Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r adolygiad hwn yn ystyried y manteision, y costau a’r risgiau sydd ynghlwm wrth drosglwyddo asedau coetir i drydydd partïon a sut y dylid asesu cynigion trosglwyddo.

Cyd-destun

Bwriedir y bydd canlyniadau’r gwaith hwn yn rhoi sylfaen dystiolaeth i Cyfoeth Naturiol Cymru sydd yn rheoli Ystad Goetir Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd. Nod y gwaith yw llywio unrhyw asesiadau ac arfarniadau o ganlyniadau yn y dyfodol a fydd yn deillio o drefniadau trosglwyddo asedau coetir o’r Ystad Goetir.

Mae amrywiaeth eang o effeithiau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol posibl o drosglwyddo asedau coetir i drydydd partïon. Mae manteision, costau a risgiau posibl sy’n benodol i brosiectau unigol a gallant amrywio yn dibynnu ar amrywiaeth o ffactorau.

Canlyniadau

Gan gydnabod yr amrywiaeth hon, mae canllaw cyfeirio wedi ei ddatblygu y gall Cyfoeth Naturiol Cymru ymgynghori ag ef er mwyn arfarnu prosiectau.

Awgrymir dulliau prisio ar gyfer y meysydd canlyniadau a nodir yn yr adolygiad o dystiolaeth ac ymgynghoriadau rhanddeiliaid. Mae offer i feintioli ac i fesur gwerth ariannol wedi eu cynnwys yn y canllaw, sy’n unol â dulliau gweithredu Llyfr Gwyrdd Trysorlys EF.

Cyswllt

Aimee Marks

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.