Yn hytrach mae'n darparu asesiad o asedau Cymru, wedi'u gosod yn erbyn cefndir o dueddiadau byd-eang a fydd yn sbarduno newid yn y dyfodol.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Mae Deall Dyfodol Cymru yn ategu’r Rhaglen Lywodraethu gan ein helpu i gyflawni’r rhaglen dros y pedair blynedd a hanner nesaf. Nid yw’n ymgais i ragweld y dyfodol: yn hytrach mae’n cymryd stoc o asedau Cymru yn erbyn cefndir o dueddiadau byd eang er mwyn llywio newidiadau yn y dyfodol.
Mae’r dadansoddiad yn tynnu sylw at ein cryfderau amlwg fel gwlad:
- Mae gennym economi agored a chystadleuol sy’n rhan annatod o farchnad y DU ac Ewrop;
- Mae gennym ymwybyddiaeth fyw o’n hunaniaeth genedlaethol a’n treftadaeth ddiwylliannol;
- Rydym mewn sefyllfa dda i fanteisio ar y cyfleoedd sy’n deillio o’n hadnoddau a’n hamgylchedd naturiol.
Mae’r ddogfen hefyd yn realistig ynghylch yr heriau strwythurol y mae’n rhaid inni ymateb iddynt:
- Y gwahanol broblemau sy’n gysylltiedig â thlodi y bydd angen gweithredu parhaus ac unedig yn eu cylch i wella cyfleoedd bywyd pobl;
- Yr angen i sicrhau bod yr economi yn gallu denu pobl a buddsoddiad trwy gynnig seilwaith, gweithlu a lleoliadau addas;
- Y peryglon a allai godi yn sgil y newid yn yr hinsawdd gan greu goblygiadau difrifol ar gyfer dyfodol Cymru.
Gyda’r cyfyngiadau llym ar ein cyllideb, mae’n bwysicach nag erioed bod yn glir ynghylch ble y dylem fuddsoddi ein hadnoddau i sicrhau canlyniadau cynaliadwy i bobl Cymru. Mae Deall Dyfodol Cymru yn asesu ein sefyllfa mewn modd cymharol a gonest, a bwriad y dadansoddiad yw ein helpu i gyflwyno gwelliannau sylweddol a mesuradwy yn rhagolygon hirdymor trigolion ein gwlad.