Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau sylfaenol er mwyn monitro newidiadau yn ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y cyhoedd o ddatganoli trethi yng Nghymru.
Canfyddiadau allweddol
- Dywedodd mwyafrif yr ymatebwyr mai Llywodraeth y DU sydd â'r rheolaeth fwyaf dros y trethi y maent yn eu talu yng Nghymru.
- Nid oedd y rhan fwyaf o ymatebwyr yn gwybod y byddai Llywodraeth Cymru yn gallu gosod rhai trethi yng Nghymru o fis Ebrill 2018.
- Byddai mwy na saith o bob deg o ymatebwyr yn disgwyl i'r holl arian neu'r rhan fwyaf o'r arian a godwyd o drethi Cymru fynd tuag at wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Cefndir
O fis Ebrill 2019 bydd tua £5 biliwn o refeniw datganoledig a refeniw lleol yn cael eu codi bob blwyddyn yng Nghymru trwy:
- Treth trafodiadau tir
- Treth gwarediadau tirlenwi
- Cyfraddau treth incwm Cymru
- Y dreth gyngor
- Ardrethi annomestig.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dadansoddi data arolwg i ddarparu darlun sylfaenol o ddealltwriaeth y cyhoedd o ddatganoli trethi. Defnyddir y dadansoddiad i hysbysu lle dylid ymgysylltu â'r cyhoedd er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r cysylltiad rhwng yr arian a enillir ac a godir yng Nghymru trwy drethi Cymru, a sut y caiff ei wario ar wasanaethau cyhoeddus.
