Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Gwell Iechyd

Mae rhieni y mae eu plant wedi colli eu brechlyn ffliw yn yr ysgol yn cael eu hannog i fanteisio ar y cynnig yn fuan gan fod y ffliw ar gynnydd yng Nghymru ar hyn o bryd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae mwy na 800,000 o bobl yng Nghymru eisoes wedi cael eu brechu ond mae cyfraddau'r ffliw yng Nghymru wedi cynyddu yn ystod yr wythnos ddiwethaf a disgwylir rhag o achosion yn y cyfnod cyn y Nadolig.

Mae straen newydd o'r ffliw yn cylchredeg, gydag achosion wedi'u cadarnhau ymhlith plant o dan bum mlwydd oed ar lefelau uchel iawn ar hyn o bryd.

Mae brechlyn y ffliw ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng dwy oed a 16 oed yn chwistrell trwyn, nid yn bigiad. Dangoswyd bod brechlyn eleni yn effeithiol iawn, gan atal plant rhag gorfod mynd i'r ysbyty.

Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, yr Athro Isabel Oliver:

Mae brechu yn achub bywydau, yn amddiffyn pobl a chymunedau, ac yn cryfhau gwydnwch y GIG.

Mae'n bwysig iawn bod pawb sy'n gymwys yn manteisio ar eu cynnig o frechlyn y ffliw am ddim y gaeaf hwn. 

Rydyn ni'n gweld straen ffliw newydd yn mynd ar led a dechrau cynharach i dymor y ffliw ond mae amser o hyd i gael y brechlyn felly ewch ati nawr, i amddiffyn eich plentyn mewn pryd ar gyfer y Nadolig

Dywedodd y Dr Chris Johnson, Pennaeth y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

Mae'r brechlyn chwistrell trwyn rhag y ffliw yn ddiogel, yn ddi-boen, ac yn helpu i amddiffyn miloedd o blant o oedran ysgol yng Nghymru bob blwyddyn. Gall y ffliw fod yn ddifrifol iawn i blant, ond mae un chwistrell gyflym yn helpu i'w cadw'n iach y gaeaf hwn ac yn lleihau'r risg o salwch difrifol.

Mae rhoi cydsyniad i'ch plentyn gael y brechlyn ar ffurf chwistrell trwyn yn rhan arferol o'i gadw'n iach yn ystod y flwyddyn ysgol. Mae'n helpu hefyd i amddiffyn y teulu cyfan drwy atal y ffliw rhag lledaenu i frodyr a chwiorydd, neiniau a theidiau a pherthnasau sydd mewn mwy o berygl.

Mae bron miliwn o bobl yng Nghymru yn cael eu brechu rhag y ffliw bob blwyddyn, felly gwnewch yn siŵr bod eich plentyn yn cael ei amddiffyn hefyd drwy roi cydsyniad iddynt gael y brechlyn chwistrell trwyn rhag y ffliw.

Mae brechlyn y ffliw yn rhad ac am ddim i bob plentyn o ddwy flwydd oed (a anwyd cyn Medi 2023) hyd at flwyddyn ysgol 11, ac i bob plentyn mewn grŵp risg glinigol dros 6 mis oed.

Mae brechlyn y ffliw yn rhad ac am ddim i bob 2 o ddwy flwydd oed (a anwyd cyn Medi 2023) hyd at flwyddyn ysgol 11, ac i bob plentyn mewn grŵp risg glinigol dros 6 mis oed.

Mae gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnwys manylion am sut i gael brechiad am ddim i blentyn os nad oedd yn yr ysgol pan ymwelodd y tîm brechu neu os na chafodd ei ffurflen gydsyniad ei llenwi mewn pryd. Fel arfer bydd hyn drwy eich meddyg teulu neu'ch bwrdd iechyd.

Mae llawer o oedolion yn gymwys i gael brechlyn am ddim gan gynnwys pawb 65 oed a hŷn, pobl â chyflwr iechyd hirdymor, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, menywod beichiog a gofalwyr.

I wirio a ydych yn gymwys i gael brechiad rhag y ffliw am ddim a sut i gael un, ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.