Neidio i'r prif gynnwys

Cyflwyniad

Nod y canllaw hwn yw:

  • helpu ymarferwyr sy’n gweithio mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar nas cynhelir i ddeall ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn 
  • egluro sut mae ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn cael ei ddefnyddio yn y system anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yng Nghymru 

Yn y canllaw hwn:

  • mae’r term ‘lleoliad’ yn cyfeirio at unrhyw leoliad blynyddoedd cynnar yn y sector nas cynhelir
  • mae’r term ‘lleoliadau blynyddoedd cynnar nas cynhelir’ yn cyfeirio at leoliadau fel gwarchodwyr plant, Dechrau’n Deg, cylchoedd meithrin a lleoliadau sydd wedi’u cofrestru ar gyfer addysg gynnar

Ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn

Mae ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn ffordd i bobl gydweithio a chyfathrebu’n gadarnhaol gyda’i gilydd, gan sicrhau mai’r plentyn yw canolbwynt y broses bob amser.

Mae modd defnyddio ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ar gyfer plant o bob math, nid dim ond y rhai sydd ag ADY. Yn ei hanfod, mae ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • trin y plentyn fel unigolyn 
  • ystyried a chydnabod dymuniadau, cryfderau, safbwyntiau a dyheadau’r plentyn
  • gwrando ar yr hyn y mae’r plentyn yn ei feddwl, yn ei deimlo ac yn gobeithio amdano
  • diddordebau, dewisiadau a nodau’r plentyn
  • ystyried yr hyn sydd ei angen ar y plentyn i gadw’n iach, yn ddiogel a gallu dysgu 
  • sicrhau bod llais y plentyn yn ganolog i gynlluniau a phenderfyniadau

Mae’r dull gweithredu Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar yn gosod datblygiad plant wrth wraidd y ddarpariaeth ac yn hyrwyddo ymarfer cynhwysol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ledled y blynyddoedd cynnar. Mae’r dull gweithredu hwn yn cyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru, sydd wedi’i gynllunio i fod yn gynhwysol i bob dysgwr, gan gynnwys y rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae’n cefnogi parhad dysgu a datblygiad ym mhob lleoliad nas cynhelir ac ym mhob ysgol. 

Ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn mewn addysg

Mae’r dull gweithredu hwn yn hyrwyddo ymarfer cynhwysol ac yn helpu i greu amgylcheddau effeithiol lle mae pob plentyn yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi a’i gefnogi, a bod pobl yn gwrando arno. Hefyd, mae’n sicrhau bod pawb sy’n ymwneud â phlentyn yn deall y canlynol:

  • beth sy’n bwysig i’r plentyn
  • sut mae’r plentyn yn datblygu ac yn dysgu orau
  • sut mae’n cymryd rhan mewn gweithgareddau bob dydd
  • y cymorth sydd ei angen ar y plentyn i ffynnu

Ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a’r system anghenion dysgu ychwanegol (ADY)

Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (“y Ddeddf ADY”) yn gosod dyletswydd gyfreithiol ar feithrinfeydd, ysgolion, sefydliadau addysg bellach ac awdurdodau lleol i fabwysiadu dull gweithredu sy’n seiliedig ar hawliau. Mae hyn yn sicrhau bod safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r plentyn yn ganolog i benderfyniadau am gynllunio ei addysg, nawr ac yn y dyfodol.

Os bydd awdurdod lleol yn nodi bod gan blentyn mewn lleoliad nas cynhelir ADY, rhaid i’r awdurdod lleol baratoi a chynnal cynllun datblygu unigol (CDU). Mae CDU yn ddogfen gyfreithiol sy’n nodi anghenion y plentyn a’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY) sydd ei hangen i ddiwallu’r anghenion hyn.

Mae adran 11.3 o’r Cod ADY yn datgan:

“Os yw plentyn yn cael addysg feithrin a gyllidir gan awdurdod lleol mewn darparwr nas cynhelir, dylai’r darparwr helpu’r awdurdod lleol i arfer ei swyddogaethau ADY mewn perthynas â’r plentyn hwnnw os yw’n cael cais i wneud hynny, gan gynnwys mewn achosion pan fo plentyn yn cael addysg feithrin gan ddarparwyr a gynhelir a darparwyr nas cynhelir.”

Dylid defnyddio dull gweithredu sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i greu pob CDU yn y system ADY. Mae hyn yn golygu y bydd y bobl sy’n adnabod y plentyn orau yn rhan o’r broses.

Mae pob person yn gweld rhan wahanol o fywyd y plentyn. Bydd dwyn eu safbwyntiau ynghyd yn helpu i greu darlun clir a chyfannol o’r plentyn a’r hyn sydd ei angen arno.

Mae ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn llawer mwy na chyfarfod untro neu ddogfen unigol. Mae’n ddull parhaus sy’n datblygu’n gyson wrth i’r plentyn dyfu ac wrth i’w anghenion newid. Dylid annog plant i gymryd rhan mor llawn â phosibl yn y penderfyniadau a wneir drwy gydol eu taith dysgu a datblygu. 

Rôl lleoliadau nas cynhelir

Gall rôl y lleoliad mewn cyfarfod neu ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn amrywio gan ddibynnu ar anghenion y plentyn.

Mae’r awdurdod lleol yn parhau i fod yn gyfrifol am ddatblygu, cyhoeddi a chynnal y CDU, gan gynnwys lleoliad cyfarfod ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i lywio datblygiad CDU. 

Er y bydd yr awdurdod lleol yn hwyluso’r cyfarfod, mae’n bosibl y bydd yn gofyn am gael cynnal y cyfarfod yn y lleoliad. Os yw’r cyfarfod yn cael ei gynnal yn rhywle arall, bydd ymarferwyr yn cael cyfle i fynegi eu barn neu fynd i’r cyfarfod. 

Gellir defnyddio adnoddau ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn er mwyn cynorthwyo ymarferwyr i baratoi. Hefyd, bydd y lleoliad yn helpu i gynrychioli barn y plentyn drwy ei broses arsylwi. 

Gall lleoliadau ddefnyddio cyfarfod ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn er mwyn helpu i gynllunio ar gyfer pontio, rhannu gwybodaeth neu gynnal trafodaethau ehangach am blentyn, hyd yn oed os nad yw CDU yn cael ei ddatblygu neu os nad oes gan y plentyn ADY.

Mae hyn yn wahanol i gyfarfodydd a gynhelir i benderfynu a oes gan blentyn neu berson ifanc ADY ac, os felly, i baratoi CDU. O dan yr amgylchiadau hynny, nid oes CDU ar gael i’w ystyried na’i adolygu fel arfer.

Cyfarfod sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn

Mae cyfarfod sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn rhoi’r plentyn yng nghanol y drafodaeth ac yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • beth mae pawb yn ei hoffi a’i edmygu am y plentyn
  • beth sy’n bwysig i’r plentyn
  • beth sy’n bwysig ar gyfer y plentyn
  • beth sy’n gweithio ac sydd angen ei barhau
  • beth sydd ddim yn gweithio ac y gellir ei wneud yn well

Mae modd cynnal cyfarfod neu adolygiad ‘sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn’ i archwilio beth sydd wedi digwydd, beth sy’n digwydd ar hyn o bryd a beth sydd angen iddo ddigwydd yn y dyfodol, gan ddefnyddio offerynnau a thechnegau meddwl sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Wrth wneud hyn, rhaid gosod y plentyn wrth wraidd y cynllun, yn ogystal â’r unigolion hynny sy’n cefnogi neu’n helpu gyda’r cynllun.

Mae cyfarfodydd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i fod yn anffurfiol, ac mae’n bwysig bod pawb yn gallu ymlacio a theimlo’n gyfforddus. Mae safbwyntiau pawb yn cael eu gwerthfawrogi’n gyfartal. 

Bydd yn rhaid i’r person sy’n trefnu’r cyfarfod gydymffurfio ag unrhyw rwymedigaethau perthnasol yn ymwneud â’r Gymraeg. Hefyd, bydd rhaid ystyried a oes angen gwneud addasiadau rhesymol fel mynediad at Iaith Arwyddion Prydain (BSL) neu gyfieithydd. 

Rhaid sicrhau bod y broses o rannu a thrafod unrhyw wybodaeth yn digwydd mewn ffordd sensitif ar gyfer rhieni. 

Trefnu cyfarfod sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn

Mae modd cynnal cyfarfod ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn am y rhesymau canlynol:

  • i gasglu ffeithiau am blentyn, yn aml wrth iddo ddechrau mynychu lleoliad er mwyn helpu i ddeall sut i’w gefnogi
  • ar adegau pontio pwysig, er enghraifft wrth symud ymlaen i leoliad gwahanol fel ysgol
  • i lunio CDU (swyddogaeth awdurdod lleol)
  • o leiaf bob 12 mis er mwyn adolygu CDU presennol, neu’n gynt os yw’r amgylchiadau wedi newid yn sylweddol (swyddogaeth awdurdod lleol)

Mae’r Ddeddf ADY yn nodi bod yn rhaid adolygu CDU o leiaf bob blwyddyn, ac yn amlach na hynny os yw amgylchiadau’n newid neu am resymau yn ymwneud â chynnydd. Fodd bynnag, mae’r dull ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn annog ymarferwyr i fynd y tu hwnt i’r gofynion sylfaenol ac ystyried pa mor aml y mae angen cynnal cyfarfodydd adolygu er budd pennaf y plentyn. 

Bydd yr amseriad cywir yn wahanol i bob plentyn. Mae angen adolygiadau byr a gynhelir yn aml ar rai plant er mwyn sicrhau lefel uchaf o fomentwm a chymhelliant, yn enwedig yn ystod cyfnodau pontio neu wrth weithio tuag at ddeilliannau tymor byr. Mae’n well gan rai cynnal cyfarfodydd yn llai aml er mwyn rhoi cyfle i’r plentyn wneud cynnydd a gwreiddio sgiliau. Gallai fod yn well monitro plant yn amlach os ydynt yn blant iau neu’n blant ag anghenion sy’n newid yn gyflym, tra bod eraill yn ffynnu dan drefniant o gynnal adolygiadau ffurfiol yn llai aml.

Mae adolygiadau effeithiol yn ymateb i newid hefyd. Weithiau mae amgylchiadau’n newid yn annisgwyl: mae heriau newydd yn dod i’r amlwg, mae cyfleoedd yn codi, mae anghenion plant yn esblygu, mae plant yn pontio i leoliadau eraill. Pan fydd hyn yn digwydd, efallai y bydd angen adolygu CDU yn gynt na’r disgwyl. 

Mae’r Cod ADY yn caniatáu ar gyfer yr hyblygrwydd hwn, gan gydnabod bod yn rhaid i gymorth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn addasu mewn amser real. Mae gwybod pryd i gychwyn adolygiad cynnar yn dangos bod ymarferwyr wir yn gwrando ar y plentyn ac yn addasu’r ddarpariaeth i ddiwallu ei anghenion newidiol, yn hytrach nag aros am ddyddiad sydd wedi’i drefnu a allai fod yn amhriodol bellach. Os yw ymarferydd yn teimlo bod angen cynnal adolygiad, bydd yn cysylltu â swyddog arweiniol anghenion dysgu ychwanegol blynyddoedd cynnar yr awdurdod lleol.

Gall rôl y lleoliad mewn cyfarfod neu ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn amrywio gan ddibynnu ar anghenion y plentyn.

Gall lleoliadau ddefnyddio cyfarfodydd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn er mwyn helpu i gynllunio ar gyfer pontio a rhannu gwybodaeth am blentyn, hyd yn oed os nad yw CDU yn cael ei ddefnyddio neu os nad oes gan y plentyn ADY.

Datblygu CDU sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn

Os yw awdurdod lleol wedi penderfynu bod gan blentyn ADY, dylai gysylltu â lleoliad y plentyn i drafod cynnal cyfarfod sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn er mwyn datblygu CDU yn unol â’r amserlen statudol. Mae’r Cod ADY yn cynnwys canllawiau sy’n berthnasol i ddarparwyr addysg feithrin nas cynhelir sy’n cael eu hariannu gan awdurdod lleol. Mae’n ofynnol i ddarparwyr o’r fath, yn unol â threfniadau ariannu’r awdurdod lleol, roi sylw i’r canllawiau hynny.

Mae’n bosibl y gofynnir i leoliad y plentyn helpu i gynnal y cyfarfod am y rhesymau canlynol:

  • bydd rhieni’r plentyn yn gyfarwydd â’r lleoliad 
  • bydd ymarferwyr allweddol yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod cyfan neu mewn rhan ohono

Os nad yw hyn yn ymarferol, bydd ymarferwyr yn gallu cyflwyno eu safbwyntiau cyn y cyfarfod.

Sut i gynnal cyfarfod sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn

Mae cyfarfodydd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu i sicrhau bod plentyn wrth wraidd y broses. 

Mae’n debyg mai cynnal cyfarfodydd gyda phawb yn yr un ystafell yw’r dull gweithredu mwyaf effeithiol yn y rhan fwyaf o achosion. Os oes rhwystrau i hyn, gallai fod yn fwy priodol cynnal cyfarfod yn rhithwir, naill ai’n gyfan gwbl neu’n rhannol. 

Dylai’r person sy’n trefnu’r cyfarfod feddwl yn ofalus am sut i greu amgylchedd cefnogol lle mae pawb yn teimlo’n gyfforddus ac yn hyderus i rannu eu safbwyntiau. 

Mae’n bosibl y bydd y plentyn yn bresennol am rywfaint o’r cyfarfod, ond nid y cyfarfod cyfan. Mae angen ystyried ymlaen llaw pwy sy’n gwneud y penderfyniadau ynglŷn ag a fydd y plentyn yn bresennol ac am ba hyd. Rhaid meddwl am anghenion y plentyn ac ystyried a fyddai’n teimlo’n hyderus neu’n bryderus pe bai’n mynd i’r cyfarfod. 

Er mwyn annog a hwyluso cyfranogiad ystyrlon, rhaid ystyried y canlynol: 

  • dylunio cynllun yr ystafell i weddu i’r plentyn a’r rhiant 
  • cynnal y cyfarfod mewn ystafell sy’n gyfarwydd i’r plentyn a’r rhiant
  • cynnal cyfarfod byr sy’n canolbwyntio ar faterion penodol yn unig os yw hynny’n helpu
  • paratoi rhiant neu blentyn ar gyfer y cyfarfod ymlaen llaw, er enghraifft trwy roi cyfle i ymweld â’r ystafell ymlaen llaw, esbonio trefn y cyfarfod, a rhannu’r cwestiynau sy’n debygol o gael eu gofyn 
  • cynnig cyfarfod dilynol er mwyn siarad am yr hyn a drafodwyd a rhannu unrhyw syniadau neu adborth

Sut i hwyluso cyfranogiad plentyn

Os yw’r plentyn yn gallu rhannu’r hyn y mae’n ei feddwl, gellid gwneud hynny drwy:

  • siarad â’r rhiant neu oedolyn y mae’r plentyn yn ymddiried ynddo 
  • defnyddio hoff ddulliau cyfathrebu’r plentyn, er enghraifft arwyddion, symbolau, ffotograffau, gwrthrychau cyfeirio neu luniadau
  • creu fideo byr neu nodyn llais
  • defnyddio technoleg gynorthwyol neu ddulliau cyfathrebu amgen fel braille neu BSL os yw hynny’n briodol 

Os nad yw’r plentyn yn mynychu’r cyfarfod, mae sawl ffordd greadigol o gynnwys llais y plentyn hyd yn oed os nad yw’n bresennol:

  • mae casgliad o luniau sy’n dangos y plentyn yn gwneud pethau y mae’n eu mwynhau yn gallu helpu pawb yn yr ystafell i gysylltu â phwy yw’r plentyn mewn gwirionedd, nid dim ond yr hyn sydd wedi’i ysgrifennu mewn adroddiadau
  • mae’n bosibl y bydd yn haws i blant iau yn benodol fynegi eu hunain yn weledol trwy ddod ag eitem y maent wedi’i gwneud neu lun y maent wedi’i dynnu 
  • gallai eiriolwr fod yn bresennol i gynrychioli safbwyntiau’r plentyn

Mae’n bwysig casglu ystod o wybodaeth o safbwynt y plentyn. Yn ogystal â gweithio gyda rhieni a gweithwyr proffesiynol, gellir gwneud hyn drwy:

  • arsylwadau
  • cofnodi lleisiau plant 

Arsylwadau

Bydd sicrhau amrywiaeth o arsylwadau rheolaidd yn darparu llawer o wybodaeth bwysig am ddewisiadau a blaenoriaethau plentyn. Bydd ystyried y mathau o arsylwadau a wnaed a’r wybodaeth sydd ei hangen yn helpu i gofnodi’r wybodaeth gywir am blentyn. Er enghraifft, os ydym eisiau deall dewisiadau chwarae plentyn, bydd dull arsylwi ‘olrhain dewisiadau’ yn ddefnyddiol i ni. Fel arall, os ydym eisiau olrhain faint o ddiddordeb sydd gan blentyn mewn datblygu ei sgil, mae modd cyfeirio at arsylwadau naratif a graddfeydd cyfranogiad. 

Trwy sicrhau cydbwysedd o ran arsylwadau mewn darpariaeth dan arweiniad plant, er enghraifft, dan do ac yn yr awyr agored, bydd modd dysgu am ddewisiadau, datblygiad a chynnydd plentyn. Bydd clipiau fideo a ffotograffau anodedig yn helpu i gofnodi llais y plentyn yn ogystal â chofnodi cynnydd.

Wrth gofnodi dewisiadau a chynnydd plant, rhaid sicrhau bod eu safbwyntiau yn cael eu cofnodi, gan gofio bod clywed llais y plentyn yn elfen bwysig o ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Dylid ysgrifennu datganiadau o gyflawniadau, dewisiadau a blaenoriaethau o safbwynt y plentyn, er enghraifft ‘Rydw i’n gallu...’, ‘Rydw i’n dysgu i...’, ‘Rydw i’n hoffi…’. 

Mae rhagor o ganllawiau ar gael yn y deunyddiau Chwarae, dysgu a gofal plentyndod cynnar yng Nghymru ar Hwb.

Cofnodi llais a dewis

Mae angen i bob plentyn gael cyfleoedd i ymateb i gwestiynau agored sy’n ceisio canfod eu safbwyntiau a’u teimladau. Mae angen iddynt gael cyfleoedd yn eu dysgu a’u chwarae i ymarfer cael eu holi neu gael opsiynau er mwyn gwneud dewisiadau.

Ystyried sut mae dewisiadau plant yn cael eu cofnodi. Dyma rai syniadau:

  • defnyddio offerynnau cerdd neu floedd i nodi hapusrwydd am ddewisiadau neu weithgareddau
  • defnyddio tocynnau wyneb hapus a thrist i nodi dewisiadau a blaenoriaethau 
  • casglu syniadau creadigol plant (darluniau, gwneud marciau, ffotograffau) mewn llyfrau mawr (neu lyfrau digidol) er mwyn cofnodi eu llais
  • defnyddio tegan meddal neu byped cyfarwydd i ofyn y cwestiynau ac annog rhyngweithio â’r plentyn
  • defnyddio gwrthrychau cyfeirio er mwyn cefnogi dewisiadau ar hyd y drefn ddyddiol

Er mwyn sicrhau bod safbwyntiau plant yn cael eu rhannu mor gywir â phosibl, rhaid iddynt gael cyfleoedd rheolaidd yn ystod y dydd i ymarfer gwneud dewisiadau ac ateb cwestiynau.

Yn ystod y cyfarfod sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn

Bydd natur pob cyfarfod sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn wahanol. Bydd cyfarfodydd yn newid i ddiwallu anghenion y plentyn, ond fel arfer maent yn cynnwys y camau canlynol. 

  • Cyflwyniad: mae’r rhai sy’n bresennol yn y cyfarfod yn cyflwyno eu hunain ac yn rhoi esboniad cryno o’u rôl yn addysg y plentyn.
  • Trafodaethau: bydd y cyfarfod yn rhyngweithiol, gan roi cyfle i bawb gyfrannu a thrafod y canlynol:
    • beth y maent yn ei hoffi a’i edmygu am y plentyn
    • beth sy’n bwysig i’r plentyn ac ar gyfer y plentyn
    • beth sy’n gweithio a ddim yn gweithio
  • Camau gweithredu: ar sail y trafodaethau, bydd modd creu crynodeb. Gallai gynnwys diwygiadau i’r CDU (os oes un). 
  • Adolygiad: rhaid adolygu’r CDU o leiaf bob 12 mis. Rhaid gwneud hyn er mwyn sicrhau bod anghenion a darpariaeth y plentyn yn parhau i fod yn berthnasol ac yn effeithiol. 

Y nod yw creu system gydweithredol a thryloyw sy’n sicrhau deilliannau gwell i blant.

Ar ôl cyfarfod sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn

Ar ôl y cyfarfod, dylai’r person sy’n arwain y cyfarfod ystyried cynnig cyfle i drafod yr wybodaeth a’r cyngor a gasglwyd. 

Rhaid i’r plentyn a’i riant gael gwybod yn ysgrifenedig (gyda hawliau apelio clir) am unrhyw benderfyniadau ffurfiol a gafodd eu gwneud yn y cyfarfod. Er enghraifft, gallai’r rhain gynnwys:

  • penderfyniadau yn ymwneud ag a oes gan y plentyn ADY
  • natur ac ehangder y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol
  • pwy sy’n cynnal ac yn adolygu’r cynllun
  • a oes penderfyniad wedi’i wneud i roi’r gorau i’r cynllun 

Trwy gydol y broses, dylai’r lleoliad gyfathrebu’n agored, yn glir ac yn rheolaidd â’r plentyn a’i riant. Dylai hyn gynnwys diweddariadau amserol ar gynnydd a chymorth.

Offerynnau ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn er mwyn helpu i gofnodi’r hyn sy’n bwysig am y plentyn

Mae modd defnyddio offerynnau ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn gwahanol mewn cyfarfod sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Gellir eu defnyddio er mwyn helpu i rannu’r hyn sy’n bwysig am y plentyn. Nid oes angen i ymarferwyr ddefnyddio pob un ohonynt, dim ond y rhai sy’n teimlo fwyaf ystyrlon a defnyddiol i’r plentyn. 

Mae’r offerynnau hyn yn cael eu defnyddio’n rheolaidd ar gyfer llawer o blant, nid dim ond y rhai sydd ag ADY. Maent yn cynorthwyo pob gweithiwr proffesiynol i weithio mewn ffordd gynhwysol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. 

Dyma rai enghreifftiau o offerynnau y gallwch eu defnyddio.

Proffil un dudalen

Mae’r offeryn Proffil un dudalen yn darparu ciplun manwl o’r plentyn y gellir ei rannu’n hwylus gydag ymarferwyr. Nid oes un ffordd gywir o ddatblygu a chyflwyno proffil, ond byddai’n fuddiol pe bai’r arddull a’r iaith yn adlewyrchu unigoliaeth y plentyn. Hefyd, mae’n bosibl y bydd gan awdurdod lleol gynllun penodol ar gyfer y proffil un dudalen sydd i’w ddefnyddio yn ardal leol lleoliad.

Dylai proffiliau un dudalen gynnwys:

  • beth mae pobl yn ei hoffi a’i edmygu am y plentyn 
  • beth sy’n bwysig i’r plentyn
  • beth yw’r ffordd orau o gefnogi’r plentyn

Beth mae’r offeryn hwn yn ei wneud

Mae’r offeryn hwn yn gwahanu’r hyn sy’n bwysig i blentyn (yr hyn sy’n ei wneud yn hapus, yn fodlon ac yn gwella ei lesiant) oddi wrth yr hyn sy’n bwysig ar ei gyfer (y cymorth neu’r gefnogaeth sydd eu hangen ar y plentyn i gadw’n iach ac yn ddiogel), gan weithio hefyd tuag at gydbwysedd rhwng y ddau.

Sut mae hyn yn helpu

  • Mae’r offeryn yn nodi’r hyn y mae angen iddo fod yn bresennol neu’n absennol ym mywyd y plentyn er mwyn sicrhau bod y plentyn yn derbyn cymorth mewn ffyrdd sy’n gwneud synnwyr iddo, gan gadw’n iach ac yn ddiogel ar yr un pryd.
  • Mae’r offeryn hwn yn darparu crynodeb cyflym o bwy yw’r plentyn, a sut i gefnogi’r plentyn, sy’n addas i bawb sy’n gweithio gyda’r plentyn.

Offeryn gwerthfawrogi

Beth mae’r offeryn hwn yn ei wneud

Mae’r offeryn Gwerthfawrogi yn nodi’r rhinweddau y mae pobl yn eu gwerthfawrogi a’u hedmygu am y plentyn. Mae’n helpu pobl sy’n cefnogi’r plentyn i weld yr hyn sy’n gwneud plentyn yn unigryw.

Sut mae hyn yn helpu

  • Mae’r offeryn yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi doniau a rhinweddau plentyn.
  • Mae’r offeryn yn sicrhau ein bod yn gweld y plentyn am bwy ydyw ac mae’n mynd yn groes i’r pwyslais a roddir yn aml ar yr hyn sydd o’i le.
  • Mae’r offeryn yn nodi’r rhai sydd â chysylltiad personol â’r plentyn a’r rhai sy’n gwybod go iawn beth sy’n bwysig i’r plentyn.

Beth sy’n gweithio a ddim yn gweithio

Beth mae’r offeryn hwn yn ei wneud

Mae’r offeryn Beth sy’n gweithio a ddim yn gweithio yn eich helpu i feddwl am yr hyn sy’n gweithio’n dda i blentyn, yr hyn sy’n teimlo’n ddefnyddiol ac a ddylai aros yr un fath, yn ogystal â’r hyn sydd ddim yn gweithio ac sydd angen ei newid o bosibl. 

Sut mae hyn yn helpu

  • Mae’r offeryn yn annog pawb i edrych ar y sefyllfa o safbwyntiau gwahanol er mwyn cael darlun clir o’r hyn sy’n mynd yn dda a’r hyn sydd angen ei wella.

Cylch perthynas

Beth mae’r offeryn hwn yn ei wneud

Mae’r offeryn Cylch perthynas yn nodi pwy yw’r bobl bwysig ym mywyd plentyn.

Sut mae hyn yn helpu

  • Mae’r offeryn yn helpu i ddatgelu pwy yw’r bobl bwysicaf i’r plentyn ac a oes unrhyw faterion pwysig yn ymwneud â pherthnasoedd.
  • Mae’r offeryn yn helpu i nodi â phwy y dylid siarad wrth gasglu gwybodaeth.
  • Mae’r offeryn yn dangos perthnasoedd y gellid eu cryfhau neu eu cefnogi.

Diwrnod da, diwrnod gwael

Beth mae’r offeryn hwn yn ei wneud

Mae’r offeryn Diwrnod da, diwrnod gwael yn archwilio beth sy’n gwneud diwrnod da a beth sy’n gwneud diwrnod gwael. Mae’n galluogi’r oedolion ym mywyd plentyn i wneud newidiadau a fydd yn arwain at fwy o ddiwrnodau da.

Mae’n helpu’r oedolion ym mywyd plentyn i archwilio beth mae’r wybodaeth y maent yn ei chasglu yn ei ddangos am yr hyn sy’n bwysig i’r plentyn, a sut i’w gefnogi orau o safbwynt y plentyn.

Sut mae hyn yn helpu

  • Mae’r offeryn yn fodd i ni weld beth sydd angen bod yn bresennol a beth sydd angen bod yn absennol ym mywyd rhywun.
  • Mae’r offeryn yn darparu gwybodaeth i rywun nad yw’n adnabod y plentyn yn dda o bosibl.
  • Mae’r offeryn yn rhoi syniadau i ni ar gyfer sicrhau bod llawer o adegau a phrofiadau da sy’n codi ysbryd plentyn yn bresennol bob dydd.
  • Wrth bontio, mae’r offeryn yn darparu gwybodaeth glir am y plentyn i’r lleoliad neu’r ysgol newydd, gan nodi a yw hwn yn ddiwrnod da neu wael iddo.

Siart cyfathrebu

Beth mae’r offeryn hwn yn ei wneud 

Mae’r offeryn Siart cyfathrebu yn darparu cipolwg ar sut mae plentyn yn cyfathrebu, yn ogystal â modd o ddeall beth sydd wedi’i gyfleu gan blentyn o bosibl yn ogystal â’r hyn y mae’n ei ddweud.

Sut mae hyn yn helpu

  • Mae’r offeryn hwn yn ein helpu i ganolbwyntio ar sut mae plentyn yn cyfathrebu, ac a yw’n defnyddio geiriau i siarad ai peidio.
  • Mae’r offeryn hwn yn darparu gwybodaeth glir am sut i ymateb i’r ffordd y mae’r plentyn yn cyfathrebu.

Offeryn 4 plws 1

Beth mae’r offeryn hwn yn ei wneud

Mae’r offeryn 4 plws 1 yn helpu pobl i ganolbwyntio ar yr hyn y maent yn ei ddysgu o’u hymdrechion, ac ar sail hyn, beth sydd angen digwydd nesaf.

Sut mae hyn yn helpu

  • Mae’r offeryn yn rhoi ffordd strwythuredig o sicrhau bod llais pawb yn cael ei glywed a bod pawb yn gallu disgrifio’r hyn y maent wedi’i ddysgu.
  • Gellir defnyddio’r offeryn i baratoi ar gyfer cyfarfodydd adolygu a gwaith unigol gyda phlant a theuluoedd.
  • Mae’r offeryn yn helpu wrth adolygu camau gweithredu a nodwyd mewn cynlluniau a datblygu camau pellach.

Cofnod dysgu

Beth mae’r offeryn hwn yn ei wneud

Mae’r offeryn Cofnod dysgu yn cyfarwyddo pobl i chwilio am ddysgu parhaus trwy gofnodi gweithgareddau a phrofiadau penodol.

Sut mae hyn yn helpu

  • Mae’r offeryn yn galluogi pobl i gofnodi dysgu parhaus (gan ganolbwyntio ar yr hyn a weithiodd yn dda a’r hyn na weithiodd yn dda) ar gyfer unrhyw ddigwyddiad neu weithgaredd.
  • Mae’r offeryn yn dweud wrthym beth sy’n bwysig i deuluoedd a’r plentyn a beth sy’n bwysig ar eu cyfer. 
  • Mae’r offeryn yn gallu disodli nodiadau neu gofnodion traddodiadol. Mae’n helpu defnyddwyr i ddeall pwysigrwydd rhoi llai o sylw i gyflawni tasgau, a mwy o sylw i gynorthwyo plant i gael bywyd da yn seiliedig ar wrando a dysgu yn barhaus.

 

Awgrymiadau ar gyfer lleoliadau sydd eisiau defnyddio cyfarfod sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn (y tu allan i’r broses CDU)

  • Trefnu’r dyddiad, yr amser a’r lleoliad gyda’r holl bartïon perthnasol ac anfon gwahoddiadau mewn da bryd.
  • Meddwl am y ffordd orau a’r amser gorau i gynnal y cyfarfod i chi a’r teulu: ar-lein neu wyneb yn wyneb, ffurfiol neu anffurfiol, defnyddio PowerPoint neu nodiadau ysgrifenedig.
  • Gall y cyfarfod hwn fod yn fan cychwyn y berthynas rhwng rhieni a gweithwyr proffesiynol eraill felly rhaid sicrhau ei fod yn brofiad cadarnhaol.
  • Rhaid sicrhau bod yr holl wybodaeth allweddol wrth law. 
  • Gall fod yn ddefnyddiol cwblhau offerynnau ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn cyn y cyfarfod. 
  • Sicrhau bod pawb yn teimlo’n gyfforddus wrth gyflwyno pawb.
  • Sicrhau bod pawb yn cael cyfle i gyfrannu at y cyfarfod.
  • Cofnodi ffeithiau ac osgoi gwneud rhagdybiaethau.
  • Mae angen cyfathrebu, negodi ac, weithiau, cyfaddawdu.
  • Mae angen bod yn gadarnhaol.
  • Sicrhau bod y plentyn yn ganolog i’r cyfarfod.
  • Canolbwyntio ar atebion, nid rhwystrau.
  • Ni allwch neilltuo cam gweithredu i rywun nad yw’n bresennol yn y cyfarfod. Fodd bynnag, gallwch argymell bod rhywun arall yn y cyfarfod yn gwneud atgyfeiriad at y person, neu’n cysylltu â’r person, er mwyn mynd i’r afael â’r mater.
  • Cofnodi’r camau nesaf yn glir a phwy fydd yn gyfrifol am unrhyw gamau gweithredu.
  • Anfon copïau o gamau gweithredu cyn gynted â phosibl a gofyn am unrhyw hysbysiad am newidiadau gofynnol yn unol ag amserlen benodol.
  • Rhoi unrhyw gamau gweithredu ar waith sy’n deillio o’r camau nesaf ac adolygu.
  • Rhaid i chi beidio â darogan y cymorth sydd ar gael, dim ond datgan yr hyn sydd wedi’i gytuno.
  • Peidio â chodi gobeithion rhieni.
  • Cysylltu â rhieni ar ôl y cyfarfod i sicrhau eu bod yn deall beth a gafodd ei gytuno.
  • Trosglwyddo gwybodaeth i ysgolion neu leoliadau yn ystod cyfarfodydd pontio.

Dolenni defnyddiol

Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021

Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir (Hwb)

  • Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir (Hwb)

    Cyfres o fodiwlau a gwybodaeth ategol i gynorthwyo ymarferwyr i fyfyrio ar ymarfer a darpariaeth yn y meysydd canlynol: Deall y Cwricwlwm i Gymru a datblygu cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir; Deall y pum llwybr datblygu ac addysgeg; Datblygiad sgematig: Sylwi ar y patrymau ymddygiad ailadroddus mewn chwarae plant a’u cefnogi; ac Arweinyddiaeth mewn lleoliadau meithrin nas cynhelir.

Canllaw i rieni a gofalwyr i’r trefniadau asesu ar gyfer babanod a phlant 0 i 3 oed yng Nghymru

Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer gofal plant wedi’i reoleiddio ar gyfer plant hyd at 12 oed

Chwarae, dysgu a gofal plentyndod cynnar yng Nghymru (Hwb)

Anghenion dysgu ychwanegol: canllawiau ar gyfer rhieni a gofalwyr

Anghenion dysgu ychwanegol: pecyn cymorth i rieni a gofalwyr

  • Anghenion dysgu ychwanegol: pecyn cymorth i rieni a gofalwyr

    Mae’n helpu rhieni a gofalwyr plentyn neu berson ifanc i ddeall sut mae’r system ADY yn gweithio yng Nghymru a’r cymorth sydd ar gael os ystyrir bod gan eich plentyn ADY. Mae’n esbonio’r ddeddfwriaeth a dogfennau eraill sy’n ffurfio’r system ADY.

Tribiwnlys Addysg Cymru

  • Tribiwnlys Addysg Cymru

    Mae’n gwneud penderfyniadau yn ymwneud ag apeliadau am ADY a honiadau o wahaniaethu ar sail anabledd mewn ysgolion.

Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd

  • Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd

    Mae’n darparu help, cymorth a chyngor di-dâl a diduedd mewn perthynas â llawer o faterion teuluol gan gynnwys cymorth ar gyfer anghenion ychwanegol.

Niwrowahaniaeth Cymru

  • Niwrowahaniaeth Cymru

    Mae’n darparu adnoddau sydd â’r nod o gynyddu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth o niwrowahaniaeth ymhlith rhieni a gofalwyr pobl niwrowahanol. 

Geirfa

Mae’r eirfa isod yn nodi ystyr geiriau ac ymadroddion, gan gynnwys byrfoddau, a ddefnyddir yn y canllaw hwn.

Adolygiad sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn 

Ffordd o adolygu cynnydd a chymorth plentyn sy’n rhoi lle canolog i lais y plentyn a’i rieni. Mae’n wahanol i adolygiad traddodiadol oherwydd bod barn pawb cyn bwysiced â’i gilydd.

Anghenion dysgu ychwanegol (ADY)

Plant a phobl ifanc ag anawsterau dysgu neu anableddau sydd angen cymorth ychwanegol i ddysgu. 

Awdurdod lleol

Cyngor sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru, ac eithrio mewn achosion lle mae cyfeiriad penodol at awdurdod lleol yn Lloegr (gweler adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996 ar gyfer ystyr hyn). 

Cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol (CADY) 

Person sy’n cael ei ddynodi gan ysgol neu goleg a gynhelir i fod â chyfrifoldeb am gydlynu darpariaeth ddysgu ychwanegol ar gyfer plant a phobl ifanc ag ADY.

Cynllun datblygu unigol (CDU) 

Y cynllun statudol ar gyfer plant a phobl ifanc ag ADY. Mae’n esbonio ADY y plentyn neu’r person ifanc a’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sydd ei hangen arno.

Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar yng Nghymru

Mae’n amlinellu egwyddorion a disgwyliadau cyffredin ar gyfer darpariaeth chwarae, dysgu a gofal plentyndod cynnar o ansawdd uchel ledled Cymru, sy’n cyd-fynd â datblygiad plant, dysgu seiliedig ar chwarae a’r Cwricwlwm i Gymru. 

Darpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY)

Y term ar gyfer y cymorth ychwanegol a roddir i blant a phobl ifanc ag ADY.

Deddf ADY 

Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018. 

Deilliannau 

Y pethau mae eich plentyn yn gweithio tuag atynt. Mae deilliannau da yn bersonol ac yn ystyrlon, yn hytrach na thargedau ar restr. Dylent adlewyrchu’r hyn sy’n bwysig i’ch plentyn a beth fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’w fywyd.

Eiriolwr

Mae eiriolwr yn darparu cyngor a chymorth i blentyn neu berson ifanc (gan gynnwys cyfaill achos plentyn) sy’n ystyried gwneud apêl neu’n gwneud apêl i Dribiwnlys Addysg Cymru neu’n cymryd rhan mewn trefniadau i osgoi neu ddatrys anghytundeb.

Nas cynhelir 

Lleoliadau nad ydynt yn cael eu cynnal gan ysgol a chorff llywodraethu. Gall y lleoliadau hyn gael eu hariannu gan yr awdurdod lleol. 

Oedran ysgol gorfodol 

Plant rhwng 5 a 16 oed yng Nghymru.

Plentyn

Person nad yw dros oedran ysgol gorfodol (mae adran 8 o Ddeddf Addysg 1996 yn diffinio hyn).

Proffil un dudalen

Offeryn syml a ddefnyddir mewn ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn sy’n cynnwys yr holl wybodaeth am eich plentyn, beth sy’n bwysig iddo a’r ffordd orau o’i gefnogi.

Rhiant

Gweler adran 576 o Ddeddf Addysg 1996 am ystyr y gair hwn. Mae’r diffiniad hwnnw’n cynnwys unrhyw berson nad yw’n rhiant ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, ac unrhyw berson sy’n gofalu am y plentyn. 

Swyddog Arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol y Blynyddoedd Cynnar 

Y swyddog sydd wedi’i ddynodi (yn unol ag adran 62 o Ddeddf Addysg 1996) gan awdurdod lleol i fod yn gyfrifol am gydlynu swyddogaethau’r awdurdod lleol o dan Ran 2 o’r Ddeddf mewn perthynas â phlant o dan oedran ysgol gorfodol nad ydynt yn mynychu ysgolion a gynhelir.

Tribiwnlys Addysg Cymru 

Mae’n gwneud penderfyniad ar apeliadau yn ymwneud am anghenion dysgu ychwanegol a honiadau o wahaniaethu ar sail anabledd mewn ysgolion.

Ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn 

Dull a ddefnyddir i ddod i adnabod plentyn fel unigolyn a sicrhau mai’r plentyn yw canolbwynt pob penderfyniad. Mae’n canolbwyntio ar beth sy’n bwysig i’ch plentyn, beth sy’n ei helpu, a sut i’w gynorthwyo i deimlo’n hapus ac yn ddiogel a gallu dysgu.

Mae geirfa fwy cynhwysfawr ar gael ym Mhennod 1 o ddogfen Llywodraeth Cymru: Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021.