Neidio i'r prif gynnwy

Dechrau da i gynllun peilot teithio ar fws am ddim ar benwythnosau

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Medi 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r cynllun peilot, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn gymwys i bob bws ar rwydwaith eang TrawsCymru a bydd yn parhau bob penwythnos tan o leiaf mis Mai 2018. O’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, mae cynnydd o dros 100 y cant wedi cael ei gofnodi ar draws y rhwydwaith, gyda’r gwasanaeth T4 rhwng y Drenewydd a Chaerdydd yn dangos y cynnydd mwyaf ar hyn o bryd.  


Cofnodwyd y cynnydd uchaf yng nghyfanswm nifer y teithwyr bws dyddiol (gan gynnwys oedolion, plant a thocynnau rhatach) ar gyfer y diwrnodau a’r gwasanaethau a ganlyn:


1. T4 TrawsCymru: Y Drenewydd – Aberhonddu – Merthyr Tudful – Pontypridd – Caerdydd 

Dydd Sadwrn, 26 Awst 2017: defnyddiodd 1,971 o deithwyr y gwasanaeth  o’i gymharu â 461 ddydd Sadwrn, 27 Awst 2016 – cynnydd o 328 y cant.

 

2. T5 TrawsCymru: Aberystwyth – Ceinewydd – Aberteifi – Abergwaun – Hwlffordd

Dydd Sul, 9 Gorffennaf 2017: defnyddiodd 555 o deithwyr y gwasanaeth o’i gymharu â 146 ddydd Sul, 10 Gorffennaf 2016 – cynnydd o 280 y cant.


3. T5 TrawsCymru: Aberystwyth – Ceinewydd – Aberteifi – Abergwaun – Hwlffordd

Dydd Sul, 20 Awst 2017: defnyddiodd 389 o deithwyr y gwasanaeth o’i gymharu â 126 ddydd Sul, 21 Awst 2016 – cynnydd o 209 y cant.


4. T1 TrawsCymru Aberystwyth – Llanbedr Pont Steffan – Caerfyrddin

Dydd Sul, 13 Awst 2017: defnyddiodd 437 o deithwyr y gwasanaeth o’i gymharu â 169 ddydd Sul, 14 Awst 2016 – cynnydd o 159 y cant.


5. T4 TrawsCymru: Y Drenewydd – Aberhonddu – Merthyr Tudful – Pontypridd – Caerdydd 

Dydd Sadwrn, 12 Awst 2017: defnyddiodd 2,130 o deithwyr y gwasanaeth  o’i gymharu ag 874 ddydd Sadwrn, 13 Awst 2016 – cynnydd o 144 y cant.

Gan groesawu’r newyddion, dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi: 

“Mae rhwydwaith TrawsCymru yn gwasanaethu rhannau mawr o Gymru lle na fyddai trafnidiaeth gyhoeddus ar gael fel arall. Mae’n galonogol felly cael gweld bod y cynllun peilot hwn wedi arwain at gynnydd sylweddol yn nifer y teithwyr yn ystod yr haf.

O Fangor i Gaerdydd ac o Abergwaun i Wrecsam, mae'r cynllun hwn yn rhoi cyfle perffaith i bobl ledled Cymru neidio ar fws i  fwynhau prydferthwch Cymru ar y penwythnos. Rwy wrth fy mod ei fod eisoes wedi bod mor boblogaidd.

  

“Os nad ydych chi wedi manteisio ar y cynllun peilot eto, mae amser o hyd ichi ddysgu am ble allwch chi fynd ar eich bws lleol chi. Roeddwn yn awyddus i sicrhau y byddai’r cynllun peilot hwn o leiaf yn cynyddu ymwybyddiaeth o’r gwasanaethau bysiau sydd ar gael yn lleol. Mae’r rhifau heddiw wedi cadarnhau bod hyn wedi digwydd. Dw i’n edrych ymlaen at weld sut mae’r cynnydd hwn o ran TrawsCymru yn effeithio ar wasanaethau eraill nes ymlaen eleni."