'n darparu cyfleusterau mewn perthynas â'r gweithle megis:

  • ystafelloedd
  • cynteddau
  • coridorau
  • grisiau

Chi yw'r Person Cyfrifol os mai chi yw'r cyflogwr a bod y gweithle o dan eich rheolaeth i unrhyw raddau (hyd yn oed os nad ydych erioed wedi ymweld â'r fangre neu os ydych wedi penodi rheolwyr i redeg y busnes), er enghraifft:

  • rydych yn rhedeg y cwmni
  • mae'n fusnes teuluol
  • rydych yn hunangyflogedig

Os nad oes unrhyw gyflogwr sy'n Berson Cyfrifol ar gyfer y fangre, chi yw'r Person Cyfrifol os oes gennych rywfaint o reolaeth dros y fangre mewn cysylltiad â chynnal eich masnach, busnes neu ymgymeriad arall (boed hynny er elw ai peidio), er enghraifft:

  • neuadd bentref
  • caban sgowtiaid
  • siop elusen
  • addoldy

Os nad yw'r naill na'r llall o'r disgrifiadau uchod yn gymwys, chi yw'r Person Cyfrifol mewn perthynas â mangre, neu ran o fangre, os mai chi yw perchennog y fangre.

Os nad ydych yn siŵr ai chi yw'r Person Cyfrifol, dylech geisio cyngor arbenigol priodol.

Cadarnhau ai chi yw'r Person Cyfrifol mewn Mangre Breswyl

Chi yw'r Person Cyfrifol am y rhannau annomestig:

  • os yw rhan o'r fangre neu'r fangre gyfan yn weithle, mai chi yw'r cyflogwr a bod y gweithle o dan eich rheolaeth i unrhyw raddau. Yn yr achos hwn, chi yw'r Person Cyfrifol ar gyfer y rhannau o'r fangre sy'n weithle.

Os nad cyflogwr yw'r Person Cyfrifol, yna chi yw'r Person Cyfrifol:

  • os oes gennych reolaeth dros y fangre at ddibenion busnes (boed hynny er elw ai peidio), er enghraifft chi yw'r rhydd-ddeiliad, y landlord neu'r asiant rheoli.
  • os ydych yn berchen ar yr adeilad.

Mewn adeiladau sy'n cynnwys dwy neu ragor o fangreoedd domestig, mae'r rhydd-ddeiliad yn aml yn penodi asiantiad rheoli i reoli'r ardaloedd cyffredin o'r adeilad ac mae'n bosibl y bydd ganddynt reolaeth dros yr ardal hon o'r adeilad.

Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, gan gynnwys manylion unrhyw gontract, mae'n bosibl mai'r cwmni rheoli yw'r Person Cyfrifol neu'r Deiliad Dyletswydd.

Hefyd, pan na fydd unrhyw Berson Cyfrifol arall mewn perthynas ag unrhyw fangre, neu ran o unrhyw fangre, y perchennog yw'r Person Cyfrifol. Gall hyn gynnwys y rhannau annomestig o adeiladau preswyl amlfeddiannaeth lle nad oes asiant rheoli wedi'i gontractio i reoli'r adeilad. Mae hefyd yn cynnwys adeiladau heb eu meddiannu y mae'r Gorchymyn Diogelwch Tân yn gymwys iddynt.

Rhoddir rhagor o wybodaeth am gyfrifoldebau Person Cyfrifol yn y canllawiau hyn.

Cadarnhau a ydych yn Ddeiliad Dyletswydd

Os nad chi yw'r Person Cyfrifol, mae'n bosibl o hyd eich bod yn Ddeiliad Dyletswydd â chyfrifoldebau o dan y Gorchymyn Diogelwch Tân. Bydd eich cyfrifoldebau yn dibynnu ar yr amgylchiadau a faint o reolaeth sydd gennych dros y fangre. Os ydych yn Ddeiliad Dyletswydd, rydych yn ddarostyngedig i'r dyletswyddau o dan y Gorchymyn Diogelwch Tân i'r graddau y maent yn gymwys i'r materion sydd o dan eich rheolaeth.

Hefyd, os bydd contract neu gytundeb tenantiaeth yn ei gwneud yn ofynnol i chi gynnal a chadw neu atgyweirio'r fangre neu unrhyw beth yn y fangre honno neu ar y fangre honno, neu'n gosod rhwymedigaeth arnoch mewn perthynas â diogelwch y fangre, yna tybir eich bod yn Ddeiliad Dyletswydd.

Gall enghreifftiau o Ddeiliaid Dyletswydd gynnwys y canlynol ond nid yw'n rhestr gynhwysfawr:

  • asesydd risgiau tân
  • peiriannydd larymau tân
  • asiant rheoli
  • rheolwr ar ddyletswydd

Os yw'r enghreifftiau hyn (neu rôl debyg) yn disgrifio'ch rôl, mae'n bosibl eich bod yn Ddeiliad Dyletswydd.

Ceir rhagor o wybodaeth am gyfrifoldebau Deiliad Dyletswydd yn y canllawiau hyn.

Mangreoedd a Rennir

Mangreoedd a rennir yw'r rhai â mwy nag un Person Cyfrifol a/neu Ddeiliad Dyletswydd.

Ar gyfer y rhannau annomestig o'r fangre, y cyflogwr neu berchennog y busnes fydd y Person Cyfrifol fwy na thebyg. Ar gyfer y rhannau preswyl, mae'n debygol mai'r landlord, y rhydd-deiliad a/neu'r asiant rheoli fydd y Person Cyfrifol.

Os ydych yn Berson Cyfrifol a neu'n Ddeiliad Dyletswydd mangre a rennir, yna mae'n rhaid ichi gydweithredu a chydgysylltu â Phersonau Cyfrifol a Deiliaid Dyletswydd eraill er mwyn cydymffurfio â gofynion y Gorchymyn Diogelwch Tân, a hynny am y bydd tân mewn un rhan o'r adeilad yn aml yn peryglu'r rhai sy'n bresennol yn y rhannau eraill. Dim ond os bydd pob Person Cyfrifol yn deall y risgiau yn yr adeilad cyfan ac yn gweithredu yn unol â hynny y gellir rhoi mesurau diogelwch tân effeithiol ar waith.

Cyfrifoldebau o dan y Gorchymyn Diogelwch Tân

Mae'r adran hon yn rhoi ychydig o arweiniad lefel uchel ar rolau a chyfrifoldebau Personau Cyfrifol, Deiliaid Dyletswydd a phersonau eraill o dan y Gorchymyn Diogelwch Tân.

Y nod yw helpu Personau Cyfrifol i gyflawni eu dyletswyddau o dan y Gorchymyn Diogelwch Tân.

Nid yw'n cwmpasu'r holl amgylcheddau posibl ac nid yw'n gyfystyr â chyngor cyfreithiol. Mae wedi'i hanelu at unigolion nad ydynt arbenigwyr i'w helpu i ddeall eu dyletswyddau os mai nhw yw'r Person Cyfrifol, neu os ydynt yn Ddeiliad Dyletswydd. Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch yn ychwanegol at y canllawiau hyn, efallai y dylech geisio cyngor arbenigol. Dylai'r canllawiau hyn gael eu darllen ar y cyd â'r Gorchymyn Diogelwch Tân.

Yr hyn y mae'n rhaid i Berson Cyfrifol ei wneud

Os mai chi yw'r Person Cyfrifol, yna bydd angen i chi gyflawni'r dyletswyddau canlynol. Noder mai dim ond amlinelliad bras o'r prif ddyletswyddau a nodir yn y Gorchymyn Diogelwch Tân a geir yma, ac efallai y bydd darpariaethau eraill hefyd yn gymwys i chi.

Mesurau Diogelwch Tân i'w rhoi ar waith

Fel y Person Cyfrifol, mae'n rhaid ichi gydymffurfio ag Erthyglau 8 i 22 a 38 o'r Gorchymyn Diogelwch Tân ac unrhyw reoliadau a wneir o dan Erthygl 24 fel y bo'n berthnasol, sy'n nodi'r dyletswyddau sydd arnoch o dan y Gorchymyn Diogelwch Tân mewn perthynas â diogelwch tân ym mhob rhan o'ch mangre, gan gynnwys gofyniad i gwblhau asesiad risgiau tân.

Mae'n rhaid ichi gofnodi canfyddiadau arwyddocaol yr asesiad risg hwn, gan gynnwys y mesurau sydd wedi cael eu rhoi ar waith neu a fydd yn cael eu rhoi ar waith, ac unrhyw grwpiau o bobl y mae'r asesiad wedi nodi eu bod yn agored iawn i risg, os bydd unrhyw un o'r canlynol yn gymwys:

  • mae gennych bump neu fwy o gyflogeion 
  • ceir trwydded o dan ddeddfiad mewn perthynas â'r fangre, er enghraifft trwydded alcohol.
  • mae hysbysiad newid ar waith mewn perthynas â'r fangre sy'n ei gwneud yn ofynnol i wneud newidiadau.

Fodd bynnag, byddem yn awgrymu y dylid cofnodi pob asesiad risgiau tân er mwyn sicrhau bod gennych gofnod o'r risgiau, ac er mwyn eu diweddaru'n hawdd y tro nesaf y bydd angen asesiad.

Cynnal Asesiad Risgiau Tân

Mae'n rhaid ichi gynnal asesiad risgiau tân o'r fangre a'i adolygu'n rheolaidd.

Asesiad o'r risgiau y mae Personau Perthnasol yn cael eu hamlygu iddynt yw asesiad risgiau tân, a'i ddiben yw nodi'r camau y mae'n rhaid eu cymryd i gydymffurfio â gofynion y Gorchymyn Diogelwch Tân. Bydd asesiad risgiau tân yn cynnwys, ymhlith pethau eraill:

  • adolygiad o'r fangre i nodi unrhyw ardaloedd lle y gallai tân ddechrau
  • y camau y nodwyd y bydd angen eu cymryd i leihau'r tebygolrwydd o dân a chadw pobl yn ddiogel pe bai tân
  • y mesurau diogelwch tân y nodwyd y bydd angen ichi eu rhoi ar waith i wneud y fangre'n ddiogel i gyflogeion neu breswylwyr, yn ogystal â Phersonau Perthnasol eraill

Ystyr Person Perthnasol yw unrhyw un y caniateir iddo fod yn y fangre yn ôl y gyfraith, ac unrhyw rai yng nghyffiniau'r fangre (gan gynnwys y tu allan iddi) a all fod mewn perygl o ganlyniad i dân yn y fangre.

Gallwch gynnal yr asesiad risg eich hun, os ydych yn teimlo eich bod yn gymwys i wneud hynny, neu gallwch drefnu i berson cymwys ei gynnal ar eich rhan. Os byddwch yn trefnu i rywun arall ei gynnal, argymhellir eich bod yn dewis person ag Ardystiad Trydydd Parti. Hyd yn oed os bydd rhywun arall yn ei gwblhau ar eich rhan, chi, fel y Person Cyfrifol, sy'n gyfrifol yn gyfreithiol am yr asesiad risgiau tân.

Dylech chi neu'r person cymwys a benodir gennych adolygu'r asesiad risgiau tân yn rheolaidd a'i ddiweddaru os bydd unrhyw newidiadau sylweddol i'r adeilad, prosesau neu gyfarpar, neu os credwch nad yw'n ddilys mwyach. Mae'n rhaid ichi adolygu'r asesiad risgiau tân yn rheolaidd, ac yn enwedig os oes rheswm dros amau nad yw'n ddilys mwyach, neu os bu newid sylweddol yn y materion y mae'n berthnasol iddo, er enghraifft newidiadau i'r fangre.

Nodir isod enghreifftiau o'r camau y dylech eu cymryd ond nid yw'n rhestr gynhwysfawr:

  • lleihau'r risg o dân, a chymryd camau i sicrhau, os bydd tân, na all ymledu drwy'r adeilad
  • sicrhau bod llwybrau dianc clir, heb rwystrau sydd wedi'u goleuo'n dda ar gael ac y gall drysau allanfeydd argyfwng gael eu hagor yn gyflym ac yn hawdd o'r tu mewn heb fod angen allwedd
  • pan fo drws ar gau at ddibenion diogelwch (megis storfa siop), sicrhau y gall gael ei agor yn hawdd o'r tu mewn drwy osod dyfeisiau bar gwthio ni ddylai'r rhain gael eu rhwystro
  • mewn gweithle, sicrhau bod ffordd o ganfod tanau (fel larymau mwg neu wres, neu, ar gyfer mangreoedd mwy o faint, system larwm awtomatig lawn) a bod hyn yn seinio'r rhybudd i bawb adael yr adeilad
  • mewn gweithle, hyfforddi staff ar yr hyn y dylent ei wneud os bydd tân
  • mewn adeilad preswyl, dweud wrth y preswylwyr beth yw'r mesurau diogelwch tân a strategaeth gwagio'r adeilad
  • cydweithredu a chydgysylltu â Phersonau Cyfrifol eraill (megis mewn canolfan siopa neu adeilad preswyl uwchben swyddfa neu siop) bydd hyn yn helpu i sicrhau y caiff unrhyw risgiau eu nodi, ac y cytunir ar sut y gellir eu rheoli'n briodol
  • cadarnhau bod llwybrau dianc a rennir bob amser yn glir, er enghraifft drwy wneud yn siŵr nad yw siop yn achosi rhwystr ar y llwybrau dianc o adeilad preswyl pan fydd stoc yn cael ei ddadlwytho

Nid yw hon yn rhestr ddiffiniol o'r camau gweithredu i'w cymryd er mwyn ichi gydymffurfio â'r Gorchymyn Diogelwch Tân. Er mwyn cael rhagor o gyngor, cysylltwch â chynghorydd diogelwch tân proffesiynol neu gofynnwch i'ch Gwasanaeth Tân ac Achub lleol am gyngor.

Mewn Gweithleoedd:  Hysbysu Staff am y Risgiau

Bydd angen ichi, ymhlith pethau eraill, wneud y canlynol:

  • cynllunio ar gyfer argyfwng
  • rhoi gwybodaeth, cyfarwyddiadau diogelwch tân a hyfforddiant diogelwch digonol i'ch staff. Nodir yr wybodaeth y bydd yn rhaid ei rhoi yn y Gorchymyn Diogelwch Tân ac mae'n cynnwys risgiau i'r staff a nodwyd gan yr asesiad risg, y mesurau atal a diogelu sydd ar waith, a'r gweithdrefnau argyfwng a'r mesurau sydd ar waith. Nodir gofynion hyfforddi yn y Gorchymyn Diogelwch Tân hefyd.

Dylech hefyd wrando ar wybodaeth a roddir gan eraill ynglŷn â phryderon diogelwch tân, er enghraifft staff, cwsmeriaid neu breswylwyr, ei chydnabod a gweithredu arni, lle y bo'n briodol.

Os ydych yn cyflogi 5 neu fwy o bobl, mae'n rhaid ichi gofnodi canfyddiadau arwyddocaol eich asesiad risgiau tân ac unrhyw grwpiau y nodwyd eu bod yn wynebu risg benodol.

Os bydd angen rhagor o gyngor arnoch, gall eich Gwasanaeth Tân ac Achub lleol eich helpu i benderfynu beth yn union y bydd angen ichi ei wneud i gadw pobl yn ddiogel.

Cyfrifoldebau Deiliad Dyletswydd

Fel Deiliad Dyletswydd, bydd gennych rai cyfrifoldebau am ddiogelwch tân o dan y Gorchymyn Diogelwch Tân.

Er enghraifft, gan ddefnyddio'r enghreifftiau blaenorol o Ddeiliad Dyletswydd, gall aseswyr risgiau tân neu weithwyr proffesiynol eraill ym maes diogelwch tân, gael eu cyflogi i nodi'r mesurau diogelwch sydd eu hangen drwy asesiad risgiau tân i gadw pobl yn ddiogel os bydd tân.

Penodir peirianwyr larymau tân i gynnal a chadw ac, os oes angen, atgyweirio elfen allweddol o'r mesurau diogelwch tân ar gyfer y fangre.

Fel Deiliad Dyletswydd, dylech ddeall yn glir beth yw eich cyfrifoldebau o dan y Gorchymyn Diogelwch Tân. Efallai y bydd eich cyfrifoldebau yn gysylltiedig â'r rhai a amlinellir mewn unrhyw gontract neu gytundeb tenantiaeth ond nid o reidrwydd.

Cyflogeion

Fel cyflogai, dylech ddilyn y mesurau diogelwch tân a roddwyd ar waith ac mae'n rhaid ichi gydweithredu â'ch cyflogwr i'w helpu i gydymffurfio â'i ddyletswyddau o dan y Gorchymyn Diogelwch Tân.

Os byddwch yn gweld bod rhywbeth yn beryglus, mae'n rhaid ichi hysbysu'ch cyflogwr. Mae'n rhaid ichi hefyd gymryd gofal rhesymol er eich diogelwch ei hun a diogelwch eraill y gall eich anweithredoedd yn y gwaith effeithio arnynt.

Mae'n rhaid ichi beidio ag ymyrryd ag unrhyw fesurau a roddir ar waith, er enghraifft, tynnu diffoddwyr tân oddi ar eu bracedi, defnyddio rhywbeth i gadw drysau tân ar agor neu orchuddio cyfarpar canfod tân.

Preswylwyr

Os ydych yn preswylio mewn adeilad y mae'r Gorchymyn Diogelwch Tân yn gymwys iddo (fel bloc o fflatiau neu dŷ a feddiennir gan fwy nag un aelwyd) dylech wneud y canlynol:

  • cydymffurfio ag unrhyw fesurau diogelwch tân sydd wedi cael eu rhoi ar waith a pheidio ag ymyrryd â nhw. Er enghraifft, ni ddylech ymyrryd â'r ddyfais ar y drws tân ym mynedfa eich fflat sy'n peri iddo gau ohono'i hun, na'i thynnu ymaith, na gosod drws nad yw'n cynnig diogelwch priodol rhag tân yn lle drws tân.
  • rhoi gwybod am unrhyw ddiffygion diogelwch tân i'r Person Cyfrifol, neu ei gynrychiolwyr ar y safle (megis yr asiant rheoli neu'r gofalwr porthwr os oes un).

Cosbau a Gorfodi

Os ydych yn Berson Cyfrifol neu'n Ddeiliad Dyletswydd a'ch bod yn torri'r Gorchymyn Diogelwch Tân, efallai y caiff camau gorfodi eu cymryd yn eich erbyn.

Caiff Awdurdodau Tân ac Achub archwilio mangreoedd a gallant roi hysbysiadau newid a/neu orfodi  yn dweud wrthych am newidiadau y bydd angen ichi eu gwneud. Gallant hefyd roi hysbysiadau gwahardd sy'n gwahardd y defnydd o'ch mangre neu'n cyfyngu arno. Os nad ydych yn cydymffurfio â'r hysbysiadau hyn, na'ch dyletswyddau o dan y Gorchymyn Diogelwch Tân, efallai y cewch eich erlyn ac, os ydych yn cael eich barnu'n euog, efallai y cewch ddedfryd o garchar neu ddirwy.

Cysylltiadau Gwasanaethau Tân ac Achub (er gwybodaeth)

Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Rhondda Cynon Taf
  • Merthyr Tudful
  • Caerdydd
  • Bro Morgannwg
  • Caerffili
  • Blaenau Gwent
  • Torfaen
  • Casnewydd
  • Sir Fynwy

Ffôn: 01443 232000

Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru

  • Powys
  • Ceredigion
  • Sir Benfro
  • Sir Gaerfyrddin
  • Abertawe
  • Castell-nedd Port Talbot

Ffôn: 0370 6060699

Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

  • Ynys Môn
  • Gwynedd
  • Conwy
  • Sir Ddinbych
  • Sir y Fflint
  • Wrecsam

Ffôn: 01745 535250