Neidio i'r prif gynnwy

I bwy y mae'r canllaw hwn?

Mae'r canllawiau hyn i ddeiliaid contract sy'n rhentu tŷ, fflat neu unrhyw ran ohono (ohoni) gan landlord preifat o dan gontract meddiannaeth safonol Rhentu Cartrefi.

Bwriedir i'r canllaw hwn helpu deiliaid contract y mae eu landlord neu eu hasiant gosod eiddo wedi cyflwyno hysbysiad mynnu meddiant iddynt (ffurflenni RHW16, RHW17, RHW22, RHW24, RHW25 ac RHW38) neu hysbysiad bod y landlord yn bwriadu cyflwyno hawliad meddiant i'r llys (ffurflenni RHW20 ac RHW23). Mae'r hysbysiadau hyn yn dechrau'r broses adennill meddiant lle y gallwch gael eich troi allan o'ch cartref yn gyfreithlon. Gweler y trosolwg o'r broses adennill meddiant isod.

Mae'r canllawiau hyn hefyd yn rhoi cyngor ymarferol i denantiaid sydd ag ôl-ddyledion rhent neu sydd fel arall yn teimlo y gall fod risg y bydd eu landlord yn cyflwyno hysbysiad iddynt. 

Gall cael hysbysiad sy'n ceisio neu'n mynnu meddiant fod yn brofiad gofidus neu brofiad llawn straen. Bydd y canllaw hwn yn eich helpu i ddeall eich hawliau a'r opsiynau sydd ar gael ichi. Fodd bynnag, bwriad y canllawiau hyn yw rhoi gwybodaeth ichi yn hytrach na chyngor cyfreithiol. Mae'n bwysig eich bod yn cael cyngor cyfreithiol ac ariannol a chymorth wedi'i deilwra at eich amgylchiadau unigol cyn gynted â phosibl. 

Mae’r Gwasanaeth Cynghori ar Atal Colli Cartrefi (gweler isod) yn darparu cyngor cyfreithiol a chynrychiolaeth (cymorth cyfreithiol) wedi ei ariannu gan y Llywodraeth. Gall yr elusen dai Shelter Cymru a Cyngor ar Bopeth hefyd helpu gyda materion tai a gall Helpwr Arian ddarparu cymorth diduedd am ddim gyda materion ariannol.

Gallai cael cyngor eich atal rhag colli eich cartref

Mae cyngor cyfreithiol a chynrychiolaeth (cymorth cyfreithiol) wedi ei ariannu gan y Llywodraeth ar gael i unrhyw un sy’n wynebu colli eu cartref, drwy’r Gwasanaeth Cynghori ar Atal Colli Cartrefi. Mae’r gwasanaeth hwn am ddim.

Mae help ar gael o’r eiliad y byddwch yn derbyn hysbysiad ysgrifenedig fod rhywun yn ceisio meddiant o’ch cartref. Gallai hyn fod yn e-bost gan eich landlord neu’n llythyr gan gredydwr.

Bydd cyfreithiwr tai (wedi ei ariannu gan y Llywodraeth) yn gweithio gyda chi er mwyn nodi pam gallai rhywun fod yn ceisio meddiant o’ch cartref a byddant yn argymell datrysiadau posibl. Er enghraifft, mae’n bosibl y byddant yn gallu darparu cyngor cyfreithiol ar faterion fel achosion anghyfreithiol o droi allan, tai mewn cyflwr gwael, ôl-ddyledion rhent, taliadau budd-daliadau lles a dyledion.   

Am ragor o wybodaeth ewch i: Gwasanaeth Cynghori ar Atal Colli Cartrefi ar GOV.UK

Mae cyngor cyfreithiol wedi ei ariannu gan y Llywodraeth hefyd ar gael ar gyfer problemau tai a dyledion eraill a allai fod gennych . Gallwch gael sgwrs gychwynnol gyda chynghorydd er mwyn darganfod mwy am y cymorth sydd ar gael ichi drwy gysylltu â Cyngor Cyfreithiol Sifil (CLA)

  • Ffôn 0345 345 4345 - Dydd Llun – Dydd Gwener, rhwng 9am ac 8pm, a Dydd Sadwrn rhwng 9am a 12:30pm; 
     
  • Neges destun – Gyrrwch y neges ‘legalaid’ a’ch enw at 80010 er mwyn gofyn i Cyngor Cyfreithiol Sifil eich ffonio yn ôl. Mae’n costio’r un fath â neges destun arferol. 

Mae’n bosibl y bydd CLA yn gallu eich rhoi mewn cysylltiad â chyfreithiwr, canolfan gyfreithiol leol neu asiantaeth gynghori a fydd yn gallu bod o gymorth ichi.  

Fel arall, gallwch gysylltu ag arbenigwr tai yn uniongyrchol. Gallwch ddod o hyd i restr o gyfreithwyr tai drwy deipio eich cod post a thicio’r blwch ‘Tai’ yn: find-legal-advice.justice.gov.uk.  

Trosolwg o'r broses adennill meddiant

Os bydd newid yn eich amgylchiadau a fydd yn ei gwneud yn anodd ichi gydymffurfio â thelerau eich contract meddiannaeth (megis eich gallu i dalu rhent), dylech roi gwybod i'ch landlord cyn gynted â phosibl. Dylech chi a'ch landlord geisio datrys y materion hyn y tu allan i'r llys er mwyn ichi allu parhau i feddiannu eich cartref. Gweler: Os byddwch yn pryderu am ôl-ddyledion rhent.

Efallai y bydd eich landlord yn awgrymu eich bod yn defnyddio gwasanaeth datrys anghydfodau neu gyfryngu trydydd parti. Dylech gymryd rhan yn y broses hon er mwyn osgoi achos adennill meddiant ffurfiol yn y llysoedd a gwella eich siawns o aros yn eich cartref.

Hysbysiad Cam 1: yn ceisio neu'n mynnu meddiant

Bydd eich landlord yn rhoi hysbysiad perthnasol o dan Ran 9 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 ichi, a fydd yn nodi'r dyddiad y gofynnir ichi adael eich cartref ac, ar ôl hynny, mae'n bosibl y bydd llys sirol yn dechrau achos adennill meddiant.

Ceir rhestr lawn o'r hysbysiadau a'r cyfnodau hysbysu perthnasol yn Atodiad A.

Cam 2: Os gallwch aros yn eich cartref ar ôl i'r hysbysiad ddod i ben

Os na fyddwch yn gadael erbyn y dyddiad a nodir yn yr hysbysiad, gall eich landlord gyflwyno hawliad meddiant i'r llys sirol. Anfonir copïau o ddogfennau hawlio meddiant y landlord atoch. Hefyd, cewch wybodaeth am ble i gael cyngor cyfreithiol er mwyn eich helpu gyda'ch cais.

Gallwch gofnodi amddiffyniad rhag hysbysiad nad yw'n orfodol (gweler Atodiad A) a gallwch herio dilysrwydd yr hysbysiad ni waeth ba broses sydd wedi'i defnyddio. Gallwch gynnwys manylion am eich amgylchiadau. Os ydych yn debygol o ddioddef caledi eithafol drwy orfod gadael eich cartref, gallwch ofyn i'r llys ohirio cymryd meddiant ohono am hyd at 6 wythnos.

Cam 3: Cyn y Gwrandawiad

Bydd y llys yn eich hysbysu am ddyddiad y gwrandawiad a bydd yn rhoi unrhyw gyfarwyddiadau pellach ichi yn ôl yr angen. Cyn y gwrandawiad, dylech chi a'ch landlord geisio ddod i gytundeb, er enghraifft drwy gytuno ar gynllun i ad-dalu ôl-ddyledion rhent. Efallai y gall cynghorydd cyfreithiol eich helpu i ddod i gytundeb â'ch landlord. Dylai eich landlord hysbysu'r llys os daethpwyd i gytundeb ac nad oes angen gwrandawiad mwyach.

Cam 4: Mynd i'r gwrandawiad

Os na ellir dod i gytundeb, cynhelir gwrandawiad meddiant, lle y bydd barnwr yn penderfynu a ddylid gwneud gorchymyn adennill meddiant.

Os bydd hawliad eich landlord yn seiliedig ar hysbysiad o dan adran 171, 173, 186, 192 neu 194 (gweler Atodiad A) a'i fod wedi defnyddio ‘gweithdrefn garlam’ y llys, gall y llys ystyried dogfennau'r hawliad, ac unrhyw amddiffyniad a gafwyd, a gwneud gorchymyn adennill meddiant heb i wrandawiad gael ei gynnal.

Cam 5: Gwarant adennill meddiant a beiliaid

Os rhoddwyd gorchymyn adennill meddiant ac nad ydych yn gadael erbyn y dyddiad a nodir yn y gorchymyn, gall eich landlord wneud cais i'r llys am Warant Adennill Meddiant. Mae'n galluogi beili llys sirol neu Swyddog Gorfodi Uchel Lys i'ch troi allan o'ch cartref. Rhaid i feilïaid a Swyddogion Gorfodi Uchel Lys roi o leiaf 14 diwrnod o rybudd o'r bwriad i droi unigolyn allan o'i gartref.

O dan rai amgylchiadau, gallwch wneud cais i atal y warant. Os byddwch yn llwyddiannus, bydd hyn yn arwain at ohirio'r broses troi allan neu ddiddymu'r warant, gan eich galluogi i aros yn eich cartref. Rhaid i chi ddilyn y cyfarwyddiadau ar yr hysbysiad troi allan os byddwch am wneud cais i atal y warant. Fodd bynnag, os na fyddwch yn gwneud cais neu os na fydd y llys yn cytuno i atal y warant, bydd beili llys sirol yn gorfodi'r warant ac yn eich troi allan o'ch cartref. Dylech sicrhau bod eich cais i atal y warant yn cael ei gofnodi yn y llys cyn dyddiad ac amser y broses troi allan. 

Os byddwch yn pryderu am ôl-ddyledion rhent

Cymorth ariannol

Os byddwch yn wynebu anawsterau ariannol oherwydd newid yn eich cyflogaeth neu'ch enillion efallai y byddwch yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol. Dysgwch fwy am Gredyd Cynhwysol.

Gall awdurdodau lleol roi cymorth i ddeiliaid contract er mwyn iddynt allu aros yn eu cartrefi. Holwch eich awdurdod lleol am Daliadau Disgresiwn at Gostau Tai.

Yr hyn y gallech ei wneud

Mae'n bwysig eich bod yn cysylltu â'ch landlord neu'ch asiant cyn gynted â phosibl os ydych yn pryderu na fyddwch yn gallu talu eich rhent. Gall sgwrs gynnar â'ch landlord eich helpu i gytuno ar gynllun os byddwch yn ei chael hi'n anodd talu'r rhent. Gall hynny gynnwys cytuno na fydd eich landlord yn ceisio dwyn achos adennill meddiant am gyfnod o amser ac, yn lle hynny, y bydd yn derbyn llai o rent gennych. Gallwch hefyd ddod i gytundeb i dalu ôl-ddyledion yn nes ymlaen.

Os byddwch wedi colli incwm neu os bydd eich amgylchiadau ariannol wedi newid mewn rhyw ffordd arall, dylech ysgrifennu at eich landlord er mwyn nodi eich amgylchiadau a'r hyn rydych yn ei wneud i ddatrys y problemau, mor fanwl ag y gallwch ei wneud. Dylech awgrymu cynllun ar gyfer talu eich rhent a nodi'n glir eich bod yn fodlon cysylltu'n rheolaidd â'ch landlord er mwyn datrys y sefyllfa.

Mae gan yr elusen dai Shelter Cymru ragor o wybodaeth am negodi rhent â'ch landlord ar ei gwefan, gan gynnwys llythyrau templed y gallwch eu defnyddio os byddwch am gynnig gostyngiad yn eich rhent neu gynllun ad-dalu rhent er mwyn talu ôl-ddyledion.

Wrth drafod eich opsiynau â'ch landlord, gwasanaeth cynghori defnyddwyr, eich awdurdod lleol neu gynghorydd cyfreithiol, mae'n bosibl y bydd yn cynnig gwasanaeth cyfryngu. Mae proses gyfryngu yn galluogi trydydd parti annibynnol i helpu'r rhai dan sylw i ddod i gytundeb sy'n dderbyniol i'r ddwy ochr er mwyn datrys eu hanghydfod, heb fod angen mynd i'r llys. Gall hyn gynnwys cytuno ar gynllun ad-dalu rhent. Gallai datrys anghydfod yn gynnar helpu i atal eich perthynas â'ch landlord rhag chwalu a'ch galluogi i symud ymlaen â'r contract. Nid oes angen ichi siarad â chyfryngwr os nad ydych am wneud hynny, er bod hynny'n debygol o fod yn well nag achos llys. Gall hefyd atal eich landlord rhag mynd i gostau ychwanegol a gwella eich siawns o aros yn eich cartref.

Pan gaiff gwasanaeth cyfryngu ei ddarparu'n breifat, bydd y landlord yn talu fel arfer, ond nid yw hyn yn golygu na all y cyfryngwr helpu'r ddau ohonoch ac, fel arfer, bydd yn fuddiol ichi ymgysylltu â chyfryngwr i weld a all eich helpu i gytuno ar ateb sy'n dderbyniol i'r ddwy ochr. Fel arfer, mae o fudd i'r landlord a deiliad y contract os bydd y contract yn parhau.

Os na fydd gwasanaeth cyfryngu wedi'i gynnig ond eich bod o'r farn y byddai'n addas ar gyfer eich amgylchiadau, efallai y byddwch am ddod o hyd i gynllun addas yn eich ardal a gofyn i'ch landlord ystyried ei ddefnyddio. Mae sawl gwasanaeth, yn ogystal â chyfryngwyr unigol, ar gael ar y farchnad sy'n arbenigo mewn datrys anghydfodau. Nid oes un rhestr o sefydliadau na chynlluniau sy'n cynnig gwasanaethau datrys anghydfodau mewn ardaloedd penodol, ond gallwch gadarnhau a oes un ar gael yn eich ardal chi drwy wneud y canlynol:

  • holi eich awdurdod lleol: mae rhai awdurdodau lleol yn cynnig cymorth arbenigol am ddim i landlordiaid sy'n ystyried cyflwyno hysbysiad cymryd meddiant. Dod o hyd i’ch awdurdod lleol
  • chwilio ar-lein;
  • gofyn i wasanaeth cynghori defnyddwyr megis Cyngor ar Bopeth; neu,
  • ymgynghori â gweithiwr cyfreithiol proffesiynol.

Os byddwch yn cytuno ar gynllun i ad-dalu ôl-ddyledion yn ddiweddarach, mae'n bwysig eich bod yn cadw at y cynllun hwn. Siaradwch â'ch landlord ar unwaith os na allwch wneud hynny.

Os bydd eich landlord yn gwrthod cyfathrebu â chi neu'n gwrthod cytuno ar gynllun talu, rhaid ichi dalu'r hyn y gallwch ei fforddio. Gallai'r ffaith bod rhywfaint o arian wedi'i dalu'n rheolaidd eich helpu i gadw eich cartref pan wrandewir ar yr achos yn y llys.

Camau'r broses adennill meddiant

Cam 1: Beth i'w wneud pan gyflwynir hysbysiad sy'n ceisio neu'n mynnu meddiant ichi

Mae'n bwysig eich bod yn darllen yr hysbysiad yn ofalus. Dylech weithredu'n gyflym ac yn bwyllog a cheisio cyngor am eich amgylchiadau cyn gynted â phosibl.

Dylech ystyried a oes gennych achos da dros aros yn eich cartref os byddwch yn mynd i'r llys, yn ogystal â'ch opsiynau os byddwch yn penderfynu gadael.

Gallwch ofyn i'ch awdurdod lleol am help cyn gynted ag y byddwch yn cael hysbysiad cymryd meddiant. Efallai y bydd yn eich helpu i aros yn eich cartref, gan gynnwys cefnogi trafodaethau rhyngoch chi a'ch landlord, neu i ddod o hyd i lety amgen. Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan eich awdurdod lleol.

Os oes risg y byddwch yn mynd yn ddigartref, dylech gysylltu â thîm atal digartrefedd eich awdurdod lleol i gael cyngor a chymorth cyn cytuno i adael yr eiddo.

Gallech geisio cyngor gan Cyngor ar Bopeth neu Shelter Cymru. Gallai siarad â chynghorydd wyneb yn wyneb neu dros y ffôn helpu i dawelu eich meddwl a gallai trafod yr achos yn fanwl ag ef arwain at ganlyniad gwell. Er enghraifft, efallai y byddwch yn gallu aros yn eich cartref neu gael mwy o amser i chwilio am lety amgen.

Dylech hefyd siarad â'ch landlord neu'ch asiant gosod eiddo. Efallai y bydd yn penderfynu caniatáu ichi aros os gallwch brofi y gallwch ad-dalu unrhyw ôl-ddyledion rhent.

Dim ond os bydd gan eich landlord reswm sy'n cyfateb i sail benodol dros gymryd meddiant y gellir cyflwyno rhai mathau o hysbysiad. Crynhoir y seiliau hyn dros gymryd meddiant ynghyd â'r cyfnodau hysbysu gofynnol yn Atodiad A. Maent yn cynnwys ôl-ddyledion rhent sylweddol ac achosion difrifol o dor-contract (gan gynnwys ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall).

Gellir cyflwyno hysbysiadau a gyflwynir o dan adran 173, 186 a 194 heb nodi sail dros gymryd meddiant. Fe'u gelwir yn aml yn hysbysiadau dim bai. Fodd bynnag, mae'r mathau o gontract y gellir cyflwyno hysbysiadau o'r fath mewn perthynas â nhw yn gyfyngedig. Nodir y cyfnodau hysbysu gofynnol ar gyfer yr hysbysiadau hyn yn Atodiad A.

Os na fyddwch yn siŵr pa fath o gontract meddiannaeth sydd gennych, efallai y gall gwefan Shelter Cymru eich helpu.

Yr hyn y dylech ei gadarnhau

Pan fyddwch yn cael hysbysiad, gallwch gadarnhau bod yr hysbysiad yn ddilys. Gallwch geisio cymorth gan Shelter Cymru neu Cyngor ar Bopeth os na fyddwch yn siŵr.

Gallwch hefyd gadarnhau a oes cyfiawnhad dros unrhyw seiliau a ddefnyddir, yn eich barn chi.

Dim ond os bodlonir y meini prawf canlynol y bydd hysbysiad yn ddilys:

  • fe'i cyflwynir gan ddefnyddio'r ‘ffurflen berthnasol’. Nodir y ffurflen berthnasol ar gyfer pob math o hysbysiad yn Atodiad A.
  • mae wedi'i gwblhau'n briodol ac mae'n rhoi'r cyfnod cywir o rybudd i chi, gan gyfrif o'r dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad.
  • (oni bai ei fod yn hysbysiad dim bai o dan adrannau 173, 186 neu 194) mae'n rhoi rheswm dilys dros geisio cymryd meddiant o'r eiddo. Yn yr achosion hyn, dylai'r hysbysiad esbonio ar ba sail mae eich landlord yn ceisio cymryd meddiant o'r eiddo. Os byddwch o'r farn nad yw'r sail y mae eich landlord yn ei defnyddio yn gymwys, gallwch nodi hyn i'ch amddiffyn. Er enghraifft, gallech esbonio eich bod wedi talu ôl-ddyledion rhent a oedd yn ddyledus gennych yn flaenorol.
  • mae'r landlord wedi'i gofrestru â Rhentu Doeth Cymru ac, yn ôl yr angen, wedi cael trwydded ganddo (gweler Cofrestr Gyhoeddus (llyw.cymru) Rhentu Doeth Cymru).

At hynny, dim ond os bodlonir y meini prawf canlynol y bydd hysbysiadau o dan adrannau 173, 186 a 194 (hysbysiadau dim bai) yn ddilys:

  • yn achos hysbysiad o dan adran 173, mae o leiaf chwe mis wedi mynd heibio ers dechrau'r dyddiad meddiannu gwreiddiol (fel arfer, dyma'r dyddiad y gwnaethoch symud i mewn i'ch cartref) cyn cyflwyno'r hysbysiad.
  • mae eich blaendal wedi'i ddiogelu mewn cynllun diogelu blaendaliadau a gymeradwyir gan y Llywodraeth ac rydych wedi cael gwybodaeth am y ffordd y mae'r blaendal yn cael ei ddal. Rhaid i'ch landlord roi manylion penodol ichi am y blaendal, a elwir yn ‘wybodaeth ragnodedig’. Mae hyn yn cynnwys manylion y cynllun diogelu blaendaliadau, cadarnhad o'r swm a ddelir, manylion cyswllt y landlord a gwybodaeth am sut i gael eich blaendal yn ôl pan fyddwch yn gadael.  
  • rydych wedi cael datganiad ysgrifenedig o'ch contract meddiannaeth yn unol â Deddf 2016, ynghyd â gwybodaeth ragnodedig arall a dogfennau megis tystysgrif diogelwch nwy ddilys os oes gosodiad nwy yn yr eiddo a thystysgrif perfformiad ynni.
  • mae eich landlord wedi cydymffurfio â gofynion Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) 2022 – gweler Canllawiau i i denantiaid (deiliaid contract) ar ffitrwydd i fod yn gartref | LLYW.CYMRU.
  • mae eich landlord wedi cael trwyddedau eraill gan yr awdurdod lleol, os oedd angen un ar yr eiddo, megis mewn llety amlfeddiannaeth.
  • os oes unrhyw daliadau gwaharddedig a all fod wedi cael eu codi arnoch, wedi cael eu had-dalu ichi (neu, fel arall, y rhoddwyd cyfrif priodol amdanynt). Dywed y gyfraith mai dim ond taliadau penodol a ganiateir y caiff eich landlord eu cymryd. Nodir y rhestr o daliadau a waherddir neu a ganiateir yn Neddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd Etc.) (Cymru) 2019: Canllawiau i landlordiaid ac asiantiaid.

Gwahaniaethu anghyfreithlon

Mae'n weithred o wahaniaethu anghyfreithlon i landlord seilio ei benderfyniad i derfynu eich contract meddiannaeth ar sail unrhyw un o'r naw nodwedd warchodedig ganlynol:

  • Oedran
  • Anabledd
  • Ailbennu rhywedd
  • Priodas a phartneriaeth sifil
  • Beichiogrwydd a mamolaeth
  • Hil
  • Crefydd neu gred
  • Rhyw
  • Cyfeiriadedd rhywiol

O dan rai amgylchiadau, efallai y bydd yn bosibl atal proses troi allan os byddwch o'r farn bod y landlord wedi gwahaniaethu yn eich erbyn ar sail y nodweddion gwarchodedig a restrir uchod (er enghraifft, oherwydd eich rhywedd neu os bydd wedi gwrthod gwneud newidiadau ar gyfer anabledd sydd gennych), neu os byddwch o'r farn eich bod yn cael eich troi allan am eich bod wedi cwyno am wahaniaethu o'r blaen (gelwir hyn yn erledigaeth). Efallai y gallwch hefyd herio hysbysiad os byddwch o'r farn ei fod yn gysylltiedig â'ch anabledd.

Ceir rhagor o wybodaeth am wahaniaethu ar wefan Cyngor ar Bopeth:

Fodd bynnag, dylech bob amser geisio cyngor cyfreithiol cyn herio hysbysiad ar sail anabledd a/neu wahaniaethu.

Gadael yr eiddo

Ni ellir eich gorfodi i adael yr eiddo heb orchymyn gan y llys. Pan fydd llys yn rhoi meddiant i landlord, mae'n bosibl y bydd yn atal y dyddiad meddiannau o hyd er mwyn rhoi cyfle ichi dalu unrhyw ôl-ddyledion rhent neu newid eich ymddygiad mewn achosion sy'n ymwneud ag ymddygiad gwaharddedig.

Cyn symud allan, dylech bob amser wneud y canlynol:

  • cael cyngor cyfreithiol er mwyn i chi wybod beth yw eich sefyllfa gyfreithiol
  • cysylltu â'ch awdurdod lleol i gael cyngor am eich opsiynau tai, yn arbennig os byddwch yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i rywle i fyw
  • rhoi gwybod i'ch landlord pryd y byddwch yn gadael / eich bod wedi gadael
  • dychwelyd yr allweddi.

Cam 2: Os byddwch yn aros yn eich cartref ar ôl i'r hysbysiad ddod i ben

Os na fyddwch yn cytuno i ddod â'ch contract meddiannaeth i ben ac nad ydych yn symud allan o'ch cartref, rhaid i'ch landlord gyflwyno Hawliad Meddiant i'r llys er mwyn adennill meddiant ohono.

Ni ddylai eich landlord aflonyddu arnoch er mwyn peri ichi adael yr eiddo. Os bydd yn gwneud hynny, bydd yn torri'r gyfraith. Mae enghreifftiau o droi allan ac aflonyddu anghyfreithlon yn cynnwys:

  • bygwth
  • trais tuag atoch chi, aelodau o'ch cartref neu'ch eiddo
  • mynd i mewn i'ch cartref heb eich caniatâd
  • newid y cloeon pan fyddwch allan
  • diffodd gwasanaethau hanfodol

Os byddwch yn destun ymddygiad anghyfreithlon, dylech gysylltu â chyfreithiwr, Shelter Cymru a/neu'r heddlu.

Os bydd eich landlord yn dymuno dechrau achos adennill meddiant, rhaid iddo wneud cais i'r llys o fewn cyfnod penodol o amser. Yn achos hysbysiadau dim bai, fel arfer mae hyn o fewn deufis i'r dyddiad y gofynnwyd ichi adael eich cartref. Yn achos y rhan fwyaf o hysbysiadau, mae o fewn chwe mis i'r dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad ichi. Os na fydd y landlord yn gwneud cais i'r llys o fewn y cyfnod perthnasol o amser, daw'r hysbysiad i ben ac ni all y landlord ei ddefnyddio.

Unwaith y bydd y landlord wedi cyflwyno Hawliad Meddiant, gallwch roi rhesymau dros herio'r hawliad, os oes rhai, i'ch amddiffyn (gweler isod). Fodd bynnag, dylech feddwl yn ofalus cyn gwneud hyn oherwydd mae'n bosibl y bydd yn rhaid ichi dalu costau llys. Mae'n bwysig cael cyngor cyfreithiol ar y mater hwn. Gallwch herio'r Hawliad mewn gwrandawiad llys, os cynhelir un.

Bydd y math o sail (seiliau) y mae'r landlord yn ei defnyddio (eu defnyddio) i geisio cymryd meddiant o'r eiddo yn effeithio ar faint o ddisgresiwn sydd gan y llys o ran rhoi meddiant iddo. Mae rhai seiliau yn orfodol. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i'r llys rhoi meddiant os gellir profi'r seiliau. Mae seiliau eraill yn rhai disgresiynol. Mae hyn yn golygu nad yw'r llys yn gorfod rhoi meddiant hyd yn oed os bodlonir y seiliau. Bydd y llys yn penderfynu a yw'n cytuno ei bod yn rhesymol i'r broses troi allan fynd yn ei blaen. Nodir y seiliau gorfodol a disgresiynol yn Atodiad A.

Gall eich landlord ddefnyddio'r seiliau gorfodol a disgresiynol. Bydd y llys yn ystyried yn gyntaf a yw'r seiliau gorfodol y mae eich landlord wedi'u rhestru yn ddilys. Os na ellir profi bod y rhain yn ddilys, bydd y llys edrych wedyn ar y seiliau disgresiynol er mwyn gwneud penderfyniad.

Os bydd y landlord yn dymuno bwrw ymlaen ag achos llys i'ch troi allan, bydd y llys yn anfon y canlynol atoch:

  • copïau o ddogfennau hawlio meddiant y landlord.
  • ffurflen amddiffyniad i'w chwblhau gennych

Gweithdrefn adennill meddiant safonol

Gall y landlord wneud cais i'r llys gan ddefnyddio'r weithdrefn adennill meddiant safonol, lle y cynhelir gwrandawiad. Os bydd hynny'n digwydd, cewch wybodaeth am gyfeiriad y llys lle y gwrandewir yr achos a dyddiad y gwrandawiad llys.

Ceir manylion cyswllt y llys lle y cynhelir eich gwrandawiad ar wefan dod o hyd i lys neu dribiwnlys.

Bydd y llys hefyd yn anfon manylion atoch am sut i gael cyngor am ddim ar eich amgylchiadau, os na fyddwch wedi gwneud hynny eisoes. Dylech fanteisio ar y cyfle hwn i gael cyngor a chymorth.

Fel arfer, cynhelir gwrandawiadau llys ar gyfer achosion adennill meddiant yn y llys sirol sy'n cwmpasu'r ardal y mae eich cartref ynddi. Dylech roi gwybod i'r llys cyn gynted â phosibl os oes gennych unrhyw ofynion arbenigol, er enghraifft os bydd angen cymorth ychwanegol arnoch i fynd i mewn i'r adeilad neu gymryd rhan yn y gwrandawiad.

Gallwch chi neu'ch landlord ofyn i'r barnwr ystyried a ddylid cynnal y gwrandawiad o bell, drwy anfon cais ysgrifenedig i'r llys. Bydd angen i'r ddau barti gytuno y gellir cynnal y gwrandawiad o bell. Fodd bynnag, y barnwr fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ar sut y bydd y gwrandawiad yn mynd yn ei flaen

Cyn mynd i'r llys, mae'n bwysig eich bod yn edrych ar y wefan er mwyn gwybod beth i'w ddisgwyl pan fyddwch yn dod i lys neu dribiwnlys.

Gweithdrefn adennill meddiant garlam

Gall y landlord wneud cais i'r llys gan ddefnyddio'r weithdrefn adennill meddiant garlam nad yw'n gofyn am wrandawiad llys, os cyflwynodd hysbysiad o dan adran 171, 173,186, 192 neu 194 ac nad yw'n hawlio ôl-ddyledion rhent.

Mae'n arbennig o bwysig eich bod yn cofnodi amddiffyniad (gweler yr adran ar ‘Y ffurflen amddiffyniad’ isod) os byddwch o'r farn bod rheswm cyfreithiol pam nad oes gan eich landlord hawl, o bosibl, i gymryd meddiant o'r eiddo neu os byddwch yn awyddus i'r broses adennill meddiant gael ei gohirio oherwydd caledi eithafol. Yn achos hawliadau meddiant carlam, dim ond os bydd y barnwr o'r farn bod angen egluro'r sefyllfa gyfreithiol neu os bydd y barnwr o'r farn ei bod yn bosibl y bydd angen mwy o amser arnoch (hyd at 6 wythnos) i symud allan oherwydd caledi eithafol y cynhelir gwrandawiad. Felly, mae'n bosibl mai'r ffurflen amddiffyniad fydd eich unig gyfle i herio hawliad meddiant y landlord.

Y ffurflen amddiffyniad

Bydd y llys yn rhoi cyfarwyddiadau ichi ar sut y gallwch gael cyngor ar gyflwyno amddiffyniad rhag yr hawliad meddiant.

Mae'r ffurflen amddiffyniad yn eich galluogi i herio hawliad meddiant y landlord am nad yw wedi dilyn y gweithdrefnau cywir a/neu am nad yw'r rhesymau a ddarperir gan y landlord dros eich troi allan o'r eiddo (lle y bo'n berthnasol) yn ddilys, er enghraifft, os byddwch wedi talu unrhyw ôl-ddyledion rhent a oedd yn ddyledus gennych yn flaenorol. Gallwch hefyd herio'r hawliad ar y sail ei fod yn hawliad dialgar, hynny yw, eich bod o'r farn bod y landlord wedi cyflwyno'r hawliad meddiant er mwyn osgoi cydymffurfio â'i rwymedigaethau o ran sicrhau bod yr eiddo yn addas i bobl fyw ynddo a gwneud gwaith atgyweirio.

Os byddwch yn ei chael hi'n anodd llenwi'r ffurflen a anfonwyd atoch, gallwch anfon datganiad byr i'r llys yn esbonio eich amgylchiadau a pham na ddylid gwneud gorchymyn adennill meddiant. Dim ond os byddant wedi effeithio arnoch mewn ffordd sy'n berthnasol i hawliad meddiant eich landlord y dylech nodi eich bod wedi wynebu anawsterau – er enghraifft, os bydd hyn wedi effeithio ar eich gallu i dalu eich rhent.

Bydd y broses adennill meddiant a ddefnyddir gan eich landlord yn effeithio ar y ffordd y gallwch amddiffyn eich achos, yn seiliedig ar eich amgylchiadau. Os bydd eich landlord yn defnyddio'r weithdrefn garlam, ni fydd yn rhaid iddo roi rheswm dros eich troi allan.

Nodir rhai o'r sefyllfaoedd lle y byddwch, o bosibl, am herio hawliad meddiant uchod. Gweler Beth i'w wneud os cyflwynir hysbysiad sy'n ceisio neu'n mynnu meddiant ichi. Mae'n bosibl y bydd eich amgylchiadau personol wedi newid ers i'r hysbysiad gael ei gyflwyno gyntaf, er enghraifft, ac mae'n bosibl y byddwch bellach mewn sefyllfa i dalu ôl-ddyledion rhent. Os felly, efallai y byddwch am ddisgrifio ar y ffurflen amddiffyniad sut mae eich amgylchiadau wedi newid a pham eich bod o'r farn na ddylai'r landlord allu cymryd meddiant o'ch cartrefi mwyach.

O dan rai amgylchiadau, lle mae eich landlord yn defnyddio'r weithdrefn adennill meddiant safonol, efallai y byddwch yn ystyried cyflwyno gwrth-hawliad. Er enghraifft, cais am iawndal os na chafodd eich blaendal tenantiaeth ei ddiogelu neu os na chafodd gwaith atgyweirio roedd ei angen yn yr eiddo ei wneud.

Bydd angen ichi ddychwelyd y ffurflen amddiffyniad i'r llys cyn gynted â phosibl. Gallwch ddychwelyd eich amddiffyniad i'r cyfeiriadau e-bost neu bost a ddarparwyd neu drwy Hawliadau Meddiant Ar-lein os defnyddiodd eich landlord y broses ar-lein.

Mae'n bwysig eich bod yn ceisio cyngor ac yn dychwelyd y ffurflen amddiffyniad, neu ddatganiad sy'n amlinellu eich amgylchiadau, i'r llys. Dylech wneud hyn am ei bod yn bosibl y bydd yn rhaid ichi dalu ffioedd llys ychwanegol os na fyddwch yn darparu gwybodaeth ar y ffurflen amddiffyniad a bod hynny yn peri oedi i'ch achos llys.

Pwysig: Os bydd eich landlord yn defnyddio'r broses adennill meddiant garlam, mae'n bosibl mai'r ffurflen amddiffyniad fydd eich unig gyfle i herio hawliad meddiant y landlord.

Sut i geisio cyngor ar lenwi eich ffurflen amddiffyniad

Pan fyddwch yn cael eich ffurflen amddiffyniad, byddwch hefyd yn cael taflen gan y llys a fydd yn cynnwys rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais am gymorth cyfreithiol er mwyn eich helpu i gwblhau a chofnodi amddiffyniad.

Efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol i'ch helpu gyda'ch achos. Gall cymorth cyfreithiol helpu i dalu costau cyngor cyfreithiol a chynrychiolaeth mewn llys neu dribiwnlys. Gall cyngor cyfreithiol hefyd eich diogelu rhag talu costau llys eich landlord os byddwch yn colli'r achos. Gallwch gadarnhau a ydych yn gymwys i gael y cymorth cyfreithiol ar wefan Cyngor Cyfreithiol Sifil

Gallwch geisio cyngor gan Cyngor ar Bopeth neu Shelter Cymru.

Cam 3: Yr hyn y mae angen ichi ei wneud cyn y gwrandawiad

Mae'n bwysig eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau a roddir yn y papurau a anfonir atoch gan y llys gan ei bod yn bosibl y bydd pethau eraill y bydd angen ichi eu gwneud.

Cyn y gwrandawiad meddiant, dylech fanteisio ar y cyfle i geisio cyngor cyfreithiol ar eich achos. Lle y bo'n bosibl ac yn berthnasol, dylech chi a'ch landlord geisio dod i gytundeb cyn y gwrandawiad; er enghraifft, efallai y byddwch am ddod i gytundeb lle y byddwch yn aros yn eich cartref ar yr amod eich bod yn talu unrhyw ôl-ddyledion rhent sy'n ddyledus drwy gynllun ad-daliadau misol. Efallai y gall cynghorydd cyfreithiol eich helpu i ddod i gytundeb â'ch landlord cyn y gwrandawiad llys.

Cyn y gwrandawiad llys, dylech gael copi o'r holl ddogfennau sy'n ymwneud â'r achos, gan gynnwys ffurflen hawlio'r landlord. Mae'n ofynnol i'r landlord gyflwyno'r wybodaeth hon pan fydd yn cyflwyno hawliad. Os na fyddwch wedi cael y dogfennau hyn, dylech roi gwybod i'r cynghorydd ar ddyletswydd, neu'r barnwr, ar ddiwrnod y gwrandawiad.

Cam 4: Mynd i wrandawiad

Cyn mynd i'r llys, mae'n bwysig eich bod yn edrych ar y wefan er mwyn gwybod beth i'w ddisgwyl pan fyddwch yn dod i lys neu dribiwnlys.

Os na fyddwch wedi gwneud hynny eisoes, mae'n bwysig eich bod yn cael cyngor cyfreithiol annibynnol ar eich amgylchiadau cyn mynd i'r gwrandawiad meddiant llawn, er enghraifft gan Shelter Cymru neu Cyngor ar Bopeth). Cewch gyfle hefyd i gael cyngor gan gyfreithiwr ar ddyletswydd ar ddiwrnod y gwrandawiad llys (gweler isod).

Mewn gwrandawiad meddiant mewn llys sirol, mae barnwr yn penderfynu a ddylid rhoi meddiant o'r eiddo i'r landlord.

Mae'n bwysig eich bod yn mynd i'r gwrandawiad llys lle y bo'n bosibl. Bydd hyn yn galluogi'r barnwr i glywed gennych chi a'ch landlord Bydd y gwrandawiad yn para 15 munud.

Os byddwch yn dod i'r gwrandawiad eich hun, dylech ddod â'ch llythyr gwrandawiad â rhif eich achos gyda chi, a fydd yn eich helpu i ddod o hyd i ble y bydd angen ichi fynd yn yr adeilad. Dylech hefyd ddod ag unrhyw dystiolaeth sydd gennych gyda chi i'r gwrandawiad. Gallai hyn gynnwys:

  • cyfriflenni banc sy'n dangos arian yn eich cyfrif banc
  • llythyr am swydd newydd neu gynnydd yn nifer yr oriau rydych yn eu gweithio
  • copi o'r datganiad ysgrifenedig o'ch contract meddiannaeth

Gallwch chi a'ch landlord ddod â phobl gyda chi er mwyn helpu i'ch cynrychioli, megis cyfreithiwr neu gynghorydd. Os na fyddwch yn mynd i'ch gwrandawiad llys, mae'n debygol y bydd y barnwr yn penderfynu rhoi meddiant o'r eiddo i'r landlord.

Caiff eich achos ei wrando gan farnwr a fydd yn gwneud penderfyniad yn seiliedig ar y dystiolaeth a ddarperir gennych chi a'ch landlord ac ar yr hyn a ddywed y gyfraith. Er y bydd yn ystyried yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd, os bydd y landlord wedi cyflwyno hawliad meddiant gan ddefnyddio'r seiliau gorfodol efallai na fydd gan y barnwr fawr ddim disgresiwn neu ddim disgresiwn o gwbl i wrthod neu ohirio'r achos os cafodd yr hawliad ei gyflwyno'n gywir.

Pan fyddwch yn mynd i mewn i ystafell y gwrandawiad cewch wybod pwy fydd yn siarad a phryd. Cewch amser i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych a rhoi tystiolaeth i ategu eich achos. Os bydd gennych gyfreithiwr neu fargyfreithiwr, bydd yn gofyn cwestiynau ar eich rhan. Efallai y bydd y barnwr yn gofyn cwestiynau ichi neu'ch landlord. Gallwch gymryd nodiadau i'ch helpu ond ni ddylech dynnu lluniau na recordio fideos.

Cam 5: Gwarant adennill meddiant a beilïaid

Peidiwch ag aros nes eich bod ar fin cael eich troi allan gan feilïaid cyn ceisio cyngor. Po gyntaf y byddwch yn ceisio datrys y sefyllfa, y mwyaf tebygol ydyw y byddwch yn cael cymorth a/neu y byddwch yn gallu aros yn eich cartref.

Os byddwch yn aros yn yr eiddo ar ôl i'r dyddiad a nodir mewn gorchymyn meddiant llwyr fynd heibio neu os byddwch wedi torri amodau gorchymyn meddiant ataliedig, gall y landlord wneud cais am warant adennill meddiant.

Cewch hysbysiad troi allan gan y llys neu Swyddog Gorfodi'r Uchel Lys, yn nodi'r dyddiad y bydd yn rhaid ichi adael. Cewch o leiaf 14 diwrnod o rybudd. Bydd y beili yn dod i'r eiddo ar y dyddiad a'r amser a ddangosir ar yr hysbysiad troi allan. Mae hyn yn golygu, os na fyddwch yn gadael, y cewch eich troi allan gan feili llys sirol neu Swyddog Gorfodi'r Uchel Lys ar y dyddiad a'r amser hwnnw.

Gwneud cais i atal y warant

Gallwch wneud cais i atal y warant o dan amgylchiadau penodol, sy'n golygu, os byddwch yn llwyddiannus, y caiff y broses troi allan ei gohirio neu na fydd yn mynd yn ei blaen. Fodd bynnag, ni fydd barnwr yn cytuno i atal y warant yn awtomatig. Dylai gael cyngor ar b'un a yw cais i atal y warant yn debygol o lwyddo ac ai dyma'r opsiwn gorau i ddatrys eich achos. Er enghraifft, dylech gysylltu â Shelter Cymru neu Cyngor ar Bopeth.

Mae'r amgylchiadau lle y gellir atal gwarant adennill meddiant yn cynnwys:

  • Os cawsoch hysbysiad o dan adran 171, 173,186, 192 neu 194 ond na chynhaliwyd gwrandawiad llys

Efallai y bydd y llys yn diddymu gorchymyn adennill meddiant os defnyddiodd y landlord weithdrefn adennill meddiant garlam a chyflwyno hysbysiad annilys o dan adran 171, 173,186, 192 neu 194.

  • Os na fu'n bosibl ichi fod yn bresennol yn y gwrandawiad llys gwreiddiol

Gallwch wneud cais am i benderfyniad y llys gael ei ddiddymu:

a. os oedd gennych reswm da dros beidio â bod yn bresennol yn y gwrandawiad llys

b. os gwnaethoch gais i'r gorchymyn gael ei ddiddymu cyn gynted ag yr oeddech yn gwybod bod y llys wedi gwneud gorchymyn adennill meddiant, a

c. pe byddech wedi cael siawns dda o ddarbwyllo'r llys i beidio â gwneud y gorchymyn adennill meddiant petaech wedi bod yn bresennol yn y gwrandawiad.

  • Os bydd atal gwarant y beili yn rhesymol

Os byddwch yn cael eich troi allan ar sail ddisgresiynol, gall y llys atal gwarant y beili os bydd yn penderfynu ei bod yn rhesymol gwneud hynny.

  • Os bydd eich landlord yn cytuno i adael ichi aros

Ar ôl trafod â'ch landlord, os bydd yn penderfynu peidio â bwrw ymlaen â'r broses troi allan a gadael ichi aros yn eich cartref, gallwch ofyn iddo dynnu ei gais am warant adennill meddiant yn ôl.

Gallwch wneud cais i atal gwarant adennill meddiant drwy lenwi Ffurflen N244. Bydd hyn yn costio £14, oni fyddwch yn gymwys i gael cymorth. Dylech sicrhau bod eich cais i atal y warant yn cael ei gofnodi yn y llys cyn dyddiad ac amser y broses troi allan.

Cynhelir gwrandawiad newydd, lle mae'n bosibl, os bydd un neu fwy o'r amgylchiadau uchod yn gymwys yn eich achos, y bydd y barnwr yn penderfynu gohirio'r broses troi allan neu yn gadael i chi aros yn eich cartref os gallwch wneud taliadau eto. Cofiwch, os bydd eich cais yn methu ac na chaiff ei dderbyn gan y Barnwr, y bydd y proses troi allan yn mynd yn ei blaen.

Rhagor o gyngor a gwybodaeth

Atodiad A

Hysbysiadau cymryd meddiant a seiliau dros hawliadau meddiant

Y sail dros gyflwyno hawliad

Gorfodol neu ddisgresiynol

Yr adran a ddefnyddir i gyflwyno'r hysbysiad

Hyd y cyfnod hysbysu

Y ffurflen sy'n berthnasol i'r hysbysiad

Tor-contract (adran 157)

Mae'n cynnwys datganiad anwir sy'n peri i landlord lunio contract (gweler adran 158) ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall

Disgresiynol

Adran 159

Dim cyfnod hysbysu pan fo'r hawliad yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol neu ymddygiad gwaharddedig arall

 

Mis ym mhob achos arall

RHW23

Seiliau rheoli ystad (adran 160)

Disgresiynol

Adran 161

Mis

RHW23

Methu ag ildio meddiant ar y dyddiad a nodir yn hysbysiad deiliad y contract (170)

Gorfodol (yn amodol ar unrhyw amddiffyniad sydd ar gael sy'n seiliedig ar hawliau deiliad y contract o dan y Confensiwn)

Adran 171

Dim cyfnod hysbysu

RHW23

Cyflwynir hysbysiad y landlord mewn perthynas â chontract safonol cyfnodol (adran 178)

Gorfodol (oni bai ei fod yn achos o droi allan dialgar: ac yn amodol ar unrhyw amddiffyniad sydd ar gael sy'n seiliedig ar hawliau deiliad y contract o dan y Confensiwn)

Adran 173

Chwe mis (neu tan 1 Mehefin 2023, dau fis ar gyfer contract wedi'i drosi)

RHW16 (RHW17)

Mae gan ddeiliad contract o dan gontract safonol cyfnodol ôl-ddyledion rhent sylweddol (adran 181)

Gorfodol ar yr amod bod y llys yn fodlon bod gan ddeiliad y contract–

(a)  ôl-ddyledion rhent sylweddol ar y diwrnod y cyflwynodd y landlord yr hysbysiad iddo, a bod ganddo

(b) ôl-ddyledion rhent sylweddol ar y diwrnod y mae'r llys yn gwrando'r hawliad cymryd meddiant (yn amodol ar unrhyw amddiffyniad sydd ar gael sy'n seiliedig ar hawliau deiliad y contract o dan y Confensiwn)

Adran 182

14 diwrnod

RHW20

Cyflwynir hysbysiad y landlord mewn cysylltiad â diwedd cyfnod penodol (adran 186). Mae'n gymwys i gontractau o dan Atodlen 9B.

Gorfodol (yn amodol ar unrhyw amddiffyniad sydd ar gael sy'n seiliedig ar hawliau deiliad y contract o dan y Confensiwn)

Adran 186

Dau fis

RHW22

Mae gan ddeiliad contract o dan gontract safonol cyfnod penodol ôl-ddyledion rhent sylweddol (adran 187)

Gorfodol ar yr amod bod y llys yn fodlon bod gan ddeiliad y contract–

(a)  ôl-ddyledion rhent sylweddol ar y diwrnod y cyflwynodd y landlord yr hysbysiad iddo, a bod ganddo

(b) ôl-ddyledion rhent sylweddol ar y diwrnod y mae'r llys yn gwrando'r hawliad cymryd meddiant (yn amodol ar unrhyw amddiffyniad sydd ar gael sy'n seiliedig ar hawliau deiliad y contract o dan y Confensiwn)

Adran 188

14 diwrnod

RHW20

Methu ag ildio meddiant ar y dyddiad a nodir mewn hysbysiad o gan gymal terfynu deiliad y contract (191)

Gorfodol (yn amodol ar unrhyw amddiffyniad sydd ar gael sy'n seiliedig ar hawliau deiliad y contract o dan y Confensiwn)

Adran 192

Dim

RHW23

Cyflwynir hysbysiad o dan gymal terfynu landlord (adran 199)

Gorfodol (oni bai ei fod yn achos o droi allan dialgar: ac yn amodol ar unrhyw amddiffyniad sydd ar gael sy'n seiliedig ar hawliau deiliad y contract o dan y Confensiwn)

Adran 194

Chwe mis (dau fis ar gyfer contract safonol cyfnod penodol a nodir yn Atodlen 8A)

RHW24 (RHW25)

Cyflwynir hysbysiad mewn perthynas â diwedd contract safonol cyfnod penodol wedi'i drosi (para 25B(2) o Atodlen 12)

Gorfodol

Paragraff 25B(6) o Atodlen 12

Dau fis

RHW38