Yr hyn rydym yn ei wneud i helpu i sicrhau bod deallusrwydd artiffisial yn cael ei ddefnyddio'n gyfrifol ac yn foesegol yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Cynnwys
Y cefndir
Deallusrwydd artiffisial yw'r wyddoniaeth a'r beirianneg ar gyfer creu peiriannau a systemau i gyflawni tasgau sydd fel arfer yn cael eu gwneud gan bobl. Mae'n newid y ffordd rydym yn byw, yn gweithio ac yn dysgu. Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried sut y gellid defnyddio deallusrwydd artiffisial ar draws y llywodraeth a'r sector cyhoeddus yng Nghymru.
Nodau ac egwyddorion
Gallai deallusrwydd artiffisial greu buddion sylweddol i'n heconomi, ein gwasanaethau cyhoeddus ac, yn y pen draw, y gymdeithas ehangach yma yng Nghymru. Rydym wedi creu'r egwyddorion canlynol i helpu i arwain y defnydd cyfrifol o ddeallusrwydd artiffisial fel ei fod:
- yn foesegol, yn ddibynadwy, ac yn cyd-fynd â gwerthoedd a buddiannau pobl Cymru
- yn gynhwysol, yn hygyrch, ac yn fuddiol i bawb, yn enwedig y rhai mwyaf agored i niwed a difreintiedig
- yn arloesol, yn gydweithredol, ac yn gefnogol o'n hecosystem Ymchwil a Datblygu
- yn dryloyw, yn atebol, ac yn ddarostyngedig i'r trefniadau llywodraethu a goruchwylio cywir
Ymwybyddiaeth o ddeallusrwydd artiffisial a llythrennedd yn y maes
Mae technolegau deallusrwydd artiffisial yn hynod bwerus ac o bosibl yn drawsnewidiol, ond maent hefyd yn golygu risgiau. Dyna pam ei bod yn bwysig ein bod yn deall y technolegau hyn yn well, gan gynnwys eu cyfyngiadau, fel eu bod yn cael eu defnyddio yn y ffyrdd cywir.
Rydym yn gweithio gyda'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol i wella ymwybyddiaeth o ddeallusrwydd artiffisial a llythrennedd yn y maes ar draws y sector cyhoeddus.
Mae'r Ganolfan wedi cynnal gweminarau gyda sefydliadau fel Sefydliad Alan Turing a'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, gan edrych ar y canlynol:
- hanfodion deallusrwydd artiffisial
- rheoli rhagfarn o fewn deallusrwydd artiffisial
- beth i'w ystyried wrth gaffael deallusrwydd artiffisial
Gwyliwch weminarau'r Ganolfan ar YouTube.
Mae Grŵp Llywio Deallusrwydd Artiffisial ac Awtomeiddio'r Ganolfan wedi cyhoeddi canllawiau ar ddefnydd cyfrifol a moesegol o ddeallusrwydd artiffisial gan y sector cyhoeddus (ar wefan Y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol).
Ochr yn ochr â'r Ganolfan, byddwn yn parhau i godi ymwybyddiaeth a gwella dealltwriaeth o dechnolegau deallusrwydd artiffisial.
Gwella tryloywder deallusrwydd artiffisial ac ymddiriedaeth yn y maes
Mae sicrhau bod gan y cyhoedd hyder ac ymddiriedaeth yn y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial yn hanfodol.
Rydym am sicrhau bod pawb yn gwybod sut rydym yn defnyddio deallusrwydd artiffisial yn Llywodraeth Cymru. Dyna pam rydym yn defnyddio'r Safon Cofnodi Tryloywder Algorithmig (ATRS), sy'n helpu'r sector cyhoeddus i ddarparu gwybodaeth glir am yr offer a'r gwasanaethau algorithmig a deallusrwydd artiffisial y mae'n eu defnyddio. Trwy gadw at y Safon, rydym yn cyhoeddi ein cofnodion tryloywder algorithmig cyflawn.
Dysgwch fwy am y Safon Cofnodi Tryloywder Algorithmig (ATRS) ar GOV.UK.
Effaith deallusrwydd artiffisial ar weithlu'r sector cyhoeddus
Mae gan Gyngor Partneriaeth y Gweithlu weithgor sy'n datblygu egwyddorion a chanllawiau ar faterion y gweithlu sy'n ymwneud â deallusrwydd artiffisial. Mae'r gweithgor wedi cyhoeddi dau adroddiad: rheoli technoleg sy'n rheoli pobl a defnyddio deallusrwydd artiffisial yn y gwaith.
Deallusrwydd artiffisial yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol
Yng Nghymru, rydym yn meithrin amgylchedd cefnogol, diogel a chydweithredol ar gyfer arloesi ym maes deallusrwydd artiffisial yn y sector iechyd. Gall deallusrwydd artiffisial wella canlyniadau i gleifion drwy helpu gyda'r canlynol:
- diagnosteg ym maes canser
- rheoli poen
- effeithlonrwydd gweithredol
Mae'r Comisiwn Deallusrwydd Artiffisial ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn grŵp cynghori o uwch-arweinwyr o feysydd iechyd, gofal cymdeithasol a gwyddorau bywyd. Maent yn cynghori ar y defnydd diogel, cyfrifol a moesegol o ddeallusrwydd artiffisial yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae'r Comisiwn yn cefnogi canllawiau'r gwasanaeth rheoliadau deallusrwydd artiffisial a thechnolegau digidol (AIDRS).
Deallusrwydd artiffisial yn y sector addysg
Gall deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol drawsnewid addysg os caiff ei ddefnyddio'n gyfrifol, ac mae ei ddefnydd ymhlith addysgwyr a dysgwyr yn tyfu'n gyflym. I gael help i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial yn effeithiol, edrychwch ar y canllawiau a'r hyfforddiant ar ddeallusrwydd artiffisial cynhyrchiol ar gyfer ysgolion a dysgwyr.
