Neidio i'r prif gynnwy

Esboniwch bob rhan o'ch trwydded llong bysgota, gan gynnwys manylion ac amodau llongau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Ionawr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae sawl rhan i drwydded eich cwch pysgota. Rhaid i chi ddarllen pob rhan yn ofalus er mwyn sicrhau:

  • eich bod yn deall y telerau sydd ynghlwm â hi, a
  • eu bod yn berthnasol ar gyfer eich gweithgarwch pysgota

Cysylltwch â'n Swyddfa Pysgodfeydd Aberdaugleddau gydag unrhyw gwestiynau. Rhowch wybod i ni ar unwaith os bydd unrhyw un o'r manylion yn anghywir.

Mae trwydded anghywir yn annilys a gallech fod yn agored i gosbau.

Eich cyfrifoldeb chi yw gwirio dogfennau eich trwydded cyn mynd allan i’r môr oherwydd gall trwyddedau gael eu newid unrhyw bryd. Rydym yn cyhoeddi amrywiadau ar-lein ac yn rhoi gwybod i’r rhai hynny sydd wedi nodi eu gwybodaeth gyswllt. Ystyrir eich bod wedi cael yr amrywiadau pan gânt eu cyhoeddi ar-lein

Gallwch roi hyd at 2 gyfeiriad e-bost i ni fel ffordd o gael rhybuddion uniongyrchol am newidiadau. Gallwch gael hysbysiadau eich hunain. Gall hefyd wneud synnwyr i enwebu rhywun sydd ar y tir a all gysylltu â chi ar eich cwch yn gyflym.

Rhan 1: Manylion y cwch

Mae’r rhan hon yn cynnwys:

  • categori’r drwydded
  • rhif swyddogol y drwydded
  • nodweddion eich cwch
  • perchenogion cofrestredig
  • awdurdodau penodol ar gyfer treillio am gregyn bylchog, pysgota gyda threillrwyd drawst, pysgota am bysgod cregyn gyda photiau, rhwydi gosod neu’r ddau
  • aelodaeth o sefydliad cynhyrchwyr pysgod

Rhan 2: Amodau

Mae hon yn nodi sut bydd eich cwch yn pysgota. Efallai cewch gyfarwyddyd i lanio mewn porthladdoedd penodol ar amseroedd penodol.

Rhan 3: Atodlen

Mae hon yn nodi’r awdurdod rydych yn cael pysgota oddi tano.

Rhan 4: Atodiad

Mae hon yn rhestru’r rhywogaethau nad oes gennych ganiatâd i’w pysgota ac unrhyw derfyn dalfa ar gyfer stociau rydych yn cael eu pysgota a’u glanio.

Cysylltwch â ni

I gael rhagor o wybodaeth am Drwyddedau Cychod Pysgota, cysylltwch â'n Swyddfa Pysgodfeydd Aberdaugleddau:

Swyddfa Pysgodfeydd Aberdaugleddau 
Llywodraeth Cymru 
Ystafell 3 – Cedar Court 
Parc Busnes Haven's Head 
Aberdaugleddau 
Sir Benfro 
SA73 3LS

Ffôn: 03000 253500 

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg

E-bost: milfordhavenfisheriesoffice@llyw.cymru