Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau ymchwil a fu'n ymchwilio i brofiadau, cyrhaeddiad a dyheadau addysgol plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal yng Nghymru.

Daw canfyddiadau'r adroddiad o gyfweliadau â phlant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal, a dadansoddiad o'r ystadegau a'r lenyddiaeth sydd ar gael am y boblogaeth plant sy'n derbyn gofal.

Canfyddiadau allweddol

  • Bod ystadegau o Gymru a Lloegr ar gyrhaeddiad addysgol yn dangos bwlch treiddiol rhwng cyrhaeddiad addysgol plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal a'r rheini nad ydynt yn derbyn gofal ym mhob Cyfnod Allweddol.
  • Bod pobl ifanc wedi trafod cymwysterau addysgol gofalwyr maeth, a theimlo y dylent feddu ar set o sgiliau sylfaenol i'w galluogi i gefnogi addysg plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal.
  • Bod diffyg adnoddau a mynediad at arian ar gyfer cyfarpar addysgol, yn enwedig rhai TGCh, yn cael ei gydnabod fel rhwystr allweddol.
  • Bod plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal yn ymwybodol o'r stigma a ddaw law yn llaw â'u statws 'derbyn gofal'. Roedd y ddealltwriaeth o'r statws hwn gan eraill (cyfoedion ac oedolion) wrth iddynt fynd yn h?n yn cael ei ystyried fwyfwy fel problem - unigolion sy'n gythryblus, yn wahanol ac yn annhebygol o gyflawni llawer.
  • Bod gan y mwyafrif o'r plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal a gyfwelwyd lawer o syniadau am yrfaoedd a chyflogaeth. Fodd bynnag, ar gyfer rhai cyfranogwyr, roedd perygl na fyddent yn datblygu a gwireddu uchelgeisiau oherwydd problemau emosiynol heb eu datrys, cyfleoedd ac adnoddau cyfyngedig, a pherthnasoedd ansefydlog neu anghefnogol â gofalwyr, athrawon a gweithwyr cymdeithasol.

Adroddiadau

Deall profiadau addysgol a safbwyntiau, cyrhaeddiad, cyflawniad a dyheadau plant sy’n derbyn gofal , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB

PDF
Saesneg yn unig
3 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Deall profiadau addysgol a safbwyntiau, cyrhaeddiad, cyflawniad a dyheadau plant sy’n derbyn gofal: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 503 KB

PDF
503 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Launa Anderson

Rhif ffôn: 0300 025 9274

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.