Neidio i'r prif gynnwy
Ffotograff o Deb Austin

Mae Deb yn fam i ddau o blant, yn athrawes gymwysedig, yn aelod profiadol o'r bwrdd llywodraethu ac yn Gadeirydd cwmni tai grŵp. Mae’n gyn Arweinydd Cenedlaethol Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) y GIG ac mae hi hefyd wedi arwain y 'Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc' (T4CYP) a sefydlwyd fel un o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ac mae ymrwymiad iddi ar draws y cabinet.

Mae hi’n gweithio ar draws amrywiaeth o sefydliadau yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector. Lansiwyd T4CYP ym mis Chwefror 2015 o dan arweiniad y GIG fel rhaglen wella gwasanaethau amlasiantaethol. Roedd blaenoriaethau'r rhaglen yn cynnwys archwilio ffyrdd o ail-lunio, ailfodelu ac ailffocysu gwasanaethau iechyd emosiynol, lles ac iechyd meddwl a ddarperir i blant a phobl ifanc yng Nghymru, gan gynnwys Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS).

Mae Deb wedi treulio'r chwe blynedd a hanner diwethaf yn canolbwyntio ar lunio ar y cyd fframweithiau ac adnoddau Cymorth Cynnar a Chymorth Lefel Uwch ar gyfer lles emosiynol ac iechyd meddwl plant (NYTH/NEST). Gan gofio’r hyn a ddysgwyd o’r Dull Ysgol Gyfan o weithredu, arweiniodd Deb waith pellach ar ddatblygu Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Cymorth Cynnar a Chymorth Lefel Uwch o'r enw NYTH/NEST. Roedd y gwaith yn canolbwyntio ar bwysigrwydd gwaith amlddisgyblaethol ac asiantaethol, gyda'r nod o ddatblygu Fframwaith i arwain datblygu a gwella gwasanaethau yn y dyfodol. Mae hwn bellach yn ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu fel rhan o'r Gronfa Integredig Ranbarthol newydd mewn partneriaeth â Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol.

Mae hi'n frwd dros wneud gwahaniaeth i fywydau plant, pobl ifanc a'u teuluoedd trwy ddulliau sy'n seiliedig ar hawliau, yn cael eu harwain gan werthoedd, ac sy'n cael eu llywio gan seicoleg.