Mae’r ymchwil hwn yn ceisio egluro pam mae cynhyrchiant llafur yng Nghymru yn gymharol isel.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Defnyddir cynhyrchiant yn eang fel mesur o ffyniant economaidd, a dywedir ei fod yn benderfynydd allweddol o safonau byw. Mae’n mynegi mewn ffurf safonedig y gwerth a ychwanegir pan gynhyrchir nwyddau a gwasanaethau. Mae datblygu dealltwriaeth o’r rhesymau dros gynhyrchiant isel yng Nghymru yn bwysig felly ar gyfer datblygu ymyriadau polisïau llwyddiannus.
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno amcangyfrifon atchweliad o effaith hygyrchedd ar gynhyrchiant gan ddefnyddio dadansoddiad ystadegol o gronfa ddata lefel-busnes yr Arolwg Busnes Blynyddol. Mae’r data yn y ffynhonnell hon yn berthnasol i 2012, gan mai hon yw’r flwyddyn ddiweddaraf y mae gwybodaeth ar gael amdani gan gynnwys yr amcangyfrifon stoc cyfalaf. Mae set ddata’r Arolwg Busnes Blynyddol yn cynnwys gwybodaeth am bob cwmni sydd â mwy na 250 o weithwyr a sampl strwythuredig o gwmnïau sydd â llai na 250 o weithwyr.
Mae’r adroddiad yn amlygu bylchau cynhyrchiant ar lefel ranbarthol ar draws Cymru a Lloegr ac yn darparu dadansoddiad o’r ffactorau sy’n egluro’r bylchau hyn.
Cyswllt
Ffôn: 029 2082 1459Ebost: jarlath.costello@wales.gsi.gov.uk
Cyfryngau
Ffôn: 029 2089 8099