Neidio i'r prif gynnwy

Nod profion COVID-19 yw canfod y bobl sydd wedi'u heintio gan y feirws ar hyn o bryd, drwy gynnal prawf swab, neu ganfod y bobl sydd wedi dod i gysylltiad â'r feirws, drwy gynnal prawf gwrthgyrff.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r math o brawf a brosesir drwy labordai yng Nghymru yn cynnwys 'un swab sych' sy'n cael ei gymryd o gefn y gwddf.this data is more Mae'r math o brawf o brosesir drwy labordai yn Lloegr yn cynnwys casglu samplau 'dau swab gwlyb' sy'n cael eu cymryd o'r trwyn a'r gwddf.

Defnyddir profion gwrthgyrff COVID-19 i weld os yw person eisoes wedi cael y feirws. Mae’r prawf gwrthgyrff yn gweithio drwy gymryd sampl o waed a’i brofi i weld os oes gwrthgyrff yn bresennol. Caiff gwrthgyrff eu cynhyrchu gan y corff mewn ymateb i haint, ac maent fel rheol i’w gweld yn y gwaed tua phythefnos ar ôl i berson gael ei heintio.

Mae sawl ffordd y gellir profi person ar gyfer y coronafeirws, yn dibynnu ar b'un a yw yn yr ysbyty, yn weithiwr hanfodol neu'n aelod o'r cyhoedd. Ac mae sawl ffordd y gellir cyflwyno'r data ar y profion hyn, yn dibynnu ar yr hyn rydym yn ceisio ei fesur. Nod y canllaw hwn yw egluro'r ffyrdd y caiff profion y coronafeirws eu cyfrif a rhywfaint o'r derminoleg gyffredin.

Mae siart lif yn dangos y broses ar gyfer pob llwybr profi a sut y caiff yr amseroedd dychwelyd eu mesur.

Ffynonellau data

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi dangosfwrdd gwyliadwriaeth dyddiol yn cynnwys data ar brofion a awdurdodwyd, cyfnodau profion, achosion positif, nifer yr achosion a marwolaethau oherwydd COVID-19. Caiff y data yn y dangosfwrdd eu crynhoi a'u cyhoeddi yn ddyddiol er mwyn adlewyrchu'r gweithgarwch COVID-19 diweddaraf hyd at y diwrnod blaenorol a chânt eu defnyddio at ddibenion gwyliadwriaeth. Data dros dro a gyflwynir yn y dangosfwrdd a gellir eu diwygio wrth i fwy o wybodaeth gael ei rhyddhau.

Mae Llywodraeth Cymru yn llunio crynodeb wythnosol o'r wybodaeth hon, ynghyd â manylion ychwanegol ar nifer y profion ar weithwyr hanfodol, lleoliad casglu'r sampl a’r amseroedd ar gyfer dychwelyd y profion.

O 13 Gorffennaf, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyfuno profion a chanlyniadau a broseswyd yn labordai GIG Cymru a labordai heblaw GIG Cymru, a adroddwyd yn flaenorol ar wahân. Mae manylion pellach wedi'u cynnwys yn y datganiad sy'n amlinellu pa dablau a siartiau sy'n dangos profion sydd wedi'u hawdurdodi ar gyfer y ddau labordy neu ar wahân. Mae'r data wedi'i ddiwygio'n hanesyddol ac eithrio'r tabl atodiadau sy'n dangos nifer y profion a awdurdodwyd yn ystod y 24 awr ddiwethaf i 1pm, sy'n adlewyrchu'r hyn a gyhoeddwyd ar ddangosfwrdd gwyliadwriaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ddiwrnod penodol.

Dyddiadau

Defnyddir dyddiadau prawf gwahanol wrth adrodd ar ddata profion, yn dibynnu ar natur y data a'r defnydd a wneir ohonynt. Ar gyfer data ar wyliadwriaeth gyflym, defnyddiwyd y dyddiad prawf a awdurdodwyd ac mae wedi'i gynnwys yn y prif ffigurau a gyflwynwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, ond ar gyfer gwyliadwriaeth fanwl dros amser defnyddiwyd dyddiad y sbesimen.

Y dyddiad prawf a awdurdodwyd yw'r adeg y bydd canlyniad y prawf wedi'i awdurdodi a'i ryddhau i System Gwybodaeth Labordai Cymru i'w ddefnyddio gan glinigwyr ac er mwyn hysbysu cleifion o'r canlyniad. Mae'r amser a gymerir i brosesu sampl a darparu canlyniad yn amrywio ac nid yw'n nodi nifer y samplau a gasglwyd na rhai a broseswyd ar ddiwrnod penodol.

Dyddiad y sbesimen yw'r dyddiad y casglwyd y sampl oddi wrth y claf. Gan fod yr amser a gymerir i brofi samplau ac adrodd ar y canlyniadau'n amrywio, mae'n bosibl y caiff achosion newydd a nodir yn ddyddiol yn y prif grynodeb gan Iechyd Cyhoeddus Cymru eu dosbarthu ar draws amrywiaeth o ddyddiadau sbesimenau. Defnyddir dyddiad y sbesimen yn y siartiau yn nangosfwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddangos nifer y samplau prawf a gymerwyd a'r samplau positif bob dydd. Mae hwn yn ddyddiad addas ar gyfer cadw gwyliadwriaeth ar COVID-19 dros gyfnod.

Beth sydd ar gael o Ddangosfwrdd Gwyliadwriaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru?

Nifer y profion a awdurdodwyd bob dydd, fel y nodwyd yn wreiddiol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae nifer y profion a awdurdodwyd bob dydd yn cynrychioli nifer y canlyniadau profion sydd newydd gael eu hawdurdodi, sydd ar gael yn y 24 awr hyd at 13:00 bob dydd. Efallai nad y dyddiad y cynhaliwyd y profion hyn mewn gwirionedd oedd y dyddiad yr awdurdodwyd y canlyniadau neu y cawsant eu cyhoeddi at ddibenion gwyliadwriaeth.

Cyflwynir y data hyn fel cipolwg o ganlyniadau a awdurdodwyd dros y 24 awr blaenorol a'r nod yw rhoi darlun o wyliadwriaeth gyflym yn y modd mwyaf amserol. Mae'n rhoi syniad o nifer y profion a awdurdodwyd o fewn cyfnod o 24 awr, fodd bynnag, gall gynnwys unigolion sydd wedi cael eu profi fwy nag unwaith o fewn cyfnod profi o chwe wythnos.

Cyflwynir y data hyn ym mhrif grynodeb Dangosfwrdd Gwyliadwriaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru bob dydd ond mae’r gyfres ôl-weithredol o brofion awdurdodedig yn fesur mwy diweddar a chyflawn i'w ddefnyddio. Felly, nid yw’r data yn y gyfres hon yn cael eu diweddaru, ond mae nifer y profion a awdurdodir bob diwrnod canlendr yn cael ei ddiweddaru.  

Unigolion a brofwyd a gafodd ganlyniad prawf a awdurdodwyd yn ôl dyddiad y prawf

Mae'r data hyn yn cyflwyno nifer yr unigolion a brofwyd (cyfnodau profi) gyda chanlyniadau a awdurdodwyd. Caiff nifer y cyfnodau profi a'r achosion positif eu nodi yn ôl y dyddiad sbesimen, sef y dyddiad y cafodd y sampl ei chymryd oddi wrth y claf.

Defnyddir y data hyn at ddibenion gwyliadwriaeth ac mae'r data yn addas at ddibenion cymharu dros amser.

Gellir profi unigolion fwy nag un waith am COVID-19 am sawl rheswm. Mae cyfnod profi yn para chwe wythnos yn dechrau o ddyddiad y sampl gyntaf a gaiff ei chymryd oddi wrth y claf. Dim ond unwaith y caiff unigolion sy'n cael eu profi sawl gwaith yn ystod cyfnod o chwe wythnos eu cyfrif yn ystod y cyfnod hwnnw.

Os bydd unrhyw un o ganlyniadau'r profion ar gyfer yr unigolyn yn bositif yna'r canlyniad hwnnw a gaiff ei gyflwyno. Os bydd unigolyn yn cael prawf positif fwy nag unwaith yn ystod y cyfnod o chwe wythnos yna dim ond fel un achos newydd y caiff ei gofnodi.

Bydd unrhyw brofion a gynhelir fwy na chwe wythnos ar ôl y prawf cyntaf yn cychwyn cyfnod profi newydd.

Darperir gwybodaeth ar lefel Bwrdd Iechyd Lleol i ddangos llwybrau gwahanol y clefyd yng Nghymru. Mae'r wybodaeth hon yn seiliedig ar ardal breswyl ac ni fydd o reidrwydd yn adlewyrchu'r Bwrdd Iechyd Lleol lle cafodd y claf ei drin. Darperir y dosbarthiad oedran a rhyw o gyfanswm y cyfnodau profi a chyfanswm yr achosion positif hefyd ar gyfer y data diweddaraf sydd ar gael.

Caiff y data hyn eu hadolygu'n rheolaidd wrth i fwy o brofion gael eu hawdurdodi a'u cynnwys yn y gyfres amser. Bydd cyfanswm nifer y profion a awdurdodwyd yn amrywio ac mae'n debygol y bydd yn uwch na nifer yr unigolion a brofwyd.

Beth sydd ar gael o grynodeb profi wythnosol Llywodraeth Cymru?

Mae crynodeb profi wythnosol Llywodraeth Cymru yn cynnwys gwybodaeth o Ddangosfwrdd Gwyliadwriaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru a amlinellwyd uchod. Mae hyn yn cynnwys:

  • nifer y profion a awdurdodwyd bob dydd, fel y nodwyd yn wreiddiol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • nifer y profion a awdurdodwyd bob dydd, cyfres ôl-weithredol
  • unigolion a brofwyd a gafodd ganlyniad prawf a awdurdodwyd yn ôl dyddiad y prawf

Mae'r diffiniadau a ddefnyddir yn y crynodeb profi wythnosol yn cyd-fynd â'r rhai yn Nangosfwrdd Gwyliadwriaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru a amlinellwyd uchod. Mae'r crynodeb wythnosol hefyd yn cynnwys y setiau data canlynol nad ydynt ar gael drwy'r Dangosfwrdd Gwyliadwriaeth.

Nifer y profion a awdurdodwyd bod diwrnod calendr, cyfres ôl-weithredol

Mae'r data hyn yn fesur mwy cyfoes a chyflawn i'w ddefnyddio na Dangosfwrdd Gwyliadwriaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru wrth gymharu ffigurau dyddiol. Mae'r data yn cynnwys profion nad oeddent, o bosibl, wedi eu nodi’n wreiddiol yn y prif ffigur cyflym, ond eu bod yn cael eu cynnwys yn awr yn dilyn proses bellach o gysoni a sicrhau ansawdd. Defnyddir y prif ffigur a gyflwynir bob dydd i roi darlun o'r wyliadwriaeth gyflym am 1yp bob dydd.

Mae nifer y profion a awdurdodwyd bob dydd yn cynrychioli nifer y canlyniadau profion sydd newydd gael eu hawdurdodi sydd ar gael ar ddiwrnod calendr yr awdurdodiad. Efallai nad y dyddiad y cynhaliwyd y profion hyn mewn gwirionedd oedd y dyddiad yr awdurdodwyd y canlyniadau neu y cawsant eu cyhoeddi at ddibenion gwyliadwriaeth.

Cyflwynir y data hyn fel cipolwg o ganlyniadau a awdurdodwyd dros y 24 awr blaenorol a'r nod yw rhoi darlun o wyliadwriaeth gyflym yn y modd mwyaf amserol. Mae'n rhoi syniad o nifer y profion a awdurdodwyd o fewn cyfnod o 24 awr, fodd bynnag, gall gynnwys unigolion sydd wedi cael eu profi fwy nag unwaith o fewn cyfnod profi o chwe wythnos.

Mae'r data a gyflwynir yn y datganiad ystadegol yn cofnodi cyfanswm nifer y profion a awdurdodwyd ar gyfer pob diwrnod calendr. Mae'r tablau sy'n cyd-fynd â hwy yn cyflwyno'r cyfanswm ond hefyd y rhaniad rhwng y nifer a awdurdodir gan labordai GIG Cymru a labordai heblaw rhai GIG Cymru (a elwir yn labordai goleudy).

Nifer y profion ac achosion fesul gweithiwr hanfodol a phreswylydd lle cyflogir gweithwyr hanfodol

Mae’r data hyn yn rhoi cipolwg ar adeg benodol o gyfanswm y profion a chanlyniadau awdurdodedig o weithwyr allweddol a phreswylwyr lle cyflogir gweithwyr hanfodol.

Mae’r data yn dangos nifer y profion, yr achosion negatif a’r achosion positif. Gellir eu defnyddio i fonitro’r achosion positif a’r profion a gynhaliwyd ymhlith gweithwyr hanfodol a phreswylwyr lle cyflogir gweithwyr hanfodol.

Y brif ffynhonnell wybodaeth ar gyfer nodi bod prawf yn ymwneud â statws rhywun fel gweithiwr allweddol neu breswylydd mewn lleoliad penodol yw'r meysydd ‘Site’ a ‘Qualifier’ yn y system Gwneud Cais Electronig (ETR). Dim ond ar gyfer profion sy'n cael eu prosesu ym labordai GIG Cymru y mae hyn ar gael, ac mae'r dewisiadau sydd ar gael ar gyfer y meysydd hynny wedi newid yn ystod y pandemig, mewn ymateb i newidiadau yn y gofynion gweithredol.

Mae llawer o brofion ers canol mis Mehefin 2020 yn cael eu cofnodi fel "gweithiwr allweddol neu breswylydd: cartref gofal" oherwydd mai cartref gofal oedd lleoliad y prawf. Lansiwyd porth cartrefi gofal Llywodraeth y DU yn fyw ar 15 Mehefin 2020.

Mae rhai profion yn cael eu cofnodi fel “gweithiwr allweddol neu breswylydd: carchar neu ganolfan gadw” oherwydd mai carchar a wnaeth yr atgyfeiriad neu mai mewn carchar y cynhaliwyd y prawf.

Mae rhai profion cynnar wedi’u cofnodi fel “gweithiwr allweddol: gofal iechyd – arall neu anhysbys” ar y sail ffynhonnell yr atgyfeiriad (e.e. adran Iechyd Galwedigaethol.)

Caiff rhai profion cyn dydd Llun 18 Mai 2020 eu nodi fel "gweithiwr allweddol: gofal iechyd - arall neu anhysbys" ar y sail bod yr unigolion wedi’u profi mewn Uned Brofi Gymunedol neu ganolfan debyg ac nadoes unrhyw wybodaeth arall ar gael am statws yr unigolyn a brofwyd. 

Mae nifer y profion a gofnodir ar gyfer gweithwyr hanfodol a phreswylwyr lle cyflogir gweithwyr hanfodol yn ddibynnol ar gofnodi categori’r gweithiwr hanfodol yn y system pan gymerwyd y sampl. Ar hyn o bryd nid yw'n bosibl gwahaniaethu rhwng gweithwyr allweddol a phreswylwyr ar gyfer samplau a broseswyd mewn labordai nad ydynt yn rhan o GIG Cymru, felly maent wedi'u cynnwys gyda'i gilydd yn y tabl.

Mae'n bosibl bod y data hyn yn cynnwys profion lluosog i unigolion.

Mae rhywfaint o'r data manwl wedi cael eu hatal er mwyn osgoi eu datgelu.

Lleoliad profion

Yng nghrynodeb wythnosol Llywodraeth Cymru o data profi mae tablau lleoliad profion yn cyflwyno nifer wythnosol y profion a awdurdodir gan wahanol leoliadau profi. Mae tabl ar wahân ar gyfer profion a awdurdodwyd yn labordai GIG Cymru ac un arall ar gyfer profion a awdurdodwyd mewn labordai heblaw GIG Cymru.

Cafodd lleoliad profion eu hail gategoreiddio o 12 Awst 2020 ymlaen ar gyfer data presennol a hanesyddol i adlewyrchu’r gwahanol lwybrau profi y gall unigolyn eu dilyn. Mae samplau sydd wedi’u casglu yn y gymuned o unedau profi cymunedol, unedau profi symudol a chanolfannau profi torfol lle mae angen clinigol, wedi cael eu cyfuno i’r categori Cymunedol: ar alw. Cafodd y rhain eu nodi gan ddefnyddio’r maes asymptomatig/symptomatig o WLIMS a gafodd ei gynnwys yn y system Gwneud Cais Electronig o 18 Mehefin. Yn bennaf, unigolion yw’r rhain nad ydynt wedi cael eu nodi yn asymptomatig. Mae hyn hefyd yn cynnwys profion ysbyty ar gyfer unigolion sy’n asymptomatig fel rhan o brofion asymptomatig cyn llawdriniaeth, cyn geni babi, ac sy’n gysylltiedig ag oncoleg (sydd yn gyffredinol yn cael eu cynnal ar alw).

Mae samplau a gasglwyd o weithwyr allweddol asymptomatig a phreswylwyr lle cyflogir gweithwyr hanfodol wedi cael eu cynnwys yn y categori Cymunedol: rhaglen sgrinio gweithwyr allweddol asymptomatig. Mae’r rhain wedi’u nodi fel gweithwyr allweddol a phreswylwyr lle cyflogir gweithwyr allweddol, sydd wedi cael eu cofnodi yn asymptomatig ar y system Gwneud Cais Electronig, a’u bod ar y llwybr sgrinio gweithwyr allweddol asymptomatig. Cynhelir mwyafrif y profion hyn mewn lleoliad y tu allan i’r ganolfan brofi, megis mewn cartref gofal neu garchar, ac maent yn adlewyrchu proses wahanol i’r samplau a gesglir mewn canolfannau profi.

Gall rhai o’r profion sgrinio ar gyfer gweithwyr allweddol asymptomatig neu breswylwyr a gaiff eu cynnwys yn y categori hwn eu cynnal wyneb yn wyneb fel rhan o system brofi gymunedol a thorfol ehangach. Mae angen gwneud rhagor o waith i ddeall y gwahaniaeth hwn yn llawn, ac mae’n bosibl y bydd angen symud rhai profion rhwng categorïau mewn datganiadau yn y dyfodol.

Mae elfen asymptomatig y data wedi cael ei chasglu ers 18 Mehefin, a’i chynnwys yn y datganiad hwn o 22 Mehefin ymlaen, felly ceir wythnos lawn o ddata. Cyn hyn, nid oedd y data hwn ar gael, felly nid yw’n bosibl rhoi dadansoddiad. Os nad yw’r maes wedi’i lenwi yn y system Gwneud Cais Electronig, tybir nad yw’r unigolyn yn asymptomatig ac yn rhan o raglen sgrinio ar gyfer gweithwyr allweddol.

Ysbytai

  • Caiff yr holl samplau a gesglir mewen ysbytai yng Nghymru eu prosesu yn labordai GIG Cymru ac adroddir arnynt yn nhablau 7 ac 8.

Profi yn y gymuned a phrofi torfol: wyneb yn wyneb

  • Samplau a gesglir o unedau profi cymunedol, unedau profi symudol a chanolfannau profi torfol a brosesir yn labordai GIG Cymru lle ceir angen clinigol i gael prawf, er enghraifft bod yr unigolyn yn dangos symptomau neu brofion sgrinio cyn llawdriniaeth.
  • Mae Unedau Profi Cymunedol yng Nghymru yn gysylltiedig â lleoliadau gofal iechyd ac yn cael eu rhedeg gan fyrddau iechyd lleol. Rhoddir blaenoriaeth i brofion ar gyfer gweithwyr gofal iechyd, ond mae rhai yn cynnal profion ar gyfer gweithwyr allweddol eraill os oes modd. Caiff y gwaith profi ei drefnu ar lefel leol gan y byrddau iechyd.
  • Fel arfer, canolfan profi drwy ffenest y car yw canolfannau profi torfol, a chaiff samplau a gesglir yma eu prosesu yn bennaf mewn labordai nad ydynt yn rhai GIG Cymru. Fodd bynnag, mae labordai GIG Cymru yn prosesu samplau rhai canolfannau.
  • Gallwch weld rhestr o ganolfannau yn y canllawiau Profi am y coronafeirws: Cyfleusterau profi coronafeirws rhanbarthol.
  • Mae profion a brosesir drwy labordai GIG Cymru a labordai heblaw am rai GIG Cymu (Labordai Goleudy) wedi’u nodi ar wahân, ac wedi’u cynnwys mewn tablau gwahanol.

Sgrinio gweithwyr allweddol asymptomatig drwy labordai ategol

  • Samplau a gesglir gan unigolion sy’n rhan o’r rhaglen sgrinio asymptomatig i weithwyr allweddol
  • Caiff mwyafrif y samplau eu casglu o leoliadau heblaw am ganolfan brofi ac fe’u gelwir yn brofion ategol, er enghraifft profion pob pythefnos ar gyfer staff cartrefi gofal fel rhan o bolisi profi cartrefi gofal Llywodraeth Cymru.
  • Mae’n bosibl y bydd profion sgrinio gweithwyr allweddol yn cymryd mwy o amser i’w gwblhau, gan fod yr unigolion hyn yn asymptomtig ar y cyfan, a cheir proses estynedig o ran cludo, o gymharu â phrofion a gesglir mewn canolfannau profi.

Profion cartref

  • Caiff yr holl brofion cartref eu prosesu mewn labordai heblaw rhai GIG Cymru ac adroddir arnynt yn nhablau 9 ac 10.

Amseroldeb canlyniadau

Cyflwynir manylion am amseroldeb y profion a awdurdodwyd yng nghrynodeb wythnosol Llywodraeth Cymru o ddata profion, yn y tabl ‘lleoliad y profion’.  Fe'i dangosir fel cyfran y profion a gafodd ganlyniad awdurdodedig o fewn 1 diwrnod calendr, 2 ddiwrnod calendr a 3 diwrnod calendr ar ôl casglu'r sampl oddi wrth y claf. Cyflwynir y canlyniadau mewn diwrnodau calendr gan nad yw llawer o'r profion sy'n cael eu prosesu yn labordai GIG Cymru yn cynnwys gwybodaeth am yr amser y casglwyd y sbesimen. Mae gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau bod y broses o gipio’r wybodaeth hon yn fwy dibynadwy.

Caiff yr amseroedd dychwelyd eu cyfrifo o’r dyddiad pan gymerwyd y sampl tan y dyddiad pan ryddhawyd y canlyniad i System Rheoli Gwybodaeth Labordai Cymru fel ei fod ar gael i glinigwyr. Caiff cleifion mewn ysbytai eu hysbysu gan y clinigwyr sy'n eu trin, a chaiff y rhan fwyaf o'r clefion y casglwyd samplau oddi wrthynt mewn ffyrdd eraill eu hysbysu drwy wasanaeth negeseuon testun Iechyd Cyhoeddus Cymru, sef yr un diwrnod â'r dyddiad awdurdodi yn y rhan fwyaf o achosion.

Caiff data ar yr amser a gymerir i dderbyn canlyniad prawf COVID-19 ei rannu yn ôl llwybr profi, gan y bydd hyn yn cael effaith ar yr amser a gymerir i gwblhau'r gwaith o brosesu profion. Mae gofyn postio profion cartref a’u cludo i’r labordy.  Mae’n bosibl y bydd profion sgrinio gweithwyr allweddol yn cymryd mwy o amser i’w gwblhau, gan fod yr unigolion hyn yn asymptomtig ar y cyfan, a cheir proses estynedig o ran cludo o gymharu â phrofion a gesglir mewn canolfannau profi. Er enghraifft, efallai y bydd cartrefi gofal yn cynnal sypiau o brofion yn ôl gwahanol shifftiau staff cyn i’r profion gael eu cludo i’r labordy i’w prosesu.

Bydd profion ar unigolion symptomatig yn gyffredinol mewn canolfannau profi neu unigolion sy’n cael eu profi fel rhan o raglen brofi asymptomatig cyn llawdriniaeth, cyn geni babi, neu sy’n gysylltiedig ag oncoleg (h.y. angen clinigol) yn dilyn llwybr profi gwahanol sy’n adlewyrchu’r angen clinigol i gael eu profi.

Gall y dulliau hyn gael effaith ar amser dychwelyd y prawf.

Ceir siart lif ar y brif dudalen yn dangos y broses ar gyfer pob llwybr profi a sut y caiff yr amseroedd dychwelyd eu mesur, o dan y teitl Siart Lif Amseroedd Darparu Profion COVID-19.

Profi gwrthgyrff

Cyflwynir nifer y profion gwrthgyrff yng nghrynodeb wythnosol Llywodraeth Cymru o ddata profi sy'n amlinellu nifer y canlyniadau cadarnhaol, negyddol a ‘equivocal’. Os bydd eich prawf gwrthgyrff yn amwys, bydd hynny’n golygu bod y canlyniad yn amhendant.

Ar hyn o bryd, grwpiau â blaenoriaeth yn unig sy’n medru cael profion gwrthgyrff. Am y tro, bydd y canlynol yn cael blaenoriaeth:

  • sampl o staff ysgolion sydd wedi bod yn gweithio yn yr hybiau addysg yn cefnogi plant gweithwyr allweddol a phlant agored i niwed yn ystod y pandemig
  • gweithwyr gofal iechyd, gan roi blaenoriaeth i’r rhai sydd o bosib wedi dod i gysylltiad â’r feirws dro ar ôl tro
Crynodeb o'r data a gyhoeddwyd
Enw'r gyfres Uned adrodd Dyddiad adrodd Stamp amser Dadansoddiadau ar gael
Profion a awdurdodwyd bob dydd fel yr adroddwyd yn wreiddiol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru Profion Y dyddiad yr awdurdodwyd canlyniad y prawf 24 awr hyd at 13:00 bob dydd Dim
Profion a awdurdodwyd fesul diwrnod calendr, cyfres ôl-weithredol Profion Y dyddiad yr awdurdodwyd canlyniad y prawf Diwrnod calendr Lleoliad profion, categori gweithwyr hanfodol a preswylydd
Unigolion a brofwyd gyda chanlyniad prawf a awdurdodwyd Unigolion. Caiff pob person ei gyfrif unwaith o fewn 'cyfnod profi' o chwe wythnos. Y dyddiad sbesimen, dyddiad casglu'r sbesimen Diwrnod calendr Bwrdd iechyd lleol, awdurdod lleol, dosbarthiad oedran a rhyw
Profion gwrthgyrff Profion Y dyddiad yr awdurdodwyd canlyniad y prawf Yn wythnosol Dim