Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Gwell Trafnidiaeth

Mae gwaith i drawsnewid y llinell o Wrecsam i Lerpwl wedi cael ei gadarnhau, a'r gwaith o uwchraddio'r llinell yn Padeswood fydd y cam mawr cyntaf i sicrhau mwy o wasanaethau rheilffordd rhwng y ddwy ddinas.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens, â'r safle heddiw i weld y gwaith uwchraddio arfaethedig.

Ymrwymodd Llywodraeth y DU i gefnogi'r gwaith yn Padeswood fel rhan o'r Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant y mis diwethaf. Bydd buddsoddiad cyffredinol Llywodraeth y DU yn rheilffyrdd Cymru, sy'n werth o leiaf £445 miliwn, yn golygu  y bydd pobl ledled Cymru yn elwa o well mynediad at swyddi a chyfleoedd o ganlyniad i well seilwaith a gwasanaethau amlach.

Bydd y gwaith yn arwain at gyflawni agwedd bwysig ar weledigaeth Rhwydwaith Gogledd Cymru o fewn tair blynedd, gan sicrhau bod dau drên yr awr yn gweithredu ar hyd y llinell. Mae Padeswood hefyd yn gwasanaethu gwaith sment Heidelberg Materials, a bydd yr uwchraddio yn ei gwneud hi'n haws i nwyddau fynd i mewn ac allan o'r safle.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:

"Bydd cyflawni'r gwaith uwchraddio yn Padeswood yn dod â manteision economaidd go iawn, gan helpu'r gwaith sment a gwella cysylltiad rhwng Wrecsam a Lerpwl, gan gynyddu gwasanaethau i ddau drên yr awr. 

"Roedd yn wych clywed am ymrwymiad Llywodraeth y DU i'r prosiect hwn, y mae ymgyrchwyr wedi gwthio amdano dros ddegawdau lawer. Bydd dwy lywodraeth, sy'n gweithio mewn partneriaeth, yn cyflawni'r rhan allweddol hon o Rwydwaith Gogledd Cymru.

"Mae Rhwydwaith Gogledd Cymru yn ymwneud â darparu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig, rheolaidd iawn, sy'n cysylltu pobl â swyddi, cyfleoedd, cymuned a gwell ansawdd bywyd.  Er y rhagwelir y bydd Padeswood yn cael ei ddarparu yn y tair blynedd nesaf, mae newidiadau mwy uniongyrchol yn cynnwys 50% yn fwy o drenau ar brif linell Gogledd Cymru, mwy o drenau rhwng Caer a Wrecsam a dechrau'r broses o gyflwyno system Talu wrth Fynd a fydd yn darparu gwell trafnidiaeth yn y rhanbarth."

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens:

"Mae Llywodraeth y DU yn buddsoddi yn nyfodol Cymru ac yn rhyddhau potensial economaidd ein gwlad.

"Fe wnaethom ni addo y byddem ni'n delio â'r tanfuddsoddiad hanesyddol yn rhwydwaith rheilffyrdd Cymru, ac roedd cyhoeddi o leiaf £445 miliwn yn yr Adolygiad Gwariant yn cyflawni'r addewid hwnnw. 

"Gan weithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru bydd yn golygu gorsafoedd newydd sbon, uwchraddio'r llinell mewn llefydd fel Padeswood a mwy, a threnau cyflymach ar y llinellau allweddol ar draws Gogledd a De Cymru, gan gysylltu pobl â swyddi a helpu i dyfu'r economi."

Bydd gwaith nawr yn digwydd ar ddylunio'r cynllun cyn ei roi ar waith.