Dealltwriaeth y cyhoedd o hawliau dynol a rôl camwybodaeth: adolygiad cyflym o’r dystiolaeth
Nod y gwaith ymchwil hwn oedd archwilio sut mae pobl yn dod i ddeall hawliau dynol a sut mae camwybodaeth yn effeithio ar y ddealltwriaeth hon.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad a chefndir
Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau adolygiad cyflym o'r dystiolaeth ynghylch ddealltwriaeth y cyhoedd o hawliau dynol, ac effaith camwybodaeth a thwyllwybodaeth ar y ddealltwriaeth honno. Bydd y canfyddiadau’n cefnogi datblygu, cyflwyno a monitro polisi hawliau dynol ac yn cyfrannu at y sylfaen dystiolaeth.
At ddibenion yr adolygiad hwn, mae camwybodaeth yn cyfeirio at wybodaeth anwir neu gamarweiniol sy'n cael ei rhannu heb fwriad i dwyllo, tra bod twyllwybodaeth yn cyfeirio at wybodaeth anwir neu gamarweiniol sy'n cael ei chreu neu ei lledaenu'n fwriadol i gamarwain eraill (gweler yr eirfa). Mae UNESCO a'r Cenhedloedd Unedig yn gwahaniaethu rhwng y 2 gysyniad yn bennaf ar sail bwriad, gyda thwyllwybodaeth yn ymwneud ag ymgais fwriadol i dwyllo a chamwybodaeth yn ymwneud â rhannu gwybodaeth anghywir yn anfwriadol (Cenhedloedd Unedig, 2026). Yn ymarferol, mae llawer o'r ffynonellau sydd wedi’u cynnwys yn yr adolygiad hwn yn defnyddio'r termau’n gyfnewidiol ac yn canolbwyntio ar yr effaith y mae camwybodaeth a thwyllwybodaeth fel ei gilydd yn ei chael ar ddealltwriaeth, ymddiriedaeth, agweddau a phenderfyniadau’r cyhoedd yn hytrach nag ar y gwahaniaeth rhyngddynt. Lle nad yw'r dystiolaeth a adolygwyd yn gwahaniaethu'n glir rhwng camwybodaeth a thwyllwybodaeth, mae'r adolygiad hwn yn dilyn y derminoleg a ddefnyddiwyd yn y ffynhonnell wreiddiol.
Nod yr adolygiad yw ateb y 4 cwestiwn ymchwil canlynol:
- Pa ddulliau sydd wedi'u defnyddio i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o hawliau dynol mewn gwahanol gyd-destunau (e.e. llywodraethau, systemau addysg, sefydliadau anllywodraethol a sefydliadau cymunedol)?
- Sut mae camwybodaeth, twyllwybodaeth, a’r ffordd y mae’r cyfryngau’n fframio gwybodaeth yn effeithio ar agweddau’r cyhoedd tuag at gysyniadau a sefydliadau hawliau dynol, eu dealltwriaeth ohonynt a’u ffydd ynddynt?
- Pa ddulliau neu ymyriadau sydd wedi dangos tystiolaeth o wella dealltwriaeth o hawliau dynol neu o wrthbrofi camwybodaeth a thwyllwybodaeth, ac ym mha gyd-destunau? Mae hyn yn cynnwys ystyried grym y dystiolaeth sydd ar gael, a ellir mesur yr effeithiau, ac i ba raddau y gellir priodoli newidiadau i'r ymyrraeth ei hun.
- Pa ffactorau cyd-destunol, cymdeithasol, strwythurol a digidol sy'n rhwystro neu’n galluogi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y cyhoedd o hawliau dynol?
Yn fras, mae'r cwestiwn cyntaf yn archwilio dulliau o gynyddu dealltwriaeth o hawliau dynol, yr ail yn archwilio effaith camwybodaeth a thwyllwybodaeth ar ddealltwriaeth, y trydydd yn archwilio llwyddiant cymharol ymyriadau i gynyddu dealltwriaeth, a'r pedwerydd yn archwilio ffactorau cyd-destunol sy’n rhwystro neu’n galluogi dealltwriaeth.
Cefndir a nodau
Er mwyn cefnogi datblygiad parhaus polisïau hawliau dynol, mae Llywodraeth Cymru wedi nodi’r angen am fwy o dystiolaeth o sut y mae dealltwriaeth y cyhoedd o hawliau dynol yn cael ei datblygu a'i chefnogi, a sut y mae camwybodaeth a thwyllwybodaeth yn siapio canfyddiadau a dealltwriaeth y cyhoedd o hawliau dynol. Bydd yr adolygiad hwn yn syntheseiddio ac yn cyflwyno'r dystiolaeth sydd ar gael ac ni fydd yn gwneud argymhellion polisi.
Prif nod yr adolygiad yw syntheseiddio tystiolaeth ar ymwybyddiaeth o, a chamwybodaeth am hawliau dynol.
Bydd yr amcanion canlynol yn ategu hyn:
- Mapio dulliau o godi ymwybyddiaeth gan gynnwys unrhyw werthusiad o effaith y dulliau hyn.
- Adolygu'r dystiolaeth sydd ar gael ynghylch effeithiau camwybodaeth am hawliau dynol ar ymwybyddiaeth o, a gwireddu hawliau.
- Nodi cryfderau a bylchau yn y sylfaen dystiolaeth.
Methodoleg
Chwilio a sgrinio
Paratowyd yr adolygiad cyflym o’r dystiolaeth gan Uned Tystiolaeth Cydraddoldeb Llywodraeth Cymru, gan ddefnyddio cyfres o chwiliadau llenyddiaeth a gynhaliwyd gan yr Uned Tystiolaeth, gyda chefnogaeth Gwasanaethau Llyfrgelloedd Llywodraeth Cymru. Cynhaliwyd y chwiliadau rhwng 02/03/2026 a 10/03/2026 ar 2 gronfa ddata academaidd (Web of Science a Science Direct), a safle chwilio llenyddiaeth lwyd (perplexity.ai). Defnyddiwyd geiriau allweddol gyda ffocws ar "hawliau dynol" a "rhyddid sifil" mewn cyfuniad â geiriau allweddol eilaidd a thrydyddol fel "ymwybyddiaeth", "dealltwriaeth", "rhwystrau" a "hwyluswyr". Defnyddiwyd chwiliadau penagored er mwyn caniatáu chwilio ehangach (e.e. ((gan mai chwiliadau Saesneg oeddent)): program* am programme, programmes, programming, ac ati). Mae’r termau chwilio a'r cystrawennau i’w gweld yn yr Atodiad.
Roedd y chwiliad yn cynnwys astudiaethau academaidd, llenyddiaeth lwyd, astudiaethau meintiol ac ansoddol ar raddfa fach o unrhyw gyd-destun byd-eang, a gyhoeddwyd yn ystod y deng mlynedd diwethaf (2016 i 2026). Eithriwyd llyfrau, penodau o lyfrau, papurau cynhadledd a darnau byrion (e.e. cywiriadau a nodiadau), felly hefyd gyhoeddiadau heb fod yn Saesneg.
Cynhyrchodd chwiliadau yn y 2 gronfa ddata academaidd 979 o ganlyniadau unigryw, gyda 236 o’r rhain mewn fformat eithriedig (e.e. llyfrau) ac 87 heb fod yn Saesneg. Cynhaliwyd proses sgrinio dau gam ar y 656 o ffynonellau a oedd yn weddill. Yn gyntaf, cafodd teitlau a chrynodebau eu sgrinio gan adolygydd cynradd am berthnasedd a defnyddioldeb posibl, ac yna cafodd sampl o'r rhain eu sgrinio gan adolygydd eilaidd, gydag anghytundebau’n cael eu trafod yn anffurfiol. Cafodd ffynonellau eu marcio fel naill ai "perthnasol" (n=174), "perthnasol o bosibl" (n=129), neu "ddim yn berthnasol" (n=354). Gofynnwyd am destunau llawn ar gyfer y rhai a oedd yn berthnasol neu o bosibl yn berthnasol. Roedd ystyried a oedd y ffynhonnell yn canolbwyntio ar ddealltwriaeth y cyhoedd o hawliau dynol a'r mecanweithiau a'r liferi sy’n gwella neu’n rhwystro hyn yn ganolog i bob penderfyniad sgrinio.
Nodwyd rhai pynciau cychwynnol yn y crynodebau, a chawsant naill ai eu cynnwys yn, neu eu heithrio o'r cam adolygu testun llawn. Cafodd ffynonellau a oedd yn gysylltiedig ag ymwybyddiaeth neu ddealltwriaeth o hawliau dynol eu cynnwys. Er enghraifft, cafodd ffynonellau’n ymwneud â thorri hawliau dynol, agweddau athronyddol a gwireddu hawliau dynol penodol eu heithrio; cafodd ffynonellau ar agweddau tuag at hawliau dynol, rhwystrau neu alluogwyr i addysg hawliau dynol effeithiol, a fframio hawliau dynol yn y cyfryngau eu cynnwys.
Yn yr ail gam aethpwyd ati i ddod o hyd i’r testun llawn, ac os oedd hwnnw ar gael cafodd ei asesu yn erbyn rhestr wirio cadernid a’r cwestiynau ymchwil. Roedd 98 ffynhonnell arall nad oeddent ar gael (y tu ôl i waliau talu neu allan o brint) a chafodd 71 arall eu heithrio am nad oeddent yn erthyglau cyfnodolion a adolygwyd gan gymheiriaid neu oherwydd diffyg perthnasedd. Arweiniodd hyn at 133 o bapurau academaidd i'w cynnwys yn yr adolygiad o’r dystiolaeth.
Nododd y chwiliad llenyddiaeth lwyd gan ddefnyddio perplexity.ai 19 adroddiadau allweddol gan gyrff anllywodraethol a llywodraethau cenedlaethol, gyda 7 o’r rhain ddim ar gael neu’n anhygyrch. Canfu chwiliad llaw o wefannau 2 ddarn arall.
Mae’r adolygiad o’r dystiolaeth felly’n seiliedig ar 132 o bapurau academaidd a 14 cyhoeddiad o'r chwiliad llenyddiaeth lwyd. Dangosir y broses yn y diagram PRISMA isod (Ffigur 1).
Ffigur 1: broses o sgrinio astudiaethau i'w cynnwys yn yr adolygiad tystiolaeth
Disgrifiad o ffigur 1: Siart llif PRISMA yn dangos y broses o ddewis astudiaethau ar gyfer yr adolygiad tystiolaeth hwn, wedi ei rannu’n dri cham: Adnabod, Sgrinio ac Wedi’u cynnwys. Mae'n dangos bod 979 o gofnodion wedi eu canfod trwy gronfeydd data, 323 o ffynonellau wedi'u heithrio cyn eu sgrinio, 656 wedi'u sgrinio gyda 354 wedi'u heithrio yn ôl teitl/crynodeb, 302 o erthyglau testun llawn wedi'u hasesu gyda 169 wedi'u heithrio, gan arwain at 147 o gyhoeddiadau wedi'u cynnwys.Darllen a syntheseiddio
Darllen a syntheseiddio
I ddechrau darllenwyd ac aseswyd y cyhoeddiadau gan ganolbwyntio ar y crynodeb, y cyflwyniad a’r casgliadau. Yna aseswyd adrannau eraill lle roeddent yn berthnasol i'r cwestiynau ymchwil. Crëwyd nodiadau helaeth ar gyfer pob cyhoeddiad, yn cynnwys dyfyniadau, a deilliodd y themâu yn naturiol o hynny. Defnyddiwyd CoPilot (asiant Microsoft AI) yn ailadroddus fel offeryn cymorth dadansoddol i lanhau, trefnu a syntheseiddio nodiadau a nodi patrymau, themâu a pherthnasoedd cyffredin yn y sylfaen lenyddiaeth. Roedd hon yn broses ailadroddus â mewnbwn dynol o awgrymu themâu, ail-ddarllen y llenyddiaeth, ac ail-grwpio wrth i ddealltwriaeth ddatblygu ac roedd yn dilyn egwyddorion ymchwil foesegol gan integreiddio offer AI (UK Government Analysis Function, 2026). Trwy’r dull hwn bu modd cyflymu’r broses a chefnogi datblygiad set o themâu lefel uchel sydd wedi'u gwreiddio yn y llenyddiaeth. Trafodir y themâu hyn yn yr adran Ganfyddiadau.
Canfyddiadau
Mae'r adran hon yn cyflwyno ac yn trafod canfyddiadau'r adolygiad cyflym o’r dystiolaeth. Mae'n archwilio'r hyn sy'n hysbys ar hyn o bryd am ddealltwriaeth y cyhoedd o hawliau dynol, a'r hyn y mae'r dystiolaeth ehangach yn ei ddweud wrthym am sut y mae dealltwriaeth o'r fath yn cael ei ffurfio, ei gwanhau a'i chryfhau yn ymarferol. Mae'r adolygiad yn dangos bod dealltwriaeth o hawliau dynol yn fwy nag a yw pobl yn gwybod am eu hawliau neu ddim. Ar draws y llenyddiaeth, disgrifir dealltwriaeth yn gyson fel rhywbeth sy'n cael ei chynhyrchu a'i siapio’n gymdeithasol gan gyd-destun, yn hytrach na chanlyniad syml gwybodaeth neu addysg (Destrooper & Verclyte, 2022, Tibbitts, 2016). Efallai y bydd pobl yn ymwybodol o'u hawliau dynol mewn ystyr gyffredinol, ond nid yw hyn o reidrwydd yn golygu eu bod yn eu deall mewn ffordd sy'n ystyrlon neu y gellir ei gweithredu (Herawati & Ermakov, 2022, Latifnejad et al., 2019, EHRC, 2023). Yn hytrach, mae dealltwriaeth yn dibynnu ar brofi, neu beidio profi hawliau mewn bywyd bob dydd, ar iddynt gael eu hatgyfnerthu gan sefydliadau, a chael eu cefnogi gan amodau cymdeithasol a materol. Mae'r drafodaeth yn yr adolygiad hwn yn ystyried i ba raddau y mae pobl yn deall eu hawliau dynol ond hefyd yn mynd y tu hwnt i hynny i edrych ar sut mae hawliau'n cael eu profi fel pethau sy’n golygu rhywbeth ar lefel bersonol ac yn gellir eu rhoi ar waith mewn bywyd bob dydd.
Mae'r sylfaen dystiolaeth ei hun yn adlewyrchu'r cymhlethdod hwn. Mae'r rhan fwyaf o astudiaethau’n ansoddol ac yn ddehongliadol, gan dynnu ar gyfweliadau, grwpiau ffocws, astudiaethau achos a dulliau ethnograffig, ac ymchwil gyfranogol i archwilio sut mae pobl yn profi ac yn gwneud synnwyr o'u hawliau dynol a hawliau dynol pobl eraill (e.e. Cordeiro et al., 2022, Pratiwi & Sunaryo, 2025, Destrooper & Verclyte, 2022, Elenes, 2023). Mae'r astudiaethau ansoddol hyn yn defnyddio dadansoddiad thematig neu ddadansoddiad o gynnwys ac yn rhoi gwerth ar brofiad bywyd a mewnbwn myfyriol. Mae llai o dystiolaeth feintiol ar raddfa fawr, ac mae'r hyn sy'n bodoli yn tueddu i ganolbwyntio ar ymwybyddiaeth neu agweddau yn hytrach nag ymddygiad (e.e. Stavrou et al., 2024, Omar & Casero-Ripollés, 2023, Herawati & Ermakov, 2022). Mae cyfran sylweddol o'r llenyddiaeth yn gysyniadol neu'n bolisi (er enghraifft. Hoffman et al., 2021, UNESCO, 2023, HRAC, 2026, Spampatti et al., 2025, Newham et al., 2020). Mae cwmpas cyfyngedig i ddod i gasgliadau ar achosiaeth neu effeithiau hirdymor. At ei gilydd, mae'r dystiolaeth yn pwyntio tuag at faes sy'n gyfoethog mewn mewnwelediad ond yn gymharol wan mewn gwerthusiad cadarn.
Themâu trawsbynciol
Nodwyd wyth thema drawsbynciol wrth ddarllen a syntheseiddio’r llenyddiaeth. Mae pob thema’n canolbwyntio ar agwedd wahanol ar sut y mae hawliau dynol yn dod i gael eu deall a'u camddeall, y ffaith nad yw ymwybyddiaeth o hawliau o reidrwydd yn arwain at y defnydd ohonynt, a'r amodau sy'n ei gwneud yn fwy tebygol y bydd hynny’n digwydd. Mae cydberthynas agos rhwng yr 8 thema hon ac maent yn rhychwantu sawl papur i ffurfio fframwaith o ganfyddiadau. Y themâu yw:
- Mae hawliau’n gweithredu fel normau cymdeithasol yn hytrach na rheolau cyfreithiol. Thema ailadroddus ar draws y llenyddiaeth yw bod hawliau'n aml yn cael eu profi a'u deall fel normau cymdeithasol ac arferion bob dydd yn hytrach nag fel rheolau cyfreithiol yn unig. Mae pobl yn cymryd hawliau o ddifrif pan maent wedi'u hymgorffori mewn perthnasoedd, arferion a disgwyliadau bob dydd, nid oherwydd eu bod yn bodoli mewn deddfwriaeth.
- Mae bwlch parhaus rhwng gwybodaeth a gweithredu, gyda chyfeiriadau mynych at y ffaith nad yw dealltwriaeth o hawliau dynol yn arwain at hawlio neu arfer yr hawliau hynny, am resymau’n ymwneud ag ofn, ofn dial neu ddiffyg cefnogaeth.
- Gall sefydliadau weithredu fel ceidwaid hawliau, gyda’u hymarfer yn anfwriadol yn galluogi neu’n rhwystro pobl rhag arfer eu hawliau.
- Caiff hawliau eu gweld fel pethau amodol a’u cymhwyso mewn ffordd ddetholus, er gwaethaf eu natur gynhwysol. Mae canfyddiad bod rhai unigolion neu grwpiau yn fwy neu’n llai ‘haeddiannol’ o’u hawliau, yn dibynnu ar eu statws fel dinasyddion a’u hangen canfyddedig.
- Mae ofn, stigma, camwybodaeth a thwyllwybodaeth yn tanseilio diwylliant sy'n seiliedig ar hawliau trwy erydu ymddiriedaeth a chydlyniad cymunedol.
- Mae etifeddiaeth o wladychu a chyd-destun diwylliannol yn ffactorau pwysig wrth archwilio sut mae hawliau'n cael eu deall a'u derbyn. Efallai y bydd hawliau’n cael eu gwrthsefyll os ydynt yn cael eu gweld fel pethau haniaethol neu wedi’u gorfodi’n ddiwylliannol ond yn cael eu derbyn os ydynt yn fwy lleoledig ac yn gysylltiedig â hanesion a chof byw.
- Gall addysg hawliau dynol fod yn effeithiol o ran gwella dealltwriaeth, yn enwedig lle mae'n gyfranogol (nid addysgu un ffordd yn unig), yn barhaus ac yn ddiwylliannol berthnasol.
- Mae amodau materol ac amodau byw fel tlodi, iechyd, cyfrifoldebau gofalu ac anghydraddoldeb yn dylanwadu’n gryf ar allu pobl i ymarfer eu hawliau ac elwa ohonynt.
Nid yw'r 8 thema drawsbynciol hon yn cael eu trin fel is-adrannau ar wahân; yn hytrach, maent yn gysyniadau ailadroddus sy'n ymddangos ar draws y llenyddiaeth ac yn cael eu tynnu arnynt lle maent yn fwyaf perthnasol i bob cwestiwn ymchwil. Er bod yr holl themâu yn llywio'r dadansoddiad, mae rhai wedi'u halinio’n agos â chwestiynau penodol. Er enghraifft, mae "hawliau sy'n gweithredu fel normau cymdeithasol yn hytrach na rheolau cyfreithiol" yn fwyaf perthnasol i CY1 sy’n ymwneud â dulliau o gynyddu dealltwriaeth, tra bod "amodau byw pobl fel y prawf gorau o hawliau" yn fwyaf canolog i CY3 a CY4, sy'n canolbwyntio ar dystiolaeth o effaith a’r hyn sy’n rhwystro neu’n galluogi dealltwriaeth.
Ar draws y llenyddiaeth, trafodir dealltwriaeth o hawliau dynol yn fynych mewn perthynas â gweithredu. At ddibenion yr adolygiad hwn, mae gweithredu’n cyfeirio'n fras at ymddygiadau sy'n ymwneud ag arfer, hawlio, cefnogi neu amddiffyn hawliau dynol yn ymarferol. Gall hyn gynnwys mynediad at wasanaethau a hawliau, adrodd ynghylch neu herio tor-hawliau canfyddedig, gallu pobl i gymryd rhan mewn penderfyniadau sy'n effeithio eu bywydau eu hunain, cefnogi hawliau dynol pobl eraill, ymgysylltu â sefydliadau cymunedol, cymryd rhan mewn gweithgareddau dinesig a democrataidd. Mae llawer o astudiaethau’n gwahaniaethu rhwng ymwybyddiaeth neu ddealltwriaeth o hawliau a'r hyder, y cyfle, neu'r parodrwydd i weithredu ar yr ymwybyddiaeth honno (Ganju et al., 2016, Perkins et al., 2019, Tuakli-Wosornu et al., 2022, Kwon et al., 2020).
Gyda'i gilydd, mae canfyddiadau'r adolygiad hwn yn awgrymu bod gwella dealltwriaeth y cyhoedd o hawliau dynol yn gofyn am fwy nag addysg neu gyfathrebu cyhoeddus; mae’n dibynnu ar ba mor ystyrlon y mae hawliau’n cael eu gwneud mewn gwirionedd mewn bywyd bob dydd, trwy sefydliadau, ffynonellau gwybodaeth dibynadwy, a'r amodau cymdeithasol a materol sy'n caniatáu i bobl arfer eu hawliau.
Cwestiwn ymchwil 1: dulliau o godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o hawliau dynol
Ar draws y llenyddiaeth, mae'r rhan fwyaf o ddulliau o godi ymwybyddiaeth yn seiliedig ar gyfathrebu gwybodaeth am hawliau, yn aml trwy addysg, fframweithiau polisi neu ymgyrchoedd cyhoeddus. Mae'r dulliau hyn yn tueddu i gyflwyno hawliau fel rheolau cyfreithiol, hawliau ffurfiol, neu egwyddorion haniaethol (Eberbach, 2023, Ubachs, 2016, Pratiwi & Sunaryo, 2025). Er y gall hyn gynyddu adnabyddiaeth o derminoleg hawliau, yn aml mae’n cynhyrchu dim ond dealltwriaeth arwynebol, lle mae pobl yn gyfarwydd â'r syniad o hawliau ond heb y gallu na'r hyder i'w cymhwyso’n ymarferol (Herawati & Ermakov, 2022, Latifnejad et al., 2019).
Yn benodol, mae lleoliadau proffesiynol ac addysgol yn aml yn blaenoriaethu trosglwyddiad gwybodaeth ond yn rhoi llai o sylw i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i hawlio hawliau neu herio tor-hawliau (Eberbach, 2023). Gan fyfyrio ynghylch y pryder hwn, mae Ubachs (2016: 3) yn dadlau bod cyflwyno hawliau dynol o safbwynt mor gyfreithiol yn cwtogi’n aruthrol ar eu potensial i gyrraedd pobl. Mae hyn yn awgrymu y gallai dulliau sy'n canolbwyntio'n bennaf ar wybodaeth gyfreithiol fod yn aneffeithiol o ran meithrin ymgysylltiad dwfn â hawliau mewn bywyd bob dydd.
Mewn cyferbyniad, mae tystiolaeth yn awgrymu mai dulliau mwy effeithiol yw'r rhai sy'n fframio hawliau dynol fel rhan o normau ac arferion cymdeithasol bob dydd. Yn hytrach na chael eu deall fel cysyniadau cyfreithiol anghysbell, mae astudiaethau sydd wedi’u cynnwys yn yr adolygiad hwn yn dadlau bod hawliau’n cael eu dysgu trwy berthnasoedd a disgwyliadau a rennir. Mae Tibbitts (2018: 4) yn dadlau, os yw hawliau dynol “i ddod yn fframwaith cyfreithiol a moesol sy'n hunan-amlwg yn niwylliant gwleidyddol gwlad”, rhaid iddynt ddod yn “rhan o ffabrig y gwerthoedd sy'n cael eu rhoi ar waith mewn bywyd bob dydd”. Mae'r safbwynt hwn wedi’i atseinio ar draws sawl astudiaeth sy'n pwysleisio pwysigrwydd dysgu cymdeithasol ac ymarfer bob dydd mewn siapio dealltwriaeth o hawliau dynol (Tibbitts, 2018; Alderson, 2016; Moka-Mubelo, 2019; Destrooper & Verclyte, 2022).
Mae'r dystiolaeth a adolygwyd yn dangos gwahaniaeth rhwng ymwybyddiaeth ar lefel arwynebol a dealltwriaeth wedi’i mewnoli. Yn yr ystyr hwn, mae ymwybyddiaeth yn golygu cydnabod bod hawliau dynol yn bodoli, tra bod dealltwriaeth yn golygu mewnoli ac integreiddio'r hawliau hynny mewn gwerthoedd, hunaniaeth ac ymddygiad. Mae'r llenyddiaeth, sydd wedi’i chynnwys yn yr adolygiad hwn, yn dangos bod y rhan fwyaf o ymyriadau’n cyflawni'r cyntaf ond yn cael trafferth gyda'r ail. Mae awduron yn fframio mewnoli fel rhywbeth sy’n dibynnu ar brofi hawliau fel pethau personol ystyrlon ac emosiynol berthnasol, yn hytrach na dyletswyddau technegol neu allanol (Toczyski, 2023; Pratiwi & Sunaryo, 2025; Ulubey & Aykaç, 2016). Gallai hyn esbonio pam nad yw rhai dulliau’n trosi’n ddealltwriaeth ddyfnach.
Mae'r gwahaniaeth hwn hefyd yn cael ei adlewyrchu mewn polau diweddar a gynhaliwyd yn y DU. Canfu arolwg YouGov a adroddwyd gan Sefydliad Hawliau Dynol Prydain bod cefnogaeth y cyhoedd i amddiffyniadau hawliau dynol yn parhau i fod yn gymharol gryf, er bod llawer o ymatebwyr yn dweud bod eu gwybodaeth o'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (BIHR, 2025) yn gyfyngedig. Mae hyn yn awgrymu y gall agweddau cadarnhaol tuag at hawliau dynol gydfodoli â dealltwriaeth gyfyngedig o'r fframweithiau cyfreithiol sy’n diogelu’r hawliau hynny.
Mae dealltwriaeth gyhoeddus o hawliau dynol yn cael ei gyfryngu gan sefydliadau a'r bobl sy'n cynrychioli'r sefydliadau hynny. Mae pobl yn dysgu am eu hawliau dynol gan athrawon, gweithwyr cymdeithasol, darparwyr gofal iechyd a gweithwyr proffesiynol eraill sy'n eu dehongli ac yn eu rhoi ar waith yn ymarferol (Sharma, 2022, Carvalho et al., 2022). Mae canlyniad y dysgu hwn yn dibynnu ar sut y mae'r sefydliadau hyn yn deall ac yn gwerthfawrogi hawliau (Cyngor Ewrop, 2022; Huus et al., 2016; Pratiwi & Sunaryo, 2025). Er enghraifft, mae Cyngor Ewrop (2022: 5) yn nodi nad yw canfyddiadau a gwerthoedd athrawon bob amser yn cyd-fynd â'r gwerthoedd a hyrwyddir yn y cwricwlwm, sy'n effeithio ar y ffordd y maent yn darparu addysg hawliau dynol mewn gwahanol gyd-destunau. Mae hyn yn awgrymu bod addysgwyr a gweithwyr proffesiynol eraill yn gwneud mwy na dim ond trosglwyddo negeseuon am hawliau ond yn dehongli ac yn siapio'r negeseuon hynny’n weithredol. Mae adroddiad Cyngor Ewrop (2022) yn eirioli dros hyfforddiant hawliau dynol i athrawon ochr yn ochr â monitro a gwerthuso cadarn.
Gall y cyd-destunau y mae pobl yn dysgu am hawliau dynol ynddynt siapio eu dealltwriaeth ohonynt. Er enghraifft, canfu Torres a Qin (2017) bod myfyrwyr ysgol uwchradd yn Tsieina yn gyffredinol yn cefnogi rhyddid mynegiant, ond bod y gefnogaeth yn amrywio yn ôl cyd-destun, gyda myfyrwyr hŷn a'r rhai â barn fwy cadarnhaol am eu hamgylcheddau ysgol yn mynegi cefnogaeth gryfach dros ryddid i lefaru. Mae'r canfyddiadau'n awgrymu y gall agweddau tuag at hawliau ddibynnu'n rhannol ar gyd-destunau cymdeithasol a sefydliadol, yn hytrach na’u bod yn cael eu cymhwyso’n unffurf.
Yn olaf, mae'r dystiolaeth yn tynnu sylw at y rôl bwysig y mae iaith a chyd-destun diwylliannol yn ei chwarae. Gall dulliau sy'n defnyddio llawer o derminoleg gyfreithiol neu fframweithiau hawliau sy'n deillio o draddodiadau hawliau dynol rhyngwladol ac Ewropeaidd deimlo'n haniaethol neu'n amherthnasol mewn rhai cyd-destunau, a gall hyn yn ei dro leihau ymgysylltiad â'r pwnc. Mewn cyferbyniad, mae dulliau sy'n cysylltu hawliau dynol â chysyniadau cyfarwydd fel urddas, tegwch neu werthoedd lleol yn tueddu i fod yn fwy effeithiol (Petcharamesree & Elbers, 2019; Giliomee, 2023; Mwapaura et al., 2024; Destrooper & Verclyte, 2022). Er enghraifft, mae tystiolaeth o Cambodia yn tynnu sylw at bwysigrwydd defnyddio iaith leol ystyrlon wrth drafod hawliau. Gan fyfyrio ar raglen lle addaswyd deunyddiau hawliau dynol ar gyfer cyd-destun diwylliannol ac ieithyddol lleol yn Cambodia, nododd Kane et al. (2024) “i rai o’n cyfranogwyr roedd urddas pobl yn cael ei weld fel rhywbeth llai gwleidyddol sensitif na chysyniadau hawliau dynol eraill”. Disgrifiodd un o'u cyfranogwyr hawliau dynol fel "dadleuol"; "pan fyddwn yn defnyddio'r term 'hawliau dynol', mae pobl yn troi i ffwrdd i raddau, ond nid yw pobl yn ymateb lawer i urddas dynol." Mae'r awduron yn dadlau y gall cysyniadau fel urddas, yn y cyd-destun ieithyddol a diwylliannol hwn, atseinio'n gryfach na therminoleg hawliau ffurfiol oherwydd eu bod yn cael eu hystyried yn fwy cyfarwydd a diwylliannol berthnasol.
Yn gyffredinol, mae'r llenyddiaeth yn awgrymu bod gwella dealltwriaeth yn gofyn am fwy na dim ond darparu gwybodaeth, mae angen ymwreiddio hawliau dynol yn yr amgylcheddau cymdeithasol, diwylliannol a sefydliadol y mae pobl yn byw ynddynt.
Cwestiwn ymchwil 2: camwybodaeth, twyllwybodaeth a newyddion ffug
Mae'r adolygiad hwn yn defnyddio diffiniadau'r Cenhedloedd Unedig o gamwybodaeth a thwyllwybodaeth. Mae'r ddau derm yn cyfeirio at rannu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol ond maent yn wahanol o ran bwriad: nid yw camwybodaeth wedi'i bwriadu i dwyllo, tra bod twyllwybodaeth yn fwriadol dwyllodrus. Lle nad yw'r bwriad yn glir, mae'r adolygiad hwn yn defnyddio 'camwybodaeth' fel term ymbarél ar gyfer cynnwys anwir neu gamarweiniol. Mae'r llenyddiaeth yn awgrymu nad yw camwybodaeth yn ystumio ffeithiau am hawliau dynol yn unig; mae'n rhyngweithio â sut mae dealltwriaeth yn cael ei ffurfio yn y lle cyntaf. Lle mae dealltwriaeth yn gyfyngedig neu'n dameidiog, mae pobl yn fwy agored i naratifau camarweiniol neu gystadleuol (Savaş & Dinç, 2025; Gilett-Swan et al., 2025). Gall dryswch ymhlith y cyhoedd ynghylch cysyniadau allweddol ei gwneud yn anodd i wahaniaethu rhwng gwybodaeth gywir ac anghywir, gan leihau ymgysylltiad ac ymddiriedaeth.
Mae negeseuon hawliau dynol yn aml yn cystadlu â naratifau amgen sydd a mwy o gysylltiad emosiynol neu sy’n haws eu deall. Mewn achosion lle caiff hawliau eu cyflwyno mewn termau haniaethol neu gyfreithiol efallai na fyddant yn taro tant, gyda hyn yn rhoi cyfle i ddehongliadau eraill ennill eu plwyf (Spampatti et al., 2025; Ubachs, 2016; Liou, 2025). Gan adlewyrchu canfyddiadau ymchwil ymddygiadol a seicolegol, mae Spampatti et al. (2025: 12) yn nodi y gall twyllwybodaeth, heb ei ffrwyno a phan gaiff ei lledaenu ar draws sawl sianel, arwain at ymdeimlad ystumiedig o realiti ymysg grwpiau cyfan o bobl. Mae hyn yn awgrymu bod camwybodaeth yn llwyddo nid yn unig o oherwydd absenoldeb gwybodaeth gywir ond oherwydd y gall naratifau camarweiniol fod yn fwy emosiynol gymhellol a gwybyddol hygyrch.
Ar yr un pryd, mae dealltwriaeth yn cael ei siapio gan y platfformau a'r mecanweithiau y mae negeseuon yn cael eu danfon drwyddynt. Mae sefydliadau cyfryngau, llwyfannau digidol ac actorion y wladwriaeth yn dylanwadu ar ba wybodaeth y mae pobl yn ei gweld (ac nad ydynt yn ei gweld), sut mae gwybodaeth yn cael ei fframio, a'r hyn sy'n cael ei ystyried yn gredadwy (Valença & Clementino, 2024; Amnest Rhyngwladol, 2022; Kaye, 2022). Mae'r actorion hyn yn gweithredu fel ceidwaid porth, gan siapio dealltwriaeth y cyhoedd o hawliau dynol trwy ymhelaethu ar rai naratifau ac ymylu eraill. Wrth drafod platfformau digidol, mae Kaye (2022: 140) yn dadlau bod “cwmnïau technoleg yn parhau i allu achosi neu liniaru, os nad atal, niweidiau hawliau dynol.” Mae hyn yn amlygu dylanwad cynyddol penderfyniadau llywodraethu platfformau ar ddealltwriaeth y cyhoedd o hawliau a mynediad at wybodaeth ddibynadwy.
Gall ymatebion y llywodraeth i gamwybodaeth ynddynt eu hunain ddylanwadu ar ddealltwriaeth y cyhoedd o hawliau dynol. Mae Amnesty International (2022: 15) yn dadlau bod awdurdodau, mewn rhai cyd-destunau, yn penderfynu beth sy'n cael ei ystyried yn wir neu'n anwir, gan amlygu pryderon y gall ymdrechion i reoleiddio camwybodaeth weithiau arwain at ormod o bŵer dros drafodaethau cyhoeddus. Mae'r llenyddiaeth felly’n cyflwyno llywodraethu gwybodaeth fel mater hawliau dynol ynddo'i hun, gan godi cwestiynau ynghylch pwy sy'n penderfynu pa wybodaeth sy'n gyfreithlon a lleisiau pwy sy'n cael eu clywed. Mae naratifau sy'n seiliedig ar ofn yn chwarae rhan arbennig o bwysig yn y broses hon. Yn ystod cyfnodau o argyfwng neu fygythiad canfyddedig mae awduron, sydd wedi’u cynnwys yn yr adolygiad hwn, yn nodi y gellid fframio hawliau dynol fel pethau y gellir eu cyfnewid am ddiogelwch, gan arwain at fwy o barodrwydd i dderbyn cyfyngiadau ar iawnderau sifil neu amddiffyniadau hawliau dynol eraill (Omar & Casero-Ripollés, 2023; Sefydliad Sweden, 2025; Geedy-Gill & Carriere, 2024; Udenze et al., 2021). Er enghraifft, canfu Omar a Casero-Ripollés (2023) bod amlygiad uwch i newyddion a ledaenwyd yn y cyfryngau cymdeithasol yn ystod y pandemig COVID-19 yn gysylltiedig â mwy o ofn a dyhead cryfach am ddiogelwch, gan arwain at fwy o barodrwydd i gyfnewid iawnderau sifil am ddiogelwch. Mae'r awduron yn disgrifio ymlediad camwybodaeth a thwyllwybodaeth yn y cyfryngau cymdeithasol yn ystod y pandemig COVID fel "infodemic" (Omar a Casero-Ripollés:9). Yn yr un modd, canfu Geedy-Gill & Carriere (2024) bod bygythiadau canfyddedig yn cynyddu cefnogaeth dros gyfyngu ar hawliau pobl nad ydynt yn ddinasyddion, ond ar yr un pryd bod cefnogaeth dros hawliau dinasyddion yn aros fwy neu lai yr un fath. Gyda'i gilydd, mae'r canfyddiadau hyn yn awgrymu y gall naratifau sy'n seiliedig ar ofn gyfrannu at gefnogaeth ddetholus i hawliau dynol, gan gyflwyno rhai hawliau fel amodol yn hytrach na chynhwysol a'u gwneud yn ddibynnol ar ffactorau fel dinasyddiaeth neu fygythiad canfyddedig.
Y tu hwnt i naratifau camarweiniol penodol, mae'r llenyddiaeth yn pwysleisio’r effeithiau ehangach y mae twyllwybodaeth yn eu cael ar ymddiriedaeth gymdeithasol a chyfranogiad democratig. Gall twyllwybodaeth erydu hyder mewn sefydliadau, arbenigwyr a dinasyddion eraill gan greu sawl dehongliad o realiti sy’n cystadlu yn erbyn ei gilydd. (Spampatti et al., 2025; HRAC, 2026; Deluggi & Ashraf, 2023). Yn ôl Spampatti et al., (2025:19) “gall twyllwybodaeth heb ei ffrwyno arwain at ymdeimlad ystumiedig o realiti ymysg grwpiau cyfan o bobl”, sy'n golygu bod y canlyniadau'n ymestyn y tu hwnt i gamddealltwriaeth unigol. Mae'r awduron felly’n dadlau y dylid ystyried twyllwybodaeth fel “risg systemig i unigolion, sefydliadau ac i’r mwynhad o hawliau dynol” (Spampatti et al. (2025:1). Mae'r awduron yn argymell, yn hytrach na chywiro honiadau anwir unigol, bod sefydliadau’n ymwreiddio “strategaethau sy’n gallu gwrthsefyll twyllwybodaeth yn effeithiol tra'n cadw hawliau unigolion i fod â barn a rhannu gwybodaeth trwy ddim mwy na rhoi gwybodaeth ychwanegol i bobl." (2024:14).
Gall amgylcheddau digidol fel platfformau cyfryngau cymdeithasol gyfrannu at helaethu ac atgyfnerthu camwybodaeth mewn amgylcheddau gwybodaeth ddigidol (Spampatti et al., 2025; HRAC, 2026). Gall y ddynamig hon danseilio cyd-ddealltwriaeth o hawliau dynol a lleihau ymddiriedaeth yn yr amgylcheddau digidol sy'n cefnogi cyfranogiad democrataidd ac ymgysylltiad yn seiliedig ar hawliau (Spampatti et al., 2025; Valença & Clementino, 2024; HRAC, 2026). Mae datblygiadau diweddar mewn cynnwys a gynhyrchir gan AI wedi cynyddu graddfa, cyflymder a hygrededd ymddangosiadol twyllwybodaeth, gan wneud cynnwys camarweiniol yn anoddach i'w adnabod a'i herio (HRAC, 2026).
Mae cyd-destunau diwylliannol hefyd yn siapio sut mae camwybodaeth yn cael ei derbyn. Pan fo hawliau dynol yn cael eu hystyried fel pethau sy’n cael eu gorfodi o’r tu allan neu heb fod yn gysylltiedig â gwerthoedd lleol, maent yn fwy tebygol o gael eu gwrthod neu eu hail-ddehongli (Moka-Mubelo, 2019; Tibbitts & Katz, 2017; Mwapaura et al., 2024). Yn y cyd-destunau hyn, gall camwybodaeth atgyfnerthu amheuon sydd eisoes yn bodoli.
Cwestiwn ymchwil 3: tystiolaeth o effaith dulliau ac ymyriadau
Tystiolaeth o effeithiolrwydd
Mae tystiolaeth o astudiaethau o ymyriadau’n awgrymu y gall addysg hawliau dynol wella ymwybyddiaeth, agweddau a’r canlyniadau cysylltiedig yn y tymor byr. Canfu Stavrou et al. (2024) welliannau mewn ymwybyddiaeth o hawliau, empathi a phresenoldeb ymhlith disgyblion ysgol gynradd yng Ngwlad Groeg yn dilyn ymyriad addysg hawliau dynol. Yn yr un modd, adroddodd Lee a Lee (2025) gynnydd sylweddol mewn ymwybyddiaeth a sensitifrwydd o hawliau dynol ymhlith myfyrwyr nyrsio yn Ne Korea, tra bod Crawford et al. (2017) wedi canfod gwelliannau sylweddol yng ngwybodaeth hawliau dynol myfyrwyr yn dilyn cwrs lefel prifysgol yn Awstralia.
Gyda'i gilydd, mae'r astudiaethau hyn yn awgrymu y gall ymyriadau addysgol gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth. Eto, ar draws y llenyddiaeth am ymyriadau, y bwlch mwyaf arwyddocaol mewn tystiolaeth yw diffyg camau dilynol hirdymor. Mae'r rhan fwyaf o werthusiadau’n canolbwyntio ar ganlyniadau tymor byr ac yn darparu tystiolaeth gyfyngedig ynghylch parhad yr effeithiau hyn dros amser.
Y bwlch rhwng gwybodaeth a gweithredu
Across the evidence, a consistent finding is the persistent gap between knowledge and action. Increasing awareness does not reliably lead to changes in behaviour (UNESCO, 2023; Činčera et al., 2018; Newham et al., 2020; Lee & Lee, 2025). People may express support for human rights in principle while still holding more conditional views in practice.
Y dulliau sy'n ymddangos yn fwyaf effeithiol yw'r rhai sy'n symud y tu hwnt i ddysgu goddefol ac sy'n cynnwys cyfranogiad, profiad a myfyrio (Günay & Çöllüoğlu, 2025; Ulubey & Aykaç, 2016; Činčera et al., 2018). Canfu Ulubey and Aykaç (2016) bod dosbarthiadau drama creadigol yn gwella agweddau tuag at addysg hawliau dynol a democratiaeth, a’u bod yn cynyddu empathi, hyder a hunanfynegiant cyfranogwyr. Yn yr un modd, canfu Činčera et al. (2018) bod myfyrwyr a gymerodd ran mewn rhaglen addysg hawliau dynol yn nodi bod ganddynt fwy o ymwybyddiaeth o faterion hawliau dynol, mwy o hyder a’u bod yn teimlo wedi’u grymuso.
Mecanwaith pwysig sy'n sylfaenol i'r broses hon yw newid yn y ffordd y mae pobl yn gweld eu hunain. Mae’n ymddangos bod ymyriadau’n fwy effeithiol pan maent yn helpu pobl i weld eu hunain fel deiliaid hawliau gweithredol yn hytrach na derbynwyr gwybodaeth goddefol (Stavrou et al., 2024; Günay & Çöllüoğlu, 2025; Kwon et al., 2020). Gan adlewyrchu'r syniad hwn, mae Stavrou et al. (2024: 236) yn nodi bod addysg hawliau dynol trawsnewidiol yn galluogi dysgwyr "i newid o fod yn dderbynwyr gwybodaeth goddefol i fod yn ddeiliaid hawliau ymwybodol". Yn yr astudiaethau hyn, mae’n ymddangos bod ymdeimlad o reolaeth yn bwysig wrth drosi dealltwriaeth yn weithredu.
Mae tystiolaeth hefyd yn awgrymu y gall cyfranogiad fod yn bwysig ynddo’i hun. Mae Newham et al. (2020) yn tynnu sylw at effeithiau cadarnhaol cynnwys pobl mewn penderfyniadau sy'n effeithio arnynt, gydag un astudiaeth yn adrodd bod 94% o’r cyfranogwyr yn teimlo bod cael cymryd rhan mewn penderfyniadau wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol iddyn nhw’n bersonol. Er yn ansoddol i raddau helaeth, mae'r dystiolaeth hon yn awgrymu y gall cyfranogiad ystyrlon gryfhau hyder, rheolaeth ac ymgysylltiad â hawliau dynol.
Amodau ar gyfer llwyddiant a chyfyngiadau
Mae effeithiolrwydd y dulliau hyn yn dibynnu'n drwm ar yr amodau ehangach. Mae ymyriadau’n fwy tebygol o lwyddo pan maent wedi’u cefnogi gan arferion sefydliadol cyson, yn cael eu cynnal dros amser a’u hatgyfnerthu ar draws gwahanol leoliadau (UNESCO, 2023; Hoffman et al., 2021; EHRC, 2023). Mae effaith mentrau unigol neu fyrdymor yn dueddol o fod yn gyfyngedig.
Hyd yn oed os yw dulliau gweithredu’n effeithiol, mae eu heffaith yn aml yn gyfyngedig o ganlyniad i rwystrau strwythurol. Gall pobl fod yn ymwybodol o'u hawliau gyda chymhelliant i weithredu ond heb allu gwneud hynny oherwydd rhwystrau ymarferol fel cost, mynediad, gwahaniaethu neu ofni’r canlyniadau (Destrooper & Verclyte, 2022; Ganju et al., 2016; Perkins et al., 2019).
Mae cyfyngiadau pwysig yn y sylfaen dystiolaeth ei hun. Mae astudiaethau sy’n olrhain canlyniadau hirdymor neu’n mesur newid mewn ymddygiad yn gymharol brin, ac mae’r rhan fwyaf o werthusiadau’n canolbwyntio ar newidiadau byrdymor mewn gwybodaeth neu agweddau (EHRC, 2023; Lee & Lee, 2025, Stavrou et al., 2024). O ganlyniad i hyn, ychydig iawn o dystiolaeth gadarn sydd ynghylch a yw gwelliannau mewn dealltwriaeth yn arwain at newidiadau parhaus mewn ymddygiad neu hawlio hawliau dros amser (EHRC, 2023; Lee & Lee, 2025).
Cwestiwn ymchwil 4: beth sy’n rhwystro neu’n galluogi dealltwriaeth o hawliau dynol
Rhwystrau materol ac amodau byw
Y rhwystr mwyaf i ddealltwriaeth pobl o hawliau dynol a ddynodwyd yn y llenyddiaeth yw amodau byw materol. Mae tlodi, ansicrwydd ynghylch eu sefyllfa ac anghenion sylfaenol heb eu diwallu yn effeithio’n negyddol ar allu pobl i weithredu ar eu hawliau, waeth faint maen nhw'n eu deall. Gall ffactorau strwythurol fel incwm, tai, iechyd, a mynediad at wasanaethau wneud i hawliau deimlo fel pethau peryglus, amherthnasol neu amhosibl i’w harfer (EHRC, 2023; Nadkarni & Sinha, 2016; Ganju et al., 2016: 014). Mae tystiolaeth o sawl astudiaeth yn dangos y bwlch hwn rhwng gwybodaeth am hawliau dynol a'r amgylchiadau materol sy’n angenrheidiol i’w harfer. Canfu Khatoon et al. (2024) bod oedolion ifanc yn India yn aml yn ymwybodol o'u hawliau ond yn parhau i wynebu diffygion sylweddol mewn gwasanaethau sylfaenol ac amodau byw. Mae'r awduron yn nodi, "er eu bod yn ymwybodol o'u hawliau, nid oes ganddynt amwynderau dynol sylfaenol fel dŵr yfed, cyfleusterau glanweithdra o fewn eiddo a systemau draenio" (2024:1648).
Yn yr un modd, canfu Tuakli-Wosornu et al. (2022), er bod llawer o athletwyr yn ymwybodol o'u hawliau, roedd y rhan fwyaf yn dal yn anymwybodol o ddatganiadau hawliau ffurfiol, a heb ddigon o hyder yn aml i roi gwybod am dor-hawliau. Mewn arolwg o athletwyr o 70 o wledydd, darganfuwyd "datgysylltiad rhwng gwybodaeth athletwyr am eu hawliau, eu credoau, eu hymwybyddiaeth a’u profiadau" (Tuakli-Wosornu et al. 2022:10). Mae'r awduron yn damcaniaethu mai credoau ynghylch ymarferoldeb rhoi hawliau ar waith sy’n gyrru newid diwylliannol yn hytrach na dim ond gwybodaeth a dealltwriaeth o'r hawliau hynny mewn egwyddor.
Gyda'i gilydd, mae'r dystiolaeth hon yn awgrymu nad yw gwybodaeth ar ei phen ei hun yn ddigon. Efallai’n wir bod pobl yn deall eu hawliau ond heb yr adnoddau ymarferol, y sicrwydd neu’r cyfleoedd angenrheidiol i'w harfer.
Rhwystrau sefydliadol
Mae'r llenyddiaeth hefyd yn nodi bod sefydliadau’n geidwaid porth pwysig o safbwynt hawliau dynol. Gall diwylliannau sefydliadol, normau proffesiynol, hierarchaethau a strwythurau atebolrwydd ddylanwadu ar alluogi neu gyfyngu ar hawliau’n ymarferol, hyd yn oed lle mae ymrwymiadau ffurfiol yn bodoli (Erdman, 2017; Canolfan Al-Hayat, 2020; Llywodraeth Cymru, 2025).
Mae tystiolaeth yn awgrymu bod sefydliadau’n gwneud mwy na gweithredu hawliau dynol yn unig; maent yn eu dehongli ac yn eu blaenoriaethu. O ganlyniad, gall tensiwn fod rhwng dulliau seiliedig ar hawliau a blaenoriaethau cystadleuol fel effeithlonrwydd, rheolaeth risg, cyfyngiadau adnoddau neu arferion proffesiynol sefydledig. Wrth drafod lleoliadau gofal iechyd, mae Erdman (2017: 8) yn dadlau bod “arferion gofal iechyd sydd o ran eu natur yn dreisgar neu’n gamdriniol yn cael eu cyfiawnhau’n rheolaidd ar sail effeithlonrwydd gweinyddol, newid mewn ymddygiad neu angen meddygol [sic]”. Mae'r awdur yn dadlau y gellir tanseilio hawliau nid yn unig trwy wrthwynebiad diamwys ond hefyd trwy’r penderfyniadau y mae sefydliadau’n eu gwneud o ddydd i ddydd. Yn y cyd-destun hwn, mae Erdman yn dweud y dylai addysg hawliau dynol geisio ymgysylltu'n feirniadol â normau cymdeithasol a sefydliadol i gefnogi newid diwylliannol.
Mae tystiolaeth feintiol yn pwyntio at batrymau tebyg. Canfu Rekhis et al. (2021) wahaniaethau mawr mewn ymwybyddiaeth o hawliau dynol rhwng staff gofal iechyd a defnyddwyr gwasanaethau, gyda staff yn dangos lefelau uwch o ymwybyddiaeth o hawliau na chleifion a'u teuluoedd. Mae hyn yn awgrymu y gall mynediad anghyfartal at hawliau, gwybodaeth a chyfranogiad ynddo’i hun ddod yn rhwystr sefydliadol.
Ofn, stigma a chymhwyso hawliau’n ddetholus
Mae tystiolaeth yn awgrymu bod ofn, stigma, a chamwybodaeth yn gwanhau ymgysylltiad â hawliau dynol ymhellach. Gall ofn rwystro pobl rhag hawlio’u hawliau, tra gall stigma ddylanwadu ar ganfyddiadau ynghylch pwy a ystyrir yn haeddiannol o amddiffyniad. Gall camwybodaeth atgyfnerthu'r ddynameg hon trwy siapio naratifau negyddol neu gamarweiniol (Ganju et al., 2016; EHRC, 2016; Omar & Casero-Ripollés, 2023).
Mae tystiolaeth o India yn tynnu sylw at bwysigrwydd y rhwystrau hyn. Canfu arolwg mawr o weithwyr rhyw benywaidd a dynion sy'n cael rhyw gyda dynion sy'n byw yn Andhra Pradesh, India, Ganju et al. (2016) bod stigma, cymdogion a diffyg ymwybyddiaeth yn rhai o’r rhwystrau amlycaf rhag hawlio hawliau, tra bod sefydliadau cymunedol yn gweithredu fel hwyluswyr pwysig.
Yn fwy cyffredinol, mae'r llenyddiaeth yn amlygu’r defnydd detholus o hawliau dynol, lle mae cefnogaeth mwyafrif y boblogaeth yn amrywio’n dibynnu ar ffactorau fel dinasyddiaeth, bygythiadau canfyddedig neu bellter cymdeithasol (Geedy-Gill & Carriere, 2024; Rawat et al., 2025). Mae hyn yn tanseilio'r egwyddor o gyffredinolrwydd a gall arwain at amddiffyn hawliau i wahanol raddau ar draws gwahanol grwpiau.
Rhwystrau diwylliannol a ieithyddol a rhwystrau rhag cael a defnyddio gwybodaeth
Mae rhwystrau diwylliannol ac epistemig hefyd yn siapio sut y mae hawliau dynol yn cael eu deall. Lle bo hawliau'n cael eu gweld fel pethau estron, sy’n cael eu gorfodi neu sy’n ddatgysylltiedig â realiti lleol, mae pobl yn llai tebygol o’u derbyn neu o fod ag ymddiriedaeth ynddynt (Mwapaura et al., 2024; Alnufaishan & Alanezi, 2021; Olanrewaju, 2020).
Gall iaith a llythrennedd fod yn rhwystrau rhag ymgysylltu â hawliau dynol. Mae Olanrewaju (2020: 189) yn nodi mai “iaith addysg a gweithredu ym maes hawliau dynol … yw'r iaith Saesneg", gan dynnu sylw at sut y mae addysg am hawliau dynol yn aml yn cael ei darparu trwy ieithoedd dominyddol yn hytrach na'r ieithoedd y mae pobl yn eu defnyddio mewn bywyd bob dydd. Gall hyn wneud i hawliau dynol deimlo fel pethau annelwig, allan o gyrraedd, yn enwedig lle mae'n rhaid i ddysgwyr ysgwyddo'r baich meddyliol ychwanegol o ddehongli cysyniadau cymhleth mewn ail iaith.
Mewn rhai cyd-destunau, mae goruchafiaeth fframweithiau addysgol y Gorllewin yn gwaethygu’r rhwystr ieithyddol hwn. Er enghraifft mae Mwapaura et al. (2024: 91) yn dadlau bod "system addysg Zimbabwe wedi'i disgrifio fel un â sail Orllewinol sy’n dwyn anfri ar wybodaeth frodorol cymunedau." Mae'r awduron yn awgrymu y gall hyn greu tensiynau oherwydd nad yw addysg hawliau dynol wedi'i chysylltu'n ddigonol â diwylliannau, hanesion a systemau gwybodaeth lleol. Yn fwy cyffredinol, mae'r llenyddiaeth yn dangos y deellir hawliau’n well os ydynt yn gysylltiedig â gwerthoedd a phrofiadau pobl yn hytrach na’u bod yn cael eu cyflwyno fel dim mwy nag egwyddorion cyfreithiol haniaethol (gweler Adran 3.2).
Dealltwriaeth o hawliau dynol - y galluogwyr
Er gwaethaf y rhwystrau hyn, mae'r llenyddiaeth yn nodi sawl ffactor sy'n cefnogi dealltwriaeth ac ymgysylltiad cryfach â hawliau dynol.
Mae’n ymddangos bod ymgysylltiad emosiynol ac empathi yn chwarae rhan bwysig mewn helpu pobl i gysylltu egwyddorion hawliau â'u bywydau eu hunain a phrofiadau pobl eraill (Stavrou et al., 2024; Stone, 2023). Mae amgylcheddau dysgu cyfranogol, lle mae unigolion yn cymryd rhan weithredol ac yn gallu myfyrio ar eu profiadau, yn gysylltiedig â dealltwriaeth ddyfnach a mwy o hyder (Leblebici & Yücel-Toy, 2022; Waldorf et al., 2024).
Mae aliniad sefydliadol yn alluogwr pwysig arall. Lle mae polisïau, gweithdrefnau a diwylliannau sefydliadol yn atgyfnerthu’n gyson ddulliau sy'n seiliedig ar hawliau, mae unigolion yn fwy tebygol o weld hawliau fel pethau ystyrlon, y gellir eu rhoi ar waith mewn cyd-destunau bob dydd (UNESCO, 2023; Quennerstedt, 2022; Vance & Rivers, 2021, Soomro et al., 2025). Yn yr un modd, gall dulliau sy'n cysylltu hawliau dynol â gwerthoedd lleol a phrofiadau byw gynyddu eu cyfreithlondeb a'u perthnasedd (Kane et al., 2024; Oomen & Durmus, 2019; Mwapaura et al., 2024).
Mae sawl astudiaeth hefyd yn awgrymu y gall ymwybyddiaeth gefnogi hawlio hawliau lle mae’r amodau galluogi priodol yn bodoli. Er enghraifft, canfu Perkins et al. (2019) bod ymwybyddiaeth o hawliau iechyd mamau’n gysylltiedig â mwy o ddefnydd o wasanaethau gofal cynenedigol ymhlith menywod yng nghefn gwlad Bangladesh. Mae’n ymddangos hefyd bod sefydliadau cymunedol yn chwarae rôl hwyluso bwysig trwy helpu unigolion i ddeall a hawlio eu hawliau (Ganju et al., 2016).
Yn olaf, mae amodau byw cefnogol yn sylfaenol. Pan fydd anghenion sylfaenol pobl yn cael eu diwallu a'u bod yn gallu byw mewn urddas, maent yn fwy tebygol o ymgysylltu â'u hawliau a gweithredu arnynt yn ymarferol (Jang & Kim, 2022; Herawati & Ermakov, 2022; Hoffman et al., 2021).
Trafodaeth
Ar draws pob un o'r 4 cwestiwn ymchwil, mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod dealltwriaeth o hawliau dynol yn cael ei siapio gan gyfuniad o ffactorau cymdeithasol, sefydliadol, gwybodaethol, strwythurol a materol. Mae ymwybyddiaeth yn sylfaen bwysig ar gyfer dealltwriaeth, ond nid yw ymwybyddiaeth ar ei phen ei hun yn ddigon i gefnogi pobl i arfer eu hawliau mewn ffordd ystyrlon. Mae pobl yn fwy tebygol o ddeall a gweithredu ar eu hawliau pan fo’r hawliau hynny wedi'u hymwreiddio mewn bywyd bob dydd, wedi’u hatgyfnerthu gan sefydliadau, wedi'u cefnogi gan wybodaeth ddibynadwy, ac wedi'u galluogi gan eu hamodau byw. Os yw’r amodau hyn yn absennol, mae perygl y bydd hawliau’n parhau i fod yn bethau haniaethol ac anodd i’w hawlio’n ymarferol.
Y goblygiadau i bolisi ac ymarfer
Mae tystiolaeth o Gymru’n benodol yn gymharol brin, ac mae’r goblygiadau i raddau helaeth wedi’u casglu o dystiolaeth ryngwladol ac o astudiaethau mwy cyffredinol yn y DU. Fodd bynnag, mae nifer o’r themâu a ddynodir yn yr adolygiad hwn wedi’u hadlewyrchu mewn llenyddiaeth sy'n ymwneud â Chymru. Mae Hoffman et al. (2021) ac EHRC (2023) ill dau yn nodi heriau sy'n ymwneud ag ymwybyddiaeth y cyhoedd o hawliau, gweithredu hawliau ac atebolrwydd, a'r bwlch rhwng ymrwymiadau polisi a phrofiad byw.
Mae'r cyd-destun polisi yng Nghymru yn esblygu. Mae Cynllun 100 Diwrnod Cyntaf Llywodraeth Plaid Cymru yn cynnwys ymrwymiad i fwrw ‘mlaen â chynigion i ymgorffori confensiynau hawliau dynol allweddol y Cenhedloedd Unedig yng nghyfraith Cymru, gan adeiladu ar amddiffyniadau hawliau sydd eisoes yn bodoli ac ymwreiddio safonau rhyngwladol wrth ddylunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus datganoledig (Llywodraeth Cymru, 2026). Efallai y bydd canfyddiadau'r adolygiad hwn felly’n cyfrannu at y gwaith hwn.
Fel y mae'r EHRC yn nodi, bu "datblygiadau polisi a chyfreithiol helaeth i wella cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru", gan gynnwys cychwyn y Ddyletswydd economaidd-gymdeithasol a sefydlu unedau tystiolaeth cydraddoldeb pwrpasol (EHRC, 2023: 20). Fodd bynnag, mae'r dirwedd hon hefyd yn gymhleth gyda rhanddeiliaid yn disgrifio fframweithiau sy'n gorgyffwrdd a diffyg eglurder ynghylch cyfrifoldebau (Hoffman et al., 2021).
Mae hyn yn adlewyrchu mater ehangach a nodwyd ar draws y llenyddiaeth: mae hawliau dynol yn aml yn cael eu trin fel cysyniadau haniaethol neu gyfreithiol, yn hytrach na rhywbeth sydd wedi'i ymwreiddio mewn ymarfer bob dydd. Yn 2020, comisiynodd Llywodraeth Cymru ar y pryd ymchwil i "archwilio opsiynau i gryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru" (Hoffman et al., 2021: 6). Nododd yr ymchwil hon fwlch gweithredu rhwng uchelgais polisi a realiti (Hoffman et al., 2021). Er gwaethaf fframweithiau cryf, mae anghydraddoldebau’n parhau ar draws meysydd allweddol fel tlodi, iechyd ac addysg (EHRC, 2023; Sefydliad Joseph Rowntree, 2025), tra bod rhanddeiliaid yn dweud bod datgysylltiad rhwng "bwriadau da a gweithredu" ac atebolrwydd gwan (Hoffman et al., 2021: 38).
Mewnwelediad allweddol a gafwyd o'r adolygiad hwn yw bod dealltwriaeth yn ddibynnol ar i hawliau dynol fod yn ystyrlon gyda modd gweithredu arnynt. Mae’r dystiolaeth ar gyfer Cymru ar raddfa fach ac o natur ansoddol, ac mae mesuriad meintiol pellach o ymwybyddiaeth a hyder yn angenrheidiol. Fodd bynnag, mae canfyddiadau Hoffman et al. yn adlewyrchu'r bwlch ehangach rhwng gwybodaeth a gweithredu sydd wedi’i amlygu yn yr adroddiad hwn, lle nad yw dealltwriaeth o reidrwydd yn arwain at newid mewn ymddygiad.
Mae'r cyd-destun Cymreig hefyd yn atgyfnerthu pwysigrwydd amodau materol: gall rhywun ddeall eu hawl i herio triniaeth annheg neu i gael mynediad at gymorth, ond gall tlodi, gwaith ansicr, cyfrifoldebau gofalu neu iechyd gwael wneud arfer yr hawliau hynny’n anymarferol neu'n rhy beryglus. Ar hyn o bryd, mae 1 o bob 5 o bobl (ac 1 o bob 4 o blant) yn byw mewn tlodi incwm cymharol yng Nghymru (EHRC, 2023). Gall hyn wneud hawliau dynol yn anoddach i'w harfer ac, mewn rhai achosion, gall olygu bod cysyniadau hawliau dynol yn teimlo'n llai perthnasol i fywyd bob dydd.
Casgliadau a chyfyngiadau
Mae'r adolygiad cyflym o’r dystiolaeth hwn wedi canfod bod dealltwriaeth y cyhoedd o hawliau dynol yn cael ei siapio i raddau llai gan ymwybyddiaeth yn unig ac i raddau mwy ar a yw hawliau wedi'u hymgorffori mewn bywyd bob dydd, sefydliadau, a phrofiad byw. Ar draws y sylfaen dystiolaeth, sydd i raddau helaeth yn ansoddol, mae cefnogaeth gyson i'r syniad bod hawliau’n gweithredu fel normau cymdeithasol yn hytrach nag offerynnau cyfreithiol yn unig. Mae astudiaethau meintiol yn dangos rhai gwelliannau mewn ymwybyddiaeth ac agweddau, ac mae'r dystiolaeth ansoddol yn dangos bwlch parhaus rhwng gwybodaeth a gweithredu, gydag ymddiriedaeth mewn sefydliadau a pherthnasedd ymddangosiadol yn dylanwadu ar ddealltwriaeth. Mae gwella dealltwriaeth felly yn gofyn am fwy na dim ond darparu gwybodaeth; mae'n dibynnu ar wneud hawliau’n bethau ystyrlon y gellir gweithredu arnynt.
Mewn perthynas â chamwybodaeth a thwyllwybodaeth, mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod y bylchau presennol mewn dealltwriaeth yn gwaethygu eu heffaith. Lle mae dealltwriaeth yn arwynebol, mae camwybodaeth yn fwy tebygol o ennill ei phlwyf, yn enwedig pan mae’n tynnu ar yr emosiynau neu’n alinio â chredoau pobl. Er bod tystiolaeth uniongyrchol ar hawliau dynol yn gyfyngedig, mae astudiaethau cysyniadol ac ansoddol yn dangos yn gyson bod systemau cyfryngau, platfformau digidol ac ymddiriedaeth mewn sefydliadau’n siapio sut mae hawliau'n cael eu deall. Mae mynd i'r afael â chamwybodaeth felly nid yn unig yn golygu cywiro anghywirdebau ond hefyd gryfhau eglurder a hygrededd cyfathrebu sy’n seiliedig ar hawliau. Mae negeseuon hawliau dynol yn fwy effeithiol pan maent yn cael eu cyfathrebu trwy iaith sy’n ystyrlon yn lleol a chysyniadau ag aliniad diwylliannol fel urddas, tegwch a gwerthoedd a rennir.
Mae polau diweddar yn y DU hefyd yn awgrymu y gall cefnogaeth i hawliau dynol barhau i fod yn gymharol gadarn hyd yn oed pan fo gwybodaeth fanwl o fframweithiau hawliau dynol yn gyfyngedig, gan atgyfnerthu'r gwahaniaeth rhwng agweddau cadarnhaol tuag at hawliau a dealltwriaeth ddyfnach o sut mae hawliau'n gweithredu’n ymarferol (BIHR, 2025).
Mae'r llenyddiaeth hefyd yn defnyddio ystod o ddulliau o fesur ymwybyddiaeth a dealltwriaeth. Mae'r mesurau'n cynnwys adroddiadau pobl ynghylch eu hymwybyddiaeth eu hunain, gwybodaeth ffeithiol am hawliau, agweddau tuag at hawliau dynol, hyder i arfer hawliau, a dangosyddion ymddygiadol fel ymgysylltiad dinesig neu hawlio hawliau (Herawati & Ermakov, 2022; Kwon et al., 2020; Perkins et al., 2019). O ganlyniad, dylid dehongli’r canfyddiadau gyda gofal, gan nad yw astudiaethau bob amser yn mesur yr un cysyniadau sylfaenol.
Mae'r adolygiad hefyd yn nodi bod ymyriadau’n fwyaf effeithiol pan maent yn gyfranogol, yn gyson ac yn cael eu cefnogi gan amodau sefydliadol a chymdeithasol ehangach. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod dulliau sy'n annog myfyrio, deialog, a rheolaeth dros weithredoedd yn fwy tebygol o wireddu dealltwriaeth ddyfnach na dulliau sy'n seiliedig ar wybodaeth yn unig. Fodd bynnag mae tystiolaeth gadarn o’r effeithiau hirdymor yn gyfyngedig. Mae ffactorau strwythurol fel tlodi ac anghydraddoldeb yn parhau i fod yn rhwystrau allweddol sy'n aml yn drech na gwybodaeth ac yn lleihau'r gallu i weithredu ar hawliau dynol.
Yn gyffredinol, mae'r adolygiad yn mapio dulliau o wella dealltwriaeth, yn archwilio dylanwad camwybodaeth, ac yn nodi cryfderau a bylchau yn y sylfaen dystiolaeth, yn enwedig mewn perthynas â gwerthuso ac effaith. Mae'n darparu synthesis defnyddiol o'r dystiolaeth ac yn dangos sut mae adeiladu dealltwriaeth yn dibynnu ar y rhyngweithio rhwng addysg, sefydliadau, amgylcheddau gwybodaeth, ac amodau byw.
Cyfyngiadau
Mae gan yr adolygiad hwn sawl cyfyngiad. Fel adolygiad cyflym, roedd y chwiliad yn gyfyngedig o ran amser a hefyd yn gyfyngedig i’r ffynonellau Saesneg a oedd ar gael (nid rhai yr oedd yn rhaid talu amdanynt) gan olygu y gallai rhai astudiaethau perthnasol fod wedi'u gadael allan. Efallai hefyd y bydd bylchau mewn cynrychiolaeth ddaearyddol, yn enwedig lle nad oedd tystiolaeth ar gael yn gyhoeddus.
Mae'r sylfaen dystiolaeth ei hun yn ansoddol i raddau helaeth ac yn fach o ran graddfa. Er bod hyn yn darparu mewnwelediad cyfoethog i sut y mae dealltwriaeth yn cael ei phrofi, mae'n cyfyngu ar gasgliadau am achosiaeth a cyffredinolrwydd. Mae astudiaethau meintiol ar raddfa fawr neu hydredol yn gymharol brin, yn enwedig ar ganlyniadau ymddygiadol ac effaith hirdymor, felly mae'r canfyddiadau'n ddehongliadol i raddau helaeth
Yn olaf, mae bylchau penodol mewn tystiolaeth. Mae ymchwil uniongyrchol i gamwybodaeth a hawliau dynol yn gyfyngedig, gyda mewnwelediadau’n aml yn cael eu tynnu o feysydd cysylltiedig. Mae yna hefyd ddiffyg tystiolaeth benodol i Gymru a fawr ddim astudiaethau sy'n darparu tystiolaeth sy’n benodol berthnasol i'r DU. Mae'r bylchau hyn yn amlygu’r angen am ymchwil bellach, yn enwedig ar effeithiolrwydd ymyriadau, dylanwad y cyfryngau cymdeithasol ac amgylcheddau digidol, a thystiolaeth benodol i’r cyd-destun i lywio polisi.
Geirfa
Camwybodaeth
Camwybodaeth yw gwybodaeth anwir neu gamarweiniol sy'n cael ei rhannu’n anfwriadol, heb y bwriad o achosi niwed (UNESCO, 2026c)
Epistemig
Yn ymwneud â gwybodaeth a dealltwriaeth, gan gynnwys sut mae pobl yn dysgu, dehongli a gwneud synnwyr o wybodaeth (Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 2026).
Hawliau dynol
Hawliau sylfaenol sy'n gynhenid i bob unigolyn, waeth beth fo'u cenedligrwydd, rhyw, ethnigrwydd, neu unrhyw statws arall (UNESCO, 2026b)
Twyllwybodaeth
Mae twyllwybodaeth yn cyfeirio at ledaenu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol yn fwriadol, yn aml gyda’r bwriad o dwyllo neu ddylanwadu ar unigolyn neu grŵp o bobl (UNESCO, 2026a)
Atodiad
Termau chwilio
Caiff pob term Saesneg cynradd ei chwilio amdano mewn cyfuniad â phob un o'r termau eilaidd a thrydyddol Saesneg nes bod pob cyfuniad wedi’i gyflawni (er enghraifft, ‘human rights’ + ‘understand*’ + ‘strategy ...). Sylwch fod seren yn dangos y bydd y chwiliad yn cynnwys sawl ôl-ddodiad (er enghraifft, ‘human rights’ + ‘understand*’ + ‘strategy ...).
Termau chwilio
- Human rights
- Civil liberties
Termau chwilio eilaidd
- Awareness
- Understand*
- Knowledge*
- Literacy
- Perception*
- Attitude*
- Educat*
- Misinformation
- Disinformation
- Fake news
- Propaganda
- Media framing
- Information disorder
Termau chwilio trydyddol
- Intervention
- Campaign*
- Program*
- Messag*
- Strategy
- Initiative*
- Barrier*
- Facilitator*
- Enabler*
- Factor*
- Determinant*
- Digital
- Structural
- Social
- Cultural
- Evaluat*
- Impact*
Sampl o gystrawennau chwilio Web of Science
((TI=("Human rights")) AND (TI=(Awareness)) AND (TI=(Intervention))) OR
((TI=("Human rights")) AND (TI=(Awareness)) AND (TI=(Campaign*))) OR
((TI=("Human rights")) AND (TI=(Awareness)) AND (TI=(Program*))) OR
((TI=("Human rights")) AND (TI=(Awareness)) AND (TI=(Messag*)))
Sampl o gystrawennau chwilio Science Direct
( TITLE ( "Human rights" ) AND TITLE ( Awareness ) AND TITLE ( Intervention ) ) OR
( TITLE ( "Human rights" ) AND TITLE ( Awareness ) AND TITLE ( Campaign* ) ) OR
( TITLE ( "Human rights" ) AND TITLE ( Awareness ) AND TITLE ( Program* ) ) OR
( TITLE ( "Human rights" ) AND TITLE ( Awareness ) AND TITLE ( Messag* ) )
Adran gyfeirio
- Adonteng-Kissi, O. (2018). Parental perceptions of child labour and human rights: A comparative study of rural and urban Ghana. Child abuse & neglect, 84, 34-44.
- Agudelo-Hernández, F., Vélez-Botero, H., & Guapacha-Montoya, M. (2025). Results of quality rights on human rights engagement, stigma and attitudes towards mental health among Colombian medical students. Plos one, 20(2), e0319431.
- Ahmad, A.K., Abu Shammalah, A., Aljalabneh, A.A. and Manajreh, M. (2026). The role of social media in shaping Jordanian women’s attitudes towards human rights issues. Online Journal of Communication and Media Technologies, 16(1), e202602.
- Ahmed, A. K. (2018). Disrupting power/entrenching sovereignty: The paradox of human rights education. Prospects, 47(1), 3-16.
- Alderson, P. (2016). International human rights, citizenship education, and critical realism. London Review of Education, 14(3).
- Al-Hayat Center – RASED (2020). Assessment report: Implementation of the Comprehensive National Plan for Human Rights 2016–2025. Friedrich-Ebert-Stiftung, Amman Office.
- Alnufaishan, S. and Alanezi, N.S. (2021). Between a rock and a hard place: Decolonising religious and human rights education. British Journal of Religious Education, 43(1), pp. 91–102.
- Amnesty International (2022). A human rights approach to tackle disinformation. Submission to the Office of the High Commissioner for Human Rights (last accessed 24 August 2026).
- Arves, S. and Braun, J. (2019). On solid ground: Evaluating the effects of foundational arguments on human rights attitudes. Human Rights Review, 20, pp. 181–204.
- Bajaj, M., Canlas, M. and Argenal, A. (2017). Between rights and realities: Human rights education for immigrant and refugee youth. Anthropology & Education Quarterly, 48(2), pp. 124–140.
- Balarabe, K. (2021). Dataset on human rights awareness in Northwest Nigeria. Data in Brief, 39, 107547.
- Becvar, K., Carpenter, C., Leidner, B. and Young, K.L. (2024). The “First daughter” effect: Human rights advocacy and attitudes toward gender equality in Taliban-controlled Afghanistan. PLOS ONE, 19(7), e0298812.
- British Institute of Human Rights. (2025). New polling: Public support for human rights stands firm, but knowledge gaps remain (last accessed: 13 August 2026).
- Bujic, M., Salminen, M., Macey, J. and Hamari, J. (2020). “Empathy machine”: How virtual reality affects human rights attitudes. Internet Research, 30(5), pp. 1407–1425.
- Burnett, C. (2021). Reflections on human rights education from the orphans and vulnerable children (OVC) sector in Mozambique. Cogent Social Sciences, 7(1), 1860275.
- Cambridge University Press. (n.d.) Epistemic. Cambridge Dictionary (last accessed: 13 August 2026).
- Carvalho, A. L., Luna, J. M. F., & Santos, J. M. S. (2022). Education in human rights: The perception of teachers in a public school. Revista Ibero‑Americana de Estudos em Educação, 17(1), 532–551.
- Cho, H. J. (2019). Rethinking democracy and human rights education on the seventieth anniversary of the Universal Declaration of Human Rights. Asia Pacific Education Review, 20, pp. 171–180.
- Činčera, J., Skalík, J. and Binka, B. (2018). One world in schools: An evaluation of the human rights education programme in the Republic of Georgia. Cambridge Journal of Education, 48(6), pp. 769–786.
- Correa‐Chica, A., Caicedo‐Moreno, A., Rincón‐Unigarro, C., Castro‐Abril, P., & López‐López, W. (2024). Episodic versus thematic media framing of violence against social leaders and human rights defenders in Colombia. International journal of psychology, 59(3), 390-397.
- Council of Europe (2022). Third review (2022) of the implementation of the Council of Europe Charter on Education for Democratic Citizenship and Human Rights Education. CP-YD/ETD (2022) 207, Strasbourg.
- Cordeiro, K. M., de Souza, I. M. D. S., & Costa, R. P. (2022). Media and Human Rights Education: New Times, New Challenges. Education Policy Analysis Archives, 30(41), n41.
- Crawford, E., Aplin, T., & Rodger, S. (2017). Human rights in occupational therapy education: A step towards a more occupationally just global society. Australian Occupational Therapy Journal, 64(2), 129-136.
- De Kort, F. (2018). Human rights education in social studies in the Netherlands: A case study textbook analysis. Prospects, 47, 55–71.
- Deluggi, N., & Ashraf, C. (2023). Liars, skeptics, cheerleaders: Human rights implications of post-truth disinformation from state officials and politicians. Human rights review, 24(3), 365-387.
- Destrooper, T. and Verclyte, S. (2022). Artistic practices as a site of human rights: How performative ethnography Can facilitate a deeper contextual understanding , Journal of Human Rights Practice, 13(3), pp. 565–584.
- Dima, M., Xanthaki, A., Deniozou, T., & Luoma, C. (2022). The rights Hero–Serious games for human rights education and integration of migrant and refugee children in Europe. The International Journal of Children's Rights, 30(1), 41-71.
- Eberbach, K. (2023). Human Rights Legal Education in Times of Transition: Perspectives and Practices of Law Instructors in Myanmar: K. Eberbach. Human Rights Review, 24(4), 485-509.
- EHRC (2016). Is England Fairer? London: Equality Human Rights Commission.
- EHRC (2023). Equality and Human Rights Monitor: Is Wales Fairer? London: Equality Human Rights Commission.
- Ekblad, S. (2020). To Increase Mental Health Literacy and Human Rights Among New-Coming, Low-Educated Mothers With Experience of War: A Culturally, Tailor-Made Group Health Promotion Intervention With Participatory Methodology Addressing Indirectly the Children. Frontiers in Psychiatry, 11, 611.
- Elenes, C. A. (2023). Autoethnographic reflexion: Chicana feminist border/transformative pedagogies and human rights education. Journal of Latinos and Education, 22(3), 1236-1249.
- Erdman, J.N. (2017). Human rights education in patient care. Public Health Reviews, 38, 14.
- Fahey, É., O’Brien, D., Russell, H., & McGinnity, F. (2019). European survey data on attitudes to equality and human rights. Dublin: ESRI.
- Ganju, D., Patel, S. K., Prabhakar, P., & Adhikary, R. (2016). Knowledge and exercise of human rights, and barriers and facilitators to claiming rights: a cross-sectional study of female sex workers and high-risk men who have sex with men in Andhra Pradesh, India. BMC International Health and Human Rights, 16(1), 29.
- Geedy‐Gill, T., & Carriere, K. R. (2024). Rights for me but not for thee: Restriction of human rights based on group membership and threat perceptions. International Journal of Psychology, 59(2), 246-256.
- Gbagbo, F. Y., Rockson, G. N. Y., Quansah, F., & Golo, H. K. (2025). Awareness of anthropogenic climate change and its perceived implications for the fundamental human rights of young women in coastal communities in Effutu Municipality, Ghana. Social Sciences & Humanities Open, 12, 102319.
- Giliomee, C. (2023). A new path to cultivate human rights education at schools of social work in Africa from a decolonial lens. Social Work Education, 42(2), 263-278.
- Gillett‐Swan, J., Monta, C. C., & Shanks, R. (2025). A systematic review of definitions of rights education for children: Children's rights education (CRE), children's human rights education (CHRE), and other rights education subtypes. Review of Education, 13(3), e70104.
- Günay, D., & Özün Çöllüoğlu, Z. M. (2025). An examination of the transformative effect of learning by teaching method in human rights education. Journal of Political Science Education, 21(1), 105–122.
- Guzmán, V., Larrain, A., Álvarez, C., Fernández, I., Herrera Araya, D., & Urrutia, C. (2023). Design-based development of educative curriculum material for deliberative human rights education. Journal of Curriculum Studies, 55(4), 489-507.
- Hoffman, S., Nason, S., Beacock, R., Hicks, E. (gyda chyfraniad gan Croke, R.). (2021). Cryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru. Caerdydd: Llywodraeth Cymru, Rhif Ymchwil Gymdeithasol 54/2021.
- Herawati, A. V., & Ermakov, D. S. (2022). Human rights education in Indonesian higher education institutions: Opinions of students and teachers. Cakrawala Pendidikan, 41(02), 541-552.
- Huus, K., Dada, S., Bornman, J., & Lygnegård, F. (2016). The awareness of primary caregivers in South Africa of the human rights of their children with intellectual disabilities. Child: care, health and development, 42(6), 863-870.
- Human Rights Council Advisory Committee (2026). Impact of disinformation. UN.
- Jang, K. A., & Kim, Y. R. (2022). Effect of Korean Dental Hygienists’ Experiences Related to the Elderly on Their Perception of Human Rights Violations of the Elderly: A Cross-Sectional Study. International Journal of Environmental Research and Public Health, 19(6), 3376.
- Joseph Rowntree Foundation. (2025). Poverty in Wales 2025.
- Kane, G., Killean, R., & Tann, B. (2024). Vernacularising human dignity in human rights education: a Cambodian case study. The International Journal of Human Rights, 28(10), 1615-1639.
- Kasa, T., Brunila, K., & Toivanen, R. (2024). Reproducing inequality through ambivalence, ignorance, and innocence–Revisiting practices of equality and human rights in Finnish teacher education. Educational Review, 76(1), 145-165.
- Kaye, D. (2022). ‘Online propaganda, censorship and human rights in Russia's war against reality’ (Cambridge University Press), AJIL Unbound, 116, pp. 140–144.
- Khatoon, S., Johnson, A., Bhattacharya, P., Mukherjee, N., John, D., & Jayanna, K. (2024). Perception of human rights in health care: A cross-sectional study among tribal young adults of Puruliya, West Bengal. Journal of Family Medicine and Primary Care, 13(5), 1643.
- Kong, S., & Han, K. (2024). Human rights education experience for human rights sensitivity among Korean creative arts therapists: A focus on art and music therapists. The Arts in Psychotherapy, 87, 102125.
- Kwon, I., Lee, J., Cummings, C. E., Shamrova, D. P., Macomber, C. A., Milanović, E., ... & Hughes, A. K. (2020). Human rights attitude and civic engagement behavior among university students. Journal of Human Rights and Social Work, 5(3), 174-184.
- Latifnejad Roudsari, R., Karimi, F. Z. & Najmabadi, K. M. (2019). Comparing the attitude of undergraduate midwifery students regarding the legal and human rights aspects of abortion. Italian Journal of Gynaecology, 31(3).
- Leblebici, H., & Yücel-toy, B. (2022). Evaluation of the Human Rights and Democracy Education Course in Elementary Teacher Education Through Action Research. Çukurova Üniversitesi Eğitim Fakültesi Dergisi, 51(1), 659-687.
- Lee, S. A., & Lee, S. H. (2025). Effectiveness of migration and human rights education applying the ARCS model among nursing students. Edelweiss Applied Science and Technology, 9(4), 975-983.
- Liang, W. (2020). Teachers’ responses to human rights education policies and practices in a Chinese secondary school. Journal of Moral Education, 49(4), 529-544.
- Liou, R. Y. L. (2025). Back up or backfire? The impact of human rights sanctions on target citizens’ attitudes toward human rights and mobilizations. Journal of Global Security Studies, 10(4).
- Manyerere, D. J. (2025). Tanzania youth and social media: perceptions, experiences and implications for human rights violations. International Journal of Adolescence and Youth, 30(1).
- Moka-Mubelo, SJ, W. (2019). Towards a contextual understanding of human rights. Ethics & Global Politics, 12(4), 40-52.
- Mwapaura, K., Mushunje, M., Charamba, S., Risinamhodzi, N., & Simango, T. G. (2024). The relevance of indigenous knowledge systems in social work education and practice in Zimbabwe: A human rights perspective. Journal of Social Development in Africa, 39(2), 88-113.
- Nadkarni, V. V., & Sinha, R. (2016). Transforming social work education in India: integrating human rights. Journal of Human Rights and Social Work, 1, 9-18.
- Newham, R., Hewison, A., Graves, J., & Boyal, A. (2020). Human rights education in patient care: A literature review and critical discussion. Nursing ethics, 28(2), 190-209.
- Noyori-Corbett, C., & Moxley, D. P. (2021). Research informed competencies for human rights field education in social work. Journal of Human Rights and Social Work, 6(1), 59-66.
- Olanrewaju, O. (2020). An Evaluation of the Knowledge and Perception of the Concept of Human Rights by Residents of Selected Suburban Communities of Lagos, Nigeria. Journal of Human Rights and Social Work, 5, 185–190.
- de Oliveira, R. R. V., & Clementino, M. B. M. (2024). Disinformation, digital platforms and digital human rights. Cadernos de dereito actual, (25), 75-94.
- Omar, R.G. and Casero-Ripollés, A. (2023). The Role of News Post Consumption on Facebook in Shaping Youth Perceptions of Safety and Civil Liberties during COVID-19 in the U.S., Spain, and Egypt. Human Behavior and Emerging Technologies, 2023(1).
- Oomen, B., & Durmus, E. (2019). Cities and plural understandings of human rights: Agents, actors, arenas. The Journal of Legal Pluralism and Unofficial Law, 51(2), 141-150.
- Osler, A., & Skarra, J. A. (2021). The rhetoric and reality of human rights education: Policy frameworks and teacher perspectives. Multicultural Education Review, 13(3), 191-210.
- Perkins, J. E., Rahman, A. E., Siddique, A. B., Mazumder, T., Haider, M. R., & El Arifeen, S. (2019). Awareness and perceptions of women regarding human rights related to maternal health in rural Bangladesh. Journal of Global Health, 9(1).
- Petcharamesree, S. and Elbers, F. (2019) Human rights education and training. Background paper for the 19th Informal ASEM Seminar on Human Rights. Available at: 19th Informal ASEM Seminar on Human Rights: "Human Rights Education & Training" - Asia-Europe Foundation (ASEF).
- Pratiwi, C. S. (2020). Bridging the gap between cultural relativism and universality of human rights: Indonesia Attitudes. JILS, 5(2), 449-478.
- Pratiwi, C.S. and Sunaryo, S. (2025). Empowering University Students: Advancing Human Rights Knowledge and Advocacy Through Human Rights Defender Schools. Indonesian Journal of Legal Community Engagement, 8(2), 493-516.
- Quennerstedt, A. (2022). Children’s and young people’s human rights education in school: Cardinal complications and a middle ground. Journal of Human Rights, 21(4), 383-398.
- Rawat, R., Mishra, S., Tripathi, A., & Pandey, S. (2025). A Comparative Cross-sectional Study to Assess Knowledge Regarding Human Rights of Mentally Ill between Patient with Severe Mental Illness and People Without Mental Illness. Annals of Indian Psychiatry, 9(2), 130-136.
- Rekhis, M., Ouanes, S., Ben Hamouda, A., & Rafrafi, R. (2021). Human rights of people with mental illness diagnosis: perceptions among service users, family members and health professionals in Tunisia. Journal of Public Mental Health, 20(3), 182-190.
- Savaş, B., & Dinç, E. (2025). Identification and Elimination of Misconceptions in Human Rights and Democratic Citizenship Education. Journal of Qualitative Research in Education, (44).
- Sharma, B. (2022). A Study of Teachers' Human Rights Consciousness in Reference to 'Human Rights Education'. International Journal of Early Childhood Special Education, 14(1), 786-790.
- Soomro, R. B. K., Soomro, A. B., & Sahito, Z. (2025). Human Rights Education and Sustainable Development Goal 4. International Journal of Educational Development, 118, 103399.
- Spampatti, T., Pillai, R., Globig, L. K., Sternisko, A., & Van Bavel, J. J. (2025). Disinformation is a systemic risk to human rights: Input to the study on “The impact of disinformation on the enjoyment and realization of human rights” of the UN Human Rights Council Advisory Committee. United Nations Human Rights Council.
- Stavrou, V., Brouzos, A., Vassilopoulos, S. P., & Koutras, V. (2024). Evaluating the impact of human rights education on the adjustment of Greek primary school students. International Journal of Psychology, 59(2), 235-245.
- Stone, A. (2023). The relationship between attitudes to human rights and to animal rights is partially mediated by empathy. The Journal of Social Psychology, 163(3), 367-380.
- Swedish Institute for Human Rights. (2025). Annual report 2024. Institutet för mänskliga rättigheter.
- Tibbitts, F. L. (2016). Women’s human rights education trainers in Turkey: Situated empowerment for social change. Journal of Peace Education, 13(1), 41-59.
- Tibbitts, F. L. (2018). Human rights education: the good surf and reclaiming human rights. Netherlands Quarterly of Human Rights, 36(1), 64-74.
- Tibbitts, F., & Katz, S. R. (2017). Dilemmas and hopes for human rights education: Curriculum and learning in international contexts. Prospects, 47(1), 31-40.
- Torres Jr, M. S., & Qin, L. (2017). Chinese high school students’ perceptions of freedom of expression: Implications for researching emerging civil liberties in global educational contexts. Asia Pacific Education Review, 18(1), 53-64.
- Tuakli-Wosornu, Y. A., Goutos, D., Ramia, I., Galea, N. R., Mountjoy, M. L., Grimm, K., ... & Bekker, S. (2022). ‘Knowing we have these rights does not always mean we feel free to use them’: athletes’ perceptions of their human rights in sport. BMJ open sport & exercise medicine, 8(3).
- Ubachs, F. (2016). By addressing life trajectories and political violence, human rights education can overcome radicalizing narratives. London Review of Education, 14(3), 85-95.
- Udenze, S., Oshionebo, B., Iyorza, S. O. (2021). Media Framing of President Muhammadu Buhari’s Human Rights Abuses: a Study of The Punch, Vanguard, The Nation and Daily Trust Newspapers. Galactica Media: Journal of Media Studies, 3(1), 79-102.
- Ulubey, Ö., & Aykaç, M. (2016). Effects of human rights education using the creative drama method on the attitudes of pre-service teachers. The Anthropologist, 23(1-2), 267-279.
- UNESCO and the United Nations Office of the High Commissioner for Human Rights. (2023) Human rights education: Key success factors. UNESCO.
- UNESCO. (2026a). Disinformation.
- UNESCO. (2026b) Universal Declaration of Human Rights.
- UNESCO. (2026c) Misinformation.
- UK Government Analysis Function. (2026). Artificial intelligence (AI) Hub.
- Vance, M. M., & Rivers, M. (2021). Advancing a human rights practice approach in field education settings with justice-involved populations. Journal of Human Rights and Social Work, 6(1), 54-58.
- Wahl, R. (2016). Learning World Culture or Changing It? Human Rights Education and the Police in India. Comparative Education Review, 60(2), 293-310.
- Waldorf, L., Marambio, H. U., & Blades, H. (2024). Performing/Informing Rights: Mixing Inclusive Dance and Human Rights Education for Disabled People in Sri Lanka and Nepal. Journal of Human Rights Practice, 15(3), 748-762.
- Llywodraeth Cymru. (2025). Cynllun Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Strategol 2025 i 2029.
- Llywodraeth Cymru (2026) Cynllun y 100 Diwrnod Cyntaf: Mai i Awst 2026.
- Zembylas, M., Charalambous, C., & Charalambous, P. (2016). Teachers’ pedagogical perspectives and teaching practices on human rights in Cyprus: An empirical exploration and implications for human rights education. Pedagogies: an international Journal, 11(3), 197-217.
Manylion cyswllt
Ymchwilydd: Uned Tystiolaeth Cydraddoldeb
Safbwyntiau'r ymchwilwyr a fynegir yn yr adroddiad hwn, ac nid safbwyntiau Llywodraeth Cymru o reidrwydd.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Uned Tystiolaeth Cydraddoldeb
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: yrunedtystiolaethcydraddoldeb@llyw.cymru
Rhif ymchwil cymdeithasol: 86/2026

